Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
21 erthygl ar y dudalen hon
ARBENIGRWYDD YR EGLWYS.
ARBENIGRWYDD YR EGLWYS. I Ysgrifena Eglwyswr atom fel hyn:- "Yr oeddwn yn teimlo fy hun yn bur ddiolchgar i'n parchus Ficer (St. Ann's, Bethesda) am iddo, nos Sul diweddaf, grybwyll yn ei bregeth fod yna wahan- iaeth rhwng yr Eglwys a phob cymdeithas arall. Yr wyf yn gwybod fod yna lawer yn yr ardal hon, a'r rhai hyny yn Eglwys- wyr, nad ydynt yn gwybod fod y gwa- zn haniaeth hwn yn bodoli. Buasai yn dda genyf pe byddai i bob offeiriad trwy Gymru yn traethu tipyn ar y pwnc hwn yn amlach, a gwneyd ei bhvyfolion yn Eglwyswyr i'r bon, fel na wnant byth adael yr hen Eglwys anwyl drwy fyned i wrando ar Ymneillduwyr, fel y byddaf yn gweled ami un pan y bydd rhywun mawr yn pregethu. Bydded i bawb sydd yn caru Eglwys Crist ffoi oddiwrth Ym- neillduaeth, a'i gochel megys y gochelir gelyn a phechod ofnadwy."
BETH YDYW YSTYR Y GEIRIAU…
BETH YDYW YSTYR Y GEIRIAU ? Ymddengys yr hyn a ganlyn yn y Genedl am lonawr 28, 181)1 :— "Dymunwnhysbysu fod y swyddfeydd canlynol wedi cytuno i dalu cyllogau teg, a'u bod hefyd yn cael eu cario ymlaen ar egwyddorion teg.—Mri. D. W. Davies & Co., Swyddfa y Genedl Gymreig; W. Gwenlyn Evans, Stryd Llyn Swyddfa'r Herald Gymraeg. Byddai gair o eglurhad ar y geiriau, "wedi cytuno i dalu cyflogau teg," yn foddhaol dros ben. Gan fod y boneddwr sydd yn gofalu am golofn Y Wasg Gymreig yn rhy groendeneu a gwan ei ystumog i son llawer am Parnell, O'Brien & Co., feallai y rhydd efe rhyw oleuni ar y pwnc. Er mwyn dangos gallu y doethawr hwn, dyfynwn un frawddeg o'r golofn yr wythnos hon:— Mae rhy fychan o astudio dyfodol y Degwm, a barn y wlad arno yn bur an. addfed." 0 Genedl! moes bictiwr neu' ddau o ddyfodol y Degwm er helpio'r wlad i addfedu ei barn.
COLEG LLANYMDDYFRI.
COLEG LLANYMDDYFRI. Da genym hysbysu fod Mr. David Thomas, Wern Villa, Pontardulais, yr hwn a fu yn ysgolhaig am bedair blyn- edd yn y coleg uchod, wedi enill ysgolor- iaeth agored (mathematical), gwerth 60p. y flwyddyn, yn Ngholeg Exeter, Rhyd- ychain. Nid yw Mr. Thomas ond 17 mlwydd oed. Dyma'r drydedd ysgolor- iaeth agored o'r fath yn Rhydychain a Chaergrawnt sydd wedi eu henill gan fechgyn o'r coleg hwn yn ystod y ddau fis diweddaf, yr hyn sydd yn llefaru yn uchel am ragoroldeb yr addysg a gyfrenir yno. Mae yr ysgoloriaethau canlynol perth- ynol i'r coleg uchod wedi eu dyfarnu ychydig ddyddiau yn ol To natives of Carmarthenshire, under 16 years of age, the Golden Grove 925: J. D. Thomas, Landilo. The Lloyd-Jones £ 25: N. H. Thomas, Brynamman. The Ystrad 4:10: J. E. Thomas, Llansadwrn. Open Scholarships. Senior. -Classics: H. L. David, £ 50; L. E H. Griffiths, 920; 1). E. Roberts, £ 20; E. Evans. f 10; and Bondsall,,Elo. Mathematics: B. F. Kerby £ 40; H. Price, t'40; D. Thomas, 930; D. J Evans, £ 15; and G. Clause, £ 15. History: J. W..Forbes, £15; W. J. Evans, £ 15; and H. B. Jayne, £ 15. Science: D. J. Morgan, 920. Intermediate.—J. Pritchard and D. J. Lewis, 201, each; It Brigstocke, 151.; J. S. P. Griffith, 101.; Davenport Jones, lOl.; and W. H. Morgan and T. 0. Jones, 41. 4s. each. Junior.—C. J. Footman and N. L. James 10Z. each, and A. P. Carter and R. Rees 41. 4s. each. Foundation Scholarships of Free Tuition. Havard, H. M. Rees, L. H. Walters, B. James, J. Davies, G. T. Lewis, T. W. Griffiths, Fisher, H. H. Jones, Lockyer, M. A. E, Thomas, and Ifor Jones. Entrance Scholarships. O. L\ Evans, King's Middle School, Warwick, 151.; J. A. Lewis, Gwynfryn School, Amman- ford, 35Z.; D. Roberts, Higher Grade School, Festiniog, 121.; Septimus Royall and T. G I Samuel, Higher Grade School, Ystrad Rhondda, I5i5, each; J. E. A. Rees, JJigher Grade School, Ystrad Rhondda, 101.; J. Robinson, 151.; G. J. Evans and J. Ll. S. Jones, Higher Grade School, Swansea, lOl. each; J. P. Griffiths, Higher Grade School, Merthyr, lOl.; J. L1. Thomas, Bedwas School, IOl.; A. J. and D. J. Richards, Mooretown, IDl. each; D. O. Evans Cnwcyrhyglyn. S. B. Williams, Llandysaul, and W. O. Evans, Tally, 81. 88. tach; and A. E. W. James, Neath, 4Z. 48. Dymunwn bob llwyddiant i'r coleg hwn, yr hwn mae yn dda genym ddeall sydd yn parhau i deilyngu yr enw o fod n yn un o brif sefydliadau addysgol Cymru.
YSGOL Y COLEG, LLANBEDR.
