Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
4 erthygl ar y dudalen hon
EFENGYL PEDR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
EFENGYL PEDR. [GAN Y PARCH. EVAN JONES, B.A. NUTFIELD, SURREY.] (Parhad.) Awn ymlaen y tro hwn gyda'r cyfieithiaa as; a ddechreuasom wneuthur yr wythnos ddiweddaf. III. 4 A hwy a ddaliasant yr Arglwydd, ac a'i gwthiasant gan redeg a dywedent Llusgwn Fab Duw, gan ein bod wedi cael goruchafiaeth arno. A hwy a'i gwisgasant Ef a chochl, ac a'i gosodasant Ef ar orsedd- fainc barn, gan ddywedyd, 4 Gwna farn gyf- iawn, 0 Frenin Israel.' Ac un o honynt a ddug goron o ddrain, ac a'i gosododd ar ben yr Arglwydd rhai a aataaant, ac a boerasant yn ei lygaid ereill a'i tarawsant ar ei ruddiau, ac ereill oeddynt yn ei dry- wanu a. chorsen a rhai yn ei fflangella ac yn dywedyd, 'Dyma yr anrhydedd a'r hwn yr anrhydeddwn Fab Duw.' Y mae yr oil o'r rhan hon yn dangos y driniaeth greulawn a dderbyniodd yr Ar- glwydd gan yr Iuddewon. Pa un a ydyw yn ddesgrifiad mwy cywir na'r un sydd genym yn yr Ysgrythyr, nid oes a fynom a phenderfynu, ond fe welir yn eglur na wnaeth yr awdwr arbed yr Iuddewon o gwbl yn yr hanes a roddodd. Efe a ddengys eu caaineb at yr Arglwydd yn y geiriau I gwthiasant,' 'llusgwn,' 'ei drywanu a. chersen,' a thrachefn yn y modd gwawdlyd y dywedent, wedi iddynt ei oraeddu, 'Gwna farn gytiawn, 0 Frenin Israel,' a Dyma yr anrhydedd &'r hwn yr anrhydeddwn Fab Duw.' 1. 'Llusgwn.Nid wyf yn cofio fod yr ysgrifenwyr sanctaidd yn son am lusgo yr Arglwydd. Felly cawn yma olwg Jbellach ar eu creulondeb. Eto, nid ydyw yr awdwr ar ei ben ei hun yn y deagrifiad hwn. Wrth ffraharu y frawddeg ag un arall gan Juatin erthyr* cawn weled yr un syniad. [*Justin oedd frodor o ddinas a adeiladwyd ar adfeil- ion Sichem, yn Palestina. Ar ol crwydro yn mysg y gwahanol athrawiaethau, efe a ddychwelwyd at Griationogaeth, ac a fu yn ysgrifenyda amddiffynol cadarn iddi. Bu farw tua'r flwyddyn 165 o.c., trwy ferthyrdodj. Yn awr rhoddwn fraw- ddeg o'i eiddo, er ei chymharu a'r syniad o lusgo eio Harglwydd. Justin Apology i. c. 35. Efengyl Pedr. "Cauys, fel y dywed- Llusgwn Fab Duw.' odd y Prophwyd, hwy Ali I l/usgamnt Ef nes ei amfu. Yr un gair a ddefnyddir gan y ddau ys- grifenydd, ond fod Justin yn defnyddio y cyfanaawdd 'diasuro,' pa air sydd gryfacn na suro,' yr un a ddefnyddir gan awdwr yr Efengyl dan aylw. 2. 