Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Nodiadau Cyffredinol.

Coleg Dewi Santo

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Coleg Dewi Santo Y DDADLEUFA GYMRAEG.-Cynhaliwyd cyfarfod o'r Gymdeithas hon nos Fercher, dan lywyddiaeth Mr. T. G. Jenkyns, pryd y cafwyd papurau hynod ddyddorol ac laddysgiadol gan Mr. R. H. Roderick ar "Ddewi Sant"; Mr. J. If or Jones ar "Edmwnd Prys," a chan y Parch. Charles Renowden ar "Goronwy Owen." Cymer- wyd rhan hefyd gan Mr. B. P. Jones, B.A., Mr. Ben. Roberts, Mr. E. T. Jonee, Mr. C. Reee, Mr. L. J. Edwards, Mr. Dalis Davies, Mr. M. B. Morgan, a'r Athro R. H. Richards, M.A. Chwith gennym ddweyd fod rhai o'r efrydwyr oedd yn dathlu Gwyl Dewi Sant gyda, ni ddwy flynedd yn ol heddyw. yn gorwedd yn naear (oer) Ffrainc. C.E.M.S,-Nos Sul, yn Nghapel y Coleg, cynhaliwyd cyfarfod o'r Gym- deithas hon, pryd y cafwyd anerchiad gan y Prifathro Joyce ar "The Holy Spirit4 and the conviction of righteousness." DYDD GWYL DEWI SANT .-Am wyth o'r gloch caed gweinyddiad o'r Cymun Ben- digaid, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Athro R. H. Richards, M.A., yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. W. LI. Foot, man. M.A. Am 11 gwasanaethwyda, phregethwyd yn Gymraeg gan yr Athro Richards. Cymerodd ei deetyn o Psalm 144. 15, "Gwyn eu byd y bobl y mae'r I Arglwydd yn Dduw iddynt." Yn ystod y gwasanaeth canwyd Einyn priodol i'r dydd, y geiriau o waith J. Holt Newell, gynt o Goleg Dewi Sant,- "Cod eta gewri yn ein plith, Defnyna arnom nefol wlith, Adfywia dy wywedig blant Cysegra'n geneu i Dy glod, Par lor i Goleg Dowi'n fod Yn lan yn bur fel oes ein Sant." YR An. SUL YN Y GARAWYS.—Llafar- ganwyd y gwasanaeth ym Mhoncarreg gan Mr. C. Rees, a. phregethwyd gan Mr. E. T. Jones. Ym Mhentrebach, darllenwyd y gwasanaeth gan Mr. T. G. Jenkyns, a Z7, 1 phregethwyd gan Mr. Ben. Roberts. Darllenwyd y Ilithoedd yn Eglwys y Plwyf yn Saesneg gan Mr. B. Roberts, uc yn Gymraeg gan Mr. L. J. Edwards.

Llythyp Llundain.

Yn Nyffryn Teifl.j

Advertising