Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
14 erthygl ar y dudalen hon
NODION 0 DDEONIAETH LL&NRWST.
NODION 0 DDEONIAETH LL&NRWST. Ar yr 22ain cyfisol, cynhaliwyd cyfar- fod Deoniaethol yn Rhei.thordy Lltorwst, pryd y cacleiriwyd gan y Deon Gwladol (y Canghellydd Jones). Y pwnc cyntaf fu dan sylw y cyfarfod oedd rhan o ail benod yn Epistol Paul at y Colosiaid. Y pwnc nesaf oedd sefydliad depot yn Llan- rwst. Yr oedd pawb yn unfryd-unfarn mai buddiol fyddai cael depot i'r Ddeon- iaeth yn Llanrwst. Yna apwyntiwyd y Deon Gwladol, y Parch. T. Tudno Jones, a'r Parch. J. Davies i gymeryd y pwnc mewn llaw, ac i symud yn y gwaith yn ddioed. Y mater nesaf yr ymdriniwyd ag ef oedd Diwygio y 'Llyfr Gweddi Gyffredin. Siaradwyd o blaid ac yn erbyn diwygio y Llyfr Gweddi, ond ni ddaethpwyd i unrhyw benderfyniad., Wedi i'r cyfarfod fyned drosodd, eistedd- odd pawb i lawr wrth fwrdd y Deon Gwladol i ginio, ac yna ymadawyd. Yr Organ Newydd. Disgwylir y bydd honyn eglwys y plwyf ddechreu mis Mai nesaf, os nad cynt. Yr ydys wedi casglu digon o arian eisoes ymron tuag at dalu am dani. Y mae clod a diolchgarwch yn ddyledus i'r rhai hyny sydd wedi gweithio mor galed tuag at gasglu yr arian. Y Cantata. — Yr ydys yn awr yn brysur ffurfio cor i ganu yr Holy City," gogyfer ag agoriad yr organ. Y mae llawer wedi ymuno a'r cor, ac yr ydys yn disgwyl llawer eto i ganlyn eu hesiampl. Arwerthfa. — Nid yw diwydrwydd y boneddigesau wedi ei ddihysbyddu etc oherwydd prydnawn Sadwrn diweddaf daethant ynghyd i'r Neuadd Drefol i werthu hen ddillad, &c., a deallir iddynt werthu dros werth chwe' punt. Cafodd y prynwyr fargen na cheir bob dydd. Rhoddwyd yr arian at yr ysgol ddyddiol. Ymadawiad. Bydd y Canghellydd Jones yn myned i Lanelwy, fel arferol, am dri mis yr wythnos nesaf. Conffvnnasiwn.—Derbyniwyd hysbys- iad oddiwrth yr Ebgob y bydd iddo gynal confELrmasiwn yn y plwyf hwn tua diwedd mis Mai nesaf. ISFRYN. ¡
HIRNAKT.
HIRNAKT. Nos Feichpr. nos Iau, a nos Wener diweddaf, bu y Parch. Thomas Lloyd, Llanelwy, yn cynal cyfres o .<<7- -:>irfodydd adfywiadol yn eglwys Hir- nant. Calwyd cYimJIiaclau lliosog ymhob cyfar- fod, ac ychwanegwyd amry w at nifer y cymun- wyr. Gwneir ymdrtch egniol gan'y Rheithor i ail-adeiladu yr eglwys, ac y mae mawr angen am hyny. Deallwn fod dros 1:200 eisoes wedi eu casglu at y gorchwyl.
NEFYN.
NEFYN. Nos Wener, y 23ain cyfisol, bu y Parch. B. Williams, rheithor Dolwyddelen, yma yn tr.a- ddodi darlith ar Yr Eglwys Brydeinig," gan arddangos darluniau o hen eglwysi y Cymry drwy gyfrwng y magic lantern. Cafwyd dar- lith addysgia<iol a dyddorol, a boddlonwyd pawb oedd yn bresenol. Mae Mr. Williams yn gwneuthur Ilawer, o ddaioni drwy ei ddarlithiau er goleuo y wlad o berthynas i hanes yr hen Eglwys.—T. E.
LL ANBRYNM AIR.
LL ANBRYNM AIR. MARWOLAETII.—Drwg genyfgofnodi marwcl- aeth Augusta Winifred May, auwyl faban y Parch. W. a Mr. Gwynne Vaughan, yn 8 mis a 4 diwrnod oed. Cymcrodd yr amgylchiad tor- calonus le nos Wener, y 9fed o'r mis hwn, a chladdwyd ei gweddillion marwol ddydd lau, y 15fed, yn mynwent henafol Eglwys y plwyf. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. T. Evan Jones, ficer Carno. Cydymdeimlir yn fawr a'r rhieni yn eu trallod, ond uyuded iddynt gymeryd cysmr; y ma,e yr un anwyl allan o swn y byd a'i draifertliion. A marw sydd elw." Gadewch i blant bychain ddyfod ataf Fi ac na waherddwch hwynt, canys eiddo y cyfryw rai yw teyrnas nefoedd. Goli ebyd(l.
ABERHONDDU.
