Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
6 erthygl ar y dudalen hon
NODION 0 NEFYN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 NEFYN. Y FWYDDVN 1896.-Dyma gareg filltir arall ar ein taith drwy y byd wedi ei phasic. Diolch, medd rhai, fod y flwyddyn '95 wedi dyfod i ben. Yr oedd yn flwyddyn o drallod a phrofedigaethau i lawer o honom, ond trwy drugaredd Duw yr ydym eto ar y ddaear, er fod llawer o ddarilenwyr a chynorthwywyr y LLAN yn awr wedi croesi yr afon ddofn. Ond, ymaith y thristwch, diolch fod pethau fel ag y maent. Blwyddyn newydd llawen a llwyddianus i holl dderbynwyr y LLAN Er nad wyf yn adnabod llawer o honynt, y mae yma rhyw atdyniad yn ugolofnau ein papyr ni sydd yn ein dwyn yn nes at ein gilydd fel cyfeillion ac ainddiflynwyr ein hetifedd- iaeth sanctaidd Eglwys Crist. Felly, blwyddyn ddedwydcl iddynt! Yn awr awn rhagom i draethu hanes yr amgylchiadau sydd wedi bod yn digwydd yn y rhan- barthau hyn yn ddiweddaf. GWYL Y NADOLIG.-Er fod yr wyl hon wedi myned heibio er's bymthegnos bellach, yr wyf yn teimlo yn ddyledus arnaf i osod ar lawr enwau y cyfeillion hyny a gymerasant ran yn y gwaith o addurno y ddwy eglwys. Er mae ychydig iawn o ilodau, &c., oedd ar gael yn y wlad, yroedd ty Dduw yn ei ddillad goreu i groesawu Arglwydd yr arglwyddi. Dyma'r addurn- wyr :—Mra Jones, Ficerdy Mrs Wales, Mrs Wilson, Miss Jane Thomas, Miss Gwen Roberta, Captain Lloyd, Mri. J. William, W. Taylor, G. Hughes, ac ereill. Yr oedd yn dywydd mawr ar hyd y dydd, felly nid oedd y cynulliadau mor dda ag y buaswn yn disgwyl. Mae'n llawn bryd i ni droi yu ol at yr hen ddull o gadw'r wyl iel dydd cysegredig i'r Arglwydd ac nid ei dreulio mewn pleserau bydol. Mae amser i bob petb, ac yr wyf yn sicr mae Did dydd ar ba un i gynal 'concerts ydyw uchel-wyl yr Ymgnawdoliad. CYMDEITHAS LENYDDOL A DAELEUOL YR EGLWYS.—Nos Lun, Rhagfyr 30ain, caw- Som ddadl ar bwnc dirwestol—' Pa un ai llwyrymwrthodiad ai cymedroldeb ydyw y goreu.' Agorwyd o blaid y llwyrymwrthod- wyr gan Mr Cledwyn Jones, a gwrthwyneb- wyd ef gan Mr John Cooke. Siaradwyd yn tnhellach gan y cadeirydd, yr ysgrifei i- ydd a'r trysorydd, Mri. H. Griffith, W. Jones, Richard Roberts, Evan Hughes, J. Griffith, C. Hughes ac Heddgeidwad Jone. Cafwyd mwyafrif o 4 o blaid y llwyrym- wrthodwyr. CYFARFOD LLENYDDOL.