Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
15 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
TEE SSSO MM or THE AGE. HUGHES'S BLOOD PILLS HUGHES'S BLOOD PILLS HUGHES'S BLOOD PILLS CREATE NEW BLOOD CREATE NEW BLOOD CREATE NEW BLOOD t REV. PRINCIPAL EDWARDS, Pontypool. DEAR SIR,-I am sure you will be glad to hear that your "BLOOD PILLS" are most highly valued. My experience is they are UNEQUALLED. They seem to me to be the pleasantest, safest, and most effective medicine. They are simply EXCELLENT. They ought to prove a universal boon. HUGHES'S BLOOD PILLS HUGHES'S BLOOD PI LLS HUGHES'S BLOOD PILLS PRODUCE HEALTHY SKIN PRODUCE HEALTHY SKIN PRODUCE HEALTHY SKIN Sir,—My little daugh- OPEN SORES AND ter has been snffering a bKIN RASH. great deal from a rash, with pimples, which came out on her hands and face, extending all over her body her face got so bad until it got into open sores. I am happy to say that under the treatment of your famous BLOOD PILLS," and an outward application of 11 Gorrier's Balm," her body is nicely cleared, also her hands and face. New-road, Llandilo. M. HANCOCK. The above was a very interesting case. She was in a pitiable state. Now completely cured. I consider the case to be a good test of the value of your -1 BLOOD PILLS.Rev. D. B. JONES, Llandilo. HUGHES'S BLOOD PILLS HUGHES'S BLOOD PILLS HUGHES'S BLOOD PILLS SECURE ACTIVE LIVER SECURE ACTIVE LIVER SECURE ACTIVE LIVER Rev. B. D. WILLIAMS, Waunarlwydd. SlR,-I have very great pleasure in being able to testify to the value of your HUGHES S BLOOD PILLS.' I took one box of them about a month ago, and since then. I feel as well as ever. I have known nothing yet that renews my strength and revives me as these Pills do. My complaint was Indigestion, accompanied with great weakness and palpitation of the heart. I ,would highly recommend them to all sufferers. HUGHES'S BLOOD PILLS HUGHES'S BLOOD PILLS HUGHES'S BLOOD PILLS ENSURES STRONG NERVES ENSURES STRONG NERVES ENSURES STRONG NERVES From Rev. D B. JONES, Gowerton. I have been a sufferer for many months from Nervous Debility, Indigestion, and weak Eye- sight and so bad has the latter been that I have been compelled to abstain from reading. But the result of taking your Blood Pills has been to completely strengthen the Nervous System, relieving Indigestion, and much im- proving the Eyesight. HUGHES'S BLOOD PILLS HUGHES'S BLOOD PILLS HUGHES'S BLOOD PILLS Guarantee Vigorous Stomach Guarantee, Vigorous Stomach Guarantee Vigorous Stomach I was at the beginning of WORN TO A this year and the end of last, SKELETON. very poorly with coughing and throwing up, and could not sleep had no appetite. I was worn to a skeleton. I heard of your BLOOD PILLS." I sent for a box, and continued using them. I soon found great relief, I could sleep at nights, cough stopped, and able to eat well am now as well as ever. I must praise and highly recommend them. DAVID THOMAS. Hobshill Mountain, Pembroke. Every Man, Woman, Boy, and Girl Suffering from Indigestion, Headache, Skin Rash, Scurvy, Biliousness, Con- stipation, Nervousness, Low Spirits, Fits, should take these Pills without delay. THEY CURE WHEN EVERYTHING ELSE FAILS. Sold by every Chemist and Patent Medicine Vendor, at lR. ld., 2s. 9d., 4s. 9d.; by Post, at Is. 3d., 2s. lid., 18. 9d., from JACOB HUGHES MANUFACTURING CHEMIST, PENARTH, CARDIFF. NOTICE.—None without the a Red Label -1 V" I L 1 I are Genuine Trade Mark on on Each Box. 89-r-141
FFYDDLAWN HYD ANGAU, NEU DYNGED…