ABERHONDDU. CYXGRAIR Y FRIALLEN.—Nos Ferclier, yr 21ain cyfisol, cynhaliodd y cyngrair uchod ei gwyl flynyddol yn y Guild Hall, pryd yr oedd yr ystafell eang yn orlawn o Geidwadwyr ac Undebwyr brwdfrydig. Llanwyd y gadair gan Mrs. Cleasby, Penoyr, y Ruling Councillor, ac yr oedd ar y llwyfan gyda hi, Miss K. F. H. Garnons Williams, Abercamlais, Mrs. Link, Mrs. Webb, Mrs. Davies, y Cadben Hotchkiss, Llanfairymuallt Mr. T. Wood, yr ymgeisydd Ceidwadol yn yr etholiad nesaf; Mr. U. Robbins, cynrychiolydd y Fam Gymdeithas; y Parch. W. Howell, Gaithbrengy Mr. J. Williams, F.R.C.S., ac eraill. Dechreuwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol, y Parch. W. Howell yn arwain trwy ganu yr unawd, a'r gwrandawyr yn galonog yn y cydgan. Yna anerchwyd y cyfar- fod gan Mrs. Cleasby, ac wedi hyny cawsom araith ar ddybenion ac amcan y Gyngrair gan Mr. C. Robbins, a dilynwyd ef gydag anerchiad- au gwresog a gwir nerthol gan y Cadben Hotchkiss a Mr. T. Wood. Terfynwyd y rhan gyntaf o'r cyfarfod trwy ganu "Rule Brittania," dan arweiniad y Parch. W. Howell. Yn ystod yr interval aethpwyd i Lvs yr Ynadon gerllaw, lie yr oedd Mr. Jo)in Williams wedi darparu cligonedd o d^, coffee, &c., ar ein cyfer. Dech- reuwyd yr ail ran trwy ganu "Hen wlad fy nhadau," y Parch. W. Howell eto yn eanu yr unawd, a chawsom ganu hwyliog a chalonog. Yna daeth Mr. Gerald Grace (un o deulu y cricketers hynod) ar y llwyfan, ac aeth trwy lawer iawn o gastiau hynod- sleight-of-hand. Terfynwyd trwy ganu yr Anthem Genedlaethol, ar ol talu y diolchiadau arferol. Dyma un o'r cyiarfodydd mwyaf llwyddianus a gynhaliwyd yn y Guild Hall, ac y mae pob gobaith y bydd Mr. T. Wood yn llwyddianus i'n cvnrychioli yn y Senedd nesaf.
TUKFDRAETH, PENFRO.
TUKFDRAETH, PENFRO. LAMVAU NEWVDDION r'R E(;j,wys.-Yii (ICti- weddar, darfu i Miss Griffiths. Pendre, ynghyd a'i brodyr, roddi chwech o lampau ardderchog i'r eglwys hon er coffadwriaeth am eu diweddar fam, Mrs. Griffiths, Pendre, gweddwy diweddar Barcn.J 3.rnes Griffiths, gynt Ficer Llan gel er. Yn y gwasanaeth cyntafwedi illdynt gael eu gosod i fyny, fe ganwyd hymnau priodol i'r achlysur, ac ar ddiwedd ei bregeth dywedodd y periglor, y Parch. Evan Jones, yn debvg fel y canlyn-:— "Coffadwriaeth ydyw y lampau ardderchog hyn am chwaer ffyddiawn ac anwyl, yr hon a gymerwyd i'w thragwyddol orphwysfa ar v Sul cyntaf o'r flwyddyn 1890. Nid oedd dim a weinyddai fwy o gysur i'w henaid hi na gweled ty Dduw, yn enwedig eglwys Trcfdraeth, yn cael ei gwneyd yn hardd ac yn gyfleus i'r addol- wvr. Byddai yn dweyd weitliiau fod yma angen am fwy o oleu, fel y gallai pawb, yn hen ac yn ieuanc, ymuno yn y Weddi Gyffredin. Wele yn awr y lampau hardd yma yn ein eangell, drwy garedigrwydd a mabol serel-i ci hanwyl blant, yn gwneyd y diffyg i fyny ya hollol. Nid oedd yn bosibl dewis pechau mwy cymwys na'r lampau hyn i fod yn goffadwr- iacth am dani hi. Maent yn gymwys hefyd mewn ystyr arall, sef fel arwyddluniau priodol o oleuni ysbrydol, yn llewyrch yr hwn y byddai hi yn dymuno rhodio yn y fuched hon. Der- byniodd hi gyfran helaeth o oleuni ysbrydol, yn enwedig o'r goleuni ysbrydol sydd yn dyfod drwy ddarlleniad ac astudiaeth gyson a phar- haus o Air Duw. Yr oedd yn gadaru yn yr Ysgrythyrau. Yr oedd ei henaid yn ymhyfrydu ymhob rhan o waith yr Arglwydd. 0 eigion ei chalon y gallasai hi ganu:— Yn dy waith y mae fy my wyd, Yn dy waith y mae fy hedd, Yn dy waith yr wyf am aros Tra bwy'r ochr hyn i'r bedd.' Hi a gafodd aros ynddo hefyd bronhjrd eibedd ac y mae y rhan olaf o'r penill yr un mor bri- odol iddi hi yn awr :— Yn dy waith ar ol myn'd adre' Drwy gystuddiau rif y gwlith, Moli'r Oen fu ar Galfaria, Dyna waith na dderfydd byth.' CYFARFOD ADLONIADOL.—Cynhaliwyd y cyf- arfod hwn nos Fawrth, yr 20fed cyfisol, pryd y llywyddwyd gan y Parch. Evan Davies, curad. Gymerwyd rhan ynddo gan aturyw gyfeillion, y rhai a gyrlawnasant eu rhan er boddlonrwydd cyffredinol. Terfynwyd drwy i bawb gydganu "Hen Wlad fy Nhadau."
[No title]
A fyddo byw yn dda, a wel ymhell. Gwir gynghorion, anfynychy llwyddant. Da a chyflym, anfynych a gyfarfyddant. A fo dwym sy'n meddwl fod pawb felly. Dyledswydd dyn yw meddii llyfrau. Nid oes gwaeth lleidr i'w gael na llyfr drwg.
