Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
I Heddwch y Byd. | .
I Heddwch y Byd. | EI EROBLEMAU A'l ANHAWSTERAU. MELLTITH Y CYTUNDEBAU DIRGEL. 1 Dro ar ol tro yng Nghwrs y Rhyfel, am- lygwyd yn y LLAN y perygl i Werin y Byd a orweddai yng nghudd yn y Cytundebau Dirgel a wnaed rhwug gwlad a gwlad, a "■ rhwng cenedl achenedI, cytundebau na wydciai'r byd ddim am danynt, na wyddai y I hyd yn oed trigolion y gwledydd eu hunain ddim am danynt, na wyddai neb ond ychydig o bersonau yn Llywodraeth y gwledydd cyn- I wysedig yn y cytundeb ddim am danynt. Ac eta ymddibynai Heddwch y Byd yq ami ar y Cytundebau hyuy. Drwyddynt yn ami gwerthid cenedl yn gaeth i fod yn ddeil- iaid Llywodraeth a rail, trosglwyddid tir- iogaeth gwlad gyfan i ryw wlad arall heb ofyn caniatad deiliaid y naill na'r llall. Un o amcanion mavr proSesedig y Rhyfel o'n tu ni oedd gosod terfyn bytbol ar y cytundebau dirgel hyn, ac ar y posibilrwydd o'u parhau. Drwy gytundebau dirgel o'r fath y gyrwyd y byd i ryfel yn 1914. Con- demnid hwynt yn ddiarbed gan bawb a ddymunai sefydlu Heddwch y Byd o hyn allan. Yn eu dirgelwch, yn y gwaith o gadw ynghudd eu darpariaethau, y gorweddai eu perygl. Pe y gwneid eu cymwys yn hysbys i'r byd, naill ai ni allesid byth eu paslo a'u cadarnhau, neu tynasid o honynt y S, colyn angeuol a gynhwysid ynddynt. 0 dan Gyfansoddiad Cyngrair y Cenhedloedd gwneir pob cyfryw Gytundeb Dirgel rhwng y naiil t wlad a'r llall yn y dyfodol. yn anghyfreithlon a dirym. BUOM YMRON COLLI Y RHYFEL. Gall darllenwyr Y Llan sylweddoll pwysig- rwydd y mater hwn pan ddeallanfc ddarfod i ni ymron golli y Rhyfel, a syrthio yn ysglyf- aeth i'r Caisar drwy Gytundebau Dirgel a wnaed gan Brydain ei hun a'l Chynghreiriaid tra yr oedd y Rhyfel ar waith. Ar waethaf pob proffes gwnaeth Prydain, a Ffrainc, a'r Efdal, a Rwsla, a Japan, ac eraill o'r Cydwled- ydd oeddent yn ymladd yn erbyn Germani, Gytundebau Dirgel yn ystod y rhyfel, cytun- debau a beryglent Heddwch y Byd pan elai y rhyfel heibio, ac a fygythiant Heddwch y Byd heddyw, Y FFEITHIAU NOETH. .0 Yr oedd y ffeithiau yn hyspys i gylchoedd neilltuol ym Mhrydain a gwledydd eraill er's tro. Ond yr wythnos ddiweddaf y gwnaed hwynt yn hyspys i'r byd. Trwy yr Arlywydd Wilson, ac o'r America, y daeth y wybodaeth i'r wlad hon. Pan ymyrrodd yr America yn y Rhyfel, ac y trodd mantol y brwydro mewn canlyniad o'n tu ni ni wyddal yr Arlywydd ddim am y Cytundebau Dirgel a wnaed adeg y Rhyfel rhwng y wlad hon a gwledydd eraill-Cytun. debau a drossddent bob proffes a wnaed gan ein Llywodraeth ni ac eiddo gwledydd eraill pan yn cyhoeddi rhyfel. Drwy y Cytundeb- au hyn trosglwyddwyd gwlad a chenedl heb eu caniatad, i Genedl a Llywodraeth arall. Nid rhyddhau cenhedloedd caeth oedd hyn, eithr yn unig newid y meistr, Mae yn dra thebyg, yn wir, ymron yn sicr, pe y gwypu- asai yr America am fodolaeth y Cytundebau hyn ar y pryd, na fuasal hi wedi dod allan i frwydro o'n hochr ni. Yr oedd ei holl amcan wrth ddod allan i