Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
8 erthygl ar y dudalen hon
NODION 0 LANFAIRISGAER.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION 0 LANFAIRISGAER. [GAN IOAN WYN]. Er pan ysgrifenais y Nodion diweddaf i'r LLAN ychydig fisoedd yn ol y mae llawer iawn o bethau wedi cymeryd lie. Yr wyf wedi bod yn hynod brysur, ac wedi bod yn edrych am fy ffryndiau yn Llanddanielfab, Ynys Mon. Bob amser y byddaf yn talu ymweliad a, Mon, Mam Cymru,' y mae rhywbeth hynod yn sicr o gymeryd lie, yn enwedig wrth fyned dros y 'Foel Don.' Un tro yr oeddym yn myned drosodd, a phan yr oeddym yn myned dyma hi yn dyfod yn storm fawr arnom—un o'r rhai rhai mwyaf sydyn a welais i erioed. Nid wyf yn gwybod beth oedd y mater y tro hwn os nad oedd y Proffwyd Jonah yn y cwch, ac heblaw fod 'loan Wyn a Jonah yn forwyr go dda 'dwn i ddim pa Ie y buasem ni wedi landio. Ond y tro hwn; storom rhwng hen Eglwyswraig selogo Lan- edwen, ac un o deulu John Wesley. Ac yn wir, nis gallaf ddesgrifi o i chwi yn iawn sut yr oeddwn yn mwynhau fy hunan yn ei chwmpeini. Dywedodd ei bod yn cerdded tair milldir i'r Eglwys bob Sul, gan nad oes yn Llanedwen ond un gwasanaeth yn y prydnawn. Os ydyw holl Eglwys-wragedd Mon fel hon y maent yn haeddu canmol- iaeth. Gresyn na fuasai Yr Hen Bysgot- wr' gyda'i gwch yn ymyl i gyfranogi o'r wledd. Yr oeddwn yn disgwyl ei weled i mi gael salmon ganddo. Y mae merched Llanfairisgaer yn dweyd ei fod yn well na thafod i de. Cyrhaeddais ben y daith yn llwyddianu, sef Llanddaniel, lie y llafuria yr offeiriad gweithgar, y Parch Thomas Davieq, un o hen weinidogion ffyddlawn y plwyf hwn. Y mae ei enw yn fyw byth yn y plwyf, a chefais brawf y noson hono o'i weithgarwch gyda phlant, gan fy mod yn digwydd bod yno ar noson cyfarfod y plant. ST. MAIR. DYDD NADOLIG. Yr oedd trefn y gwas- anaethau yn Eglwys St. Mair, fel y can- lyn :—Yn y boreu ym 7 o'r gloch, gwein- yddiad o'r Cymun Beddigaid gan y Parch J. T. Jones, ficer y plwyf. Am 10, gwasanaebh, a gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid drachefn gan y Ficer. Yn y prydnawn am 2, gwasanaeth i'r plant. Canwyd amryw o hymnau a carojau gan y plant, a holwyd hwy yn hanes yr Arglwydd lesu Crist gan y Ficer. Gwnaeth y plant eu gwaith yn rhagorol yn mhob ystyr a chafwyd cyfarfod adeiladol a bendithiol. Yn yr hwyr am 6, gwasanaeth ynghyd & llu mawr o carolau gan aelodau or cor, y rhai y mae clod mawr yn ddyledus iddynt am eu sel a'r gwaithgarwch gyda'r gwaith, wedi bod am dri mis gyda gilydd yn barties yn ei dysgu erbyn yr wyl. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn a'r canu yn ardderchog yn mhob ystyr. Yr oeddyr Eglwys wedi cael ei gwisgo yn hynod o hardd. SARON. DYDD N.ADOLIG. Cynhaliwyd gwasan- aethau yn yr Eglwys uchod, yn ystod yr wyl bwysig hon. Yr oedd trefn y gwasan- aethrou trwy y dydd fel y canlyn :-Boreu am 8 o'r gloch. gweinyddiad y Cymun gan y Parch. J. T. Jones, ficer. Am 10.15, gwasanaeth a phregeth gan Mr W. E. Jones (Ap Ellis). Am 2.30, gwasanaeth i'r plant. Canwyd amryw o hymnau priodol gan y plant. Rhoddwyd 'Christ- mas cards iddynt gan Mr Robert Evans, Brynhyfryd, a Mr John E. Williams, Rhyd- yfuwch. Yn yr hwyr am 6, gwasanaeth a carolau. Intoniwyd y gwasanaeth gan Mr Ellis Jones, a canwyd carolau gan amryw. Yr oedd yr Eglwys wedi cael ei gwisgojjyn hardd, gyda gwyrddlysiau o Llanfair Hall, ac o Ficerdy y plwyf. Cafwyd gwasanaethau gwresog trwy y dydd. PORT CHURCH. DYDD Y NADOLIG.—Yr oedd gwasan- aethau yn yr Eglwys hon fel y canlyn Boreu am wyth, gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid gan y Parch R. L. James, curad. Ac am 10, gwasanaeth a gwein- yddiad o'r Cymun Sanctaidd drachefn. Ac am 11 yn Saesneg yn y (Private Chapel, Vaynol), gan Mr James. Ac am 6,30 gwasanaeth a carolau. Intoniwyd y gwasanaeth gan Mr James, curad. Gwnaeth y cor eu gwaith yn rhagorol. ST. MAFR. Nos SUL Y CALAN. Yr oedd Eglwys brydferth St. Mair yn orlawn nos Sul di- weddaf, a chafwyd gwasanaethau da, a canodd aelodau y cor garolau yn hynod o dda. Intoniwyd y gwasanaeth gau y Parch J. T. Jones, ficer, a gwasanaethwyd ar yr organ gan Mr J. Williams. SARON. Nos SUL NADOLIG. — Cynhaliwyd gwasanaeth, a chanwyd nifer mawr o garolau yma nos Sul. Yr oedd yr oil o'r gwasanaethau yn gorawl, a chanwyd pedair-ar-ddeg o carolau. Yr oedd yn orlawn yma nos Sul. Gwasanaethwyd ar yr organ gan Mr F. D. iWilliams yn hynod o fedrus.
YSGOL RAMADECOL DOLGELLAU.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YSGOL RAMADECOL DOL- GELLAU. Da genym ddgalt fod yr ysgol hon yn parhall i lwyddo dan arolygiaeth y Prif- athfa\v, Mr G. W. Kinman, ac nid oes amheuaeth na lwydda fwy eto yn y n dyfodol. Mae Eglvvyswyr Esgobaeth oaugor yn ffyddlon iawn yn eu cefnog- aeth, ac wedi llwyddo i galw draw v rliai oeddynt mor awyddus am grafangu ei gwaddoliadau tnag at amcanion hollol wahanoI i fwriadau ei sylfaenwyr. Dydd lun, cynhaliwyd arkoliad am ysgolor- laeth esgobaethol, gwerth 48p 0 per- ^ynol i'r ysgol, pan yr enillwyd hi gan R. M. Jones, mab rheithor Llanfair, Warlech. A ganlyn ydoedd y rhai llwyddianus yn yr arholiad am ysgolor- aethau a gymerodd le Rhagfyr 18fed a'r 9eg :-J. J. N. Price, Pennal, Mach- ynlleth, 21p. E. T. Hughes, Pen- machno, Bettws-y-Coed, 18p.