Advertising
MUSICAL. ME. M. W. GRIFFITHS, Mus. Bac., Organ- ist an (J Choirmaster of the Parish Church, Dolgelley, North Wales, gives LESSONS through Post in Harmony, Counterpoint, Fugue. Composition, Ac and prepares for Musical Examinations. MSS. Corrected and Revised. Terms very Moderate. |||JBb|jsiatrau mafltimliatol nbab. Cyhoeddir Hysbyaiadau byrion, os TELIR YMLAEN LLAW, yn Y LLAN A' R DYWYSOGAETII, yn ol y raddfa ganlynol:— 20 o eiriau, un waith, Is.; tair gwaith, 2s. chwe' gwaith, 3s. 30 o eiriau, un waith, Is. 6c.; tair gwaith, 3s.; chwe' gwaith, 4s. 6c. 40 o eiriau, un waith, 2s. 3c.; tair gwaith, 4s. 6c.; chwe' gwaith, 6s. 9c. WAN TED immediately, Locum Tenens for Welsh Parish.—Apply M. N., 161, 6ld Christchurch Road, Bournemouth. 46-48 WANTED immediately, ASSISTANT MIS- TRESS for Penboyr N. School.—Apply, stating age, qualifications, salary, &c., Rector, Velindre, Llandyssul. 48 WANTED, CURATE for Cwmavon; bilin- guist; good preacher; musical; priest preferred.—Apply, with testimonials and refer- ences, to Rev. D. Bankes-Williams. 47— T)IOCESE ST. ASAPH.—CURACY wanted soon by experienced Priest; bilingual; musical; highest references.—Address. M. W., Llan Office, Merthyr Tydfil. 47-49 T&TANTED, LAY READERSHIP by an ™ active young man; good reader har- monium.—Apply Vicar, Penrhyndeudraeth, Meirioneth. 48—50 ANTED, ASSISTANT MISTRESS, Art. 84.—Apply, stating salary required and with references, to Rector, Pontfadog, Llan- gollen. 48-50 T AY READER WANTED, musical, Welsh* Board, &c., at the Yicarage offered, with help in studies.—The Vicar of Llanelly, Carm. 48—50 "WANTED by a Priest (B.A. Oxon) a BI- LINGUAL CURACY. Town parish preferred.—Address, "Clericus," Llaugoed, Beaumaris. 48-50 TREMEIRCIIION NATIONAL SCHOOL o- (Mixed—Certificated MASTER wanted at the beginning of March Must be compe- tent organist and choir trainer. Average at- tendance, 53.—Apply to Vicar. Tremeirchion, near St. Asaph. 48-50 ELWY HALL SCHOOL, RHYL.—For the Daughters of Gentlemen. Resident En- glish and foreign Mistresses and visiting Mas- ters. Special terms for the Daughters of the CWgy. This School is specially recommended by the Right Rev. the Lord Bishop of the Diocese, and the Very Rev. the Dean. Pros- pectus on application to the Lady Principal. Next Term commencing January 20th, 1891. 6-57 "VITELSH GIRLS' SCHOOL, ASHFORD.— All applications for ensuing election to foundation and intermediate pay scholarships must be made upon special forms, which must be returned to the Secretary, on or before April the 1st. Foundation Scholars obtain their education and board free of all cost. Inter- mediate pay Scholars pay X16 per annum. A limited number of higher pay Scholars at 4>82 per annum can be admitted after Easter. The cost of Board and education is over i50. Forms of application and full information can be obtained from the Secretary of the Welsh School, 127, St. George's-road, London, S.W. CYFRINGELL Y GOLYGYDD Veritas Vincet,—Diolch i chwi, ond yr oedd adroddiad arall wedi ei gysodi pan ddaeth yr eiddoch i law. Ull oV Cor.r—Rheswm gwan iawn sydd genych, ac ni ddeilliai unrhyw ddaioni o gyhoedd eich llythyr. Conwch mai nid boddio dynion v.r ydych pan yn myned yno, ac ystyriwchyn ddifrifol ganlyniadau y cwrs a fwriadweli gymeryd. G. H.-Yn sicr, nid diwedd mis Ionawr yw yr adeg i anfon hanes gwasanaeth a gynaliwyd ddydd Nadolig. Mae yn rhy ddiweddar erbyn hyn. Mewn Llaw-Gwib-nodion (Bodfan)-I,lith o I Forganwg- Llansamlet-Llyfr Hymnau a Thonau Eglwysig (T.M.E.)—Ymweliad åg Ynys Enlli (Ap Morus)—Ymweliad Cor yr Eglwys Gymreig, Lerpwl, a Southport- Llwyddiant Eglwys Gymreig Manceioion — Nodion o Gyffiniau Hiraethog—Llanddewi Felffre — Gyflin Conwy—Llanafan y Tiaws- goed, &c.
PWNC Y DEGWM ETG.