FFYDDLAWN HYD ANGAU, NEU DYNGED Y CARWR GWRTHODEDIG. Er fy mod yn credu yn gadarn fod mwy o wroniaid yn y byd nag y ceir hanes am danynt yn y newyddiaduron, &c., eto nis gallaf benderfynu pa un a ellir cyfrif dyn a adwaenwn yn wron ai peidio. Feallai y priodola darllenwyr y LLAN hyny i fy nallineb meddyliol, ond adroddaf yr hanes, a chant felly fantais i farnu drostynt eu hunain. Glowr wyf, a thua phymtheng mlynedd yn ol gweithiwn yn mhyllau Yr oedd nifer dda o honom yn gweithio yno, ac yn eu plith un dyn ag yr aethum yn gyfeillgar iawn ag ef. Yr wyf wedi ei alw yn ddyn," ond nid wyf yn sicr a deilyngai y teitl hwnw. Ymdebygai yn fwy i fachgen gwargam nag i ddyn, ond yn debycach i anifail rhyfedd. Corach (dwarf) ydoedd. Yr oedd ganddo ben ac ysgwyddau anferth, a phar o goesau bycliain, ceimion, a gwael —fel rhai bachgen wyth oed. Pan ychwaneger fod ei gefn wedi gwyrgamu, a'i wyneb a'i ben yn orchuddiedig gan wallt hir, afrywiog, a hagr yr olwg, gellir tybied fod golwg o £ fiadwy arno, yn enwedig pan ddeuai allan o'r pwll. Meddai lygaid eryraidd, yrhaia fflachient ar brydiau megis ser gwibiog. Ambell waith, ymddangosent wedi pylu, ac yn ofer y dyfalwn am beth y meddyliai yr adegau hyn. Dywedais fy mod yn gyfeillgar ag ef, ond nid oeddwn yn fwy moesgar tuag ato nag a ddylaswn fod. Rhywfodd neu gilydd, yr oedd genyf ofn corachod bob amser, gan fy mod wedi clywed mai rhai ystrywgar a maleisus ydynt, er eu bod yn ymddangos yn ddigon diniwed. Cyflawni ei orchwylion yn foddhaol, a chan ei fod yn byw yn gynil, llwyddodd i roddi digon o arian heibio i brynu y ty y trigianai ynddo, ynghyd a darn o dir. Yn hyn o beth, yr oedd wedi ymddwyn yn ddoethach na'r rhan fwyaf o honom. Helpu tafarnwyr i gael tai a thiroedd yw arferiad cyffredin gweithwyr, ond yr oedd Jonah (dyna ydoedd yr enw a roddasom arno) yn gallach yn. ei genhedl- aeth. Gallasech feddwl fod ei gorff anffurf- iedig yn anhwylusdod iddo gyflawni ei orchwylion, ond camgymeriad fuasai hyny, gan nad oedd neb yn y pwll yn gryfachnag ef. Heblaw hyny, gallai efe gerdded drwy y lefelau cyfyng, tra yr oeddem ni yn gorfod myned ar ein dwy- law. Ar y pryd, yr oeddwn yn byw gyda'm tad, a Marged fy chwaer, ac yr oeddem yn isel iawn ein hamgylchiadau. Coleddai fy nhad obeithion-fel llawer tad o'i ilaen—y byddai i fy chwaer lwyddo i enill serch rhywun a golud ganddo, yr hyn fuasai yn gynorthwy mawr i ni. Yn ddiddadl, yr oedd Marged yn ferch hardd iawn. Er fy mod wedi gweled canoedd o ferched yn ystod fy oes, ni welais yr un a ddaliai ei chymharu a hi. Yr oedd yn Ysgafn ei throed fel yr ewig, A'r gwallt fely nos ar ei phen.' Pan fyddwn a rhai o'm cydweithwyr yn dyfod adref yn yr hwyr, byddai fy chwaer yn dyf ocl i'n eyfarfod vi-i ami, a siaradai yn lion a ni tra yn cerdded yn fy mraich. Un diwrncrd, daeth dyn dieithr i weithio i'r pwll—dyn o'r enw Edward Hughes, a llanc ieuanc talgryf a hardd ydoedd yn enwedig ar y Sul, pan y byddai wedi ymwisgo yn ei ddillad goreu i fyned i'r Eglwys. Oddiar ei elclyfodiad cyntaf i'r pwll, arddangosodd Edward ryw hoffder an- arferol ataf, gymaint felly fel y synwn pa fodd yr oedd wedi gallu ymlwybro drwy y byd yn fiaenorol i'n hymgyfarfyddiad. Dywedodd wrthyf hanes ei deulu a'i gyfeillion, a deallais arno ei fod yn cadw ei fam weddw, fel nad oedd ganddo geiniog yn y byd ag a gallai ddweyd mai ei eiddo ef ydoedd. Pobpeth a ddywedai wrthyf, a adrodd- wyd genyf i'm chwaer, ac ymddangosai yn cymeryd dyddordeb anghyffredin yn yr hyn a ddywedir am