Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

21 erthygl ar y dudalen hon

ARBENIGRWYDD YR EGLWYS.

BETH YDYW YSTYR Y GEIRIAU…

COLEG LLANYMDDYFRI.

YSGOL Y COLEG, LLANBEDR.

OFFEIRIAD YN TROI YN SAMARITAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

OFFEIRIAD YN TROI YN SAMARITAN. Fel hyn y dywed ein gohebydd o Gaer- narfon Ychydig amser yn ol, ymwel- odd ysgrifenydd y llinellau hyn a thlotty y dref hon. Ar y ffordd tuag yno, daeth i'w gyfarfod ddynes a baban yn ei myn- wes, yr hon oedd wedi bwriadu myned i mewn oherwydd creulondeb ei gwr tuag ati. Rhoddwyd ar ddeall iddi mai can- lyniad hyny fyddai i'r gyfraith gosbi ei phriod, yr hyn nid oedd yn ewyllysio, er ei holl angharedigrwydd tuag ati. Yna trodd yn ei hoi heb un man i aros dros y nos, gan fod ei chartref yn mhell o'r dref. Yn y man, daeth Ficer y plwyf i'w chyf- arfod, a dangosodd ei gydymdeimlad a'r wraig auffodus drwy ei chymeryd i fferm- dy cyfagos, gan erchi bwyd iddi hi a'i phlentyn. Dywedodd wrthi am aros yno hyd nes y byddai wedi darfod a'r gwas- anaeth yn y tlotty y noswaith hono. Ar ol gorphen, aeth y Ficer caredig yn ei ol i'r ffermdy, a chafodd fod y fam a'i phlentyn wedi eu digoni ag ymborth, a dygodd hwynt i'r dref, gan ei dodi mewn ty cysurus hyd y boreu canlynol, pryd yr aeth yno, gan osod y ddynes a'i phlentyn ar y ffordd tuag adref. Talodd yr offeir- iad parchus y cwbl oedd yn ddyledus am weini amgeiedd i'r ddau. Rhyfedd fel y gall gwir was yr Arglwydd ddangos car- 11.5 znl edigrwydd heb i'r byd wybod dim am (lano Ond yr Hwn a wel yn y dirgel a dal yn yr amlwg,

DEONIAETH WLADOL ESTIMANER.,

DINBYCH A'R CYLCHOEDD.

MARWOLAETH.

YSGRIFENYDD NEWYDD ESGOB LLANDAF.

MARWOLAETHAU YN LLANGOWER.

CYFARFOD ADLONIADOL YN YSTRADYFODWG.

TALU TRETHI I DIRFEDDIANWYR…

CYMDEITHAS ADDYSG GLERIGOL…

CLERIGWYR CYMREIG LLOEGR.

MARWOLAETH DDISYMWTH GER DOLGELLAU.

YSGOL RAMADEGOL RHUTHYN.

BUDD-GYNGERDD YN HEN-EGLWYS,…

TROEDIGAETH GWEINIDOG METHODISTAIDD.

NODION O GAERNARFON.

Advertising

---Helynt y Claddu yn Abermaw.