Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL. I GORWEN yr aeth yr hen ftyl genedlaethol eleni-ar lannau Dyfrdwy yng ngwlad hanes- yddol Owen Glyndwr. Ynghanol amgylch- iadau ffafriol dros ben y cynhaliwyd y gweith- rediadau—yn llythrennol yng ngwyneb Haul, llygad goleuni; ac er gwaetha'r pris- lau teithio, tyrrodd y torfeydd i fwynhau wythnos Ion yng nghyfeillach y celfyddydau cain. Dyma'r Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ar ol adferiad heddwcb, a chyn- ysgaeddai hyn ddefod yr Orsedd a gysylltir &'r enw a mwy o ddiffuantrwydd nag a ellid ddisgwyl yn ystod y pedair blynedd diweddaf. Yn ystod y pythefuos hwn hefyd, cynhelir oyfarfodydd yr Ysgol Haf Gymraeg yn Aber- ystwyth, dan nawdd Cymdelthas yr Iaith Gymraeg ac Undeby Cymdeithasau Cymraeg. Yma y daw athrawon ac athrawesau'r ysgol- Ion i'w hyfforddi yn egwyddorion yr hen famiaith, ac i fyned adref drachefn i gyfrannu eu gwybodaeth i'r to sydd yn codi-i hyfforddi Cymru Fydd ymhen ei ffordd. Ond i ddychweiyd at yr Eisteddfod. Yng nghanol berw byd a'r cyffro cyffredinol ni ddiangodd y sefydliad hynafol hwn yn ddisen. Clywir beirniadu o'r tu aHan yn gystal ag ar y llwyfan o'r tu mewn. Hontia'r Eisteddfod feirniadu celfau cenedl y Cymry, ond bellach beirniedir y belrniaid hwythau. Ac nid syn mo'r sennu chwaith. Pan yw popeth yn y pair, a son am "atgyweirio" a "diwygio" ar bob Haw, ni wiw disgwyl diangfa i'r Eistedd- fed. Clywyd godwrf o wersyll yr anfoddlon- wyr bellach er ys blynyddoedd, a cheisiodd yr Orsedd ryw ddeng mlynedd yn ol ddyhuddo rhyw gymalnt arnynt, gan drwsio peth ar ei harholiadau am aelodaeth ynddi. Ond eleni daeth y rhyferthwy anferth ar warthaf y sefydliad, a diau y gwelwn y can- lyniadau ymhen talm o amser. Dyma'r Proff. W. J. Gruffudd o Gaerdydd o flaen Cymdeithas y Cymmrodorion yn gwrthgyfer- bynnu hen ddiwylliant gwerin y wlad a diwylliant newydd coeg-falch yr ysgolion a'r colegau. M611 ac addoli eilun Addysg ddigymar Cymru fu gwenieithwyr y genedl yn ystod y deng mlynedd ar hugain diwedd- af—yr addysg fydol faterol a gyfrennir yn yr Ysgolion Sir a Cholegau'r Brifysgol-plentyn Rhyddfrydiaeth arwynebol ail banner y XIXedd gaurif. Ond siotnodd yr eilun ei addolwyr, ac yr ydys yn dechreu sylweddoli mal cyfundrefn estronol ydyw, yn tagu crefydd a gwladgarwch, ac yn digenedlaetholi Cymru. FeUy y daw amser a'r ddial ar addolwyr y delwau. Drachefn dyma "Welsh Outlook" mis Awat yn dweyd y drefn yn llym am yr Eis- teddfod hithau. Y mae'r Parch. David Davies, Penartb, a'i arfau wedi eu gloewi yn y gad yn erbyn yr Eglwys, yn ymosod yn ffyrnig ar Gymdeithas yr Eisteddfod, gan ddinoethi ei musgrellnl a'i bwnglerwaith. Ceir ysgrif decach a chymesurach gan Feriah ar ragoriaethau a diffygion yr Eisteddfod. Olrheinia'r diwygiadau a wnaed yn ei threfn- iadau ddeng mlynedd ar hugain ytt ol, ei sef- yllfa bresennol a'r diffygion aeilw am ddiwyg iad eilwaith. Rhaid peidio gadael yr Eis- teddfod i ddirywio.a myn'd yn Gyngerdd Cystadlu anferth, megis y tuedda i fyn'd fwy fwy bob blwyddyn. Dyry Mr. L. J. Roberts ganmoliaeth ddigymysg i'r Gymanfa Ganu a gafwyd fel atodiad i'r Eisteddfod ery flwydd- yn 1916. Awgrym Mr. Lloyd George oedd y Symanfa, megis befyd cynnal yr *yl yn ystod y Rhyfel. Yn ystod y 12 mlynedd diweddaf, Mr. Lloyd George fu arwr yr Eisteddfod, a I gwnaeth ei bresenoldeb ar y llwyfan gryn lawer, i chwyddo'r gwyddfodolion, ae, wrth gwrs, i chwyddo'r derbyniadau arlannol ar yr un pryd. Pa hyd y pery yn arwr gwlad a llwyfan 1 Ni wyddis, ond barna'r Welsh Outlook" nad ydyw eto wedi llwyddo i godi cofadail annillan a diddarfod iddo ei hun. Igam ogam mal g*r bonheddig tua'r nef fu ei rcdfa hyd yn hyn. Boed hyn fel y bo, el greadigaeth ef yw'r Gymanfa Ganu, fel atodiad i'r Eisteddfod Genedlaethol, a barna Beriah fod eisieu'r gyllell arni, i dorri'r ddafaden wyllt ymaith, am ei bod yn bygwth, bywyd yr Eisteddfod. Cyfeirla at ddigwyddiadau anhyfryd ac ym- ddygiadau anweddus a welwyd yn Birken- head ac yng Nghastell Nedd—pethau sydd yn dueddol i ymlynu wrth gymanfaoedd ar y goreu, ond sydd yn anocheladwy ynglyn a. tbyrfaoedd wedi ymgynnull er mwyn rhial- twch a phobpeth ond addoliad. Drachefn dyma Llew Tegid yn galw am ddiwygiad ynglyn â'r Mesurau Caethion, a'r Orsedd yn galw am ragor o arian i dalu ei threuliau ynglyn a'r gwisgoedd. Ac ar ben y cwb], dyma Mr. G. J. Williams, M.A., Cymrawd Prifysgol Cymru, yn cyhoeddi yn y Beirniad "—enw aethus-annilysrwydd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, ac mai Iolo Morganwg a ffugiodd yr holl gyfundrefn— Derwyddou, Ofyddion, Coeibren y Beirdd, Peithynen a'r cotafarwms i gyd Torrodd y dymestl o ddifrif! Cyfeillach o gydganmol- wyr a chlymblaid gwenieithwyr—dyna ddis- grifiad y Welsh Outlook o'r Eisteddfod fel y mae, a geilw am y pair puro i'r Orsedd, Cymdeithas yr Eisteddfod a'r cwbl. Ef allai y daw Ercwlf i buro yn y Barri y flwyddyn nesaf.

4.. CYMONI CAMWRI, -

Eisteddfod Genedlaethol Corwen.…