YSGOL Y COLEG, LLANBEDR. Da genym allu hysbysu fod yr ysgol uchod yn parhau i lewyrchu fwy-fwy. Nid yn unig yn nifer ei disgyblion, ond hefyd yn ei defnyddioldeb, y mae ei chynydd yn achosi llawenydd nid bychan i bob gwir gyfaill i addysg ganolraddol. Yr wythnos ddiweddaf, cynaliwyd arhol- iad manwl yn neuadd yr ysgol, a dydd Gwener dyfarnwyd exhibitions fel y can- lyn :—D. 0. Thomas, "Falcondale," 10p.; H. J. Stewart, "Glandenys," 6p.; T. E. Timothy a J. Jenkins, 4p. 10s. yr un Jenkyn Jones, Llewelyn Davies, ac Evan Jones, 4p. yr un D. A. Lloyd, D. Davies, D. J. James, W. S. Jones, a J. E. Thomas, 3p. 3s. yr un; D. J. Jones, J. E. Lloyd, D. 0. Williams, H. P. Evans, J. W. Davies, T. P. Davies, D. T. Jones, a T. Jones, 3p. yr un. Yn mhlith yr ymgeiswyr sydd wedi uno a'r ysgol y term, presenol, llwyddodd y canlynol :—J. D. Jones, o Ysgol Ramadegol Pencader, 4p. 4s.; D. H. Pugh, o Ysgol Ramadegol Pontfaen, 3p. 3s.; A. E. Edwards, St. Peter's Board School, Llanbedr, 3p. 3s.; D. Evans a T. R. Jones, o Ysgol y Bwrdd, Llanddewi- brefi, 3p. yr un a George E. Evans, o Ysgol St. Petr, Llanbedr, a D. Jones, o Ysgol Genedlaethol Bettws, 2p. yr un.
OFFEIRIAD YN TROI YN SAMARITAN.
OFFEIRIAD YN TROI YN SAMARITAN. Fel hyn y dywed ein gohebydd o Gaer- narfon Ychydig amser yn ol, ymwel- odd ysgrifenydd y llinellau hyn a thlotty y dref hon. Ar y ffordd tuag yno, daeth i'w gyfarfod ddynes a baban yn ei myn- wes, yr hon oedd wedi bwriadu myned i mewn oherwydd creulondeb ei gwr tuag ati. Rhoddwyd ar ddeall iddi mai can- lyniad hyny fyddai i'r gyfraith gosbi ei phriod, yr hyn nid oedd yn ewyllysio, er ei holl angharedigrwydd tuag ati. Yna trodd yn ei hoi heb un man i aros dros y nos, gan fod ei chartref yn mhell o'r dref. Yn y man, daeth Ficer y plwyf i'w chyf- arfod, a dangosodd ei gydymdeimlad a'r wraig auffodus drwy ei chymeryd i fferm- dy cyfagos, gan erchi bwyd iddi hi a'i phlentyn. Dywedodd wrthi am aros yno hyd nes y byddai wedi darfod a'r gwas- anaeth yn y tlotty y noswaith hono. Ar ol gorphen, aeth y Ficer caredig yn ei ol i'r ffermdy, a chafodd fod y fam a'i phlentyn wedi eu digoni ag ymborth, a dygodd hwynt i'r dref, gan ei dodi mewn ty cysurus hyd y boreu canlynol, pryd yr aeth yno, gan osod y ddynes a'i phlentyn ar y ffordd tuag adref. Talodd yr offeir- iad parchus y cwbl oedd yn ddyledus am weini amgeiedd i'r ddau. Rhyfedd fel y gall gwir was yr Arglwydd ddangos car- 11.5 znl edigrwydd heb i'r byd wybod dim am (lano Ond yr Hwn a wel yn y dirgel a dal yn yr amlwg,
DEONIAETH WLADOL ESTIMANER.,
DEONIAETH WLADOL ESTIMANER., Cynaliodd clerigwyr deoniaeth wladol Estimaner siapter arbenig yn Nhowyn, Meirionydd, ddydd Iau, Ionawr 22ain. Llywyddwyd gan Arglwydd Esgob Ban- gor. Yr oedd amryw o leygwyr y ddeon- iaeth yn bresenol. Gan mai dyma'r tro cyntaf i'r Esgob newydd dalu ymweliad swyddogol a'r gymydogaeth, cymerodd y Parch. T. Lewis, deon gwladol, fantais ar y cyfleusdra i ddweyd ychydig eiriau o groesawied cynhes i'w arglwyddiaeth, yr hyn a wnaeth mewn modd teimladwy iawn. Yn ei araeth dywedodd :— Fy Arglwydd,—Cyn dechreu ar waith y cyfarfod, dymunwn, trwy eich caniatad, ddefnyddio y cyfleusdra presenol, ar ran fy inrodyr, offeiriaid y ddeoniaeth, i ddat- gan yn barchus i'ch arglwyddiaeth y boddhad a'r llawenydd, a'r hyfrydwcli yr ydys oil yn ei deimlo yn eich dyrchafiad, trwy ragluniaeth Duw, i gadair henafol esgobaeth Bangor a dymunwn eich sicr- hau ein bod ni yn gweddio yn daer a difrifol ar i fendith Pen Mawr yr Eglwys orphwys ar eich holl waith yn yr esgob- aeth. Yr ydym oil yn eich croesawu yn wresog ar eich ymweliad a'r ddeoniaeth hon, sef eich ymweliad swyddogol cyntaf a nyni yma." Anerchwyd yr Esgob hefyd, ar ran y lleygwyr, gan W. R. M. Wynne, Ysw., Peniarth. Ar ol anerchiad Mr. Wynne, cododd yr Esgob i ddiolch, a gwnaeth hyny mewn araeth hynod deimladwy. Yna, awd yn mlaen gyda gwaith y cyfar- fod. -A..
DINBYCH A'R CYLCHOEDD.