'Ac a'i goaodaaant ar orseddfainc farn.' Y mae y frawddeg hon y fwyaf dyddorol yn y rhan yma gan ei bod yn hollol i'r gwrth- wyneb ir hyn a gawn yn St. loan. Eglur yw fod cyfeiriad yma at St. loan xix. 13, lie yr ydym yn darllen, 4 Yna Pilat a ddug allan yr Iesu, ac a eisteddodd ar yr orseddfainc.' Er mantais i'r darllenydd, rhoddwn y ddwy frawddeg ochr yn ochr :— St. loan xix. 13: Efengyl Pedr: 'Pilat a ddug allan A hwy a'i gwisg- yr Iesu, ac a eisteddodd 49ant Ef a ohochl, ac ar yr orseddfainc.' a'i gosodasant ar or- seddfainc farn.' Yn y Groeg yr un gair sydd yn cael ei ddefnyddio am I eistedd ac I achosi i eiatedd,' neu osod. Trwy hyn y mae un wedi cyfieithu'r frawddeg fel ei gwelir yn St. loan, a'r llall wedi ei defnyddio mewn modd gweithredol, fel ag ei gwelir yn Efengyl Pedr. Eto, nid awdwr Efengyl Pedr yn unig gydd wedi gwneyd hyn. Cymharwn hi a- Juatin:— Justin Apol. i 35: Efengyl Pedr: "Hwy a'i gosodasant "Ac a'i gosodasant ar orseddfainc, ac a ar orseddfainc farn, gan ddywedasant,' Gwna i ddywedyd,' Gwna farn nifarn. gyfiawn. Naturiol i ni gaaglu oddiwrth ddull y ddau ysgrifenydd eu bod yn gyfarwydd ag Efengyl loan, ac hefyd naill ai trwy gam- vyniad, neu yn wirfoddol, wedi rhoddi i'r adnod y ffucf uchod. Dywedir yn mhellach y byddai yr Arch- esgob Whateley yn cyfieithu St. loan xix. 13 yr un modd ag y mae gan Justin ac awdwr Efengyl Pedr. IV. "A dygasant ddau ddrwg-weithredwr, a chroeshoeliaaant yr Arglwydd yn eu canol. Ond Efe oedd yn parhau yn fud, fel pe byddai heb ddim poenl. Ac wedi iddynt goli'r groes, hwy a ysgrifenasant arni4 Hwn yw Brenin Israel. u Ac wedi gosod ei ddillad o'i flaen Ef, hwy a'u rhanasant, ac a fwriasant goelbren arnyat. Ond un o'r ddau ddrwg-weithredwr hyny a'i hedliwiodd hwynt,2 gan ddy- wedyd, 4 Nyni ydym wedi dioddef am y drygioni a wnaethom, ond Hwn, wedi dyIod yn lachawdwr dynion, pa gam a wnaeth Ef a chwi r A liwy, wedi sori wrtho, a orchymyi).iant beidio tori ei esgeiriaUj3 fel y byddai farw mewn arteith- 1. HOnd Efe oedd yn parhau yn fud, fel pe byddai heb ddim puen." Bydd ysgrif- enwyr yn gyffredin yn cymeryd y frawddeg hon fel yn cynwys yr awgrym gyntaf a gawn fod Efengyl Pedr yn hereticaidd, ac yn perthyn yn neillduol i'r sect a adwaenid wrth yr enw 'Docetiaid,' pa rai a wadent i ymgnawdoliad Mab Duwgymeryd lie mewn gwirionedd, ac felly nad oedd ei ddioddef- aint yn sylweddol—mai rhith oedd y cyJan. Dywedent i un Qrist doisgyn ar y dyn Iesu yn ei fedydd, yr hyn a'i gwnaeth yn Fab Duw, ac ar adeg eigroeshoeliad i'r person Crist ei adael. Drachefii, y mae y ffaith fod ein Hawdwr wedi gadael allan y fraw- ddeg, Y mae syched arnaf,' yn profi yr un peth, sef nad oedd ei ddioddefaint yn wir- ioneddol. Hefyd, ni sonia am weddi yr Arglwydd oddi af y Groes, 1 0 Dad, maddeu iddynt.' Prawf pellach nad oedd am i neb goleddu y syniad fod yn bosibli'r Iuddewon gael maddeuant am eu pechod hysgeler o'i groeshoelio Ef. Er y dylid cofio fod rhai o'r llawysgrifau (MSS) yn gadael allan Luc xxiii. 