—Ar y noson gyntrf yn y flwyddyn newydd cawsom eisteddfod mewn cysylltiad a'r Eglwys, yn Ysgoldy Penbrynholborn. Addurnwyd yr adeilad yn ddestlus gan rai o foneddigesau y He yn cael eu cynorthwyo gan foneddig- xon. Erbyn chwech o'r gloch yr oedd yr hen ysgoldy yn llawn. Cymerwyd y gadair gan y Ficer beirniaid yr adroddiadau &c., oeddynt Mri Jenkins, Edera, a G. Hughes y pencil drawings,' Mr Williams, ^ydweiliog; gwniadwaith, Mrs Jone. •Ficerdy. Y cyfeilydd ydoedd y Parch. J. James-Jones; Mri. H. Griffith a T. Roberts yn cadw'r drws tra yr oedd Mri. Hughes, Wm. Jones, Richard Roberts a Griffith yn ein cadw mewn trefn. Ac yn awr at .y 'programme' :—Ton gynull- eidfaol, 'Sandon' adrodd y Credo (i rai ~an 7), 5 o ymgeiswyr, goreu, Ellen Jane tooke 4 pencil drawing o Eglwys Nefyn, i law, goreu, John Cooke, gwobr ychwanegol i Cledwyn Jones; deuawd, Myfi ay'n magu'r baban,' Eliza Squire ac Ellen Parry adrodd y 23ain Salm, 6 o ymgeiswyr, 1, Thomas Williams adrodd- 4 Santa Olaus,' Griffith Owen; can, Home, dearie, Home,' Miss Lizzie Owen, Llanyblodwel; pencil drawing o geffyl, 10, 1, Tom Cooke; 2, Evan Williams adroddiad, The nest,' Archie Jones; j^erchiad gan y cadeirydd; can, Mr E. Williams carol Seisnig, Parti o'r Morfa adroddiad, Gwraig y Meddwyn,' J. Hugh ones; araeth ddifyfyr (dan 16), J. Hugh °nes canu, y don 'Sandon,' 1, Eiiza squire can, The song that reached my 4 Miss Lizzie Owen adroddiad, chan yMeddwyn,' J. Griffith can, Will you meet me at the fountain,' Jane a?A^ne Parry adroddiad. 'Gael menthyg Tom Cooke canu, y don 'Deerhurst,' D. parti yn cystadlu, teilwng o'r wobr; ^roddiad, Jane ac Anne Parry can, Mr wales can, Mr E. Williams araeth ddi- Griffith; darllen darn heb ei alnodi, Jenny Lloyd par o muffatees, rnI881e Lloyd; 'pencil drawing' o gath, °w Cooke; llawysgrifen, Tom Cooke; ar°l gan y parti o'r Morfa Duw gadwo'r Vr61}, 0afwyd tua 28s wrth y drws, vK -ar *a^u ara y treuliadau, a fv vanegir at y gronfa tuag at roddi trip' xsgol Sul yn yr haf. Drwg genyf, Mr m°d wedi cymeryd cymaint o'ch p '_on(i pe buaswn yn gadael allan yn loddol enw un o'r rhai a gymerasant nfn n^U y °yfarfod mi fuasai yma row a a«wy tua'r Wynt. Os bu i mi yn i ac^ae^ allan enw un oedd yu cy- Lli! jvr^an' Gyda hyn terfynaf. yddiant i'n golygydd newydd, ac i'r N 0 ^an arweiniad ef.— XJn o'r Wynt.