DINBYCH A'R CYLCHOEDD. DINBYCH. Undeb Athrawon Dyffryn Clwyd.— Cynhaliodd yr undeb uchod eu cyfarfod blynyddol yn Ysgol Genedlaethol Din- bych, ddydd Sadwrn, yr 17eg cyfisol. Cymerwyd y gadair gan Mr. Lloyd, Rhuthyn, yr hwn a roddodd grynodeb o waith y flwyddyn a aeth heibio yna aed ymlaen gyda dewis swycldogion am y flwyddyn hon, ac etholwyd y rhai canlyn- ol :—Llywydd, Mr. Jones, Llanelwy is- lywydd, Mr. Roberts, Dinbych; ysgrifen- ydd, Mr. Evans, Llanrhaiadr trysorydd, Mr. Jerman, Llanychan ail etholwyd y ddau olaf. Y prif bwnc yr ymdriniwyd ag ef ydoedd—anghyson fynychiadau y plant yn y Dyffryn. Derbyniwyd Mr. Myddleton, Llannefydd, yn aelod o'r undeb. Darlith.-Nos Fawrth diweddaf, bu Mr. W. H. Helm, yn y Church House, yn darlithio ar banes yr Eglwys, Cafwyd cynulliad gweddol. Ai onid yw yn bosibl cael ambell i ddarlith Gymreig ar y testyn buddiol a phwysig yna; le, pwysig iawn hefyd y dyddiau hyn, pan y mae yr holl lu Geeyddol, Parryddol, wedi ymgyngreirio yn ei herbyn. Cofier am yr Eglwyswyr Cymreig unieithog. Y Faner a'i lihifivr.—Ar ol darllen ysgrifau y rhifwr hwn o "ffordd gaban- au," ar ei ymweliad ag eglwysi Llan- nefydd a'r Bylchau, dywedaf fod y dyn yn anghymwys i rifo cynulleidfa o un- rhyw faintioli. Barned y cyhoedd oddi- wrth hyn ;—Dywed fod Person Llan- nefydd ar ei liniau yn darllen y llithiau, a Pherson y Bylchau wedi bod am 40 munyd yn eu darllen. Celwyddbob gair am y naill a'r llall. Peidied y gwr bach hwn ag ymffrostio bod ei bresenoldeb yn I creu dychryn yn neb Eglwyswyr. Ond fe ddywed un o'r Bylchau mai yr achos ( iddo edrych cymaint arno pan ddaeth i mewn ydoedd, ceisio sicrhau pa un ai dyn ai tylwyth teg ydoedd. Byddin yr Eglwys.—Nos Sadwrn di- weddaf, yn yr Ysgol Genedlaethol, cyn- haliwyd coffee supper mewn cysylltiad a'r symudiad uchod, ac ar ol y swper cafwyd cyfarfod adloniadol dan lywyddiaeth y Parch. J. Davies, curad. Canwydamryw ganeuon gan aelodau y Fyddin a chaf- wyd anerchiadau bywiog a blasus gan y llywydd, y Cadbeniaid Roberts ac Evans, a rhai o'r milwyr. Yr elw at dreuliau v Fyddin. LLANYCHAN. ) Cyngerdd.—Nos Wener, yr 16eg cyfisol, j cynhaliwyd cyngerdd yn Ysgol Genedl- aethol y plwyf hwn. Cymerwyd rhan ynddo gan y Misses Watkin Williams, aethol y plwyf hwn. Cymerwyd rhan ynddo gan y Misses Watkin Williams, Purcell Williams, Barnard, a Thomas y I Parch. F. M. Jones, Rhuthyn y Mri. M. ¡ Davies, R. E. Davies, Ficerdy, Llanynys, a Humphreys, Rhuthyn. Yr oedd yn bresenol brif deuluoedd y plwyfi cylch- ynol. Yr oedd yr elw, yr hwn oedd yn swm da, yn myned tuag at gael stove i'r eglwys. i RHUDDLAN. Ddyddiau Iau a Gwener diweddaf, gellid gweled Pren Nadolig hynod ffrwythlaw yn Ysgoldy y Bechgyn, ond erbyn nos Wener yr oedd y ffrwyth wedi ei dynu, ac wedi cael talu am dano yn ddrud. Yr oedd yr oil a gaed oddiwrtho yn elw, yn cael ei drosglwyddo at yr amcan clodus o gael darllenfa gyhoeddus yn y dref. Eicldiinwn bob llwyddiant i'r boneddigesau sydd yn Ilafurio yn helaeth er cyraedd yr amcan teilwng uchod.— Eryr Ff ra iv. -L_
MARWOLAETH.
MARWOLAETH. Ar y 19eg cyfisol, yn Swan Square, Llanfairtalhaiarn, ar ol byr gystudd, bu farw Mrs. Anne Hughes, yn bU mlwydd oed. Bu yn aelod ffyddlawn yn Eglwys y plwyf am oddeutu 56 o flynyddoedd, a theimlir gwir golled ar ei hoi.
YSGRIFENYDD NEWYDD ESGOB LLANDAF.
YSGRIFENYDD NEWYDD ESGOB LLANDAF. Y mae Argl wydd Esgob Llandaf wedi penodi Mr. Arthur Lewis, cofrestrydd yr esgobaeth, yn ysgrifenydd iddo, yn lie y diweddar Mr. R. W. Griffith. Bydd tra- fodaeth y ddwy swydd yn cael ei chario yn mlaen o hyn allan yn swyddfa gof- restrol yr esgobaeth, lil, Castle Street, Caerdydd.
MARWOLAETHAU YN LLANGOWER.
MARWOLAETHAU YN LLAN- GOWER. Plwyf bychan ei beblogaeth ydyw Llangower, felly, nid oes ond yehydig o angladdau yno fel rheol. Ond claddwyd yno dri o fewn ychydig ddyddiau i'w gfilydd. Ddydd Sadwrn, yr 17eg, cladd- wyd Mrs. Sarah Jones, gweddw y di- weddar Mr. Edward Jones, meddyg ani- feiliaid, y Wenalit. Ddydd Mawrth, claddwyd Mrs. Margaret Roberts, Ty Isaf, priod Mr. Roberts, o Fryneglwys. Ddydd Mercher, claddwyd Mr. Edward Thomas, Llechwedd ddu. Yr ydoedd y claddedigaethau yn fawr a pharchus. —♦
CYFARFOD ADLONIADOL YN YSTRADYFODWG.