34. (2) Un o'r ddau a'i hedliwiodd hwynt.' Dyma esiampl arall o ddull yr awdwr yn gwyrdroi yr hanes fel ag y mae yn Luc. Efengyl Pedr St. Luc xxiii 39. Ond un o'r ddau Ac un o'r drwg- ddrwg weithredwr weithredwyr a grog- hyny a'i hedliwiodd asid a'i cablodd Ef hivynt (yr Iuddewon).' (sef lesu).' Y mae yr awdwr yn parhau yn gyson yn ei elyniaeth i'r Iuddewon. (3) 'Beidio tori ei esgeiriau.' Y mae y frawddeg hon yn ei chynwya yn uu a'r un a gawn gan St. loan ond sylwer fod y rhesymau dros beidio tori ei esgeiriau yn hollol wahanol. loan a ddywed iddynt beidio, am fod yr Iesu wedi marw awdwr yr efengyl hon. am fod yr Iuddewon wedi sorri wrtho, ac fel y byddai farw mewn arteithiau. Efengyl Pedr. St. loan xix. 33, 1 A hwy wedi sorri Pan welsant ei fod wrthoa orchymynasant wedi marw eisoes, ni beidio toriei esgeiriau thorasant ei esgeiriau fel y byddai farw mewn Ef. arteithiau. V. Ac yr oedd yn ganol dydd, a thy- wyllwch a orchuddiodd holl wlad Judea. Ac yr oeddynt mewn cynhwrf a gwasgfa meddwl, rhag ofn i'r haul eu fachludo, ac Efe eto yn fyw. (canys) yr oedd yn ysgrifenedig iddynt, nad oedd yr haul i fachlud ar yr hwn a ddienyddid. Ac un o honynt a ddywedodd, rhoddwch iddo i yfed fustl yn gymysgedig a finegf. A hwy a gymysgasant, ac a roddasant iddo i'w yfed a chyflawnasantbob peth a dygasant i ben 1 eu hell bechodau yn erbyn eu pen (eu hun). A Ilawer oedd yn myned oddiam- gylch gyda llusernau, gan dybied ei bod yn nos (ac a syrthiasant i lawr 2.) A'r Ar- gl wydd a leiodd allan gan ddywedyd, I Fy Berth, Fy nerth, Ti a'm gadewaist 3.' Ac wedi iddo ddywedyd hyn, Efe a gym- erwyd i fyny. Ac ar yr awr hono y rhwygwyd teml Jerusalem (2) yn ddwy." (1) Yn y frawddeg hon clywir adsain o eiriau St. loan xix. 28, yn mha le y dar- llenwn Yr lean yn gwybod fod pob peth wedi ei orphen weithian. Er hyny can. fyddir fel y mae yr awdwr wedi rhoddi ati y frawddeg, Dygasant i ben (eteleiosan) eu holl bechodau.' (2) Gyda llusernau.' Eto gwelir fod cyfeiriad yn y geiriau at St. loan xvii. 3, Judas a ddaeth yno S, lanternau a lampau, ac arfau.' Gan dybied ei bod yir nos.' Mown ysgrifau a dybir fod yn hanes y Groeshoel- iad gan Pilat i'r Ymerawdwr Tiberius, ceisir dangos fod Pilat yn dywedyd nad oedd yn bosibl i'r Ymerawdwr fod yn an- wybyddus o'r ffaith, iddynt trwy'r holl fyd oleuo larhpau o'r chweched awr hyd yr hwyr.' Ac a syrthiasant i lawr.' Nid ydyw yn hawdd gweled y cysylltiad sydd rhwng y frawddeg hon a'r un flaenorol. Nirl ydyw yr ysgrifen .yn y fan yma yh eglur, ac y mae wedi ceiaio cywiro a gwellhau y frawddeg trwy ddarllen, ond rhai a iasant.' Tebygol yw fod yr awdwr wedi gwyrdroi St. loan xvii. 6, Hwya aethant yn wys eu cefnau, ac a syrthiasant i lawr.' (3)' Fy nerth Ti a'm gadewaist.' Dyma y frawddeg fwyaf hynod yn yr holl efengyl. Gwelir fel y gwahaniaetha oddi- wrth yr Yagrythyr, wrth rhoddi y ddwy ochr yn ochr. Efengyl Pedr St. Matth. xxvii. 46. 'Fy Nerth,fy Nerth, 'Fy Nuw, fy Nuw, Ti a'm gadewaist.' Paham y'm gadewaist.' Ond cawn ragor am hyn yn ein Ufth nesaf.