CRICCIETH.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CRICCIETH. Anaml iawn mae'r enw uchod i'w ganfod ar dudalenau y LLAN, a'r rheswm dros hyny ydyw, yn ol fy marn i, diffyg zel ac yni yn mhlith Eglwyswyr yn y lie. Mae yrna ddoniau a medr yn ein plith, a thalentau disglaer, a gresyn ydyw na adel- ?nt allan fel cewri i gynal y Wasg Eglwys- At eich gwaith, frodyr anwyl, neu mi vddaf fi trwy y wasg yn eich henwi allan ar ol un. Mae yn wir dda genyf allu hysbysu darllenwyr lluosog y LLAN fod yrna symudiad ar droed i ymarfogi a gwneyd yr hYn sydd yn ein gallu i eangu y cylchred- ladau Eglwysig. Mae aairyw o dderbynwyr t, newydd y flwyddyn hon o'r LLAN, yr Haul, ar Qyfaill. Ychwaneg eto meddaf finau, ac oa y gwnant y defnydd priodol o'r cylchrediadau hyn, rnae yn ddiameu genyf y derbyniont ddirfawr les oddiwrthynt, ac ychwanegol i hyn mi fydd o help i bawb i amddiffyn ei Eglwys pan fydd ei gelynion yn ymosod arni ac yn llefaru yn anwireddus am dani. Y dosbarthwr sydd wedi ei benodi ydyw Mr J. Owen, Aber- wiarchnant, ac fel y dywed y ddiareb Saesneg, The right man in the right b Place." Mae yn anmhosibl cael ei well boed iddo iechyd a nerth i gyflawni ei swydd. PREGETH.—Ar y noson olaf yn y flwydd- yn 1895, cafwyd gwasanaeth a phregeth yn yr Eglwys Gymraeg, pryd y pregethodd y Parch E. T. Davies (Dyfrig), Pwllheli, i gynulleidfa dda. Ei destyn oedd Bydd ffyddlawn hyd angeu, a rhoddaf i ti goron y "ywyd." Ymdriniodd ei bwnc yn y modd deheuig, gan anog pob un i fod yn ffyddlon yn ei alwedigaeth, ac yn enwedig yn eu presenoldeb yn nhy Dduw, yr Ysgol Ql, a'r cor canu, a phob symudiad ynglyn â hyrwyddo Teyrnas Crist yn mlaen yn llwYddianus. GWLEDD. Ar y 3edd or mis hwn, wy garedigrwydd. Mrs Hopkinson, Bryn Bella, rhoddwyd gwledd ardderchog i gorau f Eglwys Gymraeg, a St. Deiniol (yr Eg- lwys Seisnig), yn yr ystafell newydd. Ym- Synnllodd oddeutu pedwar ugain at eu Sdydd i fwynhau y trugareddau oedd wedi eu Parotoi ar eu cyfer, a gallaf ddweyd fod pawb wedi cael eu digoni. Yr oedd yn an- mhosibl caei gwell gwledd. Ar ol clirio y byrddau, cododd ein parchus Rheithor ynghanol banllefau o gymeradwyaeth, ac flaewn araeth odidog datganodd ei ddiolch- §arwch 1 Mrs Hopkinson am ei charedig- t'wydd yn rhoddi y fath wledd, a dywedodd yn mhellach ei bod hi bob amser yn barod 1 wneyd yr hyn oedd yn ei gallu i gynorth- yo pob symudiad Eglwysig. Hir oes iddi y i barhau eto yu yr un gweithrediadau da, a deued ereill i'w hefelychu. Rhoddodd y Rhelthor hefyd ganmoliaeth uchel i'r corau ffyddlondeb a'u diwydrwydd, gan ^beithio y byddant eto mor fFyddlawn yn y lyfodol ag y maent wedi bod yn ygorphen- ° V ^ywedodd Mrs Hopkinson, mewn ychydig eiriau ar ol y Rheithor, ei bod yn talch o gael y fraint o roddi y wledd i'r a'i bod yn dymuno blwydyn newydd d(*a i bawb o hony nt. A aerchwyd yn Ij&hellach gan Mr W. B. C. Jones, Mynydd Mnyfned; Mr Richard Jones, Vienna **ouse a Mr Parry, Black Rock Cottage, afwyd amryw unawdau gan Mri W. Jones, oneifion John Owen, Abermarchnant 0. Hughes, Castle View; a Miss racken a Miss Jones, y Rheithordy. adganodd yr olaf mewn comic costume yn ardderchog, a rhoddodd foddhad cyffredinol i bawb. Bu llawer o'r ieuenctyd yn mwyn- au eu hunain gydag amryw o chwareuon "yrus, a'r Rheithor yn eu plith yn mvvyn- au ei hun yn y modd goreu. Fel pobpeth »^i.naae y diwedd yn d'od, Canwyd unawd, Hen Wlai fy Nhadau,' gan Mr J. W. ones, gamekeeper, ac unwyd yn y cydgan gall bawb. Hefyd, Mrs Bracken, Wern F du, a ganodd yn swynol 'Duw gad wo'r no renhines.' Mae arnaf ofn, Mr Gol., fod fy llith yn myned yn rhy faith, ond yn fy myw nis gallaf gadw fy ysgrifbin heb gael dweyd gair am ein parchus Rheithor a'i wraig hynaws. Nid oes eu cyffely19 yn Sir Gaeruarfon, a dweyd y lleiaf am danynt. Eu holl nod ydyw gwaith mae eu diwyd- rwydd a'u gweithgarwch ynglyn a'r Eglwys yn gwneyd i bawb eu hoffi. Boed iddynt iechyd a hir ddyddiau gyda'u gilydd i barhau yn ffyddlawn eto yn y gwaith da maent yn ei wneyd yw dymuniad-Shon William.
