Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YR ELW A'R GOLLED.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR ELW A'R GOLLED. LLEF OLAF Y LLEW. Ofer dadl gwedi barn." Dyna'r hen air ddaw i'n meddwl wrth gnoi oil ar y digwyddiadau diweddar mewn perthynas i gysylltiad yr Eglwys yng Nghymru &'r Wladwriaeth. Distawodd twrf. yr arfau a bloeddio'r ymladdwyr, a bu tawel- wch mawr. Braidd yn annaearol yw'r distawrwydd ar ol swn byddarol y rhyfela, a chymer beth amser i ymgynefino â'r awyr- gylch newydd. Darfu bugunad gwrdd deirw Basan a gylchynasant yr Eglwys, ond pery'r Llew i ruo yn awr ac yn y man yu y psllter. Y dydd o'r blaen oyfarfu cynhadiedd y Radicaliaid yn Llandrindod, a chelsiodd Breuln y Bw ystfilod" vrru ei arswyd ar y menagerie, a chael ganddynt gario pleldlais o geryad llym yn erbyn y Prif Wemidog a'r aelodau Seneddol Cymreig a gefnogodd y Mesur diweddaf ynglyn a. Datgysylltlad Ond yr oedd ya amI wg fod y Llew wedi colli el frenhiniaeth, ac ni chafayd ond efe a'i was bach i godi eu dvy,o o blaid y cynygiad. Llew yn rhuo yng nghanol unigedd ,y diffaethwch ydoedd, heb neb yn talu sylw o gwbl iddo. Nid ydyw namyn adsain wan o'r hen ryfelgri a fn yu hudo gwerin Cynaru ar gyfelliorn, ac wedi colli el hen allu i wefreiddio a thanio'r dyrfa frith i ymosod ar Hen Fam ysbrydol y genedl. Amlwg fod yr hen ddadl wael wedi Ilwydo a mynd yn ddiflas ar ben ugain mlynedd o'r ugeinfed ganrif, sawra o wleidyddiaeth gul canol oes Victoria—oes yr antimaccasars a phethach o'r fath; ond diameu y gwel y Llew a'i dras drwy'r hen spectol sectyddol—canys byr ei olwg yw ei fawrhydi-" Ichabod yn ysgrifenedig ar holl wleidyddiaeth Cymru o hyn allan, Ac felly y gadawn ef-wedi ei, lygairythu gan gyhyr- aeth Gee a'r tadau, gan ochneidio yn ddwys am y gogoniant a ddiflanwyd a rhoddi atnbell i ruad ofer am yr ysglyfaeth a ddiangodd o'i grafangau rheibus. Bellach, bydd wycb, 0 Lew yn ffau dy fethiant, canys cauwyd dy safn a Daniel a ddaeth allan, os uad yn gwbl ddianaf, eto heb f w Y o niwed na. rhwygo rywfaint ar logell ei lodrau. Ffarwel yr hen gyfaill mwyn, myfyria yri dy ffau am Haman a'i grocbren, am Ddatgysyllfclad a'th orchest- ion llewaidd yn y gad er 's lawer dydd." DIODDEF YN LLAWEN.—le, "ofer dadl gwedi barn." Am dri chwarter canrif par- haodd yr ymgyrch wrth-Eglwysig. Diddorol yw oymharu tynged yr Eglwys fel y'i ceir ar y Slain o Fawrth, 1920, a'r driniaeth a arfaethwyd iddi yn ol rhaglen yr ysglyfaeth- wyr yn oes yr antimaccassars, Dycfowyd Datgyssylltiad yr Eglwys yng Nghymru gyntaf ger bron Ty'r Cyffredin yn 1870- hanner can' mlynedd yn ol—yn union ar ol Datgysylltu Eglwys Iwerddon—gan Mr Watkin Williams, Cynygiwyd penderfyniad- au cyffelyb yn 1886, 1889, 1891, 1892 ac 1893. Yna yn 1894 daeth "Suspensory Bill Mr. Asquith ofiaen y Ty. Ni chlywyd dim am y mater wedyn hyd fesurau 1909 a 