CYFARFOD ADLONIADOL YN YSTRADYFODWG. Nos Iau, lonawr 22ain, cynhalhvyd cyfarfod adloniadoJ, dan lywyddiaeth y Parch. J. Rees, curad, yn yr ysgoldy perthynol i eglwys St. loan. Yr oedd y Parch. W. Lewis, D.G., yn bresenol. Efe oedd yn beirniadu y llythyron, sef Llythyr oddi wrth fab neu ferch gref- yddol at rieni heb fod yn grefyddol." Ymgeisiodd saith, a chawsant oil air da. Y goreu oedd eiddo Mrs. Mary Jones. Hefyd, rhoddodd y Ficer wobr i'r hwn a ganai yn oreu don ddifyfyr; goreu, Richard Morris beirniad, y Ficer. Ym- geisiodd chwech am y wobr ar yr araith ddifyfyr rhanwyd y wobr rhwng John T. Edwards a Joseph Voyle beirniad, Aban Jones, warden y plwyf.
TALU TRETHI I DIRFEDDIANWYR…
TALU TRETHI I DIRFEDDIANWYR BODORGAN. "Wythnos bwysig i drigolion Mon yw achlysur talu yr ardrethi i'r tirfeddian- wyr mawrion yn y sir. Cymerodd hyny Ie yr wythnos ddiweddaf ar ystad eang Bodorgan. Unwaith yn y flwyddyn y telir ar yr ystad hono. Y mae Syr George Meyrick, Bodorgan, yn un o'r tirfeddian- wyr goreu yn Nghymru. Y mae y fferm- ydd yn cael eu gosod am bris rhesymol fel y bydd y ftVrrnwyr yn gallu byw," ys dywedir ie, a byw yn dda hefyd, ond bydd llawer o honynt yn gweithio yn lied galed. Y mae y barwnig anrhyd- eddus wedi dangos cydymdeimlad ymar- ferol a'r tenantiaid yn argyfwng y dir- wasgiad amaethyddo], yr hwn sydd bellach, i raddau helaeth, wedi myned heibio, ond yr wyf yn deall fod pum' punt y cant wedi ei drosglwyddo yn ol ar yr ystad hon eleni eto, ac yr oedd diolch- garwch cyffredinol yn cael ei ddangos gan y ffermwyr am hyny. Derbyniwyd yr ardrethi yn Llanerchymedd ddydd Mercher, yn Absrffraw ddydd Iau, ac yn y Meyrick Arms, Bodorgan, ddydd Gwener, lie yr oedd ciniaw ardderchog wedi ei ddarparu gan Mr. H. E. Williams, a chafodd pawb eu boddloni tuhwnt i bob disgwyliad, a mawr oedd y canmol ar yr arlwyadau gan y rhai oedd wedi cael y fraint o fod yn bresenol. Ceidwadwr i'r earn yw Syr George. Buasai yn ddy- ddorgi cael gwybod faiftt o dirfeddiauwyr Radicalaidd a wnaeth gydymdeimlo a'u tenantiaid yn y cyfyngder amaethyddol diweddar. Y mae'r teimladau goreu yn bodoli ar yr ystad hon rhwng y tirfedd- ianwr a'r tenantiaid, ac y mae hyny i'w briodoli, i raddau pell, i Mr. Prichard, Llwydiarth Esgob, arolygwr poblogaidd yr ystad, yr hwn sydd yn Gymro ac yn amaethwr ymarferol ei bun.-Gohgbydd. — .»■. —
CYMDEITHAS ADDYSG GLERIGOL…
CYMDEITHAS ADDYSG GLERIGOL BANGOR. Mae y gymdeithas ragorol uchod, yr hon sydd wedi ac yn parhau i wneyd gwaith da yn Esgobaeth Bangor, wedi dyfarnu ysgoloriaethau i'r rhai canlynol J. J. Jones, Coleg yr lesu, Rhydycliain Gwilym Lewis, Coleg yr Iesu, Rhydych- ain P. L. Thomas, Rhydychain E. 0. Jones, Rhydychain J. W. M. Williams, Caergrawnt; Robert Jones, Coleg Dewi Sant, Llanbedr; a Benjamin Jones, Rhyd- ychain. Haedda cymdeithas o'r fath bob cefnogaeth, a dymunwn iddi bob llwydd- iant yn y dyfodol fel ag yn y gorphenol.
CLERIGWYR CYMREIG LLOEGR.
CLERIGWYR CYMREIG LLOEGR. Mae Lien Esgobaethol yr Archddia- con Williams o Lanelwy yn cynyddu mewn defnyddioldeb. Yn y rhifyn sydd newydd ddyfod o'r wasg—y 12fed—ceir rhestr hirfaith o rai ugeiniau o enwau y clerigwyr yn medru y Gymraeg ag ydynt yn llafurio yn Lloegr. Buddiol iawn fyddai ceisio dylanwadu ar y rhai hyn i draddodi anerchiadau yn en gwahanol ardaloedd ar yr Eglwys yn Nghymru, ei sefyllfa a'i gwaith. Mae mwyafrif y Saeson mown tywyllwch, neu dan ddy- lanwad cyfeiliornadau y Dadgysylltwyr, yn nghylch Hen Eglwys y Brutaniaid. Traddododd yr Archddiacon Thomas bregeth Seisnig ragorol yn y Rhyl y Sul diweddaf. Hoffai Eglwyswyr Cymreig y dref yn fawr pe ceid nn yn eu hiaith hwythau ganddo cyn i'w gylch yn Llan- elwy derfynu eleni. I0II
MARWOLAETH DDISYMWTH GER DOLGELLAU.
