Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

METHODISTIAID CALFINAIDD MON.

TAITH I'R WLAD.

LLITH RASMWS JONES.

CAPEL GARMON.

"Y CYFAILL EGLWYSIG."

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

"Y CYFAILL EGLWYSIG." At Olygydd y Llan a'i- Dywysogaeth." SYR, Dymunaf ddiolch yn wresog i Simon Llwyd am ei sylwadau caredig, a'i gynghorion buddiol. Digon i mi yw dweyd fy mod yn cydfyned ag ef yn hollol, er y dylid cofio fod yn rhaid wrth amryw- iaeth ar dudalenau misolyn o fath y Cyfaill, yr hyn a ddarllenir gan bob dosbarth ao oedran o Eglwyswyr Cymreig Cymru. Ein hamcan bob amser yw darparu llenyddiaeth fuddiol, ddvddorol, adeiladol, ac iachus ar gyfer ein darllenwyr. Wrth geisio osgoi yr hyn sydd ysgafn a disylwedd, digon tebyg ein bod mewn perygl c fyned yn rhy bell i'r eithafion arall, a sicrhawn Simon Llwyd' ein bod yn derbyn ei sylwadau pwyllog yn yr ysbryd y rhoddir hwynt. Estyned i ni gymorth ei ysgrifell fedrus, yn gystal a'i gyngor, a byddwn yr un mor ddiolchgar. Syrthiodd ein cyfaill i un camgymeriad dibwys. Yn erthygl flaenaf y Cyfaill am y mis hwn, y mae tri dosran. iad, ac nid dau fel y dywed efe. Blwyddyn newydd dda i olygydd ac i ohebwyr y LLAN, ac yn eu plith, i' Simon Llwyd,' yw dymuniad diffuant-Yr eiddoch, &c., GOLYGYDD Y CYFAILL. Rhagfyr 28ain, 1895.