CAERGYBI.\
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CAERGYBI. GWASANAETHAU Y NADOLIG.—Cynhaliwyd gwasanaethau, yn Saesneg, yn Eglwys St. Seiriol, ac yn Gymraeg yn Eglwys St. Cybi. Gwasanaethwyd gan y ficer, Canon D. Walter Thomas, a'r Parchn R. Price a J. Jones, curadiaid. Dadganwyd carolau yn Eglwys St. Cybi, yr hon a avwisgwyd. yn ysblenydd gogyfer a'r amgylchiad gan Miss Adeane, Llanfawr Hall, yn cael ei chynorthwyo gan y Misses Johnstone, Lewis, Owen, a Mrs Everitt, Penrhos Gardens, a Mrs Thomas, y Ficerdy. DAL YMHONWR TWYLLODRUS. Mewn Ilys arbenig a gynhaliwyd dydd Sadwrn, yr 28ain cynfisol, gerbron Mr H. Edwards a Dr Roland Williams, cyhuddodd yr Hedd- geidwad Hugh Williams ddyn o ymddang- osiad parchus o'r enw John Moss, yr hwn a drigai yn 21, Church-street, Manchester, o gael bwyd a Hetty yn 16. Newry-street, trwy dwyll, gan ymhoni ei fod yn 'gon- tractor,' a'i fod yn disgwyl chwech o ddyn- ion o Manchester i weithio, a gosod berwed- yddion yn ngwaith Mr Gardner, yn Mynydd Twr. Diflanodd yn sydyn o'i letty, a da!- iwyd ef ar ei ffordd tua'r Valley. Wedi cael tystiolaeth gan Mr Hughes, ei lettywr, a Mr Gardner, traddodwyd ef i'r frawdlys chwarterol. ELUSENAU. Cynhaliwyd pwyllgor yn Neuadd y Farchnad, i ymgymeryd a rhanu elusenau y Nadolig, cadeirydd yr hwn ydoedd y Parch R. Price, B.A., curad. Rhanwyd yn ystod tywydd caled y gwyliau driugain tunell o lo, yn symiau o ddau gant a haner i bob tlawd. Gwnaed casgliadau hefyd yn yr Eglwys Sefydledig, a chytraxi- odd y City of Dublin Co., rodd ardderchog, ynghyd ag Arglwydd Stanley, Penrhos, Arglwydd Boston, Mri J. Lloyd Griffith, M.A.; F. M. Cotton, C.E.; P. A. Smith, National Bank of England R. J. Edwards, North and South Wales Bank F. Piggot, J. Hughes. H. Edwards. Y.H. oJ. Jones, R.N. Cadbeniaid Bimrey, Roache, Kendall, Thomson, Ledicoat, Parchn R. Price, B. A., a James Jones, curadiaid Misses Adeane, Llanfawr Hall; E. Owen, Penrhyn Marchog, a Mrs Renereton.