GAIR 0 WAEN GYNFI.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GAIR 0 WAEN GYNFI. Nos Wener, y 3ydd cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod adloniadol perthynol i Eglwys Llandinorwig, o dan lywyddiaeth y Ficer. Cafwyd cynulliad rhagorol, a chyfarfod da dros ben. Da oedd genyf weled fod cyf- newidiad, a hyny er gwell, wedi cymeryd lie yn nglyn a nifer y cystadleuwyr y tro hwn, yn neiilduol felly y plant. Golygfa hynod o hapus oedd gweled cynifer a 13 o blant dan 7 oed, rhai o honynt ond ychydig dros ddwyfiwydd oed, yn cystadlu ar yr Ail Gatecism. Er rnor dda hyn, eto nid yn rhy dda na ellir gwella yn y cafeiriad hwn. Gobeithio y gwelir rhagor o'r rhieni yn cymeryd dyddordeb yn y cyfarfodydd da hyn, gan barotoi eu plant ar eu cyfer. Nid oes dim a dal yn well iddynt hwy a u plant. Mae un dosbarth ag y dymunwn alw sylw ato, ag sydd yn hynod o ddifater yn nglyn a'r cyfarfodydd hyn, sef y dosbarth rhwng deg a phymtheg oed. Da iawn pe gallesid gwneyd rhywbeth i symbylu rhagor o honynt i dd'od yn mlaen i gystadlu ar y gwahanol destynau. Piti fod dosbarth o'r oed yna, ac y maent yn lluosog, mor ddi- gychwyn. Beth pe b'ai eu hathrawon yn yr Ysgolion SuI yn siarad a hwynt gan eu hanog yn y cyfeiriad hwn. Yn y cyfarfod dan sylw aethpwyd trwy y rhaglen ganlynol :—I ddechreu, cafwyd emvii agor- iadol. Cystadleuaeth yr Ail Gateeism, i rai dan saith mlwydd oed. Daeth 13 i gystadlu, ac aeth yr oil trwy eu gwaith yn 1 0 ardderchog. Dyfarnwyd yr oil yn gydradd, ac yn wir, nis gallesid gwneyd dim ag oedd yn well. Dyma eu henwau Mose Wil- liams, Griffith Hughes, Griffith Williams, Dollie Salt, John R. Evans, Richard Price, David Pritchard, Edith Salt, Maggie Evans, Annie Griffiths, Willie Hughes, Samuel Price, a Maggie Evans. Adroddiad, Cromwell,' gan Thomas Griffiths. Ail Gateeism, i rai dan ddeg oed, goreu, Jane E. Williams, a Nell Pritchard, yn gyfartal, a Nell Evans a Owen Evans, yn gyfartal ail oreu. Darllen un o'r erthyglau a roddwyd ar y pryd, goreu, Robert R, Griffith solo, rhif 9, o Gantata 'Joseph,' i rai dan 15 oed,goreu, Maggie Williams ail, Annie Thomas. Deg Gorchymyn, dan 13 oed, goreu, Annie Evans darllen alaw syml yn y sol-ffa ar yr olwg gyntaf, goreu, Robert Lewis Catecism yr Eglwys hyd ddiwedd y Gorchymynion, goreu, Annie Evans; araeth, Y manteision a'r anfanteision o gael ffordd haiarn ysgafn i ardal Llandin- orwig,' goreu, William R. Jones uiiawd a chydgan, cymerwyd yr unawd gan Mr Joseph Salt, a'r gydgan gan barti n Eglwys Llandinorwig, o dan arweiniad Mr Hugh Williams, Gallt-y-foel. Beirniadaeth y traethawd, Darbodaeth,' goreu, Mrs Evans, High-street, Ebenezer. Y beirniaid oeddynt y Parch H. Williams, Mri Thomas D. Thomas, a Hugh M. Will iamr,. Fivig.
LLANBADARN FAWR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANBADARN FAWR. Dydd Gwener, y 3ydd o'r mis hwn, yn eglwys henafol y plwy-f uchod, unwyd mewn glan briodas Mr T. Edwards Thomas, Talsarnau, Sir Feirionydd, a Miss Miriam Headley, Nantyronen, o'r plwyf hwn. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. — Gabe, B.A., Llaubadarn Fawr. Rhodd- wyd y briodasferch ymaith gan Mr J. Humphreys, Coleg Dewi Sant. Y morwyn- ion priodasol oeddynt Miss M. J. Mason, Aberystwyth, a Miss Lizzie Thomas (chwaer y priodfab). Yr oedd y briodasferch wedi ymdrwsio yn hardd mew gwisg o electric blue.' Ar ol y dclefod yn yr eglwys aeth- pwyd mewn cerbyd i orsaf Aoerystwytb, ac oddiyno gyda'r gerbydres i'r Borth, lie yr oedd boreufwyd ardderchog wedi ei barotoi gan Mrs Richards. Ar ol mwynhau am ychydig oriau, ymadawodd y par ieuanc i'r Gogledd, lie y byddant ya aros i clreulie eu mis mel. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog ac yn werihfawr. Dymuniad pawb ydyw hir oes idd3 nt ill dau, a benditb y I uefoedd fo arnynt.
