Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

ERTHYGLAU YR EGLWYS.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ERTHYGLAU YR EGLWYS. [GAN B. D. JOHNS, LLWYNPIA.] RHIF II.-Y GAIR. CYNWYSIAD. Y mae yr Erthygl hon yn ymdrin 1 Am y Gair, neu Fab Duw, yr hwn a wnaethpwyd yn wir ddyn." Cyfeiriwyd hi yn erbyn cyfeiliornadau y sawi a wad- ent fod lesu Grist wedi ei eni o'r Forwyn Fair yn ol y cnawd, ac a ddalient fod Ei Ymgnawdoliad raewn ymddanggsiad yn unig ac nid mewn gwirionedd. Trafoda dri phwnc pendant. 1, Natur Ddwyfol Mab Duw, gan osod a'lan Ei undeb hollol a pherffaith a'r Tact fel, 1, Gair y y Tad, St. loan i. 1 Heb. i. 1, 2; 2, cenhedlig er tragywyddoldeb gan y Tad, St. loan i. 14; iii. 16; 3, gwir a thra- gywyddol Dduw, St. loan i. 1 xx. 28; Phil. ii. 6; Heb. i. 8; 4, ac o'r un sylw- edd neu hanfod a'r Tad, St. loan x. 30 Col. ii. 9. II. Ei Ymgnawdoliad, gan osod allan Ei undeb hollol a pherffaith a'n natur ni, yr hon yn 1, a gytnerodd Efe yn mru'r Wyryf Fendigaid, o'i sylwedd hi, St. Math. i. 18; St. Luc i. 31 fel y mae 2, dwy natur berffaith gyfangwbl, sef y Duwdod a'r Dyndod, wedi eu cysylltu ynghyd yn un Person, na wahenir bytb, St. Math. i. 1 St. Ioan viii. 68 Dat. v. 13; o'r rhai y mae 3, un Crist, gwir Dduw a gwir Ddyn. III. Ei Ddioddefiadau, Aberth, ac lawn. Ar ol dyfod i undeb cyfiawn a pherffaith a'n natur ni, Efe a wir ddioddefodd, St. Math. iv. 2 St. Luc xxii. 28; St. loan xi. 35 a groeshoel- hvyd, St. Math. xxvii. 60; a fu farw, St. Math. xxvii. 50, 63 ac a gladdwyd, St. Math. xxvii. 66 yn 1, i gymodi Ei Dad a nyni, Rhuf. v. 1°; Col. i. 20, 21 yn 2, ac i fod yn aberth nid yn unig dros euogrwydd pechod gwreiddiol, Hhuf. 15, eithr hefyd dros weithredol bechodau dynion, St. loan i. 29; 1 St. Petr iii. 18; Col. i. 21. HANES. Yr hereticiaid cyntaf oeddynt Simon Magus, a'r Nicolaiaid, y rhai y sonir am danynt ac a gondemnir yn yr Ysgrythyr Lan. Tybir eu bod yn Gnosticiaid, gair yn deilliaw 6V Groeg, i wybod, a dalient syniadau cyfeiliornus ynghylch natur .Crist, ac hefyd ynghylch ysbrydion. Yr oedd Corinthua, yr hwn a gondemniwyd gan St. loan, yn heretic perthynol i'r ganrif gyntaf. Ei ganlynwyr a gredent fod lesu yn ddyn, a Const yn Ysbryd a unwydagEfyn ei fedydd. Yr oedd y Nazareaid yn hereticiaid yr ail ganrif. Dalient athrawiaethau cyfeiliornus, ond credent fod Iesu rhywfodd yn ddwyfol. Cyfododd yr Ebioniaid yn yr un ganrif; credent fod ein Harglwydd yn fab Joseph yn ogystal a Mair. Cyfododd yr heresi gryfaf a mwyaf peryglus yn y bedwaredd ganrif, a gel wir hi yn Ariaeth, oddiwrth Arius, offeiriad o Aiecsandria, 