MARWOLAETH DDISYMWTH GER DOLGELLAU. Tra yr oedd Mr. Robert Jones, Ty'ny- llidiart, Brithdir, ger Dolgellau, yn myned at ei orchwylion arferol yn Aberllefeni foreu Llun cyn y diweddaf, syrthiodd i lawr mewn llewyg wedi croesi copa y Waen, a bu farw ymhen ychydig eiliadau. 0 Pan wnaed y newydd yn liysbys, creodd alar cyffredinol drwy yr ardal, gan fod yr ymadawedig yn ddyn a berchid gan bawb ar gyfrif ei grefyddoldeb, ei onest- rwydd, a'i uniondeb ymhob dim. Myn- ychai y gwasanaethau crefyddol yn y Brithdir ac Aberllefeni yn gyson, ac ni welid ei le byth yn wag. Gadawodd weddw, deg o blant, a brawd, sef Mr. Rowland Jones, Bridge Street, Dolgellau, i alaru ar ei ol. Claddwyd ei weddillion marwol yn mynwent y Brithdir ddydd Ian, y IHeg cyfisol, pryd y daeth canoedd ynghyd i ddangos eu parch i goffadwr- iaeth un o ragorolion y ddaear. Gallai ef ddwevd gyda phriodoideb neillduol, Dy ddeddfau oedd fy nghan yn nhy fy mhererindod." Heddwch i'w lwch.
YSGOL RAMADEGOL RHUTHYN.
YSGOL RAMADEGOL RHUTHYN. Y mae yn wybyddus i lawer yn y Dyffryn, fod y diweddar Ddeon Goodman wedi gwaddoli yr ysgol uchod, fel y gallai plant Eglwyswyr gael addysg rydd ac Ysgrythyrol, neu yn hytrach Eglwysydd- iaeth. Ond trwy Fesur Addysg Canol- raddol a basiwyd yn ddiweddar yn y Senedd, y mae hawl gan y Dirprwywyr gymeryd meddianto waddoliadau addysg- awl, y rhai a aùawycl gan Eglwyswyr, a'u defnyddio at Addysg Ganolraddol. Y mae y dirprwywyr gwrthddegymol yn ceisio amddifadu ysgol hynafol y dref uchod o lawer o'i gwaddoliadau, a'u rhoddi i Gwrecsam, Llangollen, Llanrwst, a Dinbych. Pa le y mae'r tegweh a'r cysondeb i amddifadu yr hen ysgol uchod o'i gwaddoliadau a osodwyd iddi gan y diweddar Ddeon Goodman ? Athraw- iaeth beryglus ac annheg yw politiciaeth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Eg- lwyswyr, dyrchefwch eich llais fel Vdgorn yn erbyn y fath gynyg annheg.
BUDD-GYNGERDD YN HEN-EGLWYS,…
BUDD-GYNGERDD YN HEN- EGLWYS, MON. Nos Wener, y 23ain cyfisol, cynhaliwyd cyngerdd yn Ysgoldy y Bwrdd, y plwyf uchod, er budd Mr. William Owen, Cae- bachaur, clochydd y plwyf. Llywydd- wyd gan y Parch. E. B. Thomas, curad. Daeth cynulliad anarferol o fawr ynghyd er gwaethaf gerwillder yr hin, fel yr oedd yr ysgoldy yn orlawn, a llawer yn gorfod aros allan. Cyn dechreu, dywedodd y llywydd fod pawb yn adnabod gwrth- ddrych y cyngerdd, ac yn deall am y croesau a'i cyfarfu, fel nad oedd angen iddo ef egluro amcan y cyngerdd yn mhellach iddynt, gan fod y ffaith fod y fath dorf wedi dyfod ynghyd yn brawf amI wg a digonol eu bod yn ystyried W. Owen yn wrthddrych gwir deilwng o'u cefnogaeth a'u cymorth. Yna aed ymlaen gyda'r rhaglen ganlynol mewn dull tra rhagorol:—Alawon Cymreig (y berdoneg a'r crwth), Miss M. C. Jones a Mr. Price, Llangefni. Anthem, 'Arglwvdd, chwil- iast ac adnabuost fi,' cor Bodffordd, dan arweiniad Mr. W. Hughes. Can, 'Rhyfel- gyrch Cadben Morgan,' Mr. Williams, Bee Hive, Llangefni, yn cael ei ddilyn ar y berdoneg a'r crwth gan Miss Jones a Mr. Price. Unawd ar y berdoneg, 'Huit Detit Morceauxe' (Conte), Mr. Price. Can, I Douglas' (Lady Scott), Miss Z. Morris, Rheithordy. Deuawd, 'Mae'r lan gerllaw,' Mri. T. a H. Jones, Bod- ffordd. Can gyda'r banjo, 'The two Obadiahs,' Mr. T. Griffith, Llangefni, yr hwn a encoriwyd. Yn nesaf, cafwyd canig, 'Y Blodeuyn Olaf' (A. J. Lloyd), gan y Bodffordd Glee Party yn gampus. çp, 'Nl1CY Lee,' Mr. D, Joaes, Llsm- gefni. Deuawd, Come down by the Silvery Brook,' Misses J. a M. C. Jones, Penrallt. Unawd ar y banjo, I The Park Crescent March,' Mr. Griffith. Yna, caf- wyd The Sailings' (Marks) yn rhagorol gan Mr. Williams, Bee Hive, y dorf yn uno yn y cydgan Can, 'Katie's Letter' (Dufferin), Miss Morris, Rheithordy. Can, 'I've such an awful cold,'Mr. G. Peacocke, Llangefni, a chafodd uchel gynieradwy- aeth. Unawd ar y crwtb, I William Tell' (Montgomery), gan Mr. Price. Can, There's nothing in it' (Corney), gan Mr. Williams, Bee Hive, a bu raid iddo ail ganu. Can, gyda'r banjo, I The Irish Christening,' gan Mr. Griffith, ac, fel encore, canodd yr hen alaw Gymreig, Distyll y Don,' er mawr foddlonrwydd. Can, 'Hen Brocer bach gloew fy Nain,' Mr. D. Jones, a bu raid iddo ail ganu. Ar ol hyn, cafwyd deuawd ar y berdoneg, yn wir feistrolgar, gan Miss Leftwiche, Pen'rallt, a Miss Eva Hughes, National and Provincial Bank, Llangefni. Can, 'One night in cold December,' Mr. G. Peacocke. Can Ysgotaidd, Robin Adair,' Miss Morris, Rheithordy. Can, I Ni fedrwn yn fy myw,' Mr. D. Jones. Un- awd ar y crwth, gan Mr. Price. Unawd, 'Bugail Hafod y Cwm,' Mr. Hugh Jones, Bodffordd. Yna cafwyd Hen Wlad fy Nhadau,' ar y comet-a-jnston, gan Mr. Thomas Jones, Ynys Hwfa. Wedi i'r Cadeirydd ddiolch yn gynes (dros Mr. W. Owen) i bawb oeddynt wedi cymeryd rhan yn y cyngerdd, terfynwyd yn y dull arferol. Y dydd canlynol, cyflwynwyd yr arian, sef £ 8 7s., i Mr. W. Owen gan Miss Morris, Rheithordy.-Glan Frogivy. 0.