CALAN HEN YN LLANDYSUL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CALAN HEN YN LLANDYSUL. Nodir y 13eg o Ionawr yn Calan Hen mewn almanaciau er yn hen iawn. Y mae yn fy meddiant Almanac Caergybi am 11845, ac y mae yn hwnw, ond yn nghalander yr Eglwys ceir arwydd arall gyferbyn ag ef, sef Hilary, Bp. &c., Pojctiers, A.D., 360. Mi garwn g<1el eglurhad ar y nodiad yna. Rhyw bedwar ugain mlynedd yn ol cicio y bêl droed oedd yn cael ei wneyd ar y dydd hwn yn un o'r campau arferedig,' a mawr y rhialt vch oedd yn y plwyfi hyn, plwyf Llandysul a Llanwenog yn erbyn eugilydd Llanfihangel a Llanllwni, nes o'r diwedd y penderfynodd yr offeiriaid canlynol i wella ychydig ar yr wyl drwy ei throi yn fwy buddiol, sef Parchn. James, Llandysul; Griffiths, Llangeler; Powell Llanpamp- saint, a Ficer Llanllwni. Methais a chael enw yr un diweddaf. Penderfynasant adrodd rhanau o'r ysgrythyr a'i eebonio, a'r ysgolion cyntaf, mor bell ag y gellir cael cofnodiad, a aeth i gynal yr wyl oedd Llanllwni, Llanfihangel-ar-arth, Llanpump- saint, ynghyd ag ysgol Llandysul. Dyna, mor agos ag y eallaswn gasglu, y rhai a drodd cicio pu. droed yn ddarlleniad Gair Duw. Ond o dipyn i beth daeth balchder i'r wyl. sef pwy adroddodd oreu, a phwy ganoedd oreu, a lluaws o bethau ereill, ond er gwaethaf yr oil o'r pechodau yna y mae yr wyl wedi dal ei thir am tua 70 mlynedd, ac yn gwneyd lies mawr drwy dori allan waith i'r gwahanol ysgolion fel y bo iddynt chwilio yr Ysgrythyrau a llyfrau da ereill erbyn yr wyl. Eleni eto wele y dydd wedi gwawrio arnom, a phawb a'i gyfeiriad tua Llandysul, sef y gwahanol ysgolion a llawer ,0 ddi- eithriaid hefyd, er clywed yr adrodd, yr holi, a'r canu, a bwiadwn roddi haues yr wyl fel ag y cariwyd hi ymlaen o'r dechreu I i'r diwedd, heb fod yn gyfranog o chwilio baiar neb mewn adrodd nachanu. Gwyddom fod pawb ar ei oreu y diwrnod hwn, felly ymataliwn rhag briwio teimladau neb. Dechreuwyd y gwasanaeth am 23 munyd wed i deg, yn lie deg. Llafarganwyd y Te Deum yn ol Trefn Gwasanaeth 1893. Dar- llenwyd tri Colect gan y Parch W. J. Jenkins. Adroddwyd Credo yr Apoatolion. Canwvd emyn 197. 1. Capel Dewi a ddechreuodd waith y dydd drwy adrodd yr Efengyl am y Sul Cyntaf yn Adfent (Math. xxi. 1—13). Holwyd gan y Parch D. Lewis, Llanfair- Orllwyn. Anthem, 'Pwy sydd fel yr Arglwydd' (T. Price, Ebbw Vale), arwein- ydd, E. W. Drew, Derlwyn. 2. St. John, Efengyl- am ddydd N ad oli g (St. loan i. 1—14). Holwyd gan y Parch D. Lewis, Llanfair-Orllwyn. Anthem, 4 Treigla dy lfordd ar yr Arglwydd'(Alaw Manod), arweinydd, Mr John, Thomas, Glanclettwr. 