21 Tachwedd 1919
Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
........,.....L-t...¿.SJT.L:J..4."..LV-L
5 erthygl ar y dudalen hon
GWASANAETHAU DIOLCHGARWCH…
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
GWASANAETHAU DIOLCHGARWCH AM Y CYNHAEAF. Erfynir ar i'n gohebwyr fod mar fyr ag sydd yn bosibl wrth gofnodi ygwasanaethau uchocL—OOL. Bryneglwys. Yr oedd eira'n cuddio'r ddaear pan gynhaliwyd ein gwyl o Ddiolehgarwch I am y Cynhaeaf eleni, dydd Mercher, y 12fed cyfisol, am 10 o'r gloch. Gwein- yddwyd y Cymun Bendigaid gan y Ficer, .y Parch. Gomer Edwards. Pregethwyd yn y prynhawn yn Saesneg i gynuli- eidfa dda, ac yn yr hwyr yn Gymraeg i Eglwys lawn o bobl gan y Parch. G. R. Davies, M.A., Rheithor Corwen. Aeth Mr. Kyffin Jones, un o'r warden- aid i'w ymofyn yn ei gerbyd, a Mr. David Hughes, warden arall ag ef yn ol i Gorwen yn ei gerbyd. Oawsom wasan- aethau da, gwrandawiad astud, a chanu chalonog. Calonogir ni fod cynifer a 22 gopiau o'r C.P.N. a'r Llan yn cael eu derbyn 1 yn y plwyf bychan, gwledig hwn. Mae Heygwyr darllengar o werth nid bychan. Yspytty Ifan. Gwasanaethwyd gan yr offeiriaid adnabyddus, Parchedigton A. E. Lewis, Rheithor Llanrug, J. H. Rees, Rheithor Rhoscolyn. Cynorthwywyd ein Ficer yn y gwasanaeth nos Fawrth gan y Parch. J. Abel, FiceJlv-Capel Garmon. Cafwyd casgliadau sylweddol, a chyr- haeddodd blychau. Cenhadol y Plant y swm teilwng o £ 2 9s. 4d. Priodol iawn oedd y trefniad i'r plant gyflwyno eu blychau yr un pryd ag off rymau y gynull- eidfa yn y gwasanaeth am 2.30 dydd Mawrth. Addurnwyd yr Eglwys eleni fel arfer gan weithwyr y Voelas o dan ajrolygiajeth Mrs. "Roberts, y Ficerdy. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Mr. Robert Jones, Llanyporth. Cileen. Gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid am 10.30 o'r gloch, pryd y daeth nifer dda ynghyd. Am 3 o'r gloch yn y prynawn. Gwasanaeth yn Saesneg. DarUenwyd y llithiau gftn Major Buddicom, Penbedw. Pregethwyd gan y Parch. W. A. Rees Jones, Curad y Wyddgrug, ar y pwnc o wasanaethu Duw a'r galon a'r pen. Datganodd y cor yr anthem, Food and Gladness" dan arweiniad Mr. J. R. Jones, yr hwn hefyd a rhoddodd wledd i bawb a oedd yn bresenol yn ei ddat- ganiad meistrolgar o'r solo. Am 7 o'r gloch gwasanaeth Cymraeg, pryd y darllenwyd y llithiau gan y Parch. O. G. Pritchard, Rheithor Nannerch, a phregethodd y Parch. R. D. Hughes, Eheithor Derwen, ar y testya "Pa le mae y Naw." Cawsom ddatganiad medrus iawn gan y cor o'r anthem, "Llawenychais pan ddywcdant wrthyf awn i Dy'r Arglwydd." Yr oedd Miss Hayes, ein organyddes, mewn hwyl cam- pus gyda'r organ. Yr ydym yn dra dyledus i bawb a anfonasant roddion tuagat addurno yr Eglwys, sef Mrs. Blackwell (Isfryn), Mrs. Richards (Village), Mrs. Williams (Tanyrhiw), Mrs. Buddicom, Mrs. Bartley, Mrs. Mewton, Mrs. Turner, Mrs. Jones (Ty Ucha'rllan), Mrs. Williams (Tyddyn- ucha), Mrs. Rushforth (Plasnewydd), Mrs. Hughes (Y Gors), Mrs. Jones (Walwen), Mrs. Williams (Village), Mrs. Jones (Red Lion Inn), Mrs. Foulkes Williams, Mr. Jones .