ryfela drosom ni a'n hachos yn groes I amcanion y Cytundebau dirgel hyn. Yr oedd Pedwar Pwynt ar Ddeg Wilson yn eu hanfod yn groes i ddarpariaethau y Cytundebau hyn. Pan gyfarfyddodd efe a. Mr. Lloyd George ac â. Chenhadon Ffrainc a'r Eidal oddeutu'r bwrdd yn y Gynhadledd Heddwch ar ol gorohfygu o honom Germani, y cafodd efe wybod gynfcaf am danynt. Bod olaeth y Cytundebau dirgel hynny a wnaeth | y gwaith o drefnu amodau heddwch mor j anhawdd, ac y aydd gyfrifol am yr oediad | anerferiadwy y pryd hwnnw, yn y gwaith o drefnu amodau heddwch. Gwrthwyneba America yr awr gynwys rhai o'r Cytun debau hynny, Bygythia rhai q arweinwyr America wrthod cadarnhau y Cytundeb Heddwch o herwydd hynny. Os daw i hynny, gwneir Cytundsb Heddwch Paris yn ddirym I -ac ni bydd Heddwch y Byd yn bod. A i hyn oil am fod arweinwyr y gwledydd wedi torri eu gair, wedi twyllo'r Werin, ac wedi i gwneud Cyttindebau Dirgel a gondemniasid ganddynt gynt. r-
Yn Nyffryn Teil. I
Yn Nyffryn Teil. I (GAN JOHN Y GWAS). GOBBITHLU.—Bu plant gobeithluoedd Pen- boyr, St. Barnabas, Henilan, Llandyfriog, Bangbr, Llanfairorllwyn, a Llangynllo yn cadw eu gwyl flynyddol elenl yn eglwys Llan- gynllo, pryd y cafwJd gwyl Iwyddianus iawn. Holwydy plant, a rhoddwyd anerchiad gan y Parch. D. J. Evans, Aberporth. Ar- weinydd y gan oedd Rheithor y plwyf, a'r organyddes oedd Mrs. Jones, Ficerdy. Cafodd yr ymwelwyr garedigrwydd mawr yn y lie. I PENBOYR—Dydd Sadwrn, Awst 16eg, bu plant St. Barnabas ar wibdaith i Ceinewydd, He y cawsant fwynbad diwrnod difyr. Gofal- wyd am danynt gan y Parch. D. Jenkins, rheithor; Mr. John Jones, Pencerryg; Mrs. Jenkins, Rheithordy; Mrs. Davies, Derwen- las; Miss Jones, Spring Miss Jones, Goitre; Mrs, Hugh Lewis, Cawdor Mills; Mrs. Owen, Dan warring Miss Jones, Bargod Mills, a Miss Evans, Glanrhyd. PEBSONOL.—Da oedd gan ei gyfeillion ami weled y Parch. D. J. Williams, B.A., ficer penodedig Aberdyfi, ar dro yn yr ardal. I Llongyfarchwn ef ar ei ddyrchafiad. COFFA.- Yr wythnos ddiweddaf, yn Glan- awmor, Ceuartb, bu farw y Parch. David Jones, B.A., cyn-reithor Bangor Teifi a Hen- Ilan, yn 78 mlwydd oed. Dydd Sadwrn, 23ain, .claddwyd ei weddillion marwol yn myawent St. Barnabas. Gwasanaethwyd gan y Parchn. G. Evans, D.G., Castell- newydd Emlyn; D Jenkins, Penboyr; W. J. Evans, Llanfairorllwyn E. 0. Jones, Llan- gynllo; E: J. Davies, Bangor, a J. R. Jones, Cenarth. Y prif alarwyr oed-dynt: Miss Jones (merch); Mr. Musgrove, Merthyr, a Mr. W. L. Davies, Henfryn Mills Brodor o Felindre oedd yr ymadawedig, a chafodd gwrs hynod o Iwyddianus yn Ngholeg Dewi Sant, He y graddiodd yn 1865. Efe oedd prif- ysgolor y coleg, a chadwodd ei efrydiaeth yn loyw drwy ei oes. Dyma el yrfa eglwysig:— Curad Bodedern, 1865--1871 Llangelynin, 1871-1872; Llangiwc, 1872—1885. Bu yn rheithor Bangor Teifi a Houllan am 27 mlynedd. Cymeriad di-weniaith a di-ragrith ydoadd, ond sirlol ei groesaw i bawb bob amser. Huned mewn hedd, a nawdd y nef fyddo yn ddiddanwch i bawb o'r galarwyr.
