Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Heddwch y Byd. .

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Heddwch y Byd. EI BROBLEMAU A'l ANHAWSTERAU. Atgofir ni o'r naill ddydd i'r llall gan yr hyn a gymer le ar y Cyfandir nad yw Problemau mawr Heddwch y Byd hyd yn hyn wedi cael eu datrys, el anhawsterau wedi cael eu symud, na Heddwch wed! cael ei sefydlu ar seiliau cedyrn a pharhaol, Onl bae fed y Oenbedloedd wedi treullo eu nerth, wedi colli eu hanadlj yn y Rhyfel Mawr, buasai yr aughydfodau sydd yn bod rhyngddynt yn eu gyrru eto i yddfau eu gilydd. Erysygwanc am gael bod yn uchaf, y rhaib am awdurdod, & thrawsarglwyddiaeth, ac am feddlannu tlriogaethau eu cymydogion, fel cynt. Oyfyd amheuaeth mewn llawer eyleh am ooestrwydd Prydain Fawr el hun. Er eln bod mewn heddwch o ryw fath a Rwsla, er fod Rwaia yn un o'n Cynghreirlaid yn y Rhyfel, yr ydys wedi gwario elsoes, o fewn ] corff y flwyddyn hon, yn agos i bedwar ugain miliwn o bunnau ar ein Byddin ni yn Rwaia. Mae costau'r wlad hon yn awr, or fod y Rhyfel drosodd mewn enw er's tri chwarter blwyddyn, tua phedair miliwn a haner o bunau'r dydd. Saith miliwn o bunau'r dydd ydoedd adeg poethaf y rhyfel llynedd. Cyhuddir adrannau pwysig o'r Llywodraeth o wastraffu arian y cyhoedd yn afradlon a diraid o hyd. Ac nid oes a ddywed Na wrthynt. Wynebir yr Arlywydd Wilson yn yr America gan anhawsterau a gwthwynebiad mawr a ohyndyn yn el ymdrechion i sefydlu Heddwch y Byd. Gwir mai pbliticaidd yw y gwrthwynebiad yn el amcan—y "Gwerin- wyr (Republicans) yn ceisio ffordd i gael yr oruwebafiaeth ar y Democratiaid, ao felly i gael swyddi'r Wladwriaeth iddynt hwy fel plaid. Ond dengys ar ba fath seiliau sigledlg y gorffwysa Heddwch y Byd hyd yma. Yr oedd Rwmania yn un o'r gwiedydd o'n hochr ni yn y Rhyfel, yn y cytundeb "Heddwch" arwyddodd hi fel un o'r Cynghreiriaid. Eto mae yn gwerthredu yn awr yn hollol groes i'r amodau a arwyddwyd ganddi, yn torri y cytundeb, yn ceisio traws- feddiannu eiddo a thlriogaeth ei chymydog- ion mor digywilydd fel y gorfu i Brydaln a Ffrainc ei rhybuddio y dadweinient y cledd i'w herbyn os na pheidiai wneuthur drwg. Er fod miloedd yn marw o newyn yno, gorfu i Mr. Hoover, Rheolwr y Bwyd dros America, atal danfon defnyddiau bwyd i'r parthau lie mae Byddin Rwmania yn trawslywodraethu. Tybiai'r Byd fod y. Rhyfel a yggydwodd holl orseddfeinciau Ewrop ne& syrthio o'u brenhinoedd, a'u Hymerawdwyr a'u Caiser- iaid, wedi gosod terfyn ar Frenhin- iaethau yn y gwledydd hynny, ac y caffai'r Werin bellach fod yn ben. Dyna un o amodou pendant, Wilson yngtyn a gwneuthur heddwch a Germani: Ond gweHr ymgais ar ol ymgais I ail-godi gorseddfainc, i adsefydlu brenhiniaeth, ac i osod gwlad a gwerin o dan lywodraeth teyrnwialen rhai o ddisgynyddion y TenIu- oedd Brenhinol a ddygasant y fath wae ar fyd cyfan drwy eu huchelgais melltigedig. Daw ffeithiau o'r diwedd yn hyspys sy'n dangos yn amlwg y fath felltith i'r byd yw Rhyfel-hyd yn ced i'r gorchfygwr. Enill- odd Ffrainc yn y Rhyfel-ond mae poblog- aeth Ffrainc heddyw yn bedair miliwn yn llal nag ydoedd ddechreu y Rhyfel! Soniwyd llawer yng Ngbwrs y Rhyfel am orchest- ion Byddinoedd yr Awyr. Ceir syniad gwan am y peryglon ofnadwy yn y brwydrau yn y oymylau pan ddeallwn fod tri o bob pump o'r Ffrancod a berthynent i Fyddin yr Awyr, wedi cael eu lladd neu eu elwyfo yn y Rhyfel. Ac eto,. yngwyneb y ffeithiau ofnadwy hyn ceir llawer mewn awdurdod yn y gwledydd nad yw eu syched am waed gwerin Byd wedi ei ddiwallu gan yr afonydd o hono a dywallt- wyd.

Ystrad.I

Llanbedr-pont-Stephan.

Dydd y Plant.