PWNC Y DEGWM ETG. Y MAE amgylchiadau yn y Senedd ac yn y "wlad yn ystod yr wythnos bresenol yn cyd-weithio i ddwyn Pwnc y Degwm i sylw y cyhoedd unwaith yn rhagor. Mae y Wasg Radicalaidd wedi bod yn dyrnu drwy gydol y gauaf ar y "Pwnc," ond y mae arwyddion eglur mai eel Baarw," chwedl yrHwntws, ydyw bellach. DJgwyd Mesur y Degwm i sylw ac ystyriaeth Pwyllgor y Senedd nos Lun diweddaf, a thorwyd cryn dipyn o dir newYdd yn yr ail adran o liono. Pel ag y g-allesid disgwyl, yr oedd y t: v ..1 .J Radicaliaid mwyaf eithafol mewn cyd- gordiad perffaith a'u hanes yn y gorph- noL Gwelir oddiwrth iaith ac ymddyg- iad Syr JOHN SWINBURNE a* Mr. D. A. rrnoMAS mor afresymol ac anolrheiniad- wy y gall y Radical fod. Y mae un peth yn amlwg, sef fod y drafodaeth faith a diflas sydd wedi cymeryd lie mewn cys- ylltiad a'r Pwnc" wedi agor llygaid, nid yn unig Golygyddion y Wasg Radical- aidd-Genedl er engraifft-ond lief yd y bechgynach aelodau seneddol Cymreig, i ganfod mai nid treth ydyw y Degwm, ond eiddo. Gynt, treth feichus, annheg, a gorthrymus ydoedd, yn ol oraclau Ym- neillduol Cymru ond heddyw, eiddo ydyw. Eiddo cenedlaethol," bid siwr, wedi ei fenthyca gan yr Eglwys. Os yr aiff y dadblygiad meddyliol uchod ymlaen, yn naturiol cawn weled y Caer- narfon Pictorial," alias y Genedl et hoc genus omne, yn dyfod i amgylfred y gwirionedd arall, mai nid yn unig I "eiddo yw y Degwm, ond mai "eiddo yr Eglwys ydyw hefyd. Da geirym fod cynygiadau gelynion y Mesur wedi syrthio i'r ddaear, a bod y Llywodraeth wedi Ilwyddo i gario y Mesur ymlaen mor ffortunus a diogel. Disgwyliwn y bydd cryn frwydro parthed i'r drydedd adran, ond hyderwn y gwna y Llywodr- aeth lynu yn benderfynol wrth eu cyn- llun. Nid ydyw yr Wrthblaid mewn ysbryd ymladd. Llipa a difywyd ydyw eu holl ymdrechion, ac y mae arwyddion eglur fod dirdyniadau mewnol yn prysur wanhau ei nerth. Ddydd Mawrth, dechreuodd Mr. PETERSON, ar ran offeiriaid Gogledd- barth Penfro a Deheubarth Sir Aberteifi, ar ei waith o atafaelu am y Degwm sydd yn ddyledus yn mhlwyfydd Eglwyswen, Eglwyswrw, &c. Y mae Prif Gwnstabl y Sir-Mr. INCE BOWEN-wedi sicr- hau na chaiil: Mr. PETERSON ddioddef ar law y gwrthddegymwyr, ond ofnwn ar ol ei brofiad ddydd Mawrth nad ydyw yr arwerthwr yn debyg o gael llonydd, heb gynorthwy milwyr, i gario ei waith yn y blaen. Hyn y mae Mr. PETERSON yn benderfynol o wneyd, sef hawlio cynorth- wy milwrol os y gwna y gwrthddegym- wyr dori eu haddewid i beidio ymyraeth ag ef yn nghyflawniad ei waith. O'n rhan ein hunain, ffolineb. o'r mwyaf ydpedd rhoddi unrhyw ymddiried mewn dynion sydd wedi profi eu hunain yn gablwyr, yn dorwyr amod, ac yn rhag- rithwyr. Y mae llygaid y wlad wedi eu troi tua Sir Benfro a Sir Aberteifi yr wythnos hon i weled cyfraith y wlad yn ymgodymu ag anonestrwydd o'r fath waethaf. Hyderwn y caiff gwrthddeg- ymwyr yr ardaloedd hyn weled fod cyfraith y tir yn parchu y Deg Gor- chymyn, er eu bod hwy wedi eu cam- arwain i'w sathru dan draed.
YR WYTHNOS.
YR WYTHNOS. TRO GWAEL WIR Cofus gan ein darllenwyr fod pwyllgor o wrthddegymwyr, o dan lywyddiaeth Mr. Thomas Gee, penaeth y Cyngrair Gwrthddegymol, wedi eistedd am rai dyddiau yn nhref Dinbych, o dan rith gwneyd ymchwiliad i'r achosion a bar- odd i'r Prif Gwnstabl alw am filwyr i gadw'r heddwch yn Llannefydd. Yr oedd pawb yn chwerthin yn uchel am ben y fath solemn farce, oddigerth y pump aelod a wnai i fyny y pwyllgor. Nid oedd ochr ddigrif yr ymdrafodaeth yn weledig iddynt hwy. Edrychai Mr. Gee mor sobor a'r chwedl pobl Sir Gaer, wrth lywyddu, ac ymddangosai y pedwar arall fel pe buasent hwythau yn teimlo fod ganddynt orchwyl pwysig mewn llaw. Dywedai rhai pobl dafod- rydd, er hyny, nad oedd y cyfan ond ym- gais eofn a digywilydd at wyngalchu swyddfa'r Faner ar draul y Sir, ac aw- gryment fod cylchrediad newyddiadur neillduol mor agos at galon y llywydd, a dweyd y lleiaf, a chymeriad a llesiant amaethwyr Llannefydd. Modd bynag, er cymaint y gwawd a wnaed o honynt, aeth y pwyllgor drwy ei waith. Holwyd amryw dystion gwrandawyd areithiau dadleuwyr eyflogedig o'r ddwy oclir a gwariwyd haner can' punt eto o arian y trethdalwyr. Yn ol tystiolaeth Mr. Gee, bu dau o'r pump aelod yn eistedd mewn barn ar y mater, a daethant i'r penderfyn- iad nad oedd rhithyn o achos am alw y milwyr allan. Yr oedd y Fcmer wedi dweyd hyny yn bendant ar y pryd, ac nid oedd neb yn disgwyl y gwnai pwyllgor o wrthddegymwyr, o dan lywyddiaeth Mr. Gee, ddweyd dim yn wahanol. Arwydd- wyd yr adroddiad gan bedwar aelod o'r pwyllgor.' Gadawyd enw Mr. John Parry, Llanarmon, allan. Ystyriai ei frodyr, mae'n debyg, fod ei ddwylaw ef yn rhy fudron i adael iddo osod ei enw ar y papyr. Ond nid oedd yr adroddiad un mymryn purach yn ngolwg y wlad ar gyfrif hyny, oblegid nid yw y gwas yn fwy na'i arglwydd, a gwas bach Mr. Gee, mewn ystyr ddegymol, ydyw Mr. John Parry. Ddydd