3. St. Ffraid, yr Efengyl am Ddydd Gwyl Yatwyll (St. Math. ii. 1—12). Holwyd gan y Parch D. D. Evans, Llandyfriog. Anthem, 4 Daw'r gareg oddi draw' (Rhedynog Price), arweinydd, Mr David Thomaa, Cwmhuan. 4. Bangor Teify, yr Efengyl am y Dydd Cyntaf o'r Garawys (Math. vi. 16—21). Holwyd gan y Parch D. D. Evans, Llan- dyfriog. Anthem, Ystyr y Perffaith' (D. Jenkins), arweinydd, Mr William Davies, Henfryn Mills. 5. Penboyr, yr Efengyl am y Sul Cyntaf yn y Garawys (Math. iv. 1—11). Holwyd gan y Parch D. Jones, Bangor Teify. Anthem, 1 Cyfododd Ef, esgynodd fry' (Owain Alaw), arweinydd, Mr John Griffith, Waunfawr. 6. St. Barnabas, yr Epistol am y Pumed Sul yn y Garawys (Heb. ix. 11 i'r diwedd). Holwyd gan y Parch D. Jones, Bangor Teify. Anthem, 'Gvirando fy ngeiriau, Arglwydd' (J. T. Rees, Aberystwyth), ar- weinydd, Mr D. Jenkins, ysgolfeistr. 7. Llanpumpsaint, yr Efengyl am Ddydd Gwener y Groglith (loan xix. 1-22. Hol- wyd gan y Parch W. Powell, Castellnewydd Emlyn. Anthem, 'Gwyn eu byd y rhai' (Gwilym Lon), arweinydd, Mr David Phillips Glanavon. 8. Llandysul, yr Efengyl am Ddydd Pasg. Holwyd gan y Parch W. Powell, Castellnewydd Emlyn. Anthem, I Yatyr y Perffaith (D. Jenkins, Aberystwyth), ar- weinydd, Mr J. R. Phillips, ysgolfeiatr. 9. Capel Mair, yr Efengylijfltey Pumed Sul wedi'r Pasg (St. Ioa»r. jtn. 23 i'r diwedd)« Holwyd gan H^arch E. P. Jones, Llandysul. Anthem, -4Gwyn ei fyd y gwr (Rhedynog Price), arweinydd, Mr John Jones, Bancyffordd. 10. Llangeler, yr Epistol am Ddydd Iau y Dyrchafael (Actau i. 1-11). Holwyd gan y Parch J. T. Hughes, Llanfihangel-ar- Arth. Anthem, 'Clyw, Arglwydd, a thru- garha (John Thomas, Llanwrtyd), arwein- ydd, Mr T. Davies, Cefn, 11. Pencader, yn lIe yr Epistol am y Sul- gwyn, Actau ii. 1-12. Holwyd gan y Parch J. Daviea, Llandysul. Anthem, Ac ni bydd nos yno' (W. M. Rowlands, Morriston), arweinydd, Mr Evan Davies, Quarre. Canwyd emyn 248 o Hymnau Elis Wyn o Wyrfai, ac yna cyhoeddwyd y Fendith gan y Parch J. Davies, curad Llandyaul. Cawaom adroddiadau ardderchog, atebion parod, a chanu melus gan y gwahanol ysgol- ion, ac yr oedd ol llafur, ymdrech, a dyfal- barhad ar eu gwaith, ac y mae clod yn ddy- ledus iddynt am hyny. Dyma ein gwyl flynyddol wedi pasio, a chawsom- gyfle ardderchog i ddysgu athraw- iaefhau pur ein Heglwys, oherwydd yr oedd pawb yn chwilio ei oren er cael allan hanes y gwaharitH dymhorau fel ag y maent yn ein Llyfr Gweddi, a thrwy y cyfle hwn dylasem fod yn fwy o Eglwyswyr drwy hyny. Diolch i'r pwyllgor am ddarparu bwyd mor flasus i Eglwyswyr mewn yatyr hanesyddol gan obeithio y bydd mwy o ym-, drech yn cael ei wneyd er cael allan wir- ionedd am ein hen wasanaeth a'n Llyfr I Gweddi ardderchog. GIRALDUS.