dano. Bob tro y soniwn am dano, gwridai ei bochau, a fflachiodd i'm meddwl fod y ddau yn gwybod mwy am eu gilydd nag a wyddwn i. Pan ddeallais eu bod yn caru, Ilanwyd fy nghalon a galar, gan yr ystyriwn mai anffawd o'r mwyaf fuasai i bripdas gymeryd lie rhyngddynt. Syrthiodd y cestyll a gyfodaswn, yngtyn a Marged yn priodi gwr bonheddig," yn gandryll i'r llawr! Cyflogau salw a dderbyniai y glowyr y pryd hyny adeg ydoedd pan nad oedd y sliding scale mewn bodolaeth. Mae cyfnewidiad mawr wedi cymeryd lie ynglyn a hyn, fel y mae yn dda gan bawb weled. Er fy mod yn teimlo yn ddigllawn wrth y ddau am syrthio mewn cariad a'u gilydd, eto penderfynais beidio dweyd dim am y peth wrthynt. Wel, un diwrnod-'rwyf yn ei gofio mor dda a phe buasai ddoe—rhwng goleu a thywyll yn mis Medi, pob peth yn dawel, yr oeddwn yn ysmocio yn yr ystafell gefn o'n tSr, ac yn synfyfyrio, gan fod fy nhad wedi myned allan, clywais swn siarad yn yr ystafell arall. Jonah a fy chwaer oeddynt yn ymddiddan! | Er ei foci, fel y dywedais, yn hagr yr olwg, eto meddai lais melodaidd, ac yn ystod yr ymddiddan clywais ef yn canu darn p'r gan boblogaidd, Clychau Aber- dyfi," Os 'rwyt ti yn fy ngharu i Fel rwyf fi yn dy garu di.' Er y gwyddwn nad oeddwn yn gwneyd yn iawn, rhoidais fy mhibpll heibio, a gwrandewais yn astud. II 0 Marged anwyl," meddai, yr wyf yn eich caru yn angerddol. Yr wyf yn eteb caru er pap, wela^ chwi gyntaf erioed. A wnewch chwi briodi a mi ? Byddaf yn wr da i chwi." Chwarddodd fy chwaer yn ddirmvgus pan glywodd hyn. "Eich priodi chivi V gofynai mewn syndod. Rhaid eich bod wedi gwall- gofi yn Ilwyr cyn y buasech yn meiddio gofyn y fath beth i mi. Na wnaf, wrth gwrs." Cyfodais oddiar y gadair, ac aethum yn nes at y drws, gan fod arnaf ofn y buasai yn dial arni am ei wrthod mor ddir- mygus. Bu Jonah yn ddistaw am enyd, ac ym- ddangosai fel wedi ei syfrdanu gan ateb- iad fy chwaer. Yna dywedodd, Yr wyf yn gam a hyll mi wn, ond yr wyf yn eich caru yn fwy nag y gall unrhyw ddyn arall eich caru. Heblaw hyny, mae genyf gartref cysurus i'w gynyg i chwi." Ar ol dweyd yr uchod, torodd Jonah allan i ganu gyda theimlad angerddol y geiriau hyny, A ddo'i di, Marged anwyl I I'r Eglwys gyda mi ? 11 Fy nghariad, a fy nghoron, 11 A'm calon ydwyt ti.' Tybiwn fod llygaid fy chwaer yn fflachio pan yr atebodd Jonah yr ail waith, gan mor sarug a phigog ydoedd ei thon. "Pe ba'i genych," meddai, ugain o gartrefi i'w cynyg i mi, ni chymerwn chwi. Ewch o'm golwg, yr adyn, a gofalwch beidio crybwyll am y fath beth wrthyf eto." Nis gallwn lai na meddwl fod fy 9 1 chwaer wedi ymddwyn yn rhy greulawn a sarhaus tuag ato. Feallai ei bod wedi ei harwain i hyny gan ei dychryn, gan fod yr olwg arno yn y gwyll yn ofnadwy. Heblaw hyny, nid yw merched prydferth mor ofalus ag y dylent fod yn eu dewis- iad o eiriau i amlygu eu dirmyg pan y cythruddir hwynt. 0 leiaf, dyna fy mhrofiad i. Tybiaf ei fod wedi cerdded o amgylch yr ystafell ar ol hyny,.gan fod swn ei lais i'w glywed yn nes at y drws. Erbyn: hyn, yr oedd ei lais yn floesg gan gyn- ddaredd, a chreodd ei arddull arswyd yn fy nghalon. Edward Hughes yw y dyn sydd yn sefyll rhyngoch chwi a mi, onide? A ydych yn tybied fy mod yn ddall ? A ydych yn meddwl nad oeddwn wedi canfod hyny ? Mae eich calon wedi ei rhoddi iddo ef, ond gallwch fod yn sicr o un peth-ni chp, iveh ei briodi tra y byddaf ft byw Teimlwn iasau oerion yn rhedeg i lawr fy nghefn tra yn gwrando arno. Edrychais am fy ffon, gan fod ei ddull J mor ddieflig, ac ofnwn y buasai