LLANLLECHID.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANLLECHID. Y NADOLIG.—Treuliwyd y dydd hwn mewn sain can a moliant yn Eglwys hen- afol Llanllechid. Am 10 yn y boreu, gwas- anaeth ac anerchiad gan ein parchus Rheithor, a gweinyddiad o'r Cymun Ben- digaid. Am haner awr wedi dau, gwasan- aeth y Litani a charolau swynol gan aelodau o'r cor, a thrachefn yn yr hwyr am chwech, cafwyd gwasanaeth a phregeth. Canwyd anthem a charolau. Mae gwrando ar gor enwog Llanllechid yn ddigon o dhl i nnrhyw un am ddyfod pellder o ffordd i'w alywed, oblegid ystyrir y cor hwn ymhlith goreuon yr ardaloedd hyn. Hefyd, dylaswn gryhwyll am ei arweinydd galluog, Mr Thomas Pierce (Coetmor), yr hwn sydd yn gweithio mewn arnser ac allan o amaer er dwyn y cor i'r safoti y mae ynddo yn bresenol. YMWELIAD ARGLWYDDES Y PENRHYN AG EGLWYS LIANLLBCHID.-Nos Sul cyntaf yn y flwyddyn newydd, cawsom bresenoldeb yr Arglwyddes uchod yn hen Eglwys y plwyf. Mae son am y foneddiges hon fel un yn teimlo dyddordeb mewn pob gwaith da ac elusenol. Cawsom wasanaeth godidog; canodd y cor yr anthem, Ac yr oedd yn y wlad hono.' Pregethodd y Parch. E. Davis, y rheithor, yn rymus, fel arfer, oddiar y geiriau, Gad ef y flwyddyn hon eto.' Terfynwyd drwy ganu yr hen emyn anwyl, '0 gariad, 0 gariad, anfeidrol ei faint.' CYMDEITHAS LENYDDOL EGLWYS LLAN- LLECrIlD.-NOS Wener, Ionawr 3ydd, cyn- haliodd y gymdeithas uchod ei chyfarfod yn Ysgoldy Rhachub, Mr Llewelyn, yr ysgol- feistr, yn llywyddu. I agor y cyfarfod, cawsom bapyr gan Mr Robert G. Roberts ar Amser' yn wir bwysig ac amserol. Ar ol hyn, traddododd y Parch. R. M. Jones ei anerchiad diweddaf i'r gymdeithas cyn ei ymadawiad i Llanfairfechan. Ei destyn ydoedd 'Sant Awstin.' Chwith genym golli Mr Jones o'n plith, oblegid dyddorol a llawen ydoedd ei gymdeithas. Ein dy- muniad ydyw iddo gael hir oes i wasan- aethu ei Feistr yn y winllan. Wedi i Mr John Evans, y warden, dalu diolchgarweh i Mr Jones, ac a eiliwyd gan Mr Owen Owens, terfynwyd y cyfarfod drwy i Mr Jones roddi ei ddymuniadau da i'r gym- deithas,-C..Pk..
__----__-BARRY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
BARRY. Cymunodd 81 yn Eglwys y plwyf boreu dydd Nadolig, a chanwyd amryw garolau y Sul cyntaf ar ol y Nadolig. Cynhaliwyd noswylfa ar derfyn yr hen flwyddyn, ac yr oedd cynulleidfa dda wedi dyfod yn nghyd. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gaa Canon Allen, a chawsom anerchiad dyddorol ac adeiladol gan y Parch T. V. Evans, M.A. Dydd Mercher, y laf cyfisf'l, cynhaliwyd cyfarfod te, a chyngerdd ar ei ol, a throisant allan yn Uwyddianus iawn. Y mae yr elw yn myned tuag at drysorfa y cor. Da genyf ddweyd fod ein parchus Ganon wedi dyfod yn ol i'n plith. Y mae yn bwriadu eto myned am rai misoedd o orphwysfa, a gobeithiwn y daw yu ol wedi ei gwbl adferyd yn gorfl'orol a meddyliol pan oddiwrthym y mae ei le yn hynod wag. Ni fu gweinidog erioed yn fwy derbyniol yn ei hen ddyddiau ag ydyw ef. Cawsom anerchiad rhagorol ganddo y Sul cyn y diweddaf y testyn ydoedd Y Gwir Foneddwr.' Ymdriniodd ei destyn yn wir alluog, a chafodd ei sylwadau meddylgar argraff ddwfn ar y rhai oeddynt yn bre- senol. Dylaswn ddweyd mai cyfarfod i ddynion yn unig ydoedd. Y gwir foneddwr' meddai, ydoedd yr un ag oedd yn ymddwyn yn briodo] tuag at ddynes yn mhob amgylchiad. Yn