Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Sydynrwydd y Terfyn. -

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Sydynrwydd y Terfyn. Rhyfedd gyflymed y mae pethau cysyllt- iedig a'r Eglwys wedi bod yn symud yn ystod y dyddiau diweddaf yma. Ymddangosai ysgrif wythnos oed ar dudalenau newyddiad- ur wythnosol fel adsain o hen fyd. Felly: hefyd y bu yngtyn a therfyn y rhyfel fawr Ewropealdd. Un dydd ymddangosai Ger- j mani yn anorchfygol, y dydd canlynol crynai yn Ymerodraeth fawr hono, a'r trydydd dydd yr ydoedd ar y llawr, yn ddiymadferth; y pedwerydd dydd yr ydoedd y rhyfel drosodd. Yn haues brwydr fawr Dadgysylltiad a Dadwaddoliad fyr Eglwys, daeth y dlwedd bron gyda sydynrwydd y fellten. Wythnos i heddyw yr ydoedd y Mesur i wneyd terfyn arni, yn Nàý y Cyffredin, wedi hyny bu yn Nh., yr Arglwyddi, yna gyrwyd ef yn ol i Dy y Cyffredin, ac oddiyno drachefn i Dy yr Arglwyddl, yna, unwaith' eto i'r Ty Isaf. Wedi hyny drachefn, aed &g ef ger bron y Brenin, ac wele ef heddyw ar Ddeddf-Iyfr y Deyrnas, -yu rhati o Gyfraith Prydaln Fawr, o'r cwbl droaodd. Nid oes bellach ddim i'w wneud ond aros yn amyneddgar i ddisgwyl yr 3 lain o fis Mawrth nesaf, er gweled y Ddeddf newydd yn cael ei gosod mewn gweithrediad. Eisoes y mae yr Eglwys wedi ei gorohfygu ac ar y dydd olaf o Fawrth ysbellir hi. Oddiar gyhoeddlad y rhyfel, ryw haner can' mlynedd yn ol, y mae dyfroedd lawer wedi llifo o dan bontydd ein gwlad. Y mae llu o ymosodwyr creulawn, ac o amddiffyuwyr aiddgar, wedi disgyn i ddistaw fedd. 0 bw I. pudau Ymneillduol, ac oddiar lwyfanau dad- gysylltlol y mae celwyddau fyrdd wedi eu traethu, a llysnafedd Iawer-cynyrch llid a malais anghymodlawn—wedi ei chwydu. Y mae tunellu o bapyr, a barllau a inc wedi eu defnyddio. Y mae arian anghredadwy, ac amser anmhrisladwy wedi eu gwario. Y mae moeaoldeb wedi ei threisio, a chrefydd wedi el cblwyfo. Yn nglawra blynyddoedd y brwydro, y mae. angylion wedi cael achos i synu, a chythreullaid wedi cael achos i greoh- wenu. Y mae dynioa duwiol wedi cael achoa i wylo, a dynton annuwiol achos i lawenychu. O'r diwedd wele y rhyfel drosodd, ond yn anffodus fe erys y canlyniadau. Bydd y tfrwyth yn ganfyddadwy yn mhen oesoedd yn mywyd cymdeithasot, moesol, a chrefydd- ol y genedl. Teimla Eglwyswyr eu bod wedi derbyn cam. Teimla Y mneillduwyreu bod wedi cyflawni camwri. Telmla Eglwyswyr eu bod wedi bod yn wrthryehau oasineb llid- log. Telmla Ymneillduwyr fod eu casineb wedi esgor ar anghyfiawnder anfad. An- hawdd fydd i Eglwyswyr faddeu, anrahosibl fydd i Ymneillduwyr gymodi. Oedir adundeb orefyddol y genedl, a gwneir gweddi fawr Archoffelriadol Pen yr Eglwys yn aneffeith- iol, fel y byddont oil yn uu, megis ac yr ydym ninau yn un." Ond ar wahan 1 fywyd Crefyddol y genedl, eelr gweled y ffrwyth yn tyfu mewn cyfeir- ladau ereill hefyd. Yn wir, gwelir ef eisoes. Fel hyn yr ymresyma y glowyr heddyw, Os ydyw yn ngallu y Llywodraeth I gymeryd ymalth eiddo yr Eglwys a'i drosgtwyddo I feddiant y Cynghorau Sirol ac awdurdodau y Brifysgol, paham nad ydyw yn ngallu y Llywodraeth hefyd i gymeryd ymaith y royalties o feddiant y tirfeddlanwyr a'u tros- glwyddo 1 01 Ie, fel yna yr ymresyma y glowyr, a phwy a all eu bela f Yr un ydyw yr egwyddor yn y ddau achos. Nid gwiw i ml, nac i neb arall, i bregethu nad cyfiawn ydyw cymeryd ymaith eiddo un dosparth o bobl a'i