Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Anffawd Genedlaethol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Anffawd Genedlaethol. Teimlif tristwch cyffredinol drwy y wlad a'r ymherodraeth benbwygilydd oherwydd fod iechyd y Prif Weinidog wedi pallu dros enyd, yr hyn sydd wedi ei ot fodi i drosglwyddo i Mr Balfour, am yr amser presenol, y gwaith pwysig ynglyn a'r Swyddfa Dramor. Y mae pawb, gan nad pa blaid y perthynant iddi, yn hyderu y bydd i'r gwendid oddi- wrth yr hwn y dioddefa Arglwydd Salisbury, fel canlyniad yn fwyaf neill- duol i'w ymgysegriad i ddyledswyddau ei swydd ddyblyg fel Prif Weinidog ac Ysgrifenydd Tramor, ymadael ag ef yn 0 fuan, ac y gwelir ef eto draclefri yn ei gyflawn arfogaeth cyn pen hir amser. Gwyddis mai anweithgarwch yw y mwyaf blinderus o bobpeth i'n Prif Weinidog gweithgar a llafurns. Gweithiwr caled, yn ystyr fanylaf y gair, ydyw penaeth teulu hanesyddol Cecil ac nid yw yn gyfrinach yn y Swyddfa Dramor, ei fod yn ym- gymeryd yn bersenol ag wmbredd o waith a addewir yn gyffredin i is-raddol- ion, a'r hwn, yn bendifaddeu, allesid ei adael yn llonydd gan wladweinydd sydd yn cyfuno dyledswyddau dwy safle drwm- Iwythog o gyfrifol yn ei berson ei hun. Pan y mae yr ellyll anwydwst yn gosod ei grafangau ar ddyn sydd yn meddu ar gymaint o waith caled, ac o bryder di- baid Ardalydd Salisbury, nid yw ond peth i'w ddisgwyl fod yn ofynol i'r claf gymeryd gorphwysdra fel amod anheb- gor am ddiangfa o'i bawenau, gan hyny, nid oes yr un rheswm dros ryfeddu at balliant rhanol Arglwydd Salisbury dros amser. Ond tra y mae ei hawddgarwch per- sonol a'i ymroddiad gwladgarol i wasan- aeth y Wladwriaeth wedi enill i Ar- glwydd Salisbury serch ei ganlynwyr ei hun a pharch ei wrthwynebwyr gwleid- yddol, y mae rhesymau ereill paham y rhaid i ni oil dddymuno am ei adferiad buan, y rljai a fynegwyd gan Arglwydd Rosebery yr wythnos ddiweddaf. Nid gormod ydyw dweyd fod Arglwydd Salisbury yn sefyll, drwy gydsyn- iad cyfltredinol, ar lwyfan uwch mewn perthynas ag arweiniad materion tramor nag unrhyw wladweinydd Prydeinig arall sydd yn fyw. Y mae ganddo, fel y ddywedodd Arglwydd Rosebery, 'brofiad dihafal braidd o faterion tramor," ac felly, pan y mae wrth y llyw, teimla y genedl fod ganddi wladweinydd yno y gellir ymddiried, yn ngeiriau Arglwydd Rosebery, ei fod yn deall ei waith yn well na neb arall. Hwyrach, pan y temtir rhai ohonom gan arddangosiad o ochelgarwch ar ran Arglwydd Salisbury sydd yn ymddangos yn ormodol, i hiraethu am wladlywiaeth fwy anturiaethus, nad ydym yn dal mewn cof fod ganddo ef, pa un a yw ei farn yn iawn ai peidio, lawer gwell moddion i ffurfio barn gywir nag sydd gan neb o'i feirniaid. Yn wir, nid oes unrhyw ddyn yn y wlad, a dim ond un ddynes-ein grasusaf Frerhines-a all drafod materion tramor gydag Arglwydd Salisbury oddiar brofiad ohonynt cyfartal iddu ef. Y mae hon yn ffaith y byddai yn dda ei chadw mewn cof. Modd bynag, os oes unrhyw adeg ag y buasai yn ofidus fod Arglwydd Salisbury yn cael ei orfodi i ymneillduo o arwein- yddiaeth y Swyddfa Dramor, y mae am- gylchiadau y sefyllfa ryngwladwriaethol bresenol yn ein cyfiawnhau i ystyried ei absenoldeb fel anffawd genedlaethol. Nid oes genym air i'w ddweyd yn erbyn Mr Balfour, gan fod ei gyfeillach adna- byddus a'i berthynas yn sicrwydd digon- ol y bycfd iddo wneyd ei oreu i lanw lie Arglwydd Salisbury fel y mynai iddi gael ei llanw. Er hyny, y mae cynifer o futerion mor bwysig i ymdrin a hwy ar yr adeg bresenol fel y gellir dweyd na fu gan arweinyddiaeth llywottrefn Brydeinig erioed fwy o anhawsderau a chyfrifoldeb i gyfarfod a hwynt. Dyna un rheswm pellach paham nas gellir heb- gor Arglwydd Salisbury. Y mae ei archwaeth wancus at waith wedi ei allu- ogi i gadw rheolaeth ar yr holl edefau yn nghenglyn dyrys Uysgenadaeth mewn ffordd ag y cenfydd Mr Balfour yn hynod anhawdd ei efeJychu. Ac ni raid dweyd mai dyrysu fwy-fwy wna y ceng- lyn yn absenoldeb Arglwydd Salisbury. Mae ein cydymgeiswyr tramor yn gwyl- io, a gellir disgwyl y cant hwy eu cyf- leusdra yn ein hanffawd ni. Yn wir, mae yr hen frawd Kruger eisoes yn ym- ddangos megis wedi dyfod i'r pender- fyniad y gall gymeryd gafael ar yr ach- lysur presenol i ymwrthod a Chytundeb Llundain, gan obeithio fod dwylaw Lloegr eisoes yn ddigon Hawn i ganiatau iddi amddiffyn ei hiawnderau a'r cledd. A gellir disgwyl yn hyderus y bydd i wledydd eangach nag a lywodraethir gan Arlywydd Kruger ei ddilyn mewn ffyrdd gwahanol. Nid yw Rwsia na Ffrainc yn ddifater i'r ffaith fod yr Ys- grifenydd Tramor yn gystuddiol. Am ba achos, yn y cyfwng difrifol presenol ar faterion cenedlaethol, y mae yr holl Ymherodraeth Unedig yn edrych ymlaen yn awyddus at ddychweliad Arglwydd Salisbury i'r swydd ag y mae yn an- mhosibl i neb arall ei llanw fel efe.

Yr Helynt Chineaidd.

--AFIECHYD ARGLWYDD SALISBURY.

YMDRAFODAETH YNY SENEDD.

YR EGLURHAD YN Y SENEDD.

Masnach Lo y Deheudir. --

CYNWYS I AD.

Marwolaeth Arglwydd Cawdor.