Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Y BRIFYSGOL I'R BOBL

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y BRIFYSGOL I'R BOBL DYMA ddelfryd Syr Henry Jones i Gymru, ac ar y testun hwn y bu yn traethu yn Eisteddfod Corwen, Gorfolwyd llawer ar y gyfundrefn Addysg uwchraddol a adeiladwyd yng Nghymru yn ystod y deng mlynedd ar hugain diweddaraf. "Datgysylltwyd Addysg oddi wrth Grefydd er y flwyddyn 1870, a byth oddi ar hyny, bu blaenoriaid y gened! yn syllu ar y gorchest a gyflawnwyd mewn perlewyg, gan wahodd pawb a ewyllysient fod yn wladgarwyr i blygu glin i'r ellun, a gweiddi, Mawr yw Diana yr Ephesiaid Ond yn ddiweddar ymaflodd cryn fesur o am- .iieuaeth ym meddyliau goreuon y genedl am berffeithrwydd y peiriant a ddyfeisiwyd i godi'r hen wlad yn ei hol i Eden dawn a daioni, Cydnabyddir fod gwallau a diffyg- ion dybryd yn y gyfundrefn Addysg, a gwei y llygadgraff fod tuedd gref ynddi i ddi- grefyddoli a digenedlaetholi'r hen wlad. Yn wir wedi syrthio'r cen oddi ar lygaid yr addolwyr, difenwir a sarheir gwrthrych yr addoliad, a dichon y cawn fyw I weled sefydl- iadau addysg y wlad yn cael eu gwarthnodl fel Yr Hen Estrones." Felly y daw rbod amser a dial yn ei thro. Datgysylltu crefydd oddi wrth lywodraeth, addysg a diwylliant y genedI-dyna gri cynbyrfwyr aflonydd dros! dri chwarter canrif. Ond bellach, Atgysylltu yw sain yr utgorn. Ymgals Syr Henry Jones yw "cysylltu addysg a chrefydd yn fwy agos fel ag i eangu dylanwad y naill a'r lIalLJI Tystia nad yw'r colegau yn ddigon agos at y bobl. A'r bai am hynny, eb efe, yw bod yr eglwysi wedi colli gafael ar y bobl ieuainc," Ond atolwg, wedi creu cyfundrefn addysg ddigrefydd os nad yn fynych yn wrthgrefydd- ol, a magu plant Cymru am haner canrif yn y crud gwrthnaws hwn dan ofal llygfam hagr ymbryd yr oes "-pa beth ellid ddisgwyl yn amgen 1 Chwareu teg i'r "eglwysi"- chwedl dynionacb difeddwl diweddar. Pan aeth tywysogaeth Cymru yn gynhysgaeth i etifedd Coron Loegr, ceisiwyd cywiro anhap ei eni trwy ei roddi dan ofal mamaeth Gym raeg. Ond yng nghyfundrefn addysg Cymru Sydd, gwelwn ddodi etifedd gwetin Cymru dan ofal mamaeth Saesneg. A byn a wnaed gan garedigton a gwladgarwyr hunan-hysbys. ebol Cymru ei hun. Ond myn Syr Henry Jones ddiwygiad. Un allan o bob mil, o drigolion Cymru, eb efe, sydd yn derbyn addysg uwchraddol. Mae arnaf fi eisieu i bawb ei chael. Dyna'm harwyddair: Y Brifysgol i'r Bobl." JCnyn- odd y Worker's Educational Association ei edmygedd, ond myn ef gynllun gwell i Gymru. Myn ef i wieng a bonbeddig gael addysg. Yn wir, myn ddileu dosbarth fel na byddo eisieu s6n mwyacham wreng a "bonheddig." Pa beth yw ei gynllun, ynte? Gwneud yr "eglwysi" yn ddolen gydiol rhwng y Brifysgol a'r Bob!. Crefydd sydd i fod yn gyfrwng gras. Y gyfundrefn oreu yn y wlad yw eiddo'r "eglwysi." Rhwydwaith yw hon yn cyrraedd pob cwr o'r wlad. Gwlr pob gair am drefniadaeth yr Hen Fam Eglwys. Delfryd Syr Henry yw "agor