319. Efe a haerodd nad oedd Crist yn ddyn yn unig, ond ei fod yn berffaith Dduw trwy fabwysiad yn unig. Gwadai y Docetiaid, y rhai a elwid felly oddiwrth y gair Groeg I dokein,' i ymddangos, wir- ioneddolrwydd natur ddynol ein Har- glwydd; rhai o honynt a ddalient nad oedd ei gorff Ef yn gorff ymddangosiadol yn unig, tra y taerai ereill ei fod o ddefn- ydd nefol neillduol. Felly y Docetiaid a wadent fod Crist yu 'Ddyn, o sylwedd ei fam,' ac a dynol gnawd yn hanfod.' Daliai Apollinaris, 360, osderbynioddlesu hysbysiad trwy fod y Gair yn preswylio ynldo Ef, yr oedd yn ddiangenrhaid iddo Ef gael gwasanaeth rheswtn dynol, ac am hyny yr oedd y Logos, neu y Gair, ynddo Ef yn llanw lie yr enaid rhes- ymol, Yr oedd Apollinaris yn Esgob Laodicea, 362. Megis y gwadai Arius fod Crist yn berffaith Dduw, felly Apollinaris a wadai ei fod Ef yn ber- ffaith ddyn. Yn y seithfed ganrif cyfod- odd heresi arall, sef nad oedd ond un ewyllys yn Nghrist, yr ewyllys Ddwyfol. Getwid canlynwyr yr heresi hon yn Monothelistiaid, oddiwrth y geiriau Groeg yn arwyddo, un ewyllys.' Dal- ient, er fod ein Harglwydd yn meddu ar ddwy natur, nid oedd ganddo ond un ewyllys.' Trwy hyn hwy a wadent ei berffaith ddyndod Ef, oblegid rhaid oedd bed gan ei natur ddynol Ef ewyllys ddynol. Yr oedd Nestorius yn Batriarch Caercystenyn yn y burned ganrif. Daliai ef fod dau berson gwahanol yn Nghrist yn ogystal a dwy natur, Dadleuai na ellid yn briodol gymhwyso y teitl mam Duw at y forwyn, gan ddal na chafodd y Crist Dwyfol ei eni, ac nad oedd Mair ond yn fam y Crist dynol; yr oedd hi ya fam Crisr, ond nid yn fam Duw, er fod y Crist Dwyfol wedi ei uno a'r Crist dynol mewn un ffurf weledig. Conr demniwyd ef gan Gyngor Ephesus yn 431, a phenderfynwyd mai y gwir ath- rawiaeth ydoedd, Fod Crist yn un Person, yn yr Hwn y mae dwy natur wedi eu hagos gysylltu, ond nid eu 'cymysgu. Er gwaethaf hyn, ymled- odd yr heresi drwy Armenia, Caldea, a gwledydd ereill. Yn y 13eg ganrif yr oedd gan yr hereticiaid hyn esgobion ac offeiriaid hyd yn nod ymhlith y Chine- aid. Yr oedd Eutychus yn Abad Caer- cystenyn, yr bwn a arweinwyd trwy ei zel yn condemnio golygiadau Nestorius i ddysgu heresi gwrthgyferbyniol arall. Efe a haerai nad oedd ond un natur yn bodoli yn Nghrist, y natur Ddwyfol; fod natur Ddwyfol a natur ddynol Crist yn wreiddiol ar wahan, ond pan unwyd hwynt, i'r natur ddynol gael ei llyncu i fyny yn y Dwyfol. Condemniwyd hyn yn Nghyngor Chalcedon yn 451, a datganwyd mai y wir athrawiaetb ydoedd, Fod dwy natur wahanol wedi eu huno mewn un Person yn Nghrist heb gyfnewidiad, ac heb gymysgiad.' Parha