OASLLWCHWR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
OASLLWCHWR. CYNGERDD MAWREDDOG. Nos Wener diweddaf, cynhaliwyd y cyngerdd goreu a mwyaf ardderchog a yynhaliwyd erioed yn yr Ysgoldy Cenedlaethol yn y Drcf Uchaf yn Nghasilwchwr. Yn mhell cyn yr amser penodedig i ddechreu, yr oedd canoedd lawer wedi dyfod yn nghyd, ac erbyn 7.30 yr oedd yr ysgoldy, er ei bod yn fawr, yn orlawn. Y cadeirydd qodd y Milwriad Wright, Gowerton, ac fel arferol, gwnaeth ei waith yn ddeheuig a chanmoladwy. Yr oedd y rhaglen fel y canlyn Unawd ar y berdoneg, Miss Myfanwy Thomas; can, Gwlad y Bryniau,' Miss M. E. Davies; deuawd, 'Love and \Var,' Mri D. Williams a R. W. Henry cart, Miss James unawd ar y crwth, Mr H Francis can, Y Fam a'i Baban,' Miss Katie Da vies can, 'I fear no foe,' Mr R. W. Henry; can, Angus Macdonald,' Miss Claudia Williams unawd ar y piccolo, Mr Pughsley can, Mr Howell Harris; can, 'Poor wand'ring one,' Mrs S. J. Thomas deuawd ar ycornet, 'Albion on thy fertile plains,' Mri B. Dennis a D. Thomas can, Miss Claudia Williams can, The Desert,' Mr R. W. Henry deuawd, 'The Singing Lesson,' Miss K. Davies a Mr D. Williams penillion, Mr Howell Harris can, Miss James can, Best of all,' Mr D. Williams; can, 'Ora Pro Nobis,' Miss M. E. Davies; can, 'The Forge and the Bell,' Miss Katie Davies chn, I Gwlad y Delyn,' Mrs S. J. Thomas; stump oration, Politics Extraordinary,' Mr Henry. Teg ydyw dweyd iddynt un ac oil wneyd eu rhan yn ganmoladwy dros ben. Yr oedd yr encores parhaus yn hrawf fod y canu a'r cyfan oil yn ihoddi boddloorwydd mawri bawb. Y maa clod mawr yn ddy- ledus i Mr F. O. Harries am ei ymdrech difiino i wneyd y cyngerdd yn llwyddiaut yn mhob ystyr, ond braidd y credwn fod mwy o glod-yn ddyledus i Mrs F. O. Harries a Mrs Hughes (prif athrawesau yn yr Ysgol Genedlaethol) am eu hymdrech mawr i werthu tocynau. Gwerthodd y flaenaf dros werth 15p, a'r olaf dros werth 5p, felly fe wel darllenwyr y LLAN fod ein cyngerdd yn llwyddiant mawr yn mhob ystyr. Yr oedd yr elw yn myned tuag at ddileu y ddyled e 400p ag sydd ar yr ysgol ddyddiol. Yr oedd adeiladau yr ysgol wedi myned yn waal iawn mewn gwirion- edd, yn warth i'r Eglwys a'r plwyf, ac ar ol ymweliadau arolygwyr y Bwrdd Addysg, rhoddwyd gorchymyn pendant i Reithor y plwyf i adgyweirio ac he!aethu yr adeilad, neu roddi fyny yr ysgol i'r Bwrdd. Gan y buasai hyny yn golled fawr i'r Eglwys, penderfynodd ein Rheithor i wneyd yr oil ag oedd yn angenrheidiol er achlib yr ysgol, ac y mae clod mawr yn ddyledus iddo ef a managers yr ysgol am yr hyn sydd wedi ei wneyd, canys