Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Tair Penod o Hanes Caradog.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

[COPYRIGHT.] Tair Penod o Hanes Caradog. YR AIL BENOD. Parodd dygwyddiadau y benod gyntaf gryn dipyn o grechwen a siarad digrif yn y gwestty a'r dref. Aeth golygydd un papyr lleol, wrth adolygu gwahanol nod- weddion yr achos, mor bell a dweyd bod ynddo elfenau i wneyd un o'r nofelau mwyaf chwerthinus a chyffrous a ddar- llenwyd erioed. Am danaf fy hun, yr oedd rhan fenyw- aidd poblogaeth y dref yn arbenig yn edrych i fyny ataf yn awr fel pe bawn yn rhyw arwr digymhar, ac nid oedd odid na dawns nac unrhyw gyfarfod llawen yn cymeryd lie o fewn cylch o chwe' milldir a haner i'm Hetty nad oeddwn yn ddieithriad yn cael fy ngwahodd iddynt. Aeth rhai pobl mor eithafol a'm galw yn Caractacus the Good! Clywais fod tad a brawd y llanees a gafwyd yn fy ystafell yn coleddu syn- iadau hollol i'r gwrthwyneb am danaf. Melldithient fi a'u holl egni, am feiddio 6honof ddrwgdybio a gwaradwyddo pobl mor ddiniwed (?). Hyd yn nod bygyth- ient dalu y pwyth i mi gynted y eawseiit gyfle. Ond ni lwyddodd eu melldithion na'n bygythion i darfu Caradog o'r ardal. Yn mhen tua mis ar ol prawf y ddynes grybwylledig, cymerwyd ei thad a'i brawd diniwed, fel y galwent eu hunain, i'r ddalfa ar y cyhuddiad o ladrad, a'r can- lyniad ydoedd iddynt gael eu symud i garchar y sir i dderbyn eu gwobr. Pa fodd bynag, ar Noswyl y Nadolig, cefais y pleser o gael fy ngwahodd i dreulio ychydig amser mewn cyfarfod o ddynion a merched ieuainc heb fod yn nebpell o'r gwestty. Perthynent oil i deuluoedd parchus yn y dref, a chefais groesaw a difyrwch anarferol yn eu plith. Ond oddeutu deuddeg o'r gloch, y noson ho no, pan ar ganol y ddawns ddiweddaf, dygwyddodd rhywbeth a barodd i'm llawenydd ddiflanu. fel drychiolaetb, ac i'm gwaed agos rhewi yn fy ngwythienau. Yr oedd yr ystafell yn mha un y cy- merai y ddawns le mewn ystryd cyd- marol ddystaw, tua ehan' llath oddiwrth brif heol y dref. Gwynebai un o ffenestri yr ystafell i ardd fechan amgauedig tu ol i'r adeilad. Yn y ffenestr hono y gwelais yr hyn a barodd y fath gyfnewidiad yn fy ysbryd nawsaidd. Tynodd rhywbeth fy sylw at y ifenestr, ac er fy syndod, dyna lle yr oedd tri o wyneba.u ellyllaidd yr olwg i'w canfod. Yr oeddwn bron yn sicr mai gwyneb y llanees a gefais yn yinguddio o dan fy ngwely tua chwe' mis cyn hyny ydoedd un ohonynt, canys ni welais erioed, fel y dywedais o'r blaen, wyneb mwy hyll. Nis gallwn adnabod y ddau wyneb arall oedd ar y de a'r aswy iddi, ond deallais yn hawdd mai dau wry w oedd gyda hi. Daliais un o'r tri- nis gallwn ddweyd yn sicr pa un ohonynt -yn pwyntio a bys tuag ataf, ac yna collais olwg arnynt yn ebrwydd. Sylwodd y cwmni llawen oedd yn yr ystafell fy mod wedi tristau yn hynod o sydyn, a dechreuasant ymholi yn dyner yr achos fy mod i felly. Ond celais wir achos fy ysbryd aflawen ar y pryd drwy ddweyd fy mod yn teimlo yn anhwylus, a bu dau o'r dynion ieuainc mor garedig a dyfod gyda mi hyd at ddrws y gwestty lie yr oedd fy Hetty. Yr oedd cloc mawr y dref yn taro un -0'1' gloch, boreu Nad- olig, pan y cyrhaeddais y gwestty, ac y dymunodd fy nau gydymaith noswaith dda ac adferiad buan i mi yn wresog. Yr oedd gwr a gwraig garedig y gwestty heb fyned i'r gwely, ac ymddangosent yn bryderus iawn. Meddyliais fod eu merch anwyl wedi cael ei tharo yn anarferol o sal, a gofynais iddynt beth oedd yr achos eu bod yn edrych mor annedwydd, yn enwedig ar yr adeg fwyaf llawen o'r flwyddyn. Pryderu yr oeddem," ebe y gwestty- wr, "am danoch chwi, oblegyd clywsom heno fod tad a brawd y ddynes hono a ganfuasoch yn eich ystafell wely, tua chwe' mis yn ol, wedi eu rhyddhau o'r carchar. Da chwi, byddwch wyliadwrus rhagddvnt." Peidiwch a phryderu dim o'm plegyd i," ebe ft wrthynt, gan gelu y ffaith fy mod i newydd weled y ddynes a'r ddau ddyn y soniwyd am danynt, canys nid oeddwn am beri ychwaneg o anesmwyth. der meddwl iddynt yn fy nghylch. Aethum i'r gwely y boreu hwnw tua chwarter wedi dau, ond nid oedd