yn lladd fy chwaer yn y fan. Nid geneth i gymeryd ei dychrynu ar chwareu bach, pa fodd bynag, ydoedd fy chwaer, fel y dangosodd yn ei hatebiad parod a llym Ie, Edward Hughes sydd wedi cael fy nghalon, ac y mae ei galon yntau genyf finau. Nid oes genyf gywilydd ychwaith ei arddel gerbron y byd. Yr ydwyf yn gwybod yn eithaf da fod genych dy a gardd yn eich meddiant, fod Edward yn dlawd, ac y bydd yn angenrheidiol i ni aros am flynyddoedd cyn y gallwn briodi, ond na thybiwch y gallwch fy nychryn i rhag ei briodi, gan nas gallwch, yr adyn hagr. Pe na byddai i mi ei briodi ef, ni phriodwn byth a'r fath ang- henfil gresynus, drwg, a hyll fel chwi Felly, peidiwch a breuddwydio am y fath beth." Rhedodd fy chwaer allan o'r ystafell, ac aeth i fyny i'r llofft, gan gloi y drws arni. Arosais yn fy ymguddfan yn ddistaw am rai munydau, er mwyn gweled beth a wnelai Jonah. Edrychais heibio congl y fynedfa, a gwelwn ef yn sefyll o'r tuallan i'r drws. Nis anghofiaf byth yr agwedd arswydus oedd arno-yr oedd fel pe wedi ei fedd- ianu gan holl ellyllon y fall. Siaradai rhyngddo ag ef ei hun, ond ni ddeallais ond yr hyn a ganlyn "Ni chaiff byth briodi Edward tra y byddaf fi byw. Darfu i Dduw fy nghreu i yn gystal ag yntau." Yna aeth ymaith, ac ni welais ef mwy y noson hono. Ni ddywedais ddim wrth Marged am yr hyn a welais ac a glywais, ond pender- fynais fod ar fy ngwyliadwriaeth, gan fy mod yn ofni y gwaethaf. Y diwrnod canlynol, yr oeddem dan y ddaear fel arferol. Rhywfodd neu gil- ydd, yr oedd Jonah, Edward, a minau gyda'n gilydd drwy y dydd. Ymddang- osai Jonah yn cadw at ochr Edward yn barhaus, a gwyliwn ef fel barcut. Nid oedd gan Edward unrhyw ddirnad- aeth am fy ofnau, ac ymddangosai yn fwy hapus nag arferol y diwrnod hwnw. Yr oedd fy nghalon i, pa fodd bynag, fel plwm, gan fy mod yn teimlo y digwyddai rhyw anffawd cyn y noson hono—y nos cyn y Nadolig. Sylwais fod Jonah yn cadw ei olygon yn barhaus ar Edward, a mwmiai ryw eiriau fel gwallgofddyn. Meddianwyd fi gan ddychryn annisgriliadwy, a phender- fynais ei wylio. Ar ol ciniaw, aethom i ran arall o'r pwll i weithio. Yr oedd y lie hwnw yn un peryglus, a dywedodd y taniwr fod y lie yn llanw o nwy. "Byddai i wreichionen benderfynu tynged pob un o honom," meddai Jonah. Gwnaeth yr olwg ellyllaidd ar ei wyneb tra y dywedai y geiriau uchod fi yn sal. Erbyn hyn, ofnwn y gwaethaf, gan fod ein bywydau yn llaw gwallgofddyn GwedcUwn yn ddistaw am gael myned allan o'r pwll yn ddiogel unwaith yn rhagor. Nid oes gan rai a ymdwymnant wrth y tan yn eu cartrefi cysurns unrhyw ddirnadaeth am ein peryglon bob munyd yn nyfnderoedd crombil y ddaear Ni ddywedwyd dim ychwaneg am r »wv? pa foqq bynag, a chyda Uswenydi | digymysg y croesawn chwech o'r gloch— yr adeg i ni fyned allan o'r pwll. Hwn ydoedd y diwrnod hiraf a welais erioed. Yr oedd y cage yn barod i'n cymeryd i fyny o'r pwll, a'r rhan fwyaf o'r dynion eisoes wedi myned. Tra yn bwyta ei giniaw y diwrnod hwnw, sylwais fod Jonah yn ysgrifenu rhywbeth ar ddernyn o bapyr, ond nid oedd genyf unrhyw amcan beth ydoedd. Gwell i chwi fyned i fyny yn awr," meddwn wrth Jonah, gan fy mod yn awyddus i'w weled ef allan o'r pwll cyn Ilwyddo i greu unrhyw niwed. "Nid wyf am fyned yn awr," meddai, gan fy mod yn bwriadu gweithio am ychydig amser yn hwy. Ewch chwi eich dau i fyny, a gallwch ollwng y cage i lawr i'm hymofyn inau." Yna dywed- odd, gan roddi bwndel yn fy llaw, 11 Rhoddwch ef i Marged, a dywedwch wrthi am ei agor." Ymhen ychydig funydau, cyrhaeddodd Edward