Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
13 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
13 erthygl ar y dudalen hon
CYNW YS I AD.i -I
Rhestrau Manwl, Canlyniadau a Chanllawiau
Dyfynnu
Rhannu
CYNW YS I AD. Newyddion 1 Yn Mhlith yr Enwadau, Pregeth 2 Llith Meudwy y Glyn 3 Newyddion Cymreig 4 Newyddion 5 Ymddiddan y Gweithwyr 9 Newyddion 7 Erthyglau Arweiniol 8 Llith Coleg Dewi Sant. 9 Y Golofn Farddol, Marwolaeth Canon Mor- gan 1.. 10 Newyddion a Gohebiaethau 11 'Y Llan a'r 'Haul,' Newyddion Cyffred- inol, Cymreig, &c 12 Newyddion Cymreig 13 Hysbysiadau 14, 15, 11
Afreolaeth yn Senedd Ffrainc.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Afreolaeth yn Senedd Ffrainc. Dydd Sadwrn, yn Senedd-dy Ffrainc, bu un o'r golygfeydcl oiwyaf gwarthus ac afreolus welwyd mewn unrhyw Senedd erioed, ag eithrio, efallai, mewn cynghorfeydd llwythau anwaraidd yn Affrica. Tra yr oedd helynt Dreyfus yn cael ymdrin ag ef torodd aelodau allan i alw en gilydd yn bob math o enwau gwaeth na'u gilydd; defnyddient yr iaith fwyaf eithafol, a dechreuasant ymladd yn ben-ben a'u gilydd ar ganol llawr y Senedd-dy. O'r diwedd gohir- iwyd yr eisteddiad, pe yn eisteddiad o gwbl, a galwyd milwyr i mewn i gadw trefn.
Etholiad Dublin.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Etholiad Dublin. Ddydd Gwener y cymerodd yr ethol- iad le am vanbarth St Stephan, Dublin. Yr ymgeiswyr oeddynt: Count Plunkett (Cenedlaetholwr), a Mr Campbell (Undebwr). Cyhoeddwyd y canlyniad am ddau o'r gloch foreu ddydd Sadwrn, a chafwyd fod yr Undebwr wedi enill drwy fwyafrif o 138. Safai y ffigyrau fel y canlyn:— 'II Campbell (U) 3625 Plunkett (Cen.) 3387 Mwyafrif Undebol. 138
Marwolaeth Mr John Laird,…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Marwolaeth Mr John Laird, Birkenhead Dydd Mawrth, ar ol afiechyd byr, bu Mr John Laird, y llong-adeiladydd enwog, Birkenhead, farw. Ganwyd ef yn 1834, a derbyniodd ei addysg yn Winnick a Choleg Cheltenham. Yn 1860, cymerwyd ef i bartneriaeth fel llong-adeiladydd, lie yr arddangosodd fedrusrwydd neillduol yn y fasnach. Am gyfnod maith, efe ydoedd arweinydd y Blaid Geidwadol yn Birkenhead, a daliai amryw swyddi cyhoeddus. Gadawodd weddw, tri mab, a chwech o ferched i alaru ar ei ol.
Y Peirianwyr.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Peirianwyr. Y diweddaraf am yr helynt difrifol yma yw fod Cymdeithas Unedig y Peirianwyr a'r cydbwyllgor wedi ar- gymell eu haelodau cloedig allan i dder- byn telerau newyddion gynygia y meistri yngtyn a'r rheolaeth. Os derbynia y meistri gyngor eu swyddogion bydd yr holl helynt ar ben, a dechreuir gweithio ddydd Llun nesaf.