Gwener, yr 16eg eyfisol, cyflwynwyd yr adroddiad i Bwyllgor Unol Sir Ddinbych. Ond yma rhoddwyd pen ar y wag-chwareu. Gwrthododd y Pwyllgor Unol ei dderbyn. Penderfyn- wyd fod iddo gael ei adael ar y bwrdd," neu yn iaith golygwyr y papyrau Cym- reig, fod iddo gael ei daflu i'r fasged." Wel, wel, dyma dro gwael 4 Mr. Gee a'i gyfeillion Wedi treulio dyddiau lawer i gasgln tystiolaetliau, ac wythnosau i wneyd barn bwrpasol, a gwastraffu haner can' punt o arian y trethdalwyr-dyma Bwyllgor Unol y Sir yn troi ac yn dweyd wrthynt nad oedd y cyfan yn dda i ddim ond i'r fasge (11" Yn yr ymddiddan a gvmerodd le ynghylch gwrthod yr adroddiad, taflwyd goleu newydd ar rai pethau a phersonau. Dyddorol ydoedd gwybod fod Mr. Gwilym Parry, ysgrifenydd y Cyngrair Gwrthddegymol, wedi galw yn swyddfa Mr. Humphrey Roberts i ofyn arno i arfer ei ddylanwad er cael milwyr i Lan- nefydd, gan ei fod ef a Mr. Howell Gee yn hollol analluog i gadw'r dorf fecligynos o fewn terfynau, ac oni cheid milwyr, y buasai gwaed yn sicr o gael ei dywallt. Radical, a mab-yn-nghyfraith i Mr. Gee, ydyw Mr. Humphreys Roberts, ac ar ol clywed tystiolaeth bendant Mr. Gwilym Parry, ysgrifenodd at y Cadben Boscawen Griffith, cadeirydd y Pwyllgor Unol, i'w hysbysu sut yr oedd pethau yn sefyll. Ond eto, yn ei dystiolaeth o flaen Pwyll- gor Mr. Gee, dywedai yr un Gwilym Parry nad oedd eisiau y milwyr o gwbl Y mae ffyrdd y Cyngrair Gwrthddegymol a'r swyddogion yn rhy droellog i ni allu eu dilyn. Sylwed y wlad mai rhai fel yna ydynt. CWYNION 0 WAITH CARTREF. Marwaidd iawn yn gyffredin yw Cyf- arfod Misol mewn rhanau gwledig, oddi- eithr fod yno ryw berson i'w erlid, neu ryw gwyn i'w hanfon i Mr. Glad- stone. Ac os na fydd un achos i gwyno o'i herwydd i'w gael, ymdrechir gwneyd un yn awr ac yn y man, er cadw bywyd ymhlith gwrthwynebwyr yr Eglwys. Gwnaed un felly yn Abermaw yr wyth- nos ddiweddaf. Dywed un o'r papyrau i hen foneddiges farw yn Abermaw, ac yn naturiol, cyn i'r Run olaf ei gadael, amlygodd ei dymuniad i gael ei chladdu yn meddrod ei phriod." Ni ddywedir yn un o'r papyrau fod yr hen foneddiges wedi awgrymu dymuniad i osgoi y tal oedd ddyledus i Reithor Abermaw ar yr achlysur a diau genym na fuasai neb yn gwrthdystio yn fwy na hi, pe hyny fuasai ddichonadwy, yn erbyn gwaith ei hysgutoriaid annheeilwng, a'r Cyfarfod Misol, yn ceisio ymosod ar Reithor Aber- maw a'i hesgyrn hi, druan. Iiysbysa y Genedl fod achos y Tal Claddu wedi bod mewn llys barn, a bod y ddedfryd wedi myned yn erbyn y Rheithor. "Haner gwir a wna gelwydc1 cyfan," medd y Saeson. Cela y Genedl oddiwrth ei darllenwyr y ffaith i'r achos gael ei godi i'r Uchel-Lys, ac i hwnw ddyfarnu fod gan berson Abermaw hawl deg a chyfreithiol i'r tal a ofynai. Ni fuasai datguddio fod yr ysgutor yn ceisio am- ddifadu Mr. Hughes o'i dal cyfreithlawn, a sarnu ar ei hawliau fel person y plwyf, yn gynorthwy i greu "y teimlad cryf y sonir am dano fel yn bodoli yn rhywle, Y mae hon yn engraifft deg o'r dull an- nheilwng ac anonest a gymerir i greu cwynion yn erbyn yr Eglwys a'i gwein- idogion. Cymerir mantais ar farwolaeth rhyw "foneddiges" neu "Gristion gloew gan olynwyr, heb fod yn fedd- ianol ar y naill rinwedd na'r Hall, i hawlio gan y person rywbeth y gwyddis o'r goreu nas gall, yn gyson a'i safle fel ymddiriedolwr yr Eglwys yn y lie, ei roddi. Nid yw y swm o ddcg sivllt o fawr bwys ynddynt eu hunain, ond fel y maent yn brawf o hawl y person yn y fynwent. Y mae yr hawl hon tuhwnt i amheuaeth. Gwyddai ysgutoriaid Ellen Parry hyny, ond gan fod gelynion yr Eglwys wedi llwyddo i ladrata llawer oddiarni yn ddiweddar, meddyliasant na feiddiai Mr. Hughes eu gwrthwynebu hwynt. Fel y dywed golygydd y Cam- brian News gyda thegwch Yr oedd y naill ochr yn amddiffyn ei hawl, a'r Hall yn ymosod ami—dyna swm a syl- wedd yr ymdrafodaeth. Ac yr ydym yn dweyd ei bod yn annynol ac yn annuwiol mewn cyfreithwyr neu Gyfarfod Misol i lusgo corff marw Mrs. Ellen Parry arliyd a thraws y wlad ercreu teimlad yn erbyn yr Eglwys. Gallesid meddwl, wrth ddarllen tudalenau ffug-sancteiddiol y Goleuad ar y mater, fod peth aruthr wedi ei wneyd yn Abermaw, ac y dylasai Cader Idris godi o'i lie a disgyn ar ben y person. Ond yr ydym wedi darllen sothach fel hyn o'r blaen o'r un cyfeiriad. Y gwirionedd yw, ystyrir ef yn beth an- nhraethol ddrwg i berson wrthwynebu Ymneillduwr mewn dim, hyd yn nod pe buasai yn ei ddal yn tori i'w cly ar haner nos ac os bydd yr Ymneillduwr yn dig- wydd bod yn aelod gyda'r Corff, anghen fil fydd y person a feiddia ofyn iddo am ddegwm pan yn fyw, nac am dal claddu gan ei bertliynasau wedi iddo farw O'r hyn leiaf, dyna farn cynrychiolwyr y pymtheg neu gan' mil—nid ydym yn cofio sut hwyl oedd ar yr ystadegydd ar y pryd-a fu yn Nghyfarfod Misol Gor- ilewin Meirionydd. MR. LLOYD GEORGE A CHYNGRAIR RHYDDFRYDOL Y GOGLEDD. Ymgyfarfu rhai o aelodau y Cyngrair