Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

ARBENIGRWYDD YR EGLWYS.

BETH YDYW YSTYR Y GEIRIAU…

COLEG LLANYMDDYFRI.

YSGOL Y COLEG, LLANBEDR.

OFFEIRIAD YN TROI YN SAMARITAN.

DEONIAETH WLADOL ESTIMANER.,

DINBYCH A'R CYLCHOEDD.

MARWOLAETH.

YSGRIFENYDD NEWYDD ESGOB LLANDAF.

MARWOLAETHAU YN LLANGOWER.

CYFARFOD ADLONIADOL YN YSTRADYFODWG.

TALU TRETHI I DIRFEDDIANWYR…

CYMDEITHAS ADDYSG GLERIGOL…

CLERIGWYR CYMREIG LLOEGR.

MARWOLAETH DDISYMWTH GER DOLGELLAU.

YSGOL RAMADEGOL RHUTHYN.

BUDD-GYNGERDD YN HEN-EGLWYS,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BUDD-GYNGERDD YN HEN- EGLWYS, MON. Nos Wener, y 23ain cyfisol, cynhaliwyd cyngerdd yn Ysgoldy y Bwrdd, y plwyf uchod, er budd Mr. William Owen, Cae- bachaur, clochydd y plwyf. Llywydd- wyd gan y Parch. E. B. Thomas, curad. Daeth cynulliad anarferol o fawr ynghyd er gwaethaf gerwillder yr hin, fel yr oedd yr ysgoldy yn orlawn, a llawer yn gorfod aros allan. Cyn dechreu, dywedodd y llywydd fod pawb yn adnabod gwrth- ddrych y cyngerdd, ac yn deall am y croesau a'i cyfarfu, fel nad oedd angen iddo ef egluro amcan y cyngerdd yn mhellach iddynt, gan fod y ffaith fod y fath dorf wedi dyfod ynghyd yn brawf amI wg a digonol eu bod yn ystyried W. Owen yn wrthddrych gwir deilwng o'u cefnogaeth a'u cymorth. Yna aed ymlaen gyda'r rhaglen ganlynol mewn dull tra rhagorol:—Alawon Cymreig (y berdoneg a'r crwth), Miss M. C. Jones a Mr. Price, Llangefni. Anthem, 'Arglwvdd, chwil- iast ac adnabuost fi,' cor Bodffordd, dan arweiniad Mr. W. Hughes. Can, 'Rhyfel- gyrch Cadben Morgan,' Mr. Williams, Bee Hive, Llangefni, yn cael ei ddilyn ar y berdoneg a'r crwth gan Miss Jones a Mr. Price. Unawd ar y berdoneg, 'Huit Detit Morceauxe' (Conte), Mr. Price. Can, I Douglas' (Lady Scott), Miss Z. Morris, Rheithordy. Deuawd, 'Mae'r lan gerllaw,' Mri. T. a H. Jones, Bod- ffordd. Can gyda'r banjo, 'The two Obadiahs,' Mr. T. Griffith, Llangefni, yr hwn a encoriwyd. Yn nesaf, cafwyd canig, 'Y Blodeuyn Olaf' (A. J. Lloyd), gan y Bodffordd Glee Party yn gampus. çp, 'Nl1CY Lee,' Mr. D, Joaes, Llsm- gefni. Deuawd, Come down by the Silvery Brook,' Misses J. a M. C. Jones, Penrallt. Unawd ar y banjo, I The Park Crescent March,' Mr. Griffith. Yna, caf- wyd The Sailings' (Marks) yn rhagorol gan Mr. Williams, Bee Hive, y dorf yn uno yn y cydgan Can, 'Katie's Letter' (Dufferin), Miss Morris, Rheithordy. Can, 'I've such an awful cold,'Mr. G. Peacocke, Llangefni, a chafodd uchel gynieradwy- aeth. Unawd ar y crwtb, I William Tell' (Montgomery), gan Mr. Price. Can, There's nothing in it' (Corney), gan Mr. Williams, Bee Hive, a bu raid iddo ail ganu. Can, gyda'r banjo, I The Irish Christening,' gan Mr. Griffith, ac, fel encore, canodd yr hen alaw Gymreig, Distyll y Don,' er mawr foddlonrwydd. Can, 'Hen Brocer bach gloew fy Nain,' Mr. D. Jones, a bu raid iddo ail ganu. Ar ol hyn, cafwyd deuawd ar y berdoneg, yn wir feistrolgar, gan Miss Leftwiche, Pen'rallt, a Miss Eva Hughes, National and Provincial Bank, Llangefni. Can, 'One night in cold December,' Mr. G. Peacocke. Can Ysgotaidd, Robin Adair,' Miss Morris, Rheithordy. Can, I Ni fedrwn yn fy myw,' Mr. D. Jones. Un- awd ar y crwth, gan Mr. Price. Unawd, 'Bugail Hafod y Cwm,' Mr. Hugh Jones, Bodffordd. Yna cafwyd Hen Wlad fy Nhadau,' ar y comet-a-jnston, gan Mr. Thomas Jones, Ynys Hwfa. Wedi i'r Cadeirydd ddiolch yn gynes (dros Mr. W. Owen) i bawb oeddynt wedi cymeryd rhan yn y cyngerdd, terfynwyd yn y dull arferol. Y dydd canlynol, cyflwynwyd yr arian, sef £ 8 7s., i Mr. W. Owen gan Miss Morris, Rheithordy.-Glan Frogivy. 0.

TROEDIGAETH GWEINIDOG METHODISTAIDD.

NODION O GAERNARFON.

Advertising

---Helynt y Claddu yn Abermaw.