Llanbedr-pont-Stephan.
Llanbedr-pont-Stephan. Y iF ARCHNADFISOL. — Tra yr ydoedd digonedd o berchyll yn cael eu cynyg ar werth yn y farchnad fisol ddydd Liun am o 3p. 5s. i 3p. 15s. y pen, ychydig brynwyr a ddaethant ynghyd, ac araf iawn ydoedd y fasriach. Gwerthid lelr byw am o 4s. i 8s. y cwpl. Y CARCHARORION GERMANAIDD.-Dywedir y bydd y carcharorion Germanaidd sydd yma er's amser yn cael eu rhyddhau yn fuan, ac yu dychwelyd i'w gwlad: Hyd y deallaf, mae eu hymddygiadau wedi bod yn lied dda ar y cyfan, a chawsant ymddwyn atynt yn llawer gweH nag a gafodd ein carcharorion ni yn Germani. YMWELWYR.-BLI yma nifer fawr o ymwel- wyr yn mwynhau eu hunaln yn ystod y tymor, ond y mae y rhan fwyaf o honynt wedi dychwelyd i'w cartrefl.-X.
Advertising
Y LLAN A'R DYWYSOGAETH. (Tlzo Church and Principality). OFFICIAL ORGAN OF THE CHURCH IN WALES. I PUBLISHED EVERY FRIDAY. SCALE OF CHARGES I FOR PREP AID ADVERTISEMENTS TUESDAY MORNING is the latest time for receiving advertisements for insertion in the current number. The Terms for TRADE ADVERTISEMENTS, single column are as follows :— 6 insertions, 2/- per inch per insertion. 13 insertions, li6 per inch per insertion. 26 insertions, 1/- per inch per insertion. 52 insertions, 9d. per inch per insertion. PUBLIC AMUSEMENTS. Bazaars, Concerts, Eisteddfodam, Shows, Sports, Religious Services, Lectures, &c., Is. per inch per insertion. AUCTION AND PUBLIC NOTICES. y (Legal, Municipal, Parochial, aad Educational) Tenders, Contracts, &c., 1/6 per inch per insertion. ELECTION ADDRESSES. (Parliamentary and Municipal). Prospectuses of Public Companies, 3/6 per inch per insertion PARLIAMENTARY & Government Notices, 5s. per inch per insertion —SPECIAL PREPAID CLASS- I Such as Apartments To Let or Wanted and Miscellaneous Waais, No. of One Three c.. Words. Insertion Insertions bix Ifisertions* s. d. s. d. s. d. 20 I 6 2 6 4- o 20 1 6 2 6 4 0 30 1 9 2 10 4 6 I 40 20 3 6 50 V 50 2 6 I 46 6 o Every „ additional 4 ° I O 8 words, a words, j If cash is not sent with order, 25 per cent. will 1 be added to the above scale of charges. r1 Double Column Advertisements are charged jl twice the above rates. TELERAU AM Y 11 LLAN." Un copi yn wytbnosoi, is. 8c. y ehwarter. j Dau „ „ 3s. 4c. „ Tri, Pedwar, Pump, a Chwech, yn ol ic. yr an. Saith i II copi (drwy y Post) 100 y dwsin. Deuddeg ac achod, gc. y dwsin. Taliadau i gael eu gwneyd ar dderbyniad biliau ar ben bob cbwarter. (Ptdwerydd Argraffiaa. Yr Vgeinfed Fil). HAWL AO ATEB i Blant bach yr Eglwys AR Y Greadigaeth a Chwymp Dyn A Bywyd Boreuol ein Harglwydd lesu Grist." 6 AN Y PARCHEDIG A. OWEN EVANS, B.A. (Gynt Arholydd Esgobaethol, bangor), a Rheithor LlanfaetMn, 1/2 y dwsin drwy'r post. Rhaid anfon Blaen-dal gyda'r archeb. 't> MANAGER, CAXTON HALL, LAMPETER.