canlynwyr Eutychus o hyd yn lluosog, ac y mae ganddynt eu patriarch- iaid yn Antiochia, Alexandria, ac A rmenia. SYLWADAU. '» Iesu Grist yn ei natur, cymeriad, dioddefiadau, a gwaith ydyw sylfaen Cristionogaeth. Y mae y ffydd yn sefyll neu yn syrthio gydag Ef. Os ydyw y cwbl a ddysgir yn# yr Ysgrythyr am Dduwdod a dyndod y Gwaredwr yn wirionedd, yna y mae crefydd y Groes yn gorwedd ar ithfaen ansigledig tragy- wyddol. Ã barnu oddiwrth y cydgyfar- fyddiad o ragorolder deallol a moesol yn Nghrist, y mae yn amlwg ei fod Ef y cwbl yr hawliai ei fod-y Messiah wedi ei ddanfon oddiwrth Dduw. Yr oedd meddwl Mahomet yn Uawn chwedlau a chnawdolrwydd gyda golwg ar y gor- phenol, presenol, a'r dyfodol. Yr oedd lesu o Nazareth yn ymgorffoliad o wir- ionedd a phurdeb. Yr oedd deall Crist y mwyaf hynod sydd yn adnabyddus mewn hanesiaeth. Mae genym barch mawr i Bacon, Newton, Milton, Hooker, Shakespeare, Dewi Wyn o Eifion, Eben Fardd, ac ereill fel pendefigion y cread. Ond y mae deall Crist yn cyfodi ororau lie yr elai yn bendro arnynt hwy. 'Ni lef- arodd dyn erioed fel y dyn hwn.1 Yr oedd hyn yn wir, nid yn unig yn ei ddull, ond hefyd am ei ddefnyddiau. Gyda golwg ar gymeriad moesol lesu Grist yr oedd yn fwy gogoneddus byth. Efe ydoedd y bod mwyaf addfwvn urddasol, pur, a drigodd erioed ar ein daear ni. Nid oes ysmotyn yn llych- wino Crist. Mae enwau Zeno, Dir- genes, Socrates, Plato, ac Aristottle yn llygredig. Ond y mae hanesiaeth yn cy- hoeddi fod Tesu Grist yn bur a sanct- aidd. Bu Tesu Grist farw fwy na deunaw canrif yn ol, ond y mae Efe yn fwy adnabyddus heddyw na'r un dyn byw. Nid yw amser wedi creu unrhyw gyfnewidiad yn y farn a ffurfiwyd am ei gymeriad Ef gan ddynion meddylgar a difrifol, er na dderbynio,sant Ef fel eu Gwaredwr. Rousseau yr athronydd Ffrengig a ddywedodd, < Os ydoedd bywyd a marwolaeth Socrates yn eiddo doethwr, yr oedd bywyd a marwolaeth lesu Grist yn eiddo Duw.' Darfu i Goethe, athronydd a bardd enwocaf Ge.-ma,ni alw Crist, Y Dyn Dwyfol,' Yr Un feanctaidd, a darluniai Ef fel unig wrthddrych etelychiad y ddynol- iaeth. Derbyniodd ein Harglwydd enw < Ga,ir/ am mai Efe ydyw y Datguddiwr. Megis ag yr ydym ni yn hysbysu ac yn derbyn hysbysiad trwy eiriau, felly rhoddwyd y teitl Gair i Grist fel yr Hwn sydd wedi dwyn bywyd ac anllygredigaeth i oleuni drwy Ei Efengyl. Golyga yr enw ei bersonol- rwydd Ef, ei agosrwydd atom ni, ei ymdeithasgarwchi a'i eglurder. Gwir ydyw yr ymadrodd am dano, A Duw oedd y Gair.' Yr oedd y Gair yn berson. Dywedir ei fod gyda, nid yn Nuw yr hyn a gynwysa bersonolrwydd. Cydmarir Ef a St. loan