Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

YN MHLITH YR ENWADAU-i

EISTEDDFOD TALYLLYCHAU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

EISTEDDFOD TALYLLYCHAU. Dydd Calan, cynhaliwyd yr Eisteddfod hir-ddisgwyliedig hon pan y daeth tyrfa ltrosog ynghyd i gymeryd pob un ei ran yn ei gweithrediadau. A gellir dweyd iddi fod yn llwyddiant airarferc/l bron ymhob cyfeir- iad, am yr hyn y teilynga'r pwyllgor gan- moliaeth uchel. Yr oodd ygadairlywyddol i gael ei llanw gan Syr James Drummond. Barwnig, Rhydodin, ond yr oedd yn gorfod bod yn bresenol mewn cyfarfod o'r County Council, er mawr siom i bawb o honom- iddo ef yn gystal ag i ni. Cymerwyd ei le gaa foneddwr arall, sef Mr Long Price, Talley House, am haner cyntaf y cyfarfod, a'r haner olaf gan y ficer, y Parch J. H. Lloyd. Y beirniaid oeddvnt y Parch Proffeswr Williams, Coleg Dewi Sant y Parch T. Thomas, Lianymddyfri; a Mr John Thomas, Llanwrtyd, ar y gerddor- iaeth. Llanwodd y Parch T. Thomas swydd arweinydd hefyd yn ddeheuol a byw- iog dros ben, a'r cyfeilydd ydoedd Miss. Williams, Medical Hall, Llandilo. Ar ol anerchiad pwrpasol iawn gan y cadeirydd awd drwy raglen faith o gystadlu mewn adrodd, dadleu, canu, a phrydyddu. Cafwyd can yr eisteddfod gan yr hen gantwr adnabyddus, Mr' Price, o Lany- crwys, yn ddifyrus iawn. Allan o saith o gystadleuwyr Miss Jemimah Davies aeth a'r wobr am yr unawd P'le mae y saw ?' Am y ddau englyn i Fynachlog Taly- llychau, Melinddwr Davies, Llansawel, oedd y goreu. Y ddeuawd, I Drin(r, dring i fyny,' Mri Price a Parry gawsant y wobr heb gystadl- euaeth. Unawd soprano, 'Peidiwch gofyn imi ganu,' Miss Williams, Llanwrda. Unawd contralto, Miss Annie Davies, Manordeilo. Ar yr unawd tenor cafwyd cystadleuaeth frwd a rhagorol ar '0 na. byddai'n haf o 'ir, hyd,' ond awd awd a'r dorch o'r diwedd gan Mr Tomas Williams, Ammanford, a rhodd- wyd ail wobr i Mr Arthur Davies, Llandilo. Am y pedwarawd, I Blodeuyn bach wyf fi mewn gardd,' rhoddwyd y wobr i Mr Parry, Ystalyfera, a'i gyfeillion. I Mr Tom Simon a'i gor o blant yr aeth y wobr am Storm the fort of sin.' Enillodd Mr Simon Jones a'i gor merched o Dalyllychau y wobr am Hark, the lark.' Canwyd y darn yn hynod dlws, a chawsant ganmoliaeth uchel gan y beirniad. Rhoddwyd dadganiad effeithiol iawn hefyd i Dewrion feibion Gwalia gan Mr D. Evans, Troedrhiwesger, a'i barti, ac onillasant y wobr yn rhwydd. Y prif ddarn ydoedd Pa fodd y glanha llanc ei Iwybr' (Owain Alaw) ac er nad oedd cystadleuaeth darfu i g6r undebol Talyllychau dan arweiniad Mr Evan Davies, Cwmdu,, nid yn unig enill y wobr, end hefyd cawsant glod nid bychan y beirnad am swyn a dealldwriaeth eu dadganiad o hono. A phan ystyriom mai dyma y cynyg cyntaf i'r arweinydd medrus a'r cor haeddant ganmoliaeth neillduol. Fel y cynghorai'r beirniad hwynt, ya gystal a'r corau ereill, bydded iddynt gadw gyda'u gilydd hyd nes y ceir eisteddfod yn y gymydogaeth eto. Am y traethawd goreu ar 'Y Wasg Wythnosol Gymreig,' dau ymgeisydd drlaeth i'r maes, a dyfarnodd y Proffeswr Williams eiddo Meirionfab,' set Mr J. S. Parry, Is-olygydd y LLAN, yn oreu. Y goreuon ereill oeddynt, can i'r pciriant pwyso, Mr W. Williams, Brongaer. Dadl, Pa un gwell y bywyd priodasol ai y bywyd unigol,' Mri R. Perkin ac Edward Thomas -da,cll odidog, yn cario'i" cwrdd o'i blaen. Da 'mechgyn i. Am yr adroddiad goreu ar 'Ddinystr Jerusalem,' Mr T. Thomas, Yelindre Mill. Adroddiad, Nid aur ywpob peth melyn,' Master T. Thomas, Ffosddu. Am y 'prize bag,' goreu, Miss M. J. Davies, Manordeilo. Ar ol diolchgarwch i'r cadeiryddion, beirniaid, arweinydd, a'r cyfeilydd dygwyd y cyfarfod i derfyniad prydlon a gweddus drwy ddadganiad o Daw gadwo'r Fren- hine3 yn Saesneg (pa bryd y cawn ni hi yn Gymraeg, gantorion hoff 1) gan Mr Tom Williams, Ammanfard.-Gohebydd.

Advertising

COEDPOETH.

A GREAT WELSH LUNG CURE.