- LLC.FFICtN.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLC.FFICtN. [GAN CYMRO.] Pechodau athrawon yw athrawon pech- odau. Mae dynion yn barnu ein calonau wrth ein geiriau a'n gweithredoedd a-¡)uw yn barnu ein geiriau a'n gweithredoedd wrth ein calonau. Dymuniad deublyg y credadyn cyfarfod a Duw heb byth ymadael, ac ymadael a phechod heb byth gyfarfod. Dylai y saint fod yn y byd fel pysgod yn y mor—yn nghanol heli ac eto yn groew. Ni ddylid 11 boddloni ar ran yn Nghrist, end ar Grist yn rhan. Os byddwn ni wedi syrthio i mewn a Duw, ni waeth pwy fydd wedi syrthio allan a ni. Yr hwn a ddisgwylia i ereill gadw ei gyf- rinach, dysged gadw ei gyfrinach ei hun. Cadw y cwbl heb gyfranu dim sydd gybydd-dod. Oyfranu y cwbl heb gadw dim sydd afrad- londeb. Ni ddylid.casau y troseddwr oherwydd ei drosedd, na charu y trosedd oherwydd y troseddwr. Nis gall dyben da gymeradwyo gweithred ddrwg, ond dichon dyben drwg andwyo gweithred dda. Anfynych y mae edifeirwch diweddar yn edifeirwch cywir, ond nid yw edifeirweh cywir byth yn rhy ddiweddar. Dylai yr ietiane mewn cymdeithaa ystyr- ied cyn llefaru a pheidio llefara ues gofynir iddo ddwywaith. Mae cysgod dyn ar ei ol tra byddo yn edrych ar yr haul; y mae ei oiidiau felly tra y byddo yn edrych ar Grist. Maeyn anhawdd enilt dyn i greduyrhyn y mae yn anfoddlawn iddo fod yn wirion- edd. Os y w cyhiiddiad dy elyn yn wir, diwygia; os anwir ydyw. gochel. Mewn amgylchiad o amheuaeih gweH dewis y Ileiaf derbyniol. Y mae tralloda u y Cristion fel y dyfroedd i arch Noah, yn curo arno er ei godi tua'r nefoedd. Dyn cyfoethog sydd yn onill mwy nali draul, a'r dyn tlawd' sydd a'i draul yn fwy na'i enill. Mae yr hwn sydd yn dangos llawer mwy o ofal am danat nag arferol, wedi dy dwyllo neu yn bwriadu gwneuthur hyuy. Mae yr athrodwr fel gwybedyn yn hoffi disgyn ar friwiau pawb o'i gydnabod. Rhaid darostwng y corff i wasanaeth yr enaid cyn:y gellir darostwng yr enaid i waa- allaothu Duw. Nis gellir rhwystro i ereill siarad yn ddirmygus am danom, ond gellir, drwy wyliadwriaeth beidio rhoddi achos iddynt. Rhaid i deyrnas Dduw fyned yn gyataf i mewn i ni cyn y gallwn ni fyned i mewn i deyrnas Dduw. Y mae haner adnodau gan Satan yn temtio, ac adnodau cyfaingan y Cris-ion i'w wrthwynebu. Gwell gan y Cristion farw yn ferthyr na byw yn wrthgiliwr. Gwrendy Duw y galon heb y geiriau, ond ni wrendy y geiriau heb y galon. Gall pysgod meirw nofio gyda'r llif, ond pysgod byw sydd yn nofio yn ei erbyn. Y dyn a wertho ei hunan at grefydd a wertha grefydd ond iddo gael digon o bris. Mae y dyn sydd yn rhagofalu am yfory yn ceisio dirio dau faich cefn ar yr un pryd. Gochel y gymdeithas yn yr-hon nis gellir gwneuthur na derbyn dim daioni. Bydd ffyddlawn i'th gyfaill i'w gadw rhag troi yn elyn gwna ddaioni i'th elyn i'w enill yn gyfaill. Mae hawddfyd yn enill cyfeillion, ac adfyd yn eu profi. Llawenycbi yn nsjhwymp ereill sydd or- foledd yn •mud$ugoliaeth Satan. Fe tiyii balch am yr hyn na wna aflony4du<c*sg y gostyngedig. Nid ywith yn y He y dylai fod nea iddo ddyfod atoei hun. Mae tafod celwyddpg yn andwyo y gwir pan y digwyddo 4rosto AI"" 1 J ———
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Pan y gofy&wjgl ^t,Wyddel a redodd ymaith pan yr I d arno yn ffyrnig gan Wyddel arall, m y bu mor llwfr a tfoi, efe a atebodd Yn siwr, yr oedd yn well i mi fod yn llwfryn am bum ftiunyd, na bod yn ddyn marw ar hyd fy oes Yr oedcl y gelfyddyd o wneyd pepur yn anhysbys yn Ewrop dair canrif yn ol ond yn Japan, y maent wedi bod yn ei wneyd er's dros 1,2000 o flynyddoedd.