neuadd ymhob pentref He y gall pawb a ddewiso glywed darlithiau o'r brif-ysgol gyda'r nos trwy'r gaeaf am dair blynedd. Byddai gan Gymru, felly, yr addysg oreu yn y byd." Dyma ddelfryd ein cyd-wladwr hyddysg hyglod, Syr Henry Jones. Nid oes dim yn anymarferol ynddo. Y mae y peirlanwaith anhebgorol yn barod ymhob plwyf, fel y dywed Syr Henry. Cytunwn yn galonnog ag 'It ef pan dystia y dylasai crefydd ofalu am I addysg iawn i'r bob!, oblegid crefydd bia I addysg." Syniadau cynnefin ddigon i Gymro o Eglwyswr, ond athrawiaeth a wadwyd yn gyndyn gan Ymneilltuwyr gwleidyddol am dri chwarter canrif. Datgysylltu crefydd oddi wrth bob diwylliant fu'r newyddion da olawenyddmawr"abregefchwydganddynthwy. Crefydd bia addysg ebe Syr Henry, ac yn ddyled arni ofalu am addysg iawn i'r bobl. Dyna gred a gweithred yr Eglwys i lawr trwy'r canrifoedd, nes ei liuddias gan gen- figen wleidyddol. Ategodd Dr. Cernyw Williams ddelfryd Syr Henry. Eb efe Y mae ar Gymry eisieu dau beth pwysig iawn —diwylliant addysg a chrefydd uchel. Mae'n bosibl cael gwlad alluog heb grefydd, a gwlad grefyddol heb addysg. Paham na all Cymru gael y ddau ? Paham yn wir ? Atebed y gethernj gyndyn fu yn datgys- ylltu crefydd oddi wrth addysg a phobpeth. Na'm twyller serch hynny, gan uniongred- edd un neu ddau o ddychweledigion. Lief un neu ddau yn llefain yn anialwch Ymneill- tuaeth gul a rhagfarnllyd ydynt. Pery y cyndynrwydd gwrth-grefyddol yn el rwysg a'i rym ymhlith yr hen ddwylo." Yr un wythnos yng Nghorwen, adseiniwyd a phwys- ceisiwyd syniadau Syr Henry Jones gan Undeb y Cymdeithasau Cymraeg. Beiwyd yr Y sgoIion Sir am feithrin diwylliant estron- 01 ac anghymreig. Amheuai Major Goronwy Owen, D S.O., a oedd y genedl mor ddiwyll- iedig ag oedd hi banner can' mlynedd yn ol, ac yn ddibetrus, dywedai nad oedd y genedl yu fwy crefyddol nag ydoedd ugain mlynedd yn ol. Yn ei farn ef, yr anffawd fwyaf a ddi- gwyddodd i Gymru oedd cau allan addysg grefyddol o'r ysgolion elfenol fel canlyniad Act 1870. Ar hyn, neidiodd Mr, Llewelyn Williams ar ei draed yn ddigllon, gan ofyn a oedd hwn yn destun priodol i'r cyfarfod, ac yn haeru na ddylai fod unrhyw gysylltiad rhwng cref- ydd a'r Wladwriaetb, ac na chyfaddefai fod addysg grefyddol yn bwnc gwleidyddol. Ymyrrai Datganiad yr Undeb a phynciau gwleidyddol, ond anwybyddai bynoiau cref- ydd a moesoldeb, gan anghofio fod diwylliant cynhenid Cymru yn seiliedig ar ei chrefydd. Ofnwn felly, er gwaethaf edifeirwch rhai o oreugwyr Cymru, na argyhoeddwyd eto yr Ymneilltuwyr gwleidyddol penboeth o gyfeill lorni eu ffydd. Ond buan y gelwir arnom fel Eglwys a chenedl o Gymry i benderfynu pa fath addysg a gyfrennir I Gymru Ffydd, a pha ddiwylliant a etifedda ein plant. A chroesawn ddatganiadau Syr Henry Jones ac eraili fel argoelion am loewach nen" i addysg Cymru, lie y goddefir i Haul Cyf- lawnder i dywynu yn ddiwarafun ar ddiwyll- iant a datblygiad ein cenedl.

DIWEDD Y FRWYDR.

[No title]