L yn Mangor yn ddiweddar. Ofnwn fod yr hin oer wedi effeithio ar eu hysbryd- oedd, oblegid ni wnaethant fawr ond ym- gasglu at eu gilydd. Y mae hanes y gweithrediadau yn cael ei wneyd i fyny, gan mwyaf, o lythyr hir-wyntog odcli- wrth yr aelod ieuengaf," fel y gelwir Mr. Lloyd George, A.S., mewn rhai cylch- oedd. Baich y llythyr hwn ydoedd yr angenrheidrwydd am wneyd bargen a'r Blaid Wyddelig o barthed i'r Eglwys yn Nghymru. Telerau y fargen i fod fel hyn :—Os gwnawn ni ein goreu dros gael Ymreolaeth i'r Iwerddon, a wnewch chwithau ymrwymo i'n cynorthwyo ni i gael Dadgysylltiad os gwnawn ni eich helpu chwi i ddinystrioyr Ymherodraeth, a wnewch chwithau ein helpu ni i ddin- !ystrio yr Eglwys ? Mae y fargen yn edrych yn syml, ond nid mor rwydd ei chario allan. Os yw i sefyll, bydd raid i Mr. Gladstone, yn ei Fesur Home Rule nesaf, roddi adran i mewn yn sicrhau na fydd i rif yr aelodau Gwyddelig gael ei leihau nes y bydd i Fesur y Dadgysyllt- iad gael ei basio. Heb ryw ddarpariaeth o'r fath, neu rywbeth cyfystyr iddo, nid yw bargen a'r Gwyddelod o un gwerth. Ond, heblaw yr anhawsder bychan hwn, barnodd y pwyllgor mai doeth fuasai gadael "pars-en" Mr. Lloyd George o'r neilldu ar hyn o bryd. Tipyn yn wrthun fuasai gwerthu yr Eglwys i 1Vf r. Parnell, y pen-godinebwr, neu i Mr. O'Brien, y Pabydd penboeth. Buasai yn dda gan y naill neu y llall roddi ergyd marwol iddi. Y mae y naill yn ddig wrthi am osod pwys ar y seithfed gorchymyn, a'r llall yn elynoliddi am sefyll arffordd Eglwys Rhufain. Ond, er hyny, gwell pi/idio gwneyd "bargen" agored ag un o honyni. Ni fuasai yn swnio yn dda, nac yn cyd- weddu a'r gochl grefyddol a wisgir gan y Dadgysylltwyr. Y mae Mr. George wedi ffromi yn aruthr wrthynt am wrthod ei ddoetliineb. Cymer ei barabl yr wyth- nos ddiweddaf, ac achwyna fod y Cyngrair wedi ymadael heb wneuthur dim, hyd yn nod gymaint a phenderfynu gwneuthur dim." Gwyddai hen benau y Cyngrair yn well na mabwysiadu cyngor arwynebol yr aelod ieuanc hwn. Cymeradwyir yr amcan, mae yn ddiau genym, ond ni wna y tro iddi fyned allan j'r wlad fod "bargen" rhwng Anghyd- ffurfwyr Cymru ar y naill law, a'r pen- godinebwr Gwyddelig ar y llaw arall. O'r braidd y credwn y buasai hyd yn nod y Parch. Michael Jones, o'r Bala, ys- grifenu dameg i gyfiawnhau bargen o'r fath. EISIAU PRES! Eisiau mawr y Dadgysylltwyr, yn ol barn Mr. Lloyd George, ydyw eisiau pres —nid pres gwyneb, y mae ganddynt fwy na digon o hwnw, ond pres poced. Yn hyn cytuna y Cyngrair ag ef, oblegid os na wnaethant ddim arall, fe basiwyd pen- derfyniad ganddynt fod pob aelod o'r pwyllgor igael digon o bres o'r drysorfa idaIn ei third-class fare i'r cyfarfodydd o hyn allan. Ni fu erioed well cytleus- dra i ddyn a chanddo dipyn o bres i wneyd swii iddo ei hun, neu i gael sedd yn Nhy y Cyffredin, nag sydd yn Nghymru yn awr. Y mae Mr. Lloyd George wedi braslunio lliaws o anghenion Radicaliaid Cymru. Ond beth dal hyny ? 'Does dim pres wrth gefn i'w cario allan. Y mae eisiau, o leiaf, gant o areithwyr Cymreig i dramwyo trwy Loegr i wasgar In In y goleuni, a phe buasai pres i'w talu, fe fuasai yn ddigon hawdd cael yr areith- wyr. Sut y mae gwneyd ? Ceisiodd Mr. Gee yn daer gael gan y Cyngor Sirol dalu treuliau Mr. Alun Lloyd am ei was- anaeth i wrth-ddegymwyr Llannefydd y dydd o'r blaen. Tybed nad yw yn werth ymdreehu cael gan y Cynghorau Sirol bleidleisio ychydig ganoedd yn flynyddol tuag at "greu teimlad grymus" trwy y wlad o blaid Dadgysylltiad ? Un rhag- orol yw Radical y dyddiau diweddaf ond iddo gael y dreth tucefn iddo. Cyhyd ag y bu rhaid aln at gynal ysgolion elfenol, neu waddoli addysg ganolraddol ac uwchraddol, ni chlywid fawr son am dano ef a'i gloren. Ond mor fuan ag y 11 wydd wyd i gael treth, dadblygodd ddyddordeb eithafol o blaid addysg o bob math. Ni chaed fawr anhawsder i gael pobl i wrthwynebu talu y degwm cyhyd ag yr oedd yn bosibl iddynt gael dau swllt neu dri y bunt o dal am ei zel wrth- wynebol. Bu llawer o benau yn methu deall beth oedd y rheswm na fuasai y goleuo y clywsom gymaint am dano, yn myned ymlaen tua Lloegr. Gwyddem mai nid prinder hyawdledd areithyddol oedd yn cyfrif am hyn. Erbyn hyn, y mae rheswm o'n blaen ar awdurdod ddi- amheuol. Eisiau pres sydd i droi olwyn- ion yr ymgyrch. Dywedir fod Mri. Rathbone, S. Smith, a G. W. Taylor-y gwyr y bu cymaint o frwdfrydedd drost- ynt ar gyfrif eu pres—yn blirio ar gyf- ran 11. Yn wir, nid ydym yn rhyfedda clywed hyny am Mr. Taylor. Am agos i ddwy flynedd wedi iddo ddyfod i Gymru, llusgwyd ef yma a thraw ar hyd y wlad, fel pe buasai ryw ben saermaen, ac mai ei waith mewn bywyd oedd gosod i lawr geryg sylfan capelau. Yr ydym yn clywed ei fod ar y "streic" yn awr, ac na fedr oddef i neb son am bres," nac am "gareg sylfan capel, yn ei bresenol- deb. Pa le y ceir igwr a phres eto, tybed ? GWYLIEDYDD Y TWR. Nos Lun, Ionawr 26, 1891.