a mi i'r awyr agored, a theimlwn yn ddiolchgar. Anfonwyd y cagei lawr yn ddilynol i ymofyn Jonah. r Aethum a'r bwndel gartref, ac agorwyd ef gan Marged. Ynddo yr ydoedd y gweithredoedd am dv a gardd Jonah, ynghyd a deuddeg sofren felen. Ar ddernyn o bapyr yr ydoedd yr hyn a ganlyn Mae cynwysiad y bwndel hwn i chwi. Yr wyf yn hyll a gresynus,' ond nid wyf yn ddrwg.' Dywedais na chawsech briodi Edward Hughes tra y byddwn i byw, ac mi a gadwaf fy ngair. Meddyliwch yn garedig am gorach os gallwch. Duw a'm gwnaeth i yn gystal ag yntau." Nid oeddem wedi gorphen darllen y nodyn, pan y clywsom dwrf a barodd i'n calonau sefyll. Teimlasom y ddaear dan ein traed yn crynu am amser maith. "Tanchwa yn y pwll gwaeddai Marged, a'i gwyneb mor wyned a'r galchen. Rhuthrodd pawb allan o'u tai mewn amrantiad, ac erbyn cyraedd genau y pwll gwelwyd fod geiriau fy chwaer yn rhy I wir. Yr oedd canoedd o dunelli o bridd a, cheryg wedi eu gwasgaru ymhob cyfeiriad gan rym y ffrwydrad, ac o dan yr oil yn ngwaelod y pwll yr oedd corff ilrylliedig y creadur truan oeddem wedi gynorthwyo i anfon allan o'r byd I y Oferedd oedd meddwl am gael y corff o'r malurion, ac yno y gadawyd ef. Gwyddai pan welodd Edward a fi yn myned i fyny o'r pwll ei fod yn aros yn ol er cyfarfod a'i angau. Rhaid ei fod wedi agor ei lusern yn y rhan beryglus o'r gwaith y soniais am dano, a thrwy hyny rhoddodd derfyn ar ei fywyd yn y modd mwyaf dychrynllyd ag y gellid iyfalu am dano. Rhaid fod bywyd wedi myned yn faich iddo ar ol i Marged ei wrthod, gan nas gallai oddef ei gweled yn wraig i un orall. Nadolig du ydoedd yr un hwnw yn ein ty ni, a bu Marged yn wylo am wythnos oherwydd y digwydd- Lad, gan y cyhuddai ei hun o fod yn achos marwolaeth y truan Jonah. Priod- odd Marged ac Edward y Pasg dilynol, a,c ymddangosant yn hapus iawn yn nhy y corach a ddangosodd ei serch mewn modd mor arswydus. Er fod pymtheng mlynedd wedi myned heibio oddiar y digwyddiad uchod, nis gwn yn iawn pa un ai hunanladdiad neu irwriaeth y gellir ei alw. Un peth sydd sicr, sef fy mod byth wedi hyny wedi iysgu un wers, sef i beidio dirmygu neb sydd yn meddu ar gorff afluniaidd. Cofier bob amser mai yr un Duw a'n gwnaeth IaiJ oil, a bod teimladau cyffelyb gan bawb, pa un bynag fyddo eu cyrff yn lluniaidd ai peidio.
--------------------------Y…
Y GYMRAEG. Y Gymraeg, gem aur yw hi,—-a syn barch, Oes y byd fo iddi Mirain iaith, na c'iiyin Irwn i Dunell o aur am dani. MEIKIADOG.
CANTORION SYCHEDIG.
CANTORION SYCHEDIG. Y swch deimlant syched amlaf,-yw'n ter Gantorion medrusaf; Yn eu dirwanc mi daeraf, Yfant hwy oil Afon Taf. CVNDDKI.W.
Y CRICEDYN.
Y CRICEDYN. Nos ganor cynes agenau,—llwmwas, 11 =1 Llamog tan gyffiuiau, Yw'r Cricedyp, bryfyn brau, II Pen tenor y pentanau. CAHXELTAN.
MAE SWN Y NEF YN NGHLYCHAU'R…
MAE SWN Y NEF YN NGHLYCHAU'R LLAN. Mae swn y nef yn nghlychau'r Llan, Af yno i addoli; Y fan daw lachawdwriaeth Duw I'm henaid mewn tylodi 'Rwy'n caffael yn yr Eglwys Lan Gyflawnder o lawenydd, A dwir bywiol yndai'n rhad Heb drai, ond Ilanw beunydd. Er mwyn offeiriaid dan nawdd Duw Ddaugosant ffcirdd i'r gwynfvd, A modd i ddianc rhag dwiii lid, A gwag bleserati bywyd Dywedant wrthyf am dtefri gras Yn addas i'm hadioni, Nes creu at becholl ynwyf gas, A chariad at yr Iesu. Nis gallaf fi ddywedyd gair Yn erbyn hen sefydliad, I'r hon mae Duw yn sylfaen fawr, A'i nodded yn ei gariad Byw byth fo hon o fewa fy ngwlad-, Hen Eglwys hoff fy nhadau Mae swn y net yn nghlychau'r Llau- Gogoniant Gwlad y Bryniau. ENIS DDF.