Y Calluoedd a China.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Y Calluoedd a China. PERYGL AM RYFEL DDYCHRYN- LLYD. Gwaethygu y mae yr helynt yma o ddydd i ddydd. Y mae llyngesau Pry- dain, Rwsia, Germani, a rhai o longau Ffrainc yn cyniwair ol a blaen ar arfor- dir China, a hysbysid fod llynges gref Japan am gau i fyny Porth Arthur. Os gwna hyny, bydd gan Rwsia rywbeth pur gryf i'w ddweyd wrthi. Mae'r helynt wedi dechreu gyda gwaith Ger- mani yn meddianu tref Chineaidd, ac wed'yn Rwsia a Ffrainc yn cilgwthio y n Prydain rhag rhoddi benthyg 16 miliwn i China. Bu y Cyfrin Gyngor Prydeinig ddydd Sadwrn am oriau yn ddifrifol ys- tyried y sefyllfa Leryglus yr ydym fel gwlad a gwiedydd ynddi. Y dydd o'r blaen dywedodd Pen-cadlywydd Prydain y gallai ein gwlad ni anfon mewn ych- ydig oriau y fyddin fwyaf aeth allan o Brydain erioed. Tra y mae Rwsia a Germani yn chwenych rhanu China, nid yw Prydain yn chwenych unrhyw ran, ac er mwyn helpu Chiua, y mae am fenthyca iddi yr arian mawr yna, Mae y Rhyddfiydwyr yn cydweled a'r Toriaid yn hyn, a siaradodd Mr Asquith yn Birkenhead y nos o'r blaen i'r per- wyl yna. Yr hyn sydd ar Brydain eisieu yw i China agor mwy o'i phorthladdoedd yn rhydd i'r byd, a chaniatau gwneyd y i heilffordd o India i China, ac yn hyn y mae Japan yn cydolygu a Phrydain.
Merch larll yn Priodi Morwr.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Merch larll yn Priodi Morwr. Yn Lerpwl, y dydd o'r blaen, cymer- odd priodas le rhwng morwr Gwyddelig ag arglwyddes, hanes y modd y daeth y ddau i gyfarfod a'u gilydd, &c., sydd yn bur hynod. Ychydig amser yn ol yr oedd yn astudio irewu ysgol forwrol yn Lerpwl ddyn ieuanc o'r enw Harry Brady Hunt, o Limerick, yr hwn oedd wedi treulio blynyddoedd ar y mor, ac a oedd yn bwriadu myned ymlaen yn gad- ben. Gyda'r amcan hwnw mewn golwg, daeth i Lerpwl i barotoi erbyn arholiad y Bwrdd Masnach. Ymysg efrydwyr ereill yn yr un ysgol yr oedd Arglwydd- es Ernestine Brudenell Bruce, merch hynaf Ardalydd Ailesbury, yr hon fydd- ai bob amser yn cymeryd dyddordeb mawr mewn morwriaeth. Yr oedd yn adnabyddus fel un ragorol am drin yachts, &c. Fe gofir i'r foneddiges, ychydig amser yn ol, wneyd cais at y Bwrdd Masnach am gael sefyll arholiad, fel ag y byddai ganddi hawl i drin ei yacht ei hun, ond gwrthodwyd y cais gan y Bwrdd. Cyfarfyddodd Arglwydd- es Ernestine a Mr Hunt a'u gilydd yn ami pan yn yr ysgol, ac aeth y ddau yn gyfeillion mawr, ac ymhen ychydig cy- nyddodd y cyfeillgarwch i gariad. Ar ol iddo basio ei arholiad i fod yn gadben yn foddhaol, aeth Mr Hunt o Lerpwl i Limerick, tra yr aeth yr arglwyddes gar- tref, lie, fodd bynag, ni ddarfu iddi ddweyd dim am yr hyn oedd yn bod rhyngddi a'r morwr. Ar ol penderfynu priodi, dychwelodd y par i Lerpwl yn ddiweddar, a boreu Mawrth diweddaf unwyd y ddau mewn glau briodas. Ym- ddengys fod y par yn awyddus am i'r amgylchiad fod mor gyfrinachol ag oedd bosibl, gan nad oedd ond tua chwech o bersonau yn yr eglwys lie y cymerodd y gwasanaeth le. At- ol i'r seremoni fyned drosodd, ymac'awodd y par am Lundain. Y mae Mr Hunt wedi ei apwyntio yn gadben ar long hwyliau, a hysbysir fod ei briod yn bwriadu myned gydag ef, a threulio y rhan flaenaf, beth bynag, o'i bywyd priodasol ar y mor.