TROEDIGAETH GWEINIDOG METHODISTAIDD.
TROEDIGAETH GWEINIDOG METHODISTAIDD. Mewn gwasanaeth neillduol a gynal- iwyd yn Nghapel y Palas, Llandaf, ddydd Sadwrn diweddaf, cafodd y Parch. Thos. Christopher Phillips, yr hwn oedd yn weinidog gyda'r Methodistaid Calfinaidd yn Abercarn, ei dderbyn gan Arglwydd Esgob Llandaf i gymundeb yr Eglwys. C, In Ar yr un adeg, cafodd Mrs. Phillips, gwraig y boneddwr uchod, ei chonffirmio gan yr Esgob. Dechreua Mr. Phillips ar ei waith ar unwaith yn nglyn ag Eglwys Gymreig Caerdydd, lie y cyhoeddir ei fod i bregethu nos Sul nesaf. Bydd ymun- iad Mr. Phillips a rhengau llafurwyr yr Eglwys Gymreig yn nhref gyiiym-gyn- yddol Caerdydd yn debyg o roddi ysgog- iad ychwanegol er llwyddiant y mudiad sydd wedi llwyddo mor rhyfeddol o dan dywysiad modrus y Parch. A. E. H. Hyslop. Fel engraifft o'r cyfryw lwydd- iant, digon yw dweyd nad oedd nifer y cymunwyr yno end naw tua thair blyn- edd yn ol, tra y maent erbyn hyn yn gant a haner.
NODION O GAERNARFON.
NODION O GAERNARFON. MASNACH.—Drwg genyf ddweyd mai araf iawn yr aiff olwynion masnach eiu tref y dydd- iau hyn, ac ychydig o waith sydd yma ar gyler y gweithwyr. Mae hyn yn natnriol yn arwain i dlodi. Mewn amgylchiadau fel hyn, fe gawn weinidogion ein Heglwys ar en goreu yn chwilio allan am le i gynorthwyo, nid gan ddangos cy- t hoeddusrwydd, ond yn ddistaw, heb eisieu eu caomol gan ddynion. Yn hytrach, cyflawni I gweithredoedd o garedigrwydd, yn ol dysgeid. l iaeth v Gair Dwyfol, gan ddibrisio yr amcan o gael eu gweled am eu haelioni. Y dydd o'r blaen, cafodd ysgrifenydd y llinellau hyn brawf o'r gwirionedd hwn, trwy ymweliad àr parchus Ficer, yr hwn a ddywedodd fod ganddo amryw dunelli o lo eisieu eu dosbal thu i'r rhai tlotaf yn ein tref, mewn modd distaw, yr hyn a wnawd, a theimlai pawb yn wir ddiolchgar iddo am ei haelioni. PEIF BECHOD EIN TREF.—Cydnabydda pawb fod i bob tref ei plirif bechod, ar ba un y mae yn ofynol gwneyd ymosodiad parhaus., Diam- heu mae yr byn sydd uchaf ei ben yn ein tref ydyw meddwdod,.a hyny yn benaf ymlilith y merched. Dv, fyddai gweled cymdeithas ddir- westol yn cael ei sefydlu gan ein Heglwys er < daroftwng y pechod gwartlius liwn. Beth ifydd sefyllfa yr oes ddyfodol, tybed, os nad ellir rhoddi atalfa ar y llifeiriant ofnadwy hwn, yn enwedig p in y mae cymaint o famau yn rhoddi esiampl i'w plant, pa rai, yn eu diniweid- 1' rwydd, sydd am wneyd pobpeth a wneir gan eu rliieni ? Bydded i ganlynwyr y Groes wneyd yr hyn sydd yn eu gallu er hyrwyddo achos sobrwydd yn ei flaen, ac yna gwelir gwell trefn I ar fyd ac Eglwys. Y DDEDDF 0 ARDDODIAD DWYLAW. Yr ydym yn deall yr ymwelir a'm tref yn fuan gan I Arglwydd Esgob Bangor, i weinyddu y ddeddf I upostolaidd o arddodiad dwylaw. Llawenydd i feddwl pob Eglwyswr ydyw y gobaith sydd ganddo o gael gwrando ar Esgob Cymreig, am unwaith mewn oes, yn myned drwy wasanaeth ein Heglwys yn iaith arferedig ein gwlad. Edrycliir ymlaen at yr adeg yma gyda bodd- had, am na chlywo(ld,y genhedlaeth sydd yn fyw yn awr yn ein tref un esgob Cymreig yn gweinyddu yma. Dymuniad pob calon ydyw iddo hit- oes i wasanaethu ei Dduw a'i genedl. Hawlfraint Cymru gaffo'i pharchu Gan ein Hesgob drwy ei oes, Egwyddorion y Lan Eglwys A ddyrcliafo rliin a moes Bydded iddo fod yn seren Yn ffurfaferi Eglwys Dduw, Yna 'r ddiwedd gyrfa'r ddaear ,j.¡ Caffed fyned ato i fyw. -Un o Feibion yr Eglwys.
