Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

.-GWYDDONIAETH.

t. IECHYD AC AFlECHYli £ JJJ'.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

t. IECHYD AC AFlECHYli £ JJJ Pangreodd Dnw ddynJJ yr oedd yn berffaith. Ond panbechodd,. hauwyd yn ei gyfansoddiad hedyn mawolaeth, sef cyflog ei bechod. ydyw acbosydd holl anhwylderau y cnawd, etifeddiaeth pechod ydyw anned- wyddwch dyn. Afiechyd yr enaid ydyw pechod, ac y mae y corff yn dioddef oddiwrtho. Pan syrthiodd dyn yn Eden collodd rinwedd, ac nid oes feddyginiaeth a'i badfera yn ol, ond yr hon a brynodd y Physygwr Mawr, y Balm hwn a dyn ymaith lygredigaeth yr enaid, ac a wna ei gorff yn un anllygredig ac yna ni bydd galar, na thristwch, na phoen i'r sawl a geisiant y feddyginiaeth hon. Gall un esgeuluso meddyginiaethu ei gorff a cbael adferiad, ond y sawl ni cheisiant y feddyginiaeth i'r enaid a fyddant feirw o farwolaeth dragwyddol. Y mae enaid llygredig yn arwain i bob afiendid a chwantau coifforol, rhagredeg- wyr afiechyd y mae yr hen ddihareb Latinaidd-'Meddwl iach, corff iach,' yn dangos fod yr henafiaid yn deall niai lldwforwyn yr enaid ydyw y corff. Term cydmariaetbol ydyw iechyd. Nid oes yr un dyn nad ydyw wedi dioddef anhwyldod yn ystod rhyw ran o'i fodolaeth, etifedd afiechyd ydyw, a gall ei oddiweddu unrhyw foment. Mewn gwirionedd, nis gallwn alw un dyn yn iach, pan y mae hedyn marwolaeth yn blaguro ynddo. Darfodedigaeth corfforo1 ydyw ein genedigaeth fraint, (os goddefwch yr ymadrodd), a'r munyd y'n genir, yr ydym yn dechreu prysur ymdeithio tua'r bedd. Y mne yn anhawdd rhoddi disgrifiad neu ddeffiniad o iechyd. Os disgrifiwn fel cywirdeb adeiladwaith y corff a pherffaith gyd- gordiad a. chydwethrediad y gwahanol ranau, yr ydym yn rhoddi disgrifiad gwirioneddol ond nid defnyddiol. Y mae iechyd perffaith, fel prydferthwch per- ffaith, yn rbyw fath o gymysgedd o berffeithderau gwahanol ac amtywiol bersonau, ac os ydyw yn bodoli, i ychydig y perthyna. Nis gellir rhoddi disgrifiad cywir o hono, Yn ei ystyr gyffredin edrychir arno fel cyflwr anwadal. Gwahaniaetha mewn gwahanol ber- sonau ar wahanol adegau o'u bywyd. Defnyddir y termau da, per- ffaith, cryf, gwan, a tbyner mewn cy- sylltiad ag iechyd, a dengys hyn y gwa- hanol raddau mewn iechyd. Nis gellir rhoddi safon i iechyd, ond gallwn edrych arno, i bob pwrpas ymarferol, fel y cyfl wr- gwrthwynebol i annhrefn neu afiechyd corfforol. Ond heblaw y gwahaniaethau hyn mewn graddau o iechyd, y mae y gwa- hanol fathau o afiechyd yn amrywio yn gyfatebol i neillduolion allanol y corff, pa rsi a nodant yr afieebyd i ba un y mae yn dueddol. Adnabyddir y gwa- haniaethau hyn wrth yr enw tymheredd. Y m" pedwar math o dymheredd :—(1) Gwaedlawn (sanguine), (2) llysnafol (phlegmatic), (3) bustlaidd (bilious), a (4) gwanaidd (nervous). Nodweddir y ty- mheredd gwaedlawn gan gorff gweddol dew, cnawd caled a theneu, y gwallt yn goch neu goch gwan, llygaid glas, gwyneb coch, gwythienau mawr, curiad y gwaed yn gadarn ae ami, symudiadau sydyn, meddwl ansefydlog, a tHymer gyffrous. Y dymheredd lysnafol a nodweddir gan gorS crwndew, cinawd meddal, gwallt golqu, llygaid glas goleu, llwyd neu lwyd-ddu, cnawd gwelw, gweflau mawr, edrychiad difywyd, cylchrediad y gwaed yn wanaidd ac annuil, symud- iadaa y corff a gweithrediad y meddwl yn fttrwaidd. Bustlaidd. — Llawndra a chaledwch cnawd, edrychiad bywiog, gwallt a llygaid brown neu ddu, pryd tywyll, y gwytbienau yn amlwg, curiad y gwaed yn llawn a chadarn, ac yn weddol gyflym, grymusrwydd cymeriad, gallu goddefol mawr, a ch6f cryf. Gwauaidd.-—Ffurfiad gwan, cyhyrau meddal ac eiddil, gwedd dyner, gwallt goleu, gwyneb llwyd, weithiau yn wrid- goch, gwefusau teneu, llygaid disglaer, curiad y gwaed yn wan, ami, a sydyn, yn hawdd eu cynhyrfu, yn Hawn teiml- adrwydd, eu hysgogiadau corfforol a meddyliol yn fywiog. Y mae iechyd y personau perthynol i hwn yn ami yn wanaidd. Crybwyllir weithiau am y tymheredd isel, ond pertbyna hwn i'r tymheredd bustlaidd. Dynodir hwn trwy dawelwch a phrudd-der meddwl, yn ymlynu wrth argraffiadau, a thueddol i roi ffordd i feddyliau pruddaidd ac amheus. Anaml y cwrddir ag engreifftiau pur o'r tymherau hyn. Yn y mwyafrif o bersonau gellir cael dau neu ychwaneg o'r tymherau hyn, ond fel rheol, y mae un o'r ddau yn goruwch-lywodraethu y corff. Y mae pob un o'r tymherau hyn yn agored i wahanol anhwylderau er engraifft, y gwaedlawn i boethder, gwaedlif; y llysnafol i ddarfodedigaeth, cancr, neu diwmor, a gwaed-dyriad y bustlaidd i ddiffyg treuliad ac iselder ysbryd a'r gwanaidd i annhrefn medd- yliol neu wallgofrwydd. (l'w barliau).

HANESION DIFYRUS.

Marwolaeth a Chladdedigaeth…

Advertising