CAN YR ANGYLION.
CAN YR ANGYLION. (CERDD XADOLKL). Ar ddyfnos fwyn hi ddaeth mor glir, Yr hen, hen gydgan dcr, Gan engyl d'rawent felus dant Ar eu telynau per Hedd ac ewyllys da i bawb' Ddylifai oddifry, Tra'r ddaear mewn disfcawrwydd syn Yu gwrandot ipgljaa p. Lawr drwy wybrenau'r ergy] ddoent Gan ledu ei hedyn gwyn, Tra. nofiai'u glwy'> gerddoriaeth ber Dros fyd a'i feichiau tyn Ac fyth u weh ben ei feusydd blin, Fel 'rr'awr a. d sjlaer wedd, Hwy ganant uwch ei dwrf a'i dan Eu melus gan o hedd. Er hyn dan faich ymryson cas, Dros ddwy fil mlwyddi mae Ein byd, er can angylion hedd, Yn gruddfan dan y gwae Rhyfelgar ddynion ni ro'nt glust I'r cariad ynddi'n dan, 0! tewch a' h trwst, derfysglyd lu, I wrando'r nefol gan A chwi dan feichiau bywyd sydd Yn crymu tua'r llawr, Wrth ddilyn troion blin y daith, Dan boen a lludded mawr Mae oriau euraidd fry'n y nef Ar dd'od yn rhan i chwi; Gorphwyswch enyd ar y daith I wrando'r engyl cu. Nesau mae'r oes rag-dd'wedwyd gan Y beirdd-brophwydi claer, Pan gyda chylch blynyddau i'r lan Fe ddaw y cyfnod aur Pan doa heddwch hael ein byd, A'i hen ogoniant maith A melus waith y ddaear wen, Fydd adsain nefol iaith Crugybar. A. S. THOMAS (I Anellydd.')
Y GAUAF
Y GAUAF Mae'r gauaf a'i rewynt rhuadwy, Fel arfer, yn dyfod i'n rhan Fe ruthra yn wyllt dros ei drothwy, Gan chwythu ei donau i'r lan; Fe welir yn nofio ei awel Y ddeilen yn llwydaidd ei lliw, Yn donog eheda'n ddiogel I ddisgyn ar lethrau y rhiw. Pan ddaw ei oer wyntoedd mileinig Ar brenau gwyrdd-dlysion y byd, Dynoetha brvdferthwch y goedwig, Fe gymer ei changau yn gryd Yn cuddio holl wyneb y ddaear, Mae'r eira, yn oerllyd ei wedd, Fe guddia y fan lie bu galar, Sef oerllyd bridd fanau y bedd. Prydferthwch holl anian sy'n gwelwi Dan gaddug gatiafol yr hwyr, A llygaid y blodau sy'n llenwi I wylo eu gofid yn Ilwyr I Fe ddaw yr ystorom ddiweddaf- Difrifol ofnadwy yw hon- Cawn gyffwrdd a'n ffryndiau anwylaf, 'Rol cefna ar ymchwydd y don. E. L. H.
Y SABBOTH.
Y SABBOTH. Dyma'r dydd propliwydodd Dafydd, Ganoedd o flynyddau maith Do, fe'i gwiriwyd ganddo'n eglur Draw cyn iddo dd'od yn ffalth Hwn yw'r dydd a wnaeth'yr Arglwydd, Dydd i'w gadw'n sanctaidd yw Dydd sy'n arwydd o'r orphwysfa. Sydd yn aros teulu Duw. Seithfed dydd oedd Sabboth Eden, Ac fe ssfodd hwn mewn hedd, Nes i'r Iesu adgyfodi Ar y trydydd dydd o'r bedd Dyma'r adeg y newidiwyd Ef o'r saith i'r cyntaf ddydd Dyma'r Sabboth Cristioaogol, Perchir hwn gan deulu'r ffydd. Dydd yw hwn sydd goffadwriaeth Am orpinvysiad Iesu mawr; Dydd y cododd wedi gorphen lawn i brynu 11 well y llawr Dydd i gotio byth am dano, Dydd y cododd lesu'n fyw, Wedi iddo orphen trefnu I gymodi dyn a Duw. Duw a roddodd chwech o ddyddiau I ni weithio yn y byd Ond fe gadwodd hwn ei hunan, Ef a'i piau yn ei hyd Ac os gwnawn ni barchu'r Sabboth, Bendith Duw fydd ar ein pen Bendith hefyd sydd yn aros I ni yn y nefoedd wen. Rhaid i bawb Sabboth Cyn cte.1 u-iaetli i'w enaill tiawd Rhaid ein bod yn yrnhyfrydu Cyn cael Iesu ini'n frawd Dyma yw sancteiddio'r S ibboth, Carn Duw a charlÙ waith, A chynyddu ar ei ddelw Hyd nes cjaaedd pen y daith. JOHN B. WILLIAMS.
