Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

NODION 0 DDEONIAETH LL&NRWST.

HIRNAKT.

NEFYN.

LL ANBRYNM AIR.

ABERHONDDU.

TUKFDRAETH, PENFRO.

[No title]

Advertising

PWNC Y DEGWM ETG.

YR WYTHNOS.

GLYNTAF.

LLANDDANIELFAB.

DOWLAIS.

SANT FFAGAN, ABERDAR.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

SANT FFAGAN, ABERDAR. MARWOLAETH.—Pur anaml yr ydym yn teimlo gorfod arnom, fel y tro hwn, i groniclo marwolaeth plentyn bychan. Nis gallwn beidio —yr oedd Emily Jane Harris, er ond chwe' mlwydd oed, yn dyfod i'r eglwys yn Haw ei mam ar y Sul, ac hefyd i'r gwasanaethau yn yr wythnos. Ymddygai yn ddefosiynoi yn nhy Dduw, a dywedai Weddi yr Arglwyd(I yu uebel, hyd nes y byddai pawb yn ei chlywed. Y tro diweddaf yr oedd yn yr eglwys. yr oedd trwy hyn wedi tynu sylw neill- duol y rhai oedd yn bresenol. Yr oedd yr ym- adawedig yn fedrus ar adrodd, yn enwedig penillion o'r Cyjaill. Ymwelwyd a hi yn ei chystndd byr gan y Parchn. Lewis a Roberts, gyda pha rai yr oedd y drancedig yn hynod boff. Pan y bu iarw yr oedd Mrs. Bevan, y Ficerdy, a'r Parch. H. R. Roberts yn bresenol. Cafwyd gwylnos ar y noson cyn yr angladd, pryd y siaradwyd yn hynod darawiadol gan y Fieer. Gweinyddwyd yn yr angladd gan y Ficer a'r ddau Gurad, a daeth tyrfa fawr o Eglwyswyr ynghyd. Ar foreu y Sul canlynol, cafwyd pregefch angladdol gan y Parch. H. li. Roberls, yr hwn a ddangosodd fod pob peth yn digwydd i ddyn oddiwrth Dduw. er mwyn amcan neill- duol, sef dwyn mwy o ffrwyth yn ngwinllan yr Arglwydd. Dangosodd fod ffyrdd Duw yn dywyll i ni yn awr, ond trwy amynedd nyni a ddeuwn i weled fod pob proiedigaeth er ein lies, ac y gwawria y diwrnod, os gwnawn ystwytho i'w wialen Ef, pan y byddwn yn gallu dweyd, Da oedd i ni gael ein cystuddio."