Advertising
CATHERINE DAVIES: .1 NEU, HELYNT Y GYMRAES BRYDFERTH 0 YNYS MON A FU YN NHYLWYTH NAPOLEON BONAPARTE AM UN FLYNEDD AR DDEG. [GAN MISS DOROTHY JONES.], — t Yn y rhifyn nesaf o'r LLAN, dechreuir I.. cyhoeddi yr uchod, cyfieithiedig gan Miss Dorothy Jones, yr hon, o dan wahanol ffugenwau, sydd wedi ys- i grifenu cryn lawer i'r wasg Gymreig. Y mae helynt y Catherine Da vies grybwylledig yn dra dyddorol, ae yn 1 teilyngu darlleniad manwl gan bob j geneth trwy Gymru. Am hyny, bydded i'r boneddigesau hyny sydd yn darllen y LLAN wneyd y' peth yn hysbya i'w cyfeillesau, ? <
---Helynt y Claddu yn Abermaw.
fath ymddygiad. Dywed eich gohebydd na chredai y cymun-weinyddion y byddai i'r Rheithor gario pethau i eithafion.' Dywedais wrthynt fwy nag unwaith y goddefwn iddo fod yn test case o bob cyfeiriad. a@ mai hwynt-hwy fel ymddiriedolwyr oedd yn gyfrifol am fy ngorlodi i gymeryd y safle hon. Ni fyddai yn syn genyf glywed fod yr esgusawd hwn wedi ei ddyfeisio mewn trefu i dawelu y teimlad chwerw a chyifredinol sydd wedi ei enyn yn eu herbyn yn y mater hwn. Gwyr yr ymddiriedolwyr yn eithaf da nad wyf yn arferol o gyhoeddi bygytbion ofer. Dywed eich gohebydd i'r ymadawedig gael ei chladdu yn nghongl bellaf y fynwent, mewu llecyn a gedwir at gladdu cyrif a olchir i'r lan gan y mor, a phersouau wedi cyflawni hunan- laddiad.' Ni wyddwn erioed o'r blaen fod y fath lecyn i'w gael yn y fynwent, ac yn yr amgylehiad presenol y mae gosodiad eich goheb- ydd yn hollol anwireddus, gan fod pertbynasau rhai o'r bobl barchusaf a fu yn aros erioed yn Abermaw, fel trigolion ac ymwelwyr, wedi eu claddu yn ymyl bedd Mrs. Ellen Parry. Cy- maint a hynyna am werth gosodiadau eich go- hebydd—scandal-monger Cymreig arall. Nid yw yn unrhyw glod i Gymru fod y fath osod- iadau maleisus yn cael eu dyfeisio yn ein plith i ddybenion dirmygus. Ond nid ydym wedi gorphen eto gyda'r test case presenol. Yr wyf yn benderfynol o un peth, na fydd i mi betruso cyflawni fy nyledswydd fel Rheithor Llanaber cyhyd ag y caf iechyd i'w weinyddu. Y ffasiwn yn Nghymru yn awr yw erlid pob clorigwr sydd yn ymdrcchu cyflawni ei ddyledswydd. Y mae yn beth hawddaf yn y byd bod yn boblogaidd gyda'r rhai sydd yn ewyllysio yn ddrwg i'r Er lwys -drwy ganiatau iddynt gael eu ffordd eu hunain, ac aberthu yr Eglwys i'w 'hachosion.' Bydd i mi bob amser fyned ymlaen i eithafion' pan yn ymwneyd a gelynion herfeiddiol ac ystyfnig yr Eglwys, fel yn yr amgylchiad pres- Ily enol.- Yr eiddoch, &c., Y Rheithordy, Abermaw, E. HUGHES. IODawr 21, 1891. O.Y.-Yn ymyl bedd y diweddar Mrs. Ellen Parry y mae beddau plentyn i Esgob, aelodau teulu gweitliiwr adnabyddus a pharchus yn Abermaw, a pherthynasau teulu urddasol yn y sir. Y mae cvrft y rhai a gyflawnodd liunan- laddiad wedi eu claddu gerllaw eu pobl en hun, yr cchi arall i'r eglwys, ac yn agos i fedd gwr Mrs, Ellen Parry. Pa eiriau a all fod yn ddigon cryf i ddesgrifio yr anwireddau maleisns a l'edaenir gyda'r fath ddiwydrwydd? Ni wneir gwahaniaeth rhwng tlawd a chyfoethog yn ngbladdfa yr Eglwys.—E.H." Owelir oddivvrth y Ilythyr uchod mor ddisail yw y cyhuddiadau a ddygodd yr ysriblwr pen- boeth hwn ymlaen yn erbyn y Rheithor. Yroll a wnaeth yr olaf i dynu y gawod o enllibiaeth am ei ben oedd amddiffyn ei hawliau ac iawn- derau yr Eglwys, yr hyn a wnaeth gyda'r fath bybyrwch fel ag i enill edmygedd pob dyn di- ragfarn. Yn hytrach na chymeryd pwyll i cluviii.. i mewn i'r manylion, rhuthrodd yr ys- griblwr crybwylledig i'r newyddiaduron, ac yn Ho gwirionedd cyhoeddodd amvireddau noethion. Dywpdodd fod Mrs. Ellen Parry wedi ei chladdu mown cornel or fynwent oedd wedi ei neillduo i gladdu cyrff meirwon a olchir i'r lan o bryd i bryd gan y mC-v. Beth, tybed, a feddyliai mor- wyr porthladd bychan Abermaw o'r adlewyrch- iad arnynt fel dosbarth a gynwysir yn y Irawddeg anwireddus hon ? A fyddai yn gasgl- iad annheg fod y gwr a'i hysgrifenodd, a'r sect y porthynai iddi, yn dirmygu y morwyr, drnaiu, pan fyddont wedi marw tra yn gwenieithio iddynt pan yn fyw ? Cofier fod y Cyfarfod Misol —y Uys goruchel a fu yn tarauu ei felidifchion uwchben y Rheithor yn Noi<;ellau y dydd o'r blaen-wedi pasio penderfyniad yn cynwys y gosodiad anwireddus ag sydd yn fath enl lib ar gymeriad y morwyr. Yn sicr, gallasai cor if y ddiweddar Mrs. Ellen Parry dderbyn mwy o aumiiarch na chael ei gladdu yn ymyl corlf aelod o'r dosbarth gwrol a pharchus hwnw o gyuideithas-y morwyr Prydeinig. Credwn fod cyrff morwyr yn