nemawr hwyl ynof i gysgu, gan mor ddiwyd yr oedd fy meddyliau. Tarawodd cloc mawr y dref dri o'r gloch, a chyda hyny clywais y grisiau yn crecian o dan bwysau rhywun neu rywrai. Crwydrodd fy meddwl yn ol yn awr i'r adeg y cafwyd y Ilances o dan fy ngwely, gan ddychwelyd yn chwimwth at y gwynebau hyllion oeddwn newydd weled. Yn sydyn, clywais ddrws fy ystafell yn cael ei ddadgloi a'i agor, a rhywrai yn crepian i fewn yn lladradaidd gan ym- balfalu yn y tywyllwch. Yr oeddwn wedi diffodd goleu y nwy cyn myned i orphwys, yr hyn nad oeddwn yn ei wneyd ond tra anfynych. I'r lloer yn unig yr oeddwn yn ddyledus am yr ychydig oleu pwl a ddeuai drwy y ffenestr gyferbyn a'r gwely. Rhaid cyfaddef fy mod, ar y pryd hwn, yn rhy ddychrynedig i wneyd un math o ymdrech i amddiffyn fy hun a'm heiddo. Ond ymdrechais yn galed a chydag anhawsder mawr i gau Ty llygaid ac edrych fel dyn yn cysgu yn drwm, gan obeithio yr ymfoddlonai y dyhirod ar yr ysbail yn unig ac yr achubent fy einioes. Ond gyda'm bod yn brydio felly, clywais curtains y gwely yn cael eu gwahanu, a rhywun yn anadln uwch fy Qfld ni apj fy llyg&i4 fr gweled pwy ydoedd. Yna, torwyd y dystawrwydd anoddefol o bruddaidd gan lais henafwr, yr hwn, a barnu oddiwrth y swn, oedd yn nghongl bellaf yr ystafell yn chwilio am a chrynhoi ysbail. Make haste, if you mean to do it, my dear boy, and not keep him waiting there all night," ebe perchenog y llais crybwylledig. "You greedy old fool," esgyrnygai y dyhiryn oedd wrth erchwyn fy ngwely, "what has become of the knife? I thought I bad it Hush my boy, don't lose your good temper. Now I remember—we left it on the kitchen table after helping ourselves with that stunning ham and those cheese- cakes but won't this revolver do for him, my dear boy ?" "Yes, a pretty thing-fire, kick up a row, and be scragged for it-that would pay nicely. Fetch the knife at once, you drunken old fool, and have no more jaw, or we shall wake this Caractacus the Good, instead of sending him up quietly to spend his Christmas in heaven with- out any invitation." All right, my dear boy but don't be so harsh." Yna, clywais yr henafgwr yn cerdded yn araf ac yn ddystaw at ddrws yr ystafell, gan ei agor a myned i lawr y grisiau. Ni ddichon neb meidrol amgyffred fy nheimladau yn y cyfwng ofnadwy hwn ond y sawl sydd wedi dygwydd bod yn y cyffelyb sefyllfa. Yr oedd geiriau y ddau leidr llofruddiog yn seinio megys cloch marwolaeth i mi Hang the tippling old beast, he's at that wine again ebe fy ngwyliedydd yn ddiamynedd am y gwr a aeth i'r gegin i nol y gyllell, ac yna aeth yntau allan o'r ystafell ac i lawry grisiau i chwilio am dano. Gyda hyny, codais inau o'r gwely, clo- ais y drws yn ofalus, goleuais yr ystafell, ac arfogais fy hun a dau revolver llwyth- og, sef yr un oedd yn hongian tu ol i obenydd fy ngwely, ac un arall a gefais ar y bwrdd ac a berthynai ond odid i'r ysbeilwyr. Hefyd, yr oeddynt wedi gad- ael eu skeleton-keys, fel y'u gelwir, ar yr un bwrdd. Sylwais fod cryn dipyn o ysbail wedi cael eu crynhoi at eu gilydd, ac yn eu mysg y bag a gynwysai fy arian, ond swm cydmarol fychan oedd yn dyg- wydd bod ynddo y tro hwn. Yn ddisymwth, clywais barti o gantor- ion yn canu carol hyfryd a melus i'm hysbryd dirwasgedig heb od yn mhell o'r gwestty. Agorais ffenestr fy ystafell yn ebrwydd, a bloeddiais nerth fy ngheg, Help help burglars in the house Ar hyny, defIrodd pawb oedd yn y gwestty a'r tai cyfagos, gan fel y cymer- odd y carol-ganwyr i fyny fy mloedd. Chwiliodd dau heddgeidwad y gwestty trwyddo, a chawsant y lleidr hynaf yn feddw mawr yn y seler. Llwyddodd y Hall i ddianc o'r ty yn ddisylw, ond yr oedd yn gymeriad mor adnabyddus yn y gymydogaeth fel y daliwyd yntau yn mhen dwy awr ar ol hyny. Mae y ddau yn fyw yn bresenol, yr wyf yn meddwl, yn treulio allan eu hamser yn un o gar- charau y wlad. Torasant i fewn i'r gwestty drwy dori ymaith y zinc oddi- wrth ffenestr y pantri. [Yr wythnos nesaf am dani.]

Nodion o America.

Llith o Batagonia.

[No title]

Y "MESSIAH" YN MERTHYR.

[No title]

Advertising