Yr Etholiad yn Sir Benfro.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Yr Etholiad yn Sir Benfro. Mae yr Anrhyd. Hugh Campbell, mab Arglwydd Emlyn, wedi cytial at-nryw gyfarfodydd mewn gwabanol ranau o'r sir, yn y rbai y rhoddwyd derbyniad brwdfrydig iddo. Nos Lun, cafwyd cyfarfud yn Maenclochog, pryd y Ilyw- yddwyd gan Syr Owen Scourfield. Pasiwyd penderfyniad unfrydol o blaid Mr Campbell. Y dydd canlynol ymwel- odd yr ymgeisydd a ffair Crymmych, lie y cafodd dderbyniad cynes gan y fferm- wyr. Nos Fawrth, cynhaliwyd cyfarfod o bleidwyr yr Anrhyd Hugh Campbell yn yr Assembly Room, Pen fro, dan lywydd- iaeth y Milwriad Leach, a chafwyd anerchiadau gan yr ymgeisydd, y cadeir- ydd, y Cadfridog Laurie, A.S.; Mr Lort Phillips, Syr J. T. Llewelyn, A.S., &c. Bwriada Arglwydd Emlyn draddodi anerchiadau yn rhai o'r cyfarfodydd a g-ynhelir yr wythnos nesaf, ac ymhlith siaradwyr ereill disgwylir y bydd Arg- lwydd Charles Beresford, A.S. Dydd Mercher, cynhaliwyd cyfarfod- ydd Undebol yn Solfacli, Roch, a Rud- baxton, j rhai a anerchwyd gan Mr Campbell, MrC. Venables Llewelyn, Mr Gilbert D. Harries, Llanunwas, Mr Massey, ac ereill.
Terfysgoedd yn Itali.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Terfysgoedd yn Itali. Mewn canlyniad i ddrudaniaeth cy- nyddol bara, mae terfysgoedd difrifol wedi tori allan mewn gwahauol ranau o Itali. Dydd Mawrth, galwodd yr Ar- dalydd di Rudini, y Prif Weinidog, gy- farfod o Weinidogion y Llywodraeth, yn yr hwn y penderfynwyd galw allan 100,000 ychwanegol o filwyr. Credir y bydd i hyn roddi terfyn efFeithiol ar y terfysgoedd, er yr ychwanega yn ddir- fawr at y trethi, ac achosi ychwaneg o deimladau gwrthnysig.
Llywodraethiad Creta.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Llywodraethiad Creta. Dydd Mawrth, ysgrifenai gohebydd y Times yn Vienna i hysbysu fod sibryd- ion ar led yno i'r perwyl fod Rwsia ar y funyd olaf wedi llwyddo i ddarbwyllo Germani i dynu yn ol ei gwrthwynebiad i'r Tywysog Sior gael ei benodi yn LIyw- odraethwr Ynys Creta. Os yw hyn yn wir, barna fod rhywbeth yn y flurf o iawn wedi ei addaw i Germani; ceir gwybod y gwirionedd cyn hir.
Agoriad Agoshaol y Senedd.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Agoriad Agoshaol y Senedd. Ymgynulla y Senedd Chwefror 8fed, ac y mae arweinwyr y ddwy blaid wedi anfon eu gwysiau allan i'w cefnogwyr. Cynygir yr Anerchiad i'w Mawrhydi yn Nhy yr Arglwyddi gan larll Hard- wicke, ac eilir gan larll Albemarle. Yn Nhy y Cyffredin y cynygiwr a'r eilydd fyddant y Milwriad Lockwood ac Ar- glwydd Milton.