mhlith pethau ereill, dywedodd y Canon ei fod wedi mwynhau iechyd didoriad am driugain a phump o flynyddoedd. Y Parch T. V. Evans sydd wedi bod yn foddion i ddechreu y cyfarfodydd byn, ac y maent yn wir lwyddianus-cymerant le unwaith yn y mis. Siaradwyd yn y cyntaf gan Mr Evans yn dreiddgar a thoddedig. Siaredir yn y tri nesaf gan yr offeiriaid canlynoI :—Parchn. R. W. B. Sanderson, J. R. Buckley, a Canon Roberts. Y mae holaethiad yr eglwys i gymeryd lie y flwyddyn hon. Y mae 1000p yn eisieu tuag at y gorchwyl hwn. Ond y mae Canon Allen yn gwybod am un hen wr ag sydd yn foddlawn rhoddi can' gini tuag ati. Dilyned ereill ei esiampl yn hyn o beth. EGLWYS GYMREIG BARRY DOCK. -Y mae yr Eglwys i'r Cymry erbyn hyn yn ffaith gerbron llygaid y byd; bydd yn cael ei hagor yn fuan, ac er mai diryttel ydyw yr adeilad y mae yn un o'r eglwysi harddaf yn yr ardaloedd. Ar ddyddiau ei hagoriad pre- gethir gan Esgob Llandaf a Canon Owen. Y mae arwyddion cynar y flwyddyn 1896, yr hon sydd newydd wawrio arnom, yn ym- ddangos megis trwy leni gweithrediadau fod disgleirdeb addawol yn ymguddfa ddy- fodol Barry ac er nad wyf yn broffwyd nac yn fab i broffwyd, mentraf ddywedyd fod yr Eglwys yn sicr o lwyddo a blodeuo yn y plwyfydd cynyddol hyn.-Gohebydd.
CORWEN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CORWEN. Y DDARLLENFA.—Yn ol yr argoelion presenol, bydd llyfrgell a darllenfa gy- hoeddus Corwen yn cael ei chau i fyny, gan fod y pwyllgor yn methn cyfarfod y gofynion yn ngwyneb y gefnogaeth brin ga'r sefydliad oddi ar law y trefwyr. Hyderwn yn fawr y gellir gwneyd rhyw well trefniadau na chloi y drws fodd bynag. Ai ni ellir gwneyd y llyfrgell ychydig yn fwyteilwng o gefnogaeth rhywfodd? Fel y mae yn bresenol, nid ydyw yn cynwys llawer o ddim deniadol i'r darllenwyd cyflredin, ac y mae nifer y Ilyfrau gynwysa yn hynod fychan, heblaw fod y gweithiau yn unrhywiog o ran eu natur, felly yn syrthio yn fyr o gyfarfod a gofynion amryw- iaeth tueddfrydol gwahanol bersonau. Pe ceisid diwygio yn hyn, credwn y gellid yn fuan wneyd y sefydliad yn hollol lwydd- ianus, yn ilenyddol ac arianol. Yn sicr, byddai yn werth ceisio beth bynag. CYMDEITHAS FRAWDOL. Y mae gweinidogion Ymneillduol Corwen a'r amgylchoedd wedi ymffurfio yn gymdeithas frawdol. Llywyddwyd y cyfarfod cyntaf gan olygydd yr Wythnos, y Parch. W, Williams, Glyndyfrdwy. Darllenwyd papyr ar "Yr Ymgnawdoliad" (Canon Gore), gan y Parch. H. Cernyw Williams, a dilynwyd gan ymdrafodaeth ar y pwnc, gan ereill o'r aelodau. CAPEL RUG. Prydnawn Sabbath diweddaf bu cor plant y Parch G. Owen ar ymweliad a chapel Rug. Yr oedd y gwasanaeth hwn drwyddo rhywfodd yn un a hir gofir gan y rhai oedd yn bresenol. Canwyd yr emyn Heavenly Father send Thy blessing,' gan y plant, ac mewn gwirionedd fe ddaeth ar wasanaeth, carol, pregeth ac emynau, nes y teimlem mai da oedd i ni fod yno.' Terfynwyd trwy ganu ac ail ganu yr hen orfoleddns emyn 0 frynian Caersalem ceir gweled' mewn ysbryd a theimlad byw.
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
0 ganlyniad i'r profiad a gafwyd yn ystod rhyfel China a Japan, bwriedir cael can lleied o goedwaith ag a fedrir yn llongau rhyfel Prydain o hyn allan. Y mae yn Berlin alw mawr am nwyddau Seisnig o bob math, meddir. Fe ddichon fod yno fwy oalw am nwyddau Seisnig nag am Saeson, fodd bynag.