y mae yr adeilad yu addurn i'r lie a'r Eglwys erbyn hyn. Y mae y mixed school tua chymaint arall o fdnc yn bresenol. Dywedaf o galon—Llwyddiant mawr i hen Ysgol Genedlaethol Casllwchwr, yr hon oedd mor anwyl a gwerthfawr yn ngolwg y diweddar Ganon Powell Jones, Llantrisant, yr hwn a wnaeth gymaint o ddaioiii i'r ysgol hon tra y bu yn Rheithor yma. Gobeithio y gwna 'Old Loughor Boys,' a gawsant eu haddysg foreuol yn yr ysgol hon, anfon cheques o 5p a lOp i Reithor y plwyf yn y cyfwng presenol. Gwelsom yn y cyngerdd y Parch R. Jackett, Gowerton y Parch W. Headley a Mrs Headley, Gorseinon Mr Rhufus Lewis, Monk's Mill; Miss Williams, Lower Loughor Mr John Northcombe, Pentwyn Mi John, warden Eglwysig, Tyrnewydd Mr James, Cefngoleu Park Mr Roberts, Gowerton Mr Thomas Arnold a Mrs Bowen, Penybaily Mr Daniel Morris a Mrs iiowells, Cross Keys Mr F. 0. Harries a Mrs Harries, Broad Elms Mrs Hughes, Upper Loughor; Misses Jackson, Loughor, ac amryw o foneddigion a bonedd- igesau ereill. IEOHYD MRS. JONES, RHEITHORDY.—Da genym allu dweyd iod Mrs Jones ychydig yn well yn bresenol. Rhwng afiechyd Mrs Jones, sefyllfa pethau yny plwyf, y Rheith- ordy, a'r Ysgol Genedlaethol, y mae ein Rheithor wedi gweled amser caled iawn er ei ddyfodiad i'r lie, ond y mae y cymylau duon yn diflanu, a'r anhs.wsderan ynlleihall bob dydd, a'r anialwch yn dyfod yn gyflym yn ddoldir. Y mae gwir angen cloch arnom i'r ysgol ddyddiol. Oa oes gan un o ddarllenwyr y LLAN un yn segur, byddent yn gwneyd caredigrwydd mawr wrth ei hanfon i arol- ygwyr yr ysgol ddyddiol.
--LLANAETHAIARN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANAETHAIARN. NADOLIG.—Cydaliwyd gwasanaethau yn y bore ar hwyr, ar yr wyl uchod yn Eglwys yn plwyf. Ac yn ystod Tymor Sanctaidd yr Adt'ent, ymdrechwyd yn ddyfal baratai y bobl i gadw yr Wyl fel mae yr Eglwys wedi bwriadu. Mae yn dda yenyf hysbysu na fu y gwaith yn ofer, canys cafwyd gwasan- aethau by wiog a chynes, a chanwyd llawer o garolau ga.n y cor hefyd gan Mr Hugh Evans ai deulu, a chan Mr G Williams, ac yr oedd cynulleidfaodd da yn mhob un o'r gwasanaethau. Yr oedd y cor yn bresenol i gyd, dim un wedi myned i grwydro fel y mae nrffr rhai, ac y maent yn haeddu can- rnoliaeth am eu tryduloiidul). Cafodd yr Eglwys ei gwisgo yn hardd dros be l a blodau a bythwyrddion gan Misses Hughes, y Rectory. Parhawyd i ganu carolau, catiys fe giinwyd llawer Nos SUL ar ol y Nadolig, ac hefyd ar Ddydd Enwaediad Crist, ac ar yr ail Sul gwedi'r Nadolig, ao hefyd ar Dydd yr Ystwyll. Nid yn unig fe drenliwyd y tymor mewn moli, ond fe gafodd y