GLYNTAF.
GLYNTAF. Nos lau a nos Wener, yr 22ain a'r 23ain cyfisol, perfformiwyd y gantawd Bob, the Shoeblack," gan gor Cymreig eglwys y plwyf uchod, dan arweiniad Mr. Edward Thomas, a chwareuwyd ar yr organ gan ei fab, Mr. James Thomas. Yr oeddem braidd yn ofni y byddai i'r tywydd. caled iilwrio ym erbyn llwyddiant y mudiad, ond sionrwyd ni ar yr ochr oreu. Yr oedd yr Ysgoldy 0enedlaethlil nos lau yn llawn mewn gair, yr oedd yn rhy lawn. Cafodd pawb eu boddloni yn hollol yi y perfformiad, ac hefyd yn y rhan adloniadol a gyfansoddai adran yr ail ar y rhaglen. Hefyd, yr oedd yr ysgoldy yn rhwydd lawn nos Wener, er gwaethaf gwlybaniaeth yr hin. Aeth y cor trwy ei waith yn foddhaol iawn, ac yr oedd yr ail adran y noson hon eto yn hynod ddyddorol. Y Hue clod nid bychan yn ddyledus i Mr. Thomas a'i fab am eu hymdrechion egniol a pharhaus gyda'r cor. Dylaswn ddweyd mai Mr. L. Gordon Lenox a ciiwareuodd ar y ber- doneg yn ystod ail adran y rhaglen nos lau, a Miss ToLffree nos Wener helyd, cymerodd Mr. L. Gordon Lenox ran yn y perfformiad trwy ddarllen yr adranau apwyntiedig.-Gohebydd.
LLANDDANIELFAB.
LLANDDANIELFAB. YR YSGOL SUL.—Mewn cyfarfod athrawon a gynhaliwyd yn ddiweddar, et hoi wyd Mr. Chas. Mellior Coles, Bryntirion, yn arolygwr am y chwarter hwn, a Mr. Richard Jones, Ty'nlon, yn ysgrifenydd. Y CYFARFOD LLENYDDOL.—Bwriedir cynal cyfarfod llenyddol yn y plwyf hwn yn mis Mehefin. Etholwyd pwyllgor i dynn i fyny y rhaglen a gwneyd parotoadau anjenrheidiol eraill. Y rhai canlynol a etholwyd :—Y Parch. W. E. Jones, Mri. John Williams, Ty'nye.)ed Owen Williams, Tymawr liicliard Jones, Ty'nlon Thomas Hughes, Brynhytryd Wm. Hughes, Church Terrace Charles M. Coles, a Richard Elias Butler, dros blwyf Llanedwen. SWPEU I'R COR.—Trwy liaelioni yr Anrliyd- eddus Arglwydd Boston, rhoddwyd swper ar- ddercbog i gorau Llanddanielfah a Llanedwen, yn y Persondy, ar y 3ydd o'r mis hwn. CHRISTMAS TRKK.—Ar y lofed cyfisol, rhodd- wyd gvvledd o de a bara brith i holl blant yr Eglwys yn y ddau blwyf yn Mhersondy Llan- ddaniel. Yr oedd yn bresenol ar yr achlysur 78. Ar ol y te, dangoswyd Coeden Nadolig hardd, yr hon oedd wedi ei llwvtho aj anrliegion — llawer o honynt yn gynwysedig o ddilladau, &c. Cyfrauodd y Countoss de Galre, o'r Plasnewydd, a Mrs. Hunter, Plascooh. yn Irvdionus iawn. Yr oedd y Parch. D. J. Lewis, M,A., ficer parchus Llanidan, yn bresenol, a rhoddodd gynghorion dwys ac amserol i'r plaut.-Goliebydd. I
DOWLAIS.
