Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

NODION O'R HENDY GWYN AR DAP.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION O'R HENDY GWYN AR DAP. GWASANAETH YR ADFENT. Nos Fawrth, yr 8fed cyfisol, cynhaliasom ein gwasanaeth wythnosol yn Nghwmfelinboeth (Llangan). LLANFIHANUTEL-ABERCOWIX. Dydd Mercher, pan yr oedd fy nghymydogior yn wvr lien a lleyg yn dilyn cynffonau'r cwn bach,'ac yn mwynhau miwsig yn I Tal-i-ho,' gadawsom ein preswylfod lonydd, a'r iep, iep ar ol, a gwnaethom am yr Hendy Gwyn. Ar y ffordd, cyfarfuasom a Llwyd a'i ferlen, oud nid oedd yn y fintai. Yr oedd oddicartref, meddai ef, ar neges arall y diwrnod hwnw. Cyraeddasom y Green Meadow, a chawsom ymgom a'r teulu o barthed i betbau Eglwysig, ac yna ffwrdd a ni tna'r eglwys. Yr oedd y noson yn wlyb ac ystormus, ond daethai'r ffyddloniaid ynghyd yn hynod o gryno—amryw o honynt o gryn bellder hefyd. Oherwydd fod amgylchiadau yn lluddias, ond odid, yr oedd yno un yn eisiau ag yr ydym yn arfer weled yno bob tro. Ai byw ydyw? Gobeithiwn ei fod hyd y tro nesaf. Cawsom gwmni cyfaill cywir arall o'r un enw a ninau ein tri, ac ymddiddan dy- cldorol ar ol y cyfarfod yn y dref y noson hono pan y cadeiriai efe. Beth ydyw hynt y ddau gertiwr ieuainc vna ? Yn foreu dranoeth (er trafferth anamserol i'r teulu hoff), rhaid oedd dal y tren a chychwyn tua dinas CAERDYDD i ddatgan ein cydymdeimlad a'n ffryndiau yn y Malvern House, 165, Richmond-road, y rhai oed dent mewn galar dwys ar ol eu hanwyl bleutyn, Edith Sarah, yr hon a ymadawsai a'r byd tvallodus hwn ddydd Llun, y 7fed. Y dartodedigaeth dynodd ymaith hoel ar ol hoel o'i phabell frau hi, ac a brofodd yn angeuol i'r un fechan dlos gyda'i bod wedi cyraedd ei 18 mlwydd oed. Da oedd genym ddeall ei bod yn wir grefyddol, ac yn aelod ffyddlon o'r Eglwys Gyinreig, ynghyd d'r Ysgol Sul, a'r c6r canu psrthynol iddi yn y dref uchod. Dydd GweEer canlynol, daeth y Parchn. A. E. H. Hyslop a T. C. Phillips, offeiriaid gweithgar a gwir lwydd- ianus yr Eglwys Gymreig; y wardeniaid: y Dr. Pritchard, meddyg da y teulu Mrs. Hughes Mr. a Mrs. Davies, ac eraill, ynghyd i dalu'r gyoiwynas olaf i weddillion marwol un ag oedd mor iioff gan bawb a'i hadwaenai. Gweiuydd- wyd yn y ty gan yr olaf, ac yu y cemetery gan y blaenaf o'r brodyr a enwyd uchod, ac yr oedd- eut eu deuoedd yn wir deimladwy. Yn mysg y galarwyr, gwelid y Mri. W. a D. Jones, o Ammanford, Mrs. Jones, &c. Yr oedd yr arch yn dwyn amryw o wreaths tlysion, un o ba rai a roddesid gan g6r yr Eglwys. Eiddunwn ddy- ddanwch melus yr Efengyl i'r teulu yn eu hadfyd blin, a grym i ni i gydweithio tra y parliao ein diwrnod gwaith yn ein Heglwys Lan Fendigaid, ac yn y winllan fawr, fel y caffom oU, gyda'r ymadawedig, gyfodi i'r bywyd an- farwol drwyddo Ef,' ac y caffom yn undeb ein cyfeillion ymadawedig ymgyfarfod eto yn .Y mhresenoldeb y Gwaredwr bendigedig. Cwrdd oddeutu'r bwrdd, A chwrdd heb 'madael mwy.' Wedi canu yn iach in cyfeillion oil, cymerasom y gerbydres a chludwyd ni yn ol tua'r Hendy Gwyn, ac ar gais y Parch. J. E. Jones, aethom oddiyno i Landdewi-Felfre i wasanaeth yr Adfent. Cafwyd cynulliad bodd- haol o bobl ieuainc gan mwyaf. Cafwyd gwas- anaeth dwyieithawg gwresog. Deallwn fod ein brawd diwydyn cynhal gwasanaethau wythnosol y mown dau blwyf arall hefyd yn ystod y tymhor hwn. MARWOLAETH Y PARCH. B. WILLIAMS (GWYNIONYDD). Er y gwyddom fod ein brawd a'n cyfaiil yn wael ei iechyd er's tro, bellach, eto nid oeddym yn barod, o ran ein teimladau, i dderbyn y newvdd am ei ymadawiad. Perchid ef yn fawr yn nghymydogaethau yr Hendy Gwyn ar Daf, ymha le (Llangan) y bu yn trigianu am dair blynedd unwaith. Fel bardd, lienor, a Christion, yr oedd iddo yma air da gan bawb, a galerir ar ei ol gan ei hen gyfeillion gynt. Gan fod ei hanes, cyn a chwedi ei ymdaith yn y gymydogaeth hon, yn fwy hysbysli eraill nag i ni eia hunain, disgwyliwn am gofiant oyflawn ildo gan arall. Teimlwn yn dra sicr ei fod yn addfed i'r Nefoedd. Nawdd yr Arglwydd tirion fyddo ar ei blant a'i berthynasau oil, a heddwch fyddo i lwch ein hanwyl frawd ym. adawedig hyd y bore yr egyr beddau.

Family Notices

[No title]

[No title]

RHESTR 0 DDOSBARTHWYR "Y LLAN…

AT EIN GOH'EBWYR. I

Advertising