gwran- dawyr bregethau adeiliadol ar bwnc ydydd, a'r aelodau ymborth l'w heneidiau yn y Cymun Bendigaid, pa rai a ddaethant yu nalaen yn gryuo at ailor Duw, ac felly cawsont y fraint i gadw coffadwriaeth o eredigaeth a rnarwolaeth eu Ceidwad ar yr un dydd. TP,Fvor,. --Cyi,il; wyd gwasanaethau yn yr Eglwys hon fel arterol, ond nis gallaf ddy vvedyd fod pob peth wedi myned heibio mor foddhaol yma ac yn Eglwys y plwyf, er yr holl bregethu a cynghori a fu yn ystod yr Adfent. Mae yn raid cyfaddef na darfu i'r Eglwyswyr ibd yn ffyddlon, ac ni chadwasant yr Wyl yn briodol. Yroeddem yn disgwyl gweled mwy yn y Cymun wyth o'r gloch, a mwy yn yr h> 11 wnsanaethau o ran hyny Ond y mae rhyw hen arferiad wrthun yny lie i bawb fyned i flwrdd oddi yrna ar Ddydd Nadolig. Er y cyfan fe gawfiom wasanaethau da, ond nid fel y gallasem gael. Fe fu Mr Jones, yr ysgol- feistr mor garedig a chwareu yr harmonium yr hyn nid ydyw yn arfer gwneyd ond bob Dydd Nadolig. Gobeithio ceir diwygiadyn y peth yma, yn fuan; dydd o lawenydd ydyw dydd Nadolig. ond llawenyddysbrydol ydyw hwuw i fod. Fe gafodd yr Eglwys ei gwisgo yn ddestlus trwy gynorthwy Miss Tlughes, Miss A Hughes, y Rectory. Mrs Cooke a Miss Cooke ec eraill. Fe gafwyd gwell gwasanaethau y tair gwyl ag oedd yn canlyn y Nadolig nag a gafwyd er's amser, a hefyd ar dydd yr Enwaediad. Gcbeithio y cawn fwy o garolau y tro nesaf, a mwy o'r cor yn rhoddi eu presenoldeb yn yr Eglwys ar ddydd Nadolig y tro nesaf.— Alpha..
DOLGELLAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
DOLGELLAU. Mae yn dda genym weled fod Mr Francis Evans, Wnion Villa, yn un o'r tri ynad beddwch a benodwyd yn y Llys Chwarterol diweddaf. Mae Mr Evans yn un o'r rhai mwyai ffyddlon yn ein heglwys, ac y mae ei galon yn agos at bob achos da. Dymunwn iddo hir oes a ded wydd weh. DAWNS.—Cynhaliwyd y drydedd ddgiwns mewn cysylltiad a'r Idris Habitation o Gyngrair y Friallen nos Lun diweddaf yn y Neuadd Gyhoeddus. Mae yn dda genym glywed mai hon oedd y fwyaf lwyddianus o'r tair. Yr oedd yr ystafell ddawns a'r ystafelloedd ereill wedi eu haddurno gyda main-liain, bythwyrddion, a banerau lliwiog a'r cwbl yn cael eu goleuo gah 90 o ganwyllau wedi eu gosod mewn canwyllbrenau (brackets) cyliena, yn gwneyd yr olygfa yn anmhosibl i'wdesgrifio. Yroedd yr addurn- iadau wedi cael eu gwneyd gan Mr Hum- phrey Owen, yr hwn a gynorthwywyd gan arddwyr Penmaea-Cliffe, Dolrhyd, Hen- gwrt-ucha, a Fronwuion. Yr oedd yr yst-afell eistedd-allan wedi ei haddurno yn ardderchog g-m Mr W. S. Williams, Commerce House, o dan oruchwyliaeth Mr John