DOWLAIS. DARI.LKMADAU CEXNXOCI.—Nos Lun, y 19eg 11 cyfisol, cyhaliwyd cyfarfod Ilwyddianns yn yr Ysgoldy, Pengarnddu. dan lywyddiaeih y Parch. W. L. Hughes. Wadi cael ychydig eiriau »au y llywydd, awd ymlaen yn y drefn ganlynol:— Ton, The Peugarnddu March." gan y Fife and Drum Band, dan arweiniad Mr. Chas. Gwynue; can, "Siaradwch yn Fwyu," Daniel Sayres; adroddiad, Paradwys y ddaear," David Wil- liams deuawd, Dau hen Lane," Mri. Stephen Jones a Daniel Sayres; adroddiad, Hen Feibion Gweddwon," John Lumley cystadl- euaeth darllen, Cwyn y Diog "-gwobrwywyd y tri goreu, sef Edward Lumlev, David Wil- liai-ns, i John Lumley; adroddiad. "Y Crydd a'r Tafarnwr," Daniel Sayres uoawd ar y crwth, John Rees Jones darileniad, (-zweitli- wyr yr Eglwys," Griffith Jones can, gan Stephen Jones; ton, Codiad yr Ehedydd," gan y Band can, Gweno Fwyn," David Williams adrodd Englynion, Jane Williams unawd ar y fife, Merch Megan," Willam Evans; can, Ymweliad y Bardd," W. John James; unawd ar y crwth, J. Rees Jones; deuawd, Y Teiliwr a'r Crydd," Md. Stephen Jones a D. Sayres;. 1 loe, "Hark, the Lark," gan y Band araitli ddifyfyr, Y Cybydd,,— goren. D. Williams ail oreu, J. Rees Jones. Diweddwyd drwy ganu yr Anthem Genedl- aethol. CLADDEDIGAETH. Drwg genym gofnodi marwolaeth Mrs. Gwenllian Jones, anwyl wraig Mr. William Jones, Castle Inn, Pengarn- ddu, 11 yn 70 mlwydd oedd Bu farw boreu ddydd Sadwrn. yr 17eg cyfisol. Yr oedd Mrs. Jones wedi bod yn aelod Eglwysig ffyddlon am flynyddau lawer. Ddydd Mercher, daeth tyrta fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'r ymad- awedig. Cychwynwyd y cynhebrwng gan y Parch. Ll. M. Williams, y rheithor. Yna awd gyda y tren tri i Bontsarn, er myned i gladdfa y Faenor. Darllenwyd y gwasanaeth yn yr eglwys gan y Parch. W. L. Hughes, ac wrth y bedd" gan y Parch. J. E. Jenkins, y rheithor Bydd yn chwifh hwn yn yr ardal ar 01 colli Mrs. J6nes. Bydded nodded Rhagluniaeth ar ei phriod galarus, ac ar y gweddill o'r teulu. SOIREE YR EGLWYS GYMREIG.-Nos lau, yr 22 cyfisol, cafodd athrawon ac athyawesau t Ysgol Sul yr Eglwys Gymreig eu soiree blyn- yddol yn yr ysgoldy dyddiol. Daeth nifer liosog iawn o honynt ynghyd. Gwasanaethwyd wrth y byrddau te gan Mrs. Farr a Mrs. Rees, yn cael eu cynorthwyo gan amryw o foneddig- esau ieuainc. Wedi gwneuthur cyfiawnder o'r danteithion darparedig, cafodd pawb fantais i ymddyddan rydd a mwynhaol. Ynaymgynull- wyd era-lianii y gwobrwyon arferol i'r athraw- on, &c., gan y Rheithor a Mrs. Williams. Hyny drosodd, cafwyd amryw gaueuon dilyrus gan Mr. Tom Lewis, Mr. Morgan Lewis, &c. Cyn gwasgaru, rhanwyd eurafalau ac afalau i bawh. Wedi rhoddi y diolchiadau dvladwy, terfynwyd drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." EITEDnFoD. Dywedir fod eisteddfod ar droed, dan rawdd aelodau Guild Dewi Sant yr Eglwys Gymreig. Bwriedir ei chynal yn gynar yn yr haf. Ceir pob manylion, yn bur debyg, yn fuan yn y LLAX. Gobeithio gwntiff yr oil o Eglwyswyr y plwyi eu goreu glas er cario y maen i'r wal. Llenorion a cherddorion Dowlais, hogweh eich arfau.
SANT FFAGAN, ABERDAR.
SANT FFAGAN, ABERDAR. MARWOLAETH.—Pur anaml yr ydym yn teimlo gorfod arnom, fel y tro hwn, i groniclo marwolaeth plentyn bychan. Nis gallwn beidio —yr oedd Emily Jane Harris, er ond chwe' mlwydd oed, yn dyfod i'r eglwys yn Haw ei mam ar y Sul, ac hefyd i'r gwasanaethau yn yr wythnos. Ymddygai yn ddefosiynoi yn nhy Dduw, a dywedai Weddi yr Arglwyd(I yu uebel, hyd nes y byddai pawb yn ei chlywed. Y tro diweddaf yr oedd yn yr eglwys. yr oedd trwy hyn wedi tynu sylw neill- duol y rhai oedd yn bresenol. Yr oedd yr ym- adawedig yn fedrus ar adrodd, yn enwedig penillion o'r Cyjaill. Ymwelwyd a hi yn ei chystndd byr gan y Parchn. Lewis a Roberts, gyda pha rai yr oedd y drancedig yn hynod boff. Pan y bu iarw yr oedd Mrs. Bevan, y Ficerdy, a'r Parch. H. R. Roberts yn bresenol. Cafwyd gwylnos ar y noson cyn yr angladd, pryd y siaradwyd yn hynod darawiadol gan y Fieer. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Ficer a'r ddau Gurad, a daeth tyrfa fawr o Eglwyswyr ynghyd. Ar foreu y Sul canlynol, cafwyd pregefch angladdol gan y Parch. H. li. Roberls, yr hwn a ddangosodd fod pob peth yn digwydd i ddyn oddiwrth Dduw. er mwyn amcan neill- duol, sef dwyn mwy o ffrwyth yn ngwinllan yr Arglwydd. Dangosodd fod ffyrdd Duw yn dywyll i ni yn awr, ond trwy amynedd nyni a ddeuwn i weled fod pob proiedigaeth er ein lies, ac y gwawria y diwrnod, os gwnawn ystwytho i'w wialen Ef, pan y byddwn yn gallu dweyd, Da oedd i ni gael ein cystuddio."