roddi i ddoaparth arall. Etybyglowr a'r llafurwr fi yn gegrwth eu gwala mai cyfiawn ydyw, a bod Llywodraeth y wlad elaoes wedi cydnabod cyfiawnder yr egwyddor drwy gymeryd eiddo yr Eglwys a'i roddi i'r Cynghorau Sirol. Pa hawl sydd gan y tir- feddianydd i'r mwnau sydd yn nghrombil y ddaear f Nid efe aiogosododd yno, ac nid ydynt wedi costio dim iddo. Y cam nesaf fydd maentumlo mat nid y tirfeddianydd ydyw percheuog y coed sydd yn tyfu ar wyneb ei dir. Nid efe .a planodd, ac nid efe a barodd iddynt dyfu, a chan fod eu j hangen yn y gwaith glo, cyfiawn ydyw i'r glowr i'w cael. Prynu tir, ac felly ddyfod yn dirfeddianwyr, ydyw uchelgais amaethwyr Cymru y dyddiau hyn. Yn ngwyneb yr egwyddor newydd yma, gwell fyddai iddynt bwyllo, Un o'r dyddiau nesaf, bydd y glowyr yn galw ar y Llywodraeth i basio deddf i'w difeddianu o'r mwnau o dan y ddaear, ac o'r coed ar wyneb y ddaear. Nid hawdd fydd i'r Llywodraeth i wrthod y cais, a hi eisioes wedi cydnabod yr egwyddor. Anghysondeb fyddai i'r Llywodraeth ganiatau cais yr Ymneillduwyr i roddi eiddo yr Eglwys i'r Cynghorau Sirol, a gwrthod rhoddi eiddo y tir feistri i'r glowyr. Wedi cael y mwnau, a'r coed beth fydd yn atal crlbddeilio y tir hefyd ? Fel yma y mae y Ddedf i ladrata eiddo yr Eglwys wedi agor cil y drwa i ddryg- au lawer. Ond i ddychwelyd i'r fan y dechreuwyd y llith hwn, yr hyn aydd yn synu llawer o honom ydyw sydynrwydd y terfyn. Rywfodd disgwy lIem I fwy oddiwrth ein harweinwyr. Nid ydym yn eu beio, am nad ydym mewn sefyllfa i wybod yr oil o'ramgylchiadau, ac y mae ein hymddlriedaeth ynddynt yn ddigon cryf i'n galluogi i gredu iddynt wneyd eu goreu. Tebyg iddynt wneyd mwy nag a amlygwyd ar y wyneb. Ar yr un pryd y mae yna deimlad cryf ymhlith cyfangorph Eglwyswyr- Cymru fod gair o eglurhad yn ddyledus oddiwrth arweinwyr y gad. I ddefnyddio term cerddorol y mae y frwydr wedi terfynu yn rhy flat i foddloni Eglwys- wyr ffyddlon Cymru, Dlsgwyliai y rhai hyn fwy o din cyn i'r arfau gael eu rhoddi o'r nellldu. Ffyna teinalad arall eto,-teimlad sydd wedi cynyrehu cryn dipyn o anesmwythder yn nghalonau Eglwyswyr Cymru-na dder byniodd yr Eglwys Gymreig yn nydd ei cbyfyngder y gefnogaeth a haeddai oddlar ddwylaw eu brodyr Saesaeg. Yr ydoedd nifer digonol o Eglwyswyr yn y Senedd i sicrhau cyfiawnder i'r Eglwys yu Kghymru, ond gydag ychydig eithrladau anrhydeddus,— teulu y Cecils yn benaf,-mud fu y rhai hyn. Eto, i gyfangorph Eglwyswyr Cymru, y mae ymddygiad Mr. Bonar Law yn anespon- iadwy. Pan allan o swydd bu y boneddwr hwn yn amddlffynydd aiddgar i'r Eglwys, ie, yn y dyddiau hyny aeth mor bell a datgan yn gyhoeddus y byddai iddo ddiddymu y ddeddf anghyfiawn os byth y pesid hi. Hyd yn od y dydd o'r blaen pan adgofiwyd ef o hyny gan yr Arglwydd Hugh Cecil cyfaddefodd ei fod yn parhau i gredu mai deddf anghyfiawn ydyw, ond er hyny, cefnogodd hi, a thrwv wneuthur hyny gosododd ei sll ar anghyf- iawnder. Ryw ddydd,-oyn hir gobeithio,- ca Eglwyswr ffyddlawn Cymru eglurhad ar y dirgeledigaethau hyn a'u cyffelyb. Yn y cyfamser, bydded iddynt feddianu eu heneidiau mewn amynedd," gan gofio nad ydyw yr Eglwys ei hunan wedi cyfnewid dim. Yr un Eglwys fydd hi ar ol ei dadgysylltu a'i dadgymalu a'i dadwaddoli ag ydoedd cynt. Corph Crist," "Gwralg yr Oen fydd hi yn y dyfodol megis yn y gorphenol. ELIPHELBT.

Ystpad Meurig.

RHIWMATIC. --.

Deoniaeth Twrcelyn.