FY NHAD WIITH Y LLYW.
FY NHAD WIITH Y LLYW. Draw, draw ar y cefiifor ar nnson ddu oer, 'R oedd cweh•bach ya hwylio heb seren na lloer A rhuad y t jnau, a'r gwyntoedd a'r gwlaw, A lanwai fynwesau y morwyr o fraw. Ond bachgen y cadben yn llawen a lion, A dd'wedai dan wenu, heb ddychryn i'w fron, Er gwaethaf y tonau awn adref yu fyw Pa raid ini ofni ?—mae Nhad wrth y Llyw A blentyn y nofosdd, paham mae dy fron Mor of nus wrth wded gwyllt yu/jhwydl y don ? Mae'r dvfnder du tywyli yn rlmo, gwir yw Ond diotfel yw th fywyd-m"e'th Dad wrth y Llyw. Daw'n fuai orfoledd di ldivvedd i'tli ran Draw'n disgwvl mae'tll gerasnt oddeutu y Ian; Y disglaer lys acw, dy ho'f gartref yw Mae Canaan ya ymyi, a't-h Dad wrth y Llyw. Cwyd bellach dy hwyliau, mae'r awel o'th du, 'Rwyt bron myn'd i fynwts dy fwyn Brynwr cu; Mae'th an?or yn ddiogel, a'th Gadben yn fyw, Mae'th gwch yn y porthladd, a'th Dad wrth y Llyw. S. R.
Y DELYN AR WYL NADOLIG.
Y DELYN AR WYL NADOLIG. Ton—' Tori ad y Dydd.' 0 henffych delyii Gwalia, Mor ber yw svvn dy dant, Offeryn cerdd ein tadaa en Fu i'w iloni ar fBrddi gant; Cynhalient eu gor-eddau Yn sain dy danau di, Hen lraach beirdd a doethion chweg, Gomeriaid uchel fri: Yn nyddiau blin galedi Fu'n llethu ar Gymru gynt, Dy riniau lion enyneut iron Y dewrion ar eu hym Fel hyn cynhaliwyd brainiau Ein tadau drwy ein tir, Yn erbyn blin elynol haid. Gan gawraidd blaid y gwir. t, I Rhwng muiiau heirdd hen Gymru Cydunwn ninau'n awr, Er cael Nadolig hardd ei ddrych Fel Cymry gwych eu gwawr; A c ialon ddiocheliad, Em bwriad tra f om byw, Fo caru'n fM hen iaith ein gwlad Roed ini'n rliad gan Dduw A chynal ein harferion Yn ffyddlon gyda zel, Fel hlparhat1 ein cenedl folm I Tr wy Ir oesay p diiau 4d4; Gan garu'r gwir hyd angau, Hen arwyddair ein sedd, Heb ofni gVvyn cynddaredd dyn, Nac awchlym fin ei gledd. Dyngarwch dan ei gorou Yw rhodd y fron ddifrad, Ac awen bur yn berwi Ei dawn er gloewi gwlad 0 boed i'r Cymry hoewedd I fyw mewn hedd o hyd, Trwy fachedd lan er cynal can Hoff anian yn ei phryd Fel dewrion gwnawn ymdyru Er gwrthwynebu'r gan, Gan weithio hedd ein gorsodd gu A'i rhinwedd i barhau Ein barddas addas heiddiol Fo'n rheol ar ein i han, Er cynal bri yr awen ber A'i mwynder ymhob man. NATHAN DDU 0 LYWEL.
FY EWYTHR SION
FY EWYTHR SION Cymeriad rhyfeddol oedd f'ewythr Sion, Ac am ei hynodrwydd ceid llawer yn son, Pan fyddai'r gwlawogydd Yn d'od yn gawodydd Nes cuddio pob dyffryn a d61 Eisteddai'n hamddenol, A d'wedai yn siriol- I gwyno nid ydwyf mor ffol, Mae hindda yn dyfod ar ol.' Pan fyddai'r ffurfafen a'i gwyneb fel pres, A phobpeth yn crino gan fawredd y gwres, Ni fyddai yn gwgu Ond d'wedai gan wenu— 1 Maen hyfryd cael tywydd mor wych Mi roddwn laweroedd Am groesi y moroedd I wlad lie mae beunydd yn sych.' Yn nhymor y gauaf, pan fyddai pob dyn Yn cwyno am oerni eithafol yr hin, Dywedai pryd hyny Yn llawen dan ganu— Grwell genyf y gauaf na'r ha'; Gwyn fyd na bai'm tynged Ryw ddydd i gael myned I'r Gogledd, i ardal yr Aeth Sion ryw ddiwruod i farclmad y lihos, Gaa feddwl dycilwelyd yn iach «yd t'r uos; Ond Och yr hen aymrawd Gyfarfu ag n-ff awd-- Fe gwympodd, a tiiorodd ei yoes A d'wedai heb ddagrau- Oaf gymorth ifyn baglau I dreulio y gweddill o'm hoes.' Ac wedi cael emioes ryfeddol ei hyd, Daeth amser i f'ewythr adael y byd Ei war oedd grymedig, A'i gorff yn grynedig, Ond d'wedai yn ymyl y bedd- R wyf wedi dymuno Yn hir am gael teimlo Beth ydyw cael marw mewn hedd.' DEWI HYDREF.