1911. Ac yn ddiweddaf oU, wrth gwrs, cawaotn Actiau 1914 a 1919. Yn y Billau cyntaf, celsiwyd ysbeilio Rawer mwy o eiddo'r Eglwys nag yn y rhai olaf. Er engraifft, yn 1891, yr oedd yr eglwysi cadeiriol a'r eglwyst plwyf i'w dwyn oddiar yr Eglwys a'u gwneud yn (I elddo cenedlaethol." Yn nhreiglad y blynyddoedd, lllnlai-wyd ysfa y rheib- wyr, fel yn y diwedd, diadga'r Eolwys heb golli mwy o'i heiddo na Y,50,000 y flwyddyn. Colled gymharoi feohan ydyw hon, 4'i ohymharu i'r hyn allasai fod. Nid <- oes rhaid diolch am hyn i'r Datgysylltwyr, canys canlyniad amgylchiadau ydyw yn annibynnol ar y naill blaid na'r llall. Fel y pwysleisiodd Arglwydd Esgob Tj Ddewi yn ei araeth yn Nhy'r Arglwyddl pan ddaeth y Mesur olaf ger bron y Ty, eiddo dilys yr Eglwys yw'r swm a ddygir oddiarni. Paham I gan hynny y cydsyniodd blaenoriaid yr Eglwys &'r Mesur 1 Fel y sylwyd gan Arglwydd Salisbury, yr oedd y Llywodraeth wrth drngaredd yr Esgobion, mewn perthyn- as i weithrediad Act 1914. Ond, serch hynny, nid hyfryd meddwl am ymladdfa newydd a gwastraffu nerth ac adnoddau ysbrydol am dymor maith eto-ef allai am hanner canrif arall. Gweilgytuno i'r gwrth- wynebwr ar frys tra fyddys yn y ffordd gydag ef. Gwell dioddef cam na gwneud cam. ■ Gellir pwysleislo iawnderau yn ormodol ar draul esgeuluso dyletswyddau. Dyuia duedd yr 'oes. Yn y cyfelriad yma y mae cenlli gref yn lJifo, gan fygwth ysgubo popeth o'i blaen, a boddi Prydain Fawr megls Cantre'r Gwaelod gynt. Liuosog heddyw epil Seithenin feddw a droes y mor dros y tir." Rhaid i'r Eglwys bwysleisio dylet- swyddau hytraeh na iawnderau, ar air ac ar weithred hefyd. Gall ymwrthod a'i chyfiawn hawliau, a chymeryd ei hysbelllo o'i heiddo yn llawerj. Dyraa esiampl i oes y budr-elwa a'r crib-dcleilio, a, phawb yn ceisio eu heiddo eu hutfain. Oni rydd ymwrthodiad yr Eglwys Gymreig a'i chyfiawn hawliau fantaia iddi wrth erfyn ar ei phlant a aethant ar ddis- berod i ddychwelyd drachefn dan ei chrongl- wyd glyd 1 EGLWYS RYDD MEWN GWLAD RYDD.— "Ofer dadl gwedi barn" Ymladdodd yr Eglwys ymdrech deg i gadw'r hen ddelfryd o Eglwys Genedlaetbol a Chenedl Eglwyslg. Dyma ymgais y Tuduriaid ac Act Uuffurf iaeth-dyma freuddwyd Hooker a'i "Eccles iashcal Polity." Ond ni sylweddolwyd y breuddwyd ond mewn rhan, ao yn nhreiglad y tair canrif diweddaf, aeth yu llaiosylwedd ac yn fwy o freuddwyd beunydd. Rhald gwynebu fFeitbiau er eu hallted. Golyga'r Mesur Datgysylltu a Dad waddoll fod Cyrmu yn swyddogol ac yn wladwriaethol yn di- arddel yr Eglwys fel ei chynrychiolydd cre- fyddol. Nid hyfryd g\el'd neb-na dyn ua chenedl-yn ymwrthod a. chrefydd, ac yn benddlfaddeu, a'r Grefydd Gathoiig, ond rhaid, cydnabod, serch hynny, fod rhyddid ewyllys gan y naill a'r llall i wnend hynny. Don- iwyd dyn âg ewyllys rydd gan ei Greawdwr, ac yn bersonol neu yn genedlaethol, gall ddewis neu wrthod arddel crefydd. Fel dinasyddion ac fel Cymry, gofidiwn am wrth gtliad y genedl o'r gorlan Gathoiig. Ond erys comisiwn cenedlaethol yr Eglwys yr un ag ydoedd-ui roddwyd ef ac ni ddiddymir ef gan ddeddfau Senedd gwladwriaeth, Awn. ymlaen megls gyut i ymdrechu i gario allan y comisiwn dwyfol i wneud disgybl- ion o'r holl genhedloedd "—ao yn eu plith o genedl y Cymry. Nid anffawd i gyd i'r Eglwys ydyw ei datgysylltu. Collwu la.-er. Collwn haner can' mn o bunnau'r flwyddyn. Collwn safle, braint, ac urddas y cyssylltiad a'r Wladwriaeth. Ond collodion tymhorol a bydol ydyw y rbal'n. Yr oedd y sefyllfa wedi myn'd yn annioddefol ar lawer cyfrif. Yr oedd y cysylltiad gwladol wedi heneiddio ac yn ages i ddiflannu. Ffugiol oedd y broffes grefyddol genedlaethol ar lawer ystyr, a mwyafrif trigolion Cymru yn gwrthod cydnabod eu Mam Ysbrydol. Bellach ynte, dyma ni yn rhydd "—mor rhydd a'r rhydd- af o'r "Eglwysl Rhydcl-lon hunan-ganmol- iaethus. Rhaid i'r oyfundebau Ymneilltuol chwillo am en w cywirach bellach i ddlsgrifio eu safle. Diflannodd arbcnigrwydd yr enw EglwysJ Rhyddion," canys rhyddion ydym 1 gyd bellach, a dylai'r Mll-flwyddiant fod wedi gwawrio ynol time-table y Liberationist. Canys daeth "cydraddoldeb crefyddol" I breswylio yn eln plith, a "Rhyddion yw'r Eglwysi bob un. Out of date gan hynny yw'r Eglwysi Rhyddion." Ottof dAte hefyd yw'r Eglwys Sefydledig" a'r Eglwys Wladol." Ac eto pery'r Wasg i arfer yr hen deltlau anghywir a chamarweiniol o hy3. Y mae enwau cyfrelthiol a chyfreithlon i bob cymdeithas o ddynion a gydnabyddir gan gyfraith y wlad, a phan yn siarad yn H ddinasyddol" ac yn "wladwriaethol," diameu mai y cyfryw enwau a ddylid eu harfer. Er engraifft, enw swyddogol yr Hen Gorph yw The Welsh Calvinistic Methodist Connexion," a thystla'r enw yn erbyn pob i ymwadlad & delfrydau cyntefig y cyfundeb. Felly, ein henw swyddogol ninnau bellaoh a ydyw The Church in Wales," a diagrifia yn ddigon cywir ein braint a'n sefyllfa hanes- yddol fel Eglwys Gathollg Crist yn efengyl- eiddio cenedl y Cymry. 'i Ond "rhydd" ydym vn ystyr eangaf y gair sydd yn bosibl. Canys yn rhydd ddi- amodol ni allwn, ac ni all neb fod, os am iyw yn y byd o gwbl. Dyma amryfusedd anferth yr Eglwysi Rhyddion Gwnaeth- ant eilun o Ryddid," a molwyd y Baal hwn yn ddibendraw. Bleutheromania-y dolur .j rhydd—yw'r gair. gwyddouol ar y clefyd ■ hwn, a pheryglus yw'r haint o" rhed el gv; rs I yn ddiwarafun. Ond rhald cydnabod bellach fod "cydraddoldeb crefyddol a rhyddid" wedi eu sicrhau i bawb, Eithr rhyddid diamodol nid oes i neb. Rhaid i bob cym- cleithas grefyddol ddod i delerau a'r Llyw- odraeth Wladol os am ddal eiddo a chyfran- ogi o freintiau dinasyddiaeth. Ac felly, wedi darnio'r hen gyaylltiad rhwng yr EglwyS a'r Wladwriaeth, yr ydys trwy gyfansodd- iad newydd yn ffurfio cysylltiad arall ar gyfer y dyfodol.

Llandefeilog.

Advertising