Griffith, arolygwr. Gallwn ddweyd yn ddi-ofn mai i weithgarwch Mrs Scott, Penmaen-ClifFe, Is-gynghores llywodraethol yr Habitation, y rhaid priodoli y llwyddiant. Hi hefyd, ynghyd a. Mr Henry Jones, Maes- ybrynar, yr ysgrifenydd parchus a charedig, a ddarfu gario allan y gwaith. Ni ddarfu iddynt hwy arbed dim poen er gwneyd pob trefniadau. Cynorthwywyd hwy yn fedrus iawn gan y pwyllgor lleol, y rhai hefyd a weithredent fei stivvardiaid-Major Scott, I Me O. Slaney Wynne, Y.H., Mr J. C. Wynne, a Mr Francis Evans, Y.H. De- chreuwyd y. ddawns am naw o'r gloch, a pharhaodd hyd haner awr wedi tri y boreu. Agorwyd ystafell y refreshments &n\ 11 o'r gloch. Yr oedd y rhai hya o dan ofal Mrs Soutliall, Penmaencliffe. Yr oedd seindorf boblogaidd Mr Brant, Amwythig, yn bre- senol. Yr oedd rhwng 250 a 300 o fonedd- igesau a boneddigion yn bresenol. EISTEDDFOD GADBIRIOL MEIRION, 1896. —Cynhaliwyd hon dydd Calan yn y Neuadd Gynoeddus, ac fel y blynyddoedd o'r blaen, yr oedd yn llwyddianus mewn ystyr gyng- haneddo], llenyddol. ac arianol. Beirniad y gerddoriaefch oedd Dr Joseph Parry, Caerdydd, aW atcynW yn oedd beirniad y farddoniaeth. Y prif gantonon oeddynt:— » Miss Maguie Davie8, R.A.M. Miss Gertrude Hughes, R.A.M. Mr Hirwen Jonns, A.R.C.M.. a Norman McLeod Jones, R.C.M. Canwyd y cydganau gan Gym- deithas Gorawl Idris o dan arweiniad Mr O. 0. Roberts, yn cael eu cynorthwyo gan seindorf offerynol o Lerpwl o dan arweiniad Mr Vasco V. Akeroyd. Cyfeiliwyd ar y berdoneg gan Mr 1\1. W. Griffith, Mus.Bac., Miss Blodwen Williams, Dolgellau, a Miss Annie May Roberts, Towyn. Yr oedd Mr Wilson Barrett, Llundain, yflaittist enwog, yn bresenol, ond nid oedd yn alluog i chwareu gan ei fod wedi niweidio ei law drwy ddamwain. Y llywyddion yn y gwa- hanol cyfarfodydd oeddynt fel y canlyn :— Boreu, am 10.30, Dr Edward Jones. Pryd- nawn, am 2, Mr C. E. J. Owen. Testyn y gadair eleni oedd Sancteicldrwydd.' Enill- wyd hi gan y Parch Rhys J. Huws, Aber- rnaw, yr hwn aeth dan y ffugenw Galahad.' Nid oedd y bardd buddugol yn bresenol oherwydd afiechyd, ond cynrvchiolwyd ef gan ddyn ieuarc o'r Abermaw o'r.enw Lewis Jones. Ar ol cael ei arwain i fyny i ben yr esgynlawr gan ddati fardd. cadeiriwyd ef yn ot tfurtiau henafol Beirdd Ynys Prvdain. Yn yr hwyr, am 7, cynhaliwyd cyngerdd o dan lywyddiaeth Mr J. Leigh Taylor, Uchel Sirydd, llywydd Cymdeithas Gorawl Idria. Canwyd Hymn of Praise o Lobesang (Mendelssohn) gan y cymdeithas uchod, yn cael eu cyfeilio gan seindorf Mr Akeroyd. Mae y cor ardderchog yma yn dwyn i gof y geiriau hyny, Mor o gan yw Cymru i gyd.' -Ap loan.