BETH WNA FONEDDWR?
BETH WNA FONEDDWR? il [Efelychiad]. Beth wna boneddwr hardd ei lun ? Ai etifeddiaeth ? Iliuieli ? Na, rhaid cael rhywbeth yn fwy can, Allawnder can' mil purach Er gwneyd y bywyd yn wir hardd, Rhaid iddo wrth wir fawredd Ac ynddo ffy-non lawn a dardd, A'i ffrwd fydd gwir anrhydedd. Beth wna foneddwr hardd ei wedd ? Par feddwl, a dewr galon, A gallu i uao'i him inewa hedd A'r dwyfol yn bur gyson A phenderfyniad cadarn, cryf, I deittlio i'r uchelder, Mewn siomedigaeth deimlo'n hyf, A chanu mewn gorthrymder. Beth wna foneddwr trylwyr, gwir ? Ai'r cledd ? neu raw ac aradr ? Mae i wir lafur harddwch pur Drwy'r ddaear gron, benbiladr Y bonedd wr wna'i oreu glas I wella'r byd o'i gwmpas Fe swyd y tlawd, bendithia'r câs, Gan feddu dwyfol bwrpas. Yn mhybyr boethder y gwaith tin, Nen wrth lywyddu'r peiriant, Neu ar y flferm ar ael y bryn, Medd llafur ei o^oniaat Yn nghwmni'r wenol pan yn gwau, Neii yda'rpin 'sgriienu 9 1 Ar lawr y fro, neu ar y bau, Y palas ydyw'r gweithdy. Yn nghanol llwch y gweituiau glo, Y felin haiarn fyglyd, Canfyddwn un o do i do Yn hoff foneddwr diwyd Fe weithia'r nos, fe weifchia'r dydd, A masuach sydd yn fywiog Nid oes cywilydd ar ei radd, Mae yn foneddwr rbywiog. Beth wna foneddwr teg ei wedd ? G-wirionedd yn ei fywyd, Tvnerweh. llonder, llawn o hedd, Esiampl bur a hyfryd Nod uchel, pwrpas teilwng iawn, A llawn o gydymdeimlad Ha dyma wna'r booeddwr llawn, A gwerili ein hefelychiad. EDXYFED.
MYN'D AM BATAGONIA.
MYN'D AM BATAGONIA. ALAW-' Off to Philadelphia.' Myfi wyf Gymro rbadJon, John Jones o Sir Gaern arfon, Ac mae'r genethod oil i mi'n gariadau Ond ar doriad gwawr y dydd Hwy a wylant oil yn brudd, 'Rwyf yn myn'd am Batagonia yn y borau. Cydgan— Gyda'm pecyn ar iy 'sgwvddau, 'Rwyf yn wrol fy nheimladau. Pan yn penderfynn gadael Gwlad y Bryniau, Mi gymerais yn fy nghalon Groesi dros y maroedd mawricn, A myn'd am Batagonia yn y borau. Fy anwyl gariad Jenny Rhyw ddydd ddawn'n eiddo imi, Hon fydd y cysnr penaf yn fy nghartrau Ond, mae'm calon bron a thori— Sut bydd hi yn wraig bach imi, Os yr at am Batagonia yn y borau. Cydgan—Gyda'm pecyn, &c. 'Rwy'n treio bod yn llawen iawn, Rhag dangos biraeth calon lawn, Os rhaid i mi yw gadael gwlad fy nhadau Ond mae'r dagrau yn fy nallu « Am fy ffrindiuu sydd yn Nghymru, Minau'n myn'd am Batagonia yn y borau. Cydgan- Gyda'm pecyn ar fy 'pi:wyddau, 'Rwyf yn wroi fy nheimladau. Er fy mod i fory'n gadael Gwlad y Brynian Ond rhyw ddydd fe ddaw i'm calou, Groesi dros y moroedd mawrion— D'od yn ol i Gymru anwyl yn y borau. B. MENAI FRANCIS. Ydyw,' meddai Arglwydd Palmerston, wrtb B. MENAI FRANCIS.
[No title]
Ydyw,' meddai Arglwydd Palmerston, wrtb y gariadus D luces o Siither'and, y map, eicb prydferthwch yn lladd amser 'Ac y amser ya lladd gfydferthwch yu y diwedtf, oSieaei4iti y