Prynu Tafarndai.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Prynu Tafarndai. Hysbysir fod cwmni cryf wedi ei ffurfio yn Llundain gyda'r bwriad o brynu pob tafarn 1 rhydd' aallantdrwy y deyrnas, ac y mae goruchwylwyr gan- ddynt ar waith yn Nghymru yn gwneyd ymchwiliadau. Pa fodd bynag, ychydig o'dai rhydd' geir yn y Dywysogaeth, gan fod darllawyr eisoes wedi prynu rhan fawr ohonynt. ■ "7
LLANELWY.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
LLANELWY. DEISEBWYB YN Y PALAS ESGOBOL.— Ymgyfarfyddodd nifer o ddeisebwyr, oedd- yut yu awyddus i ymwrthod a'r dadblyg- iadau diweddar a gymerasant le yn eu henw, ond heb eu cydsyniad, yn y Deondy ddydd Mawrth, ac wedi ymgynghori a'u gilydd penderfynasant ddymuno ar i'r Esgob eu derbyu. Yn y cynulliad yn y Palas, darfu i rai o'r deisebwyr siarad, gan ddatgan eu eondmniad unfrydol a'u galar oherwydd yr ymosodiadau personol a wnaed ar yr Esgob, ac unent oil a'u gilydd mewn datganiad diffuant o'u teyrngarwch adnewyddol a'u dymuniad dwfn ar i bawb gydweithredu yn galonog mewn ufudd-dod teyrngarol i'w Hesgob yn ngwaith yr Eglwys, ac mewn ymdrech ditfuaut er lies a llwyddiant yr eneidiau a roddwyd i'w gofal. Atebodd yr Esgob fel y canlyn: — 'Croesaw ydyw y gair cyntaf ar hwn y cyfarchaf chwi ar eich presenolcleb yma heddyw, ac y mae eich datganiadau o ofid oherwydd yr hyn a gymerodd le yn cael eu datgan, nid yn unig gan yr oil sydd yn wyddfodol, ond hefyd gan nifer fawr o tai ereill ydynt wedi eu lluddias gan amrywiol amgylchiadau rhag bod yn breseuol heddyw.' Yna aeth ei arglwyddiaeth ymlaen i brofi mai y deisebwyr ac nid efe sydd yn gytritol am roddi cyhoeddusrwydd 1'r pwnc, a diwedd- odd ei araeth fel y canlyn :—' Nid oes un- rhyw weithred yn ystod fy holl esgobydd- iaeth gyda golwg ar gyfiawnder, doethineb, ac angenrheidrwydd pa un yr wyf mor hollol argyhoeddiadol a'r gwahoddiad rodd- ais i'r clerigwyr a'r Ueygwyr i ddyfod i'm cyfarfod i Wrecsam er cael cynadledd rydd a gwyneb-agored. Ac yn awr deuaf at y pwynt nesaf. Fe wyddwn i fod nifer pur fawr o'r cofebwyr wedieu camarwain, ac yn Ngwrecsam darfu i mi yn bwyllog dynu gwahauiaeth rhwng yr arweinyddion a'r rhai diniwed a gamarweiniwyl ganddynt. Y mae digwyddiadau dilyuol wedi cyfiawn- hau y gwahaniaeth hwnw, yn hynod boenua mae'n wir, ond yn gwbl derfynol er hyny Y mae Eglwyswyr Cymreig a Seisuig yn awr yn gwybod i'r mudiad hwu gael ei hyrwyddo gan ychydig bersonau ofewnae oddiallan i'r esgobaeth, gydag arncanion a dulliau pa rai yr oeddwn yn dra gwybyddus, ac am ba rai mae y byd yn gwybod rhyw- beth yn awr. Yr wyf wedi ei theimlo yn angenrheidiol i siarad yn hollol blaen un- waith eto gyda golwg ar wir arweinyddion y cynhwrf hwn ae er mor alaethas y bu y process, yr wyf yn cwbl gredu fod ysbryd drwg wedi ei ddynoethi a'i wneyd yn an- alluog i gyflawni dim drwg pellach. Pleser- us ydyw myned heibio i'r petkau poeuua hyn i ail-adrodd drachefe fy nghyfarohiad o groesaw i chwi ac i'r holl gofebwyr hyny ydynt wedi ysgrifenu i ofidio am a diar- ddelwi y digwyddiadau hyn. Yn awyrgylch gliriedig y dyfodol, gadawer i ni, fy mrawd- glerigwyr, gario ymlaen ddyledswyddau ein galwedigaeth uchel gyda nerth ac egni ad- newyddol. Ni fydd yr hyn a ddigwyddodd heb ei fendith dan orchudd. Efe a ddug i mewn i'n gwaith berthynas fwy iacb usol, cydweithrediad cyflawnach a mwy cyd- gordiol, a mwy o gyd-ymddiriedaeth wedi ei glirio oddiwrth bob min amheuon.' Ar derfyn atebiad yr Esgob, yr holl gofebwyr presenol a ddiolchasant yn gynes iddo am y derbyniad roddes efe iddynt, a gofynasant i'w arglwyddiaeth eu gollwng ymaith gyda'i f endith.