Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

GWASANAETHAU DIOLCHGARWCH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWASANAETHAU DIOLCH- GARWCH (Parhad). Llanfaethlu, sir Fon. I Cafwyd gwasanaethau arbennig yma eleni. Cafwyd gwasanaethau hwylus ym in hoi) modd, o dan arweiniad y Rheithor a'r Parch. J. M. Wright, y Curad. Pre- gethwyd y ddwy noson gan y Parch. T. R. Davies, Ficer Llanfiharigel-y-Creuddyn, Sir Aborteifa; a'r bore a'r prynhawn gan y Parch. R. Jones, Trefdraeth. Pentrevoelas. Ar yr 28ain a'r 29ain o Hydref. Y pre- gethwr neillduol oedd y Parch. G. R. Davies, Corwen; a'r Parch. E. Jones, Portdinsrwig. Yr Eglwys wedi ei haddurno o dan gyfarwyddyd Mr. Dickie, Voelas. Caed cynulliadau da a gwasanaethau llew- yrchus. Llanymawddwy. Cynhaliwyd yr uchod yn Eglwys Tydecho Sant, dyddiau Llun a. Mawrth, Hydref 27ain a'r 28ain. Pregethwyd gan y Parchn. S. Jenkin Evans, Llanwddyn; a Richard Ward, Bermo. Canwyd tair o anthemau yn hynod dlws gan y cor, o dan arweiniad meistrolgar Mr. Edmund Jones. Yr organyddes oedd Miss Bessie Rees. Treuddyn. Dydd Iau, Hydref 16eg, gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid am 8.30 a.m., y Parch. Griffith Williams, Rheithor Llanrwst, yn gweinyddu. Gwasanaeth Saesneg am 3 p.m. a Chymraeg am 7 p.m. Pregethwyd gan Rheithor Llanrwst. Canwyd yr an- themau, O give thanks unto the Lord," (A. E. Sydenham), ac Yr Arglwydd yw fy Mugail (C. Williams). Diolch i'r chwiorydd caredig am addurno yr Eglwys mor brydferth. Cei Newydd. Dydd Iau, yr wythnos ddiweddaf. Y pre- gethwyr oeddynt y Parchedigion T. Madoc Jones, Llandysul; a D. T. Alban, Llan- bedr. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn brydferth iawn gan fonedd- igesau yr Eglwys. Cyfeiliodd Miss Louie Jones ym mhob gwasanaeth, ac yr oedd y canu yn rhagorol. Glasinfryn a Rhiwlas, gar Bangor. Giasinfryn Dydd Sul, am 10 a.m., gwas- anaeth y Cymun Sanctaidd ac anerchiad. Intoniwyd y gwasanaethau drwy'r gwedd- ill o'r dydd gan y Ficer a Mr. Richard Thomas, Lay Reader, a phregethwyd drwy y dydd gan y Parch. John Owen, Llan- dinorwic. Rhiwlas: Nos Lun, 7.15. Aed drwy y gwasanaeth gan y Parch. J. H. Parry, a phregethwyd eto gan y Parch. J. Owen. Odfaon lluosog. Gwisgwyd yr Eglwys gan Mrs. Roberts, Miss Jones, Mrs. a Miss Parry, Miss Matthews, Miss Hannah Griffiths, Mrs. Richard Williams, Mrs. Annie Jones, Parch. J. H. Parry, ac eraill. Yr oedd yr offrymau tuag at y Church Extension Society. Rhwymedig yw diolch i'r ffermwyr, ac eraill, am y blodau tlws, ac amryw ffrwythau anfonwyd i'r cysegr. Ciliau Aeroa. Dydd Mawrth, 21ain, Cymun Bendigaid am 10, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. j H. P. Rees, Rheithor. Traddodwyd anerchiad gan y Parch. E. J. Davies, Bangor Teifi. Am 2.30 p.m., Llafarganwyd y Litani gan y Parch. R. E. Davies, Ficer Llanfihangel Ystrad, a phregethwyd gan y Parch. E. J. Davies, Bangor Teifi. Am 6.30, cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Parch. H. P. Rees, Rheithor, a'r Parch. J. A. Davies, Ficer Llanaeron a Dehewd, a phregethwyd gan y Parch. E. J. Davies, Bangor Teifi. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn ddestlus gan foneddigesau caredig yr Eglwys, a chasglwyd y swm anrhydeddus o .5222 14s. 4d. tuag at gael stove i gynhesu yr Eglwys. Chwareuwyd drwy y dydd gan Miss Evans, Tynant. Dyffryn (Meirien). Nos Fercher a dydd Iau, yr ail a'r drydedd a'r hugain o'r mis hwn, pryd y pregethwyd ar yr achlysur gan y Parchn. D. J. Williams, Aberdovey; a W. J. Williams, Bryncoedifor. Addurnwyd yr Eglwys gan foneddigesau yr Eglwysi. Dat- ganwyd yr antliem, Wele mor ddaion- us," yn rhagorol gan y cor, dan arweiniad Mr. William Jones, a chyfeiliwyd gan Mr. W. Williams, nos Fercher, a chan Miss J. Roberts, dydd Iau. Rhoddwyd yr offrymau i'r Gymdeithas er lledaeniad yr Efengyl, S.P.G.,

FUNERAL OF MRS. C. M. WYNN,…

MR. FRANK MORGAN AT I BRIDGEND.|

EGLWYSI CYMRAEG YN ' I LLOEGR…

AT EIN GOHEBWYR.

Advertising

GWASANAETH NODEDIG.

MANION 0 FON.|