Fedyddiwr, ac felly rhaid ei fod Ef yn berson. Gelwir Ef yn Uniganedig, ac y mae y drychfeddwl o faboliaeth yn bersonol. Yr oedd y Gair a'r Messiah yn un ac unrhyw. At yr eiddo ei hun y daeth.' Y Sosiniaid a ddywedant fod 4 Yr hwn ag efe yn ffurf Duw,' yn golygu fod Crist wedi cynrychioli Duw, ac nad oedd yn wirioneddol Dduw. Ond os ydyw hyn felly y nrae yn rhaidt dehongli 'agwedd gwas, fel yn golygu i Grist ymddangos yn unig yn rhith dyn a gwnai hyn i St. Paul ysgrifenu fel y Gnosticiaid hyny a wadent wirioneddol- rwydd dynoliaeth Crist. Dywed yr Esgob Pearson gyda golwg ar genhedl- iad tragwyddol y Gair gan y Tad, ein bol wrth hyn yn cydnabod fod Duw y Tal wedi cyfranu i'r Gair; yr un hanfod trwy yr hwn y mae Efe yn Dduw ac o ganlyniad y mae y Gair o'r un natur ag Ef, a thrwy hyny yn ddelw a Hun perffaith o hono Ef, ac am hyny Ei briod Fab Ef, a'r hanfod yr hwn oedd erioed yn eiddo Duw heb ddechreuad, heb ddechreuad a gyfranodd Ef, gan ei fod Ef yn Dad erioed, fel Duw erioed. Fy mab ydwyt ti, myfi beddyw a'th genhedlaist di.' Tydi wyt Mab y Duw Byw.' Y mae yn bwysig i ddysgu fod Crist wedi cymeryd natur dyn yn mru'r wyryf. Dyma ddywed Hooker, Pe b'ai Mab Duw wedi cymeryd ato ei Hun ddyn a wnawd yn awrac yn barod wedi ei berffeithio, canlynai o angenrheidrwydd fod dau berson yn Nghrist, un yn cymeryd arno a'r llall yn cael cymeryd arno. Ni ddarfu i Fab Duw gymeryd person dyn at yr eiddo ei Hun, ond natur dyn at ei Berson ei Hun, ac am hyny a gymerodd Semen, had Abraham, elfen wreiddiol gyntaf ein natur cyn iddi ddyfod i feddu unrhyw hanfod dynol personol. Yr oedd lesu Grist yn ddyn gwirioneddol, ac yn Dduw cydgyfarfyddodd y ddwy natur ynddo yn un ac eto ar wahan, I Mawr yw dirgelwch duwioldeb, Duw a ym- ddangosoddd yn y cnawd.' Dioddefodd, a bu farw fel dyn, dim mwy, dim llai, hyny yw, bu farw Ei ddyndod trwy ysgariad yr enaid oddiwrth y corff, ond nit-fu ysgariad rhwng yr un o honynt a'i Dduwdod Ef. Bu farw yn lawn dros bechod y byd. Yr odd gwaed lesu Grist, yr hwn a offrymwyd ganddo Ef ei Hun, yn aberth a foddlonodd hawliau cyfiawnder Duw, ac a wnaeth Duw yn gymodadwy a ni, yr Hwn o'r blaen oedd yn ddigllawn wrthym am ein pechodau, fel y byddai Efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.' Mae lawn Orist yn effeithiol nid yn unig i'n rhyddhau oddiwrth y Uygredd sydd ynom yn etifeddiaethol oddiwrth Adda, ond oddiwrth bob pechod a gyflawnir genym ni ein hunain. Y mae y Dyn a'r Duwdod ynddo yn trigo yn Broffwyd i'n dysgu, yn Archoffeiriad i ereill drosom, ac yn Frenin i'n llywyddu. Yn Arglwydd pawb clodforwch Ef.'

"TROAD SANT PAUL."