llawn mor gysegredig yn ngiiyfrif Duw, a'u heneidiau, fe ddicbon, yn llawn mor bur ag eiddo y cynhyrfwyr dall- bleidiol sydd ar hyn o bryd a'u holl egni yn ceisio creu terfysg yn y wlad. Dywedodd rhyw ysgrifenydil yn mhellach fod cyrff "dyilioil duon wedi eu claddu yn agos ifedd Mrs. Ellen Parry. Os yw yn berchen ar Feibl, cynghorem ef i ddarllen Actau xvii. 26, lie y dywedir i Dduw wneyd "o un gwaed bob cenedl o ddyn- ion i breswylio ar wyneb y ddaear." Fel y sylwa y Rheithor yn dra phriodol, Ni wneir gwahaniaeth rhwng tlawd a chyfoethog "-a gellid ychwanegu. rhwng y dyn du a'r bwn y mae ei groen yn wyn—"yn nghladdfa yr Eglwys." Y mae golygydd y Cambrian Neivs-npwycld. iadur eithafol o Hadicalaidd a gyhoeddir yn Aberystwyth-wedi cyhoeddi erthygl arweiniol ar y mater, o'r hon y gwnawn y dyfyniadau ca:nlynol Y mae disgrifio yr anghydwelediad rhwng cymun-weinyddion y ddiweddar Mrs. Ellen P:'Irry a Rheithor Abermaw fel I gwaradwydd' (scandal) yn beth cywilyddus. Nid oedd yngi\-n ef unrhyw waradwydd o gwbl, oddi eithr gwaradwydd y gyfraith, ac y mae yn I'esyn fod newyddiaduron yn cael eu cyflenwi ag adroddiadau sydd yn oamarwain y cyhoedd. Nid ydym yn credu fod y Rheithor yn bwriadu tatlu sarhacl ar y marw wrth ddewis mangre y boudrod. Honid hawl i gladdu mewn bedd neillduol heb dalu y tal a ofynai y Rheithor, yr hwn ni Idangosodd unrhyw duedd i osgoi dar- pariaefchau y Ddeddf Gladdu. Ystyriai y Rheithor ei bad yn ddyledswydd arno amddi- ffyn yr hyn, yn ei farn ef, a ddelir ganddo mewu ymddiriedaeth. Ni wnaed dim ag ygeilir dnvy ddirdynu iaith ei alw yn warad- wy<id.' Y mae y peuderfyniad a basiwyd yn Nol- SfUaa, ddydd Mawrth cyn y diweddaf, gan jrethodiatiaid Calfinaidd Gorllewnbarth Meir- ionydd, yn gamarweiniol, ac o duedd i niweidio yr actios y dymunir ei hyrwyddo. Y mae yn fPrtith annyinunoi fod gan glerigwyr Eglwys lioogr hawl i ofyn tal am gladdedigaethau yn y myawentydd pryd na fyddont yn gweinyddu ond cyhyd ag v mae y mynwentydd yn rhydcl- feddiant (freehold) y clerigwyr, nid ydynt yn ymddwyn yn ddrygionus, afresymol, na gwar- adwyddus pan yn mynu eu hawliau. O'r dech- reu i'r diwedd, ymddygodd y Rheithor fel dyn a ystyriai ei fod yn cael ei orfodi i fabwysiada agwedd amddifEynol yn y mater; ac nid oes unrhyw brawf iddo ymddwyn yn anfoesgar, neu wneyd dim i beri i'r hyn a ystyriai oedd ei ddy- ledswydd fod yn boenus i'r cymun-weinyddion. Yr hyn oedd mewn dadl ydoedd yr hawl i gladdu mewn bedd neillduol, ac i dalu mewn fEordd neillduol. Mae y gwrthwynebiad i'r llecyn a ddewiswyd yn blentynaidd. Os oes brwydro i fod, gofaler fod yr ymdrech yn cy.. meryd He o amgylch y pwyntiau gwirioneddol anewn dadl, ac na cheisier creu digllonedd yn erbyn un o'r pleidiau. Nid dyna y ifordd y dylai pobl grefyddol weithredu." 11 Yn ychwanegol at y llythyr y cyfeiriasom ato, y mae un arall wedi ymddangos yn y new- yddiaduron uwchben enw y Parch. J. Gwynoro Davies, gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn Aliermaw, yn yr hwn y dywed — Y mae wedi dyfod yn gred gyffredinol yn y blynyddoedd diweddaf fod yn hanfodol, er sicrhau dyrchafiad yn Eglwys Loegr yp Xghymru, i'r ym^eiswyr wneyd rhywbeth bfiddgar. Goren oil os y gall sarhau teimladau cyinydogaeth gyfan. a. phentyru dirmyg ar yr YimeiJlduvvyr, yn farw neu fyw." Yy awgrym llwfraidd a gynwysir yn y fratv iwa o eiddo ya efeogyl^dd addlwyn, Zlr, 9 Gwynoro Davies, yw mai ymofyn dyrchafiad y mae y Rheithor wrth sefyll i fyny dros ei hawl- iau yn erbyn y dyrnaid o gynhyrfwyr rhaglarn- llyd a fynai ei amddifadu o honynt. Gallwn ei sicrhau y gallasai Rheithor Abesmaw gyflwyno rhestr lIed faith o- weithredoedd da pe buasei mor hunan-gyfiawn a rhai pobl y gwyddom am danynt. Os oes dyrchafiad pellach yn aros y Rheithor, daw iddo fel cydnabyddiaeth o'i lafur diflno gyda phob adran o waith yr Eglwys yn y plwyf a thu allan iddo, ac fel canlyniad ei wrthdystiad ymarferol yn erbyn y dyrnaid cyn- hyrfwyr sydd yn y lie. Beth feddylia Mr. Gwynoro Davies am yr eglwys newydd sydd yn cael ei chodi yn awr yn y dref, yr hon a gostia dros ugain mil o bunau ? Bydd ei chlychau cyn hir yn dolurio ei glustiau, yr ydym yn ofni, wrth alw yr addolwyr ynghyd i dy yr Ar- glwydd. Os y dymuna Mr. Gwynore Davies wybod rhywbeth am brawfion o weith^arweh y Rheithor, nis gallwn wneyd yn well Da dweyd wrtho, yn ngeiriau yr arysgrifen ar y tablet i goffadwi aeth Syr Christopher Wren yn Eglwys Gadeiriol St. Paul:— If you seek his monument, look around you."