(White Cottage), Mr. R. Powell. Ac yr ydvm yn diolch yn wresog i'r boneddigesau aio, eu caredigrwydd yn addurno mor ddestlus yr hen eglwys henafol a godidog:—Mrs. Foulkes Williams, Mrs. Richards, Mrs. a Misses Mewton, Miss Eva Williams, Miss Jones (School House), Andrew Bartley, a llu o'n to ieuanc addawol. Rhoddwyd y casgliadau tuag at yr S.P.C.K. a St. Dunstan's Institute for the Blind. Ychydig yn ol cawsoiii "grant" o Lyfrau Emynau, hen a newydd, a "grant" o £ 5 gan S.P.C.K. tuag at gael ilyfrau i'r Ysgol Sul a'r Eglwys. Can diolch iddynt am ei cymwynas-j garwch. Bryaford. Pregethodd Rheithor Llanrwst yn y ddau wasanaeth, y Saesneg a'r Cym- ] raeg. Cafwyd dadganiad ar yr organ cyn ac ar ol y gwasanaethau gan Miss Florence Edwards (y Ficerdy). Y darnau cerddorol oeddynt Prelude and Fugue C minor (Bach). Rossini's Stabat Mater Arm, arm ye Brave," Handel's march "Warriner." Bylchau. Eglwys St. Thomas. Y pregethwyr eleni oeddynt: Parch. J. G. Roberts (Dinbych), yn y prynawn, a'r Parch. E. LI. A. Jenkins (Llanelwy), yn yr hwyr. Daeth nifer dda ynghyd yn y boreu am 10 i'r Cymun Bendigaid. Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn ddestlus gan Mrs. Rees, Mrs. Evans, Misses Valentine Hughes, a Jones, a Mr. J. Evans (Churchwarden). Diolch i'r holl gyfeillion caredig am eu rhoddion o yd, blodau, a ffrwythau. Llangernyw. Pregethwyr: Y Parchn. R. D. Hughes, Rheithor Derwen; H. R. Hughes, Ficer Abergele, a D. J. Owen Williams, Llanddulas. Cymerwyd rhan gan y Parch. R. Ellis Llansanan; J. R. Jones, Llanfair; D. R. Griffiths, Llan- ddoget; LI. A. Richards, St. George ac H. Lloyd, Llanddewi. Canodd y cor yr anthemau Y Ganaan Glyd (Ambrose Lloyd), "Dyrchafaf Di (Eos Llechid), a I was Glad (Elvey). Addurnwyd yr Eglwys gan Misses M. a K. Jones, a Maggie Wynne, a garddwr Hafodunos. Cafwyd gwyl llwyddiannus ym mhob ystyr. Llangower. Cynhaliwyd gwyl o Ddiolchgarwch am y Cynhaeaf yn Eglwys y Plwyf uchod ddydd Iau y 6fed cyfisol. Gweinyddwyd y Cymun Bendigaid am 10 yn y boreu gan y Parch. J. Darbyshire-Roberts, B.A., Rector, ac am hanner awr wedi dau yn y prynawn, cafwyd gwasanaeth Saeaneg, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Rector, a darllenwyd y Uithoedd gan y Parch. W. Hughes, Ficer Llanuwchllyn, a Deon Grwladol Penllyn, ac am hanner awr wedi chwech yn yr hwyr cafwyd gwasanaeth Cymraeg, y Rector a'r Parch. Lloyd Jones o Wrexham yn gweinyddu, a Mr. Edward Pughe yndarllen y llithoedd. Gwein- yddwyd wrth yr offeryn gan Miss King, Fachdeiliog Hall, yn y bore a'r prynawn, a Mrs. Roberts, Rectory, yn yr hwyr. Cafwyd casgliadau da yn ystod y dydd ar gyfer gwahanol gronfeydd yr Esgob- aeth. Y Parch. Henry Jones bregethodd drwy y dydd. Gyffylliog. Dechreuwyd nos Fercher, y 5ed, gyda'r Brynhawnol Weddi, a phregeth gan y Parch. D. Rees, Rheithor Bylchau, ger Dinbych. Dydd Iau, cafwyd gwein- yddiad o'r Cymun Bendigaid am 8 a.m. ac hefyd ail weinyddiad corawl am 10 a.m. Yn y prynhawn am dri o'r gloeh canwyd y Brynhawnol Weddi yn Saesneg gan Reithor Blychau, a chafwyd pre- geth gan y Parch. R. D. Hughes, Rheithor Derwen. Yn yr hwyr am 7 p.m., gwasanaeth a phregeth yn Gym- raeg, y Parch. R. D. Hughes yn pre- gethu. Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth hwn gan y Rheithor, y Parch. D. Rees, Bylchau, a Mr. Howell Daniel, Denbigh Datganodd y cor yr anthem Deus Misereatur (German), o dan arweiniad Mr. Cadwaladr Evans. A chwareuwyd yr organ yn y gwasan- aethau gan Miss Sallie Evans, Ty- draw'r Llan. Cafwyd cynulleidfaoedd mawrion, yn enwedig yn y gwasanaeth olaf, pan yr oedd yr Eglwys a'r porth wedi eu gorlenwi. Parhawyd yr wyl dros y Sul canlynol, a chafwyd gwasan- aethau bendithiol. a chynulleidfaoedd teilwng. Bendithied Duw yr oil a offrymwyd er gogoniant i'w Enw, a lies Ei Eglwys yn y plwyf. Addurnwyd yr Eglwys yn weddus ar gyfer yr wyl gan foneddigesau o'r plwyf, a derbyniwyd cyflawnder o flodau a ffrwythau oddiwrth blant yr Hen Fam tuag at y gwaith hwn. Birkenhead-St. Winifred's. Pregethwyd yn y bore a'r hwyr gan y Parchedig D. E. Hughes, Ficer Dewi Sant, Lerpwl. Yr oedd yr Eglwys-yr hon oedd wedi ei gwisgo yn hardd a chwaethus-yn orlawn—mewn gwirion- edd gorfu i lawer droi yn ol o'r drws oherwydd diffyg lie yn yr adeilad. Canwyd yr anthem Ystyriwcl^ lili'r maes" gan y cor, a chafwyd rhwng chwech a saith punt o offrymau. Cellan a Llanfair Clydogau. Cynhaliwyd y gwasanaethau ar y 29ain a'r 30ain o Hydref. Pregethw,yr, Parch. J. R. Davies, Llanbedr; a'r Parch. E. J. Davies, Bangor Teifi. Cynulliadau mawr, gwell nag arferol. Gasglwyd tuag at Drysorfa yr Esgobaeth. Addurnwyd yr Eglwys yn ddestlus fel y canlyn :— Cellan, Miss Thomas, Tafarndy; Miss Davies, Llwyn Onn; Miss Rees, Blaon- cwmcoy; a Miss Evans, Rectory. Manfair, Mrs. Morgan, Nantymel; Mrs. Thomas, Esgerddu; Miss Rees, Fron- doifi; Miss Davies, Blaencyswch; Miss Evans, Llanfair Fawr; Miss Jones,. Gelli; a Miss Evans, Cyswch. Glanhawyd rhod- feydd y fynwent gan Mri. Joseph Evans, J.P., Evan Morgan, David Richards, David Jones a Charles Evans. St. Petr, Ceckett, Abertawe. Cynhaliwyd gwasanaethau o ddiolch- garwch am y cynhaeaf yn St. Petr ar y 19eg, 20fed, a'r 21ain o'r mis diweddaf. Dechreuwyd gyda gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid am 8.30 a.m., Cymerwyd y gwasanaeth am 11 gan y Ficer, y Parch. G. Thomas, Llangyfelech, yn pregethu yn Saesneg. Yn y prynhawn, am 2.30, United Service Cymraeg a Saesneg: y Parch. G. "Thomas yn Gymraeg, 'a'r; Parch. Watkin Davies (St. Judes), yn Saesneg. Yn yr hwyr, am 6, gwasanaeth a phregeth yn Gymraeg gan y Parch. G. Thomas, ac yn y Schoolroom, yn Saesneg gan y Parch. G. Price, Penuel, Machynlleth. Nos Lun, yn Gymraeg, a nos Fawrth, yn Saesneg, Mr. Price yn pregethu. Yr oedd y gerdd- oriaeth dan ofal Mr. W. Evans, a chanwyd yr anthemau, We are His Flock." W. J. Ponsonby wrth yr organ. Addurnwyd yr Eglwys yn hynod adclis gan Mrs. Thomas, Mrs. D. Williams, Mrs. Pugh, Mrs. W. J. Ponsonby, Mrs. Gilbert, a Mrs. Bonham. Cafwyd gwasanaethau ardderchog a chynulleidfaoedd mawr. Bydded fod y gwasanaeathau hyn yn lies ysbrydol i ni i gyd.
corrisT" ' 1
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
corrisT" 1 Cynhaliwyd Gwyl Diolchgarwch am y Cynhaeaf yn Eglwys Crist, Upper Corris, nos Fawrth, Tachwedd 4eg, 1919. Cafwyd cynhulliad gwir dda er mor anffafriol oedd y tywydd. Pregethwyd gan y Parch. D. Thomas Jones, M.A., Machynlleth. Arwis- gwyd yr Eglwys gan Miss Griffith, Llian- groes. Yn ystod y pythefnos ddiweddaf mae yr Eglwys yn Corris wedi colli trwy farwol- aeth dau o'i chymunwyr ffyddlonaf, sef Mr. John Parsons, Fronfelen, a Mr. Evan Jones, Garneddwen.
........,.....L-t...¿.SJT.L:J..4."..LV-L
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
.L-t.¿.SJT.L:J..4." ..LV-L<f.FII I PORTHMADOG A'R CYLCH, Diolchgarwch. v Yn ein gwyl o ddiolchgarwch pregethwyd yn Saesneg yn Tremadog: y Sul. am 11 gan Canon J. P. Lewis, M.A., o Lanystumdwy, ac yn y Neuadd Eglwysig am 6.15 gan y Parch. R. C. Jones, B.A., C.F., Criccieth, a'r Jilun dilynol am 10.30 y Cymun Satict- aidd, a 2.30 a 6.30 yr hwyr y gwasanaeth- wyd gan y Parch. W. W. Jones, curad Caernarfon, Ficer penodedig Aberdaron. Church Parade. Prynhawn Sul, Tachwedd 2fed, am 3.30, gorymdeithiwyd gan nifer dda o ddynion y Rheilffyrdd, pa rai flaenorwyd gan Sein- dorf tref Porthmadog, pryd y daeth nifer dda ynghyd i Eglwys St. loan i wasanaeth crefyddol, pryd y cymerwyd rhan ynddo gan y Parch. Rees Howell, B.A., a chafwyd anerchiad o dderbyniad croesawgar i'r Railwaymen gan y Parch. D. Jenkins, B.A., y Ficer. Cyflwynwyd y casgliadau i Gronfa y Railwaymen's Orphanage Fund. Cor Eglwys St. Ivan Gyda gofid yr ydoedd yr arweinydd, Mr. G. Humphreys, yn canfod ei fod yn colli dwy o aelodau y cor, gan fod un yn myned, i Lundain a'r llall i Beddgelert. Yr oedd- ynt yn aelodau gwasanaethgar iawn o'r cor, a rhoddwyd gair o gyngor i'r ddwf gan y Parch. Rees Howell, y curad. GESTIANWR,
AT EIN GOHEBWYR
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
AT EIN GOHEBWYR TEIMLWN yn dra diolchgar am y gefn- • ogaeth ragorol a dderbyniwn gan nifer liosog o ohebwyr o bob parth o Gymru. Ond dymunwn argraffu ar feddwl pawb nad oes gennym ond prin ugain colofn at eingwasanaeth bob wythnos. Y Mae, mil o blwyfi yng Nghymru, ac y mae'n ddyletswydd arnom geisio gwneuthur^ cyfiawnder a phob rhan. Y mae gennym mown llaw ddigon o newyddion i lenwi dau neu dri rhifyn yn llawn-ondni chaniata Gol. y Saeson y pleser hwnnm", inni. