Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

9 erthygl ar y dudalen hon

GWERSI AR Y CATECISM A GWASANAETH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWERSI AR Y CATECISM A GWASANAETH BEDYDD. (Gan y Parch. J. T. Davics, M.A., Ty Ddcwi.) PENNOD XTT.(Parbad). Yn yr anerchiad olaf geir yng ngwas- anaeth y Bedydd fe'n dysgir fod Bedydd yn arwyddocau i nyni cin proffes: hynny yw, bod i ni ganlyn esiampl ein Hiachawdwr lesu Grisb. fel, megis ag y bu efe farw, ac y cyfododd drachefn drosom ni, felly y dylcm ni, y rhai a fedyddiwyd, farw oddiwrthHbechod, a chyfodi i gyfiawnder, gan farwolaethu yn wastad ein holl ddrygioni a'n gwyniau llygredig, a pheunydd myned rhagom ym mhob rhin- wedd dda a buchedd dduwiol." Dyma ddeffiniad prydferth iawn o fywyd y Cristion: a'r geiriau sydd yn galw am sylw yw, gan farwolaethu yn wastad a phcunydd myned rhagom." Ar yr. olwg hon, "myned -r-ha,go,l-i niyiied yn y blaen" ydyw bywyd y Cristion i fod, a hynnv yn barhaus. Ac os yw'r "myned rhagom" i fod yn wir a chywir, y mae'n rhaid dwyn yr hyn a rodded yn y Bedydd i weithio a dylanwadu ar y drwg a'r da yn ein bywyd. Yng ngwasanaeth y Bedydd gwneir cyflawni gwaith y Bedydd mewn bywyd yn destun gweddi. Caniata felly gladdu'r hen Adda," &c. Oddiwrth ta fod i holl chwantau'r cnawd farw, &c." Caniatta fod iddo nerth a gallu i gael yr oruchafiaeth, &c." Oddiwrth y gweddiau hyn (ac oddiwrth yr holl wasanaeth o ran hynny) mae'n amlwg mai nid fel digwyddiad o hwysigrwydd dros dymor yr edrychir ar y Bedydd; ond edrychir arno fel Sacrament, ag y sydd o ran ei amcan; ei effaith, ei ailu, a pharhad ei ras, yn ymweu trwy holl fywyd ysbrydol y Cristion. Fel y nod- wyd uchod, y mae addunedau Bedydd yn dilyn y Cristion o'i gryd i'w fedd. Par- haol hcfyd ydyw gras y Bedydd. Y mae gallu y Cristion i rodio yn deilwng o'i alwedigaeth yn deilliaw oddiwrth ras y Bedydd. Nid cysgod yn arwyddlunio proffes ddynol (ac am hynny, yn am- ddifad o bob gras) ydyw'r Bedydd. Offeryn, neu gyfrwng, effeithiol o drefn- iad Duw i gyfleu gras ydyw: a hynny, er dwyn oddiamgylch y peth mwyaf yn hanes dyh, sef, sancteiddrwydd bywyd. Cysur mawr yw gwybod y rhoddir gras digonol i farw beunydd i bechod, ac i II fyned rhagom" ym mhob rhinwedd dda a buchedd dduwiol." Ar yr un pryd, pwysig ydyw cofio cyngor S. Paul i Timotheus—a gweithredu arno-sef i all-ennyn dawn Duw" (2 Tim. i. 6). Ni all y Cristion wneud ei "fywyd yn fedydd beunyddiol os na wna ail-ennyn dawn Duw, a roddwyd iddo yn y Sacra- ment hwnnw. Heblaw gras y Bedydd, fe roddir gras- usau eraill i'r Cristion er nerthu ei fywyd ysbrydol. Ond pan edrychir ar- nynt hwy yn eu cysylltiad a gras y Bedydd fe welir fod yr un berthynas rhyngddynt ag sydd rhwng ymborth a bywyd naturiol dyn. Y mae y bara beunyddiol" a fwytaw-n yn ein helpu i gyflawni diben bywyd-ein bywyd natur- iol. Y mae pob gras a dderbynir ar ol y Bedydd yn ein cynorthwyo i sylweddoli diben ein genedigaeth ysbrydol. Ar ol ymddihatru y bywyd naturiol o'i holl drwsiadau ac edrych arno yn ei hanfod noeth, nid anhawdd yw gweled mai pwrpas elfennol bywyd natur, drwyddo draw, ydyw -gorchfygu y gallu- oedd sydd yn cydweithio i amgylchu ei ddisystr. Egwyddor gyntaf bywyd yw cynttydd parhaol at berffeithrwydd, ac y inae yr egwyddor hon bob amser mewn perygl oddiwrth amgylchiadau bywyd. Felly yn union ynglyn a'r bywyd ysbrydol. Y mae yna ysbryd drwg sydd fel llew rhuadwy yn ceisio ein dinistrio. Ond pa mor bell bynnag yr ydym wedi syrthio oddiwrth Dduw, y mae ynom ni ryw hiraeth angherddol am rodio'n agos- ach Ato. Ar un llaw, y mae egwyddor y bywyd tragwyddol a blanwyd ynom yn y Bedydd yn galw am gael ei pherffeith- io. Ar y llaw arall, y mae galluoedd y tywyllwch yn ymgrynhoi o amgylch i rwystro hynny. Un o arwyddion bywyd" ydyw cynnydd neu dyfiant. Ond cyn y gellir gwneuthur cynnydd rhaid yw meith- rin "egwyddor" cynnydd. Gwelir hynny yn y bywyd anianol. Mae'n wir hefyd am y bywyd ysbrydol..Pa ras bynnag roddir ar ol Bedydd, diben y gras hwnnw ydyw nerthu ac adfywio yr egwyddor a blanwyd yn yr Enedig- 3.eth Newycld. Ond patrwm y Bywyd Ysbrydol yw y Bedydd, neu fel y dywed y gwasanaeth, Y mae y Bedydd yn arwyddocau i ni ein proffes 0 ddifFyg amser nid wyf wedi traethu cymaint a ddymunwn ar y wers hon. Gofyn y wers am ystyriaeth ofalus a manwl: ond hyderaf fod yr ychydig sylwadau amherffaith uchod yn ddigon i awgrymu i'r darllenydd pa fodd i ddilyn y pwnc ymhellach, a cheisio gweled y berthynas agos sydd rhwng Bedydd a Bywyd. I'r diben hwn, dar- llener gyda gofal y rhannau hynny o Epistolau St. Paul a roddir wrth ben y wers hon. Heb ymdrechu dod o hyd i feddwl yr Apostol ar y pwnc ni fydd unrhyw ymchwiliad wneir yn gwbl gyfiawn. Cvfeiria yr Apostol yn bar- I' haus at y Bedydd fel arwyddlun o'r bywyd Cristionogol; ac i'w ddylanwad ef y ma-e testun y wers yn ddyledus. 0 I herwydd hynny nis gallaf derfynu y wers I yn well na thrwy ofyli i'n darllenwyr i roi sylw manwl i'r hyn a draethir ganddo. Nod. Yn y gyfres o wersi ar y Catecism a Gwasanaeth y Bedydd," ymdrechais ymdrin ag agweddau pwysig y Sacrament mor ymar- ferol ag oedd yn bosibl. Hyderaf fod y gwersi wedi bod o ryw fudd a gwasan- aeth. Cefais bleser mawr wrth eu hysgrifennu, ac os ydy«% wedi bod yn foddion i. helpu athrawon ac ysgol- heigion i wel'd y gwirioneddau sydd yn gysyl-ltiedig a'r Bedydd mewn goleu newydd, bydd fy mhleser yn fwy. Erys eto un Sul cyn dod o flwyddyn yr Ysgol Sul i ben, a gobeithuif y ceir yn y gwersi ddigon o fater i wneud adolygiad ohon- ynt yn "faes llafur" hyd ddiwedd y flwyddyn. N.B. Dylai Undeb yr Ysgolion Sul," ar bob cyfrif, gyhoeddi y gyfres ragorol hon.GOL.

Y GYMDEITHAS GENHADOL EGLWYSIG.

EBION 0 EIFIONYDD.

Advertising

CYFARFOD DEONIAETHOL 'DYFFRYN…

LLANFAIR DYFFRYN CLWYD.

DEONIAETH WLADOL LLEYN. )…

CLYWEDION 0 ORORAU ERYRI A'R…

EGLWYS GYMRAEG ST. PADARN.