Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

IGlyntawe.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

I Glyntawe. I Dathliad DYDD YR Heddwch. Dydd a I hir gofir yn yr ardal dawel hon ydoedd Sad- wrn, y 19eg o Orphenaf, pryd y daeth torf luosog ynghyd gyda'r amcan i gydnabod Rhagluniaeth ddaionus am roddl i'n gwlad a gwledydd ereill y mawr fraint o heddwch, yn derfyn y fath ryfel a'i holl erchyliderau, ac fel y mawr obeithiwn, nas gwel y byd eto y fath alanas. Cyfarfyddwyd yn Eglwys Callwen am 2 o'r gloch yn y prydnawn. Yr oedd yr Eglwys yn orlawn, a llaweroedd y tuallan yn methu cael lie. Cafwyd gwasan- aeth hwyliog, a chanodd y cor yr anthem, God shall wipe away all tears yn chwaeth- us iawn. Pregethwyd yn hynod briodol i'r aohlysur gan y Parch. A. E. Lewis, rheithor Llanrug. Gwedi canu yn Anthem Genedl- aethol, fiurfiwyd yn orymdaith o'r Eglwys i'r Ysgoldy gerllaw. Aelodau yr Ysgol SuI yn blaenori, a'r faner yn chwifio gyda hyfryd- wch. Cafodd pawb eu diwallu a'u llwyr foddloni gan y wledd o de a danteithion ar- Iwyedig iddynt. Treuliwyd y gweddill o'r dydd yn dra difyrus mewn cae cyfagos. Awd trwy restt faith o wahanol chwareuon, yn ateb cylch y plant a'r bobl ieualnc. Aeth pawb adref wrth eu bodd. MARWOLABTH. Ynghanol ein bywyd yr ydym mewn angau." Pa mor wirioneddol » threiddgar y daw'r ymadrodd hwn in hanes, a brofwyd yn ddiweddar yu y cylch yma. Trist iawn yw genym gofnodi am farwolaetb ein brawd hynaws a ffyddlon, Mr. John Parry. Cyfarfyddodd idamwain pan wrth el waitb, yr hyn mewn yehydig ddyddiau a drodd yn angeuol. Teimlir eolled mawr a lie gwag mewn llawer modd ar ei ol. Gwas- anaethodd fel arolygydd yr Ysgol Sul yn Pen- wyllt am amser maith. Efe hefyd oedd Ysgrifenydd Cyngor Plwyfol yr Eglwys. Yr oedd yn blaenorl gyda phob mudiad da yn yr ardal. Claddwyd ei weddillion marwol ddydd Gwener, Gorffenaf 18fed, yn mynwent Rhydybriw, a chafodd angladd gwir barehus- Gweinyddwyd yn yr Eglwys ac ar lan y bedd gan y Parchn. D. Hughes, Callwen; fl. Hughes, Trallong; E, Jones, Rhydybriw, A. E. Lewis, Llanrug. Gadawodd dad a mara, chwaer, a llawer o bertbynasau ereill mewn galar ar ei ol. Na thristewch fel rhai heb obaith dros y rhai a hunant ynddo Ef." Nawdd dwyfol fo dros y teulu ar perthynasau oil. -D.H.

RHIWMATIC.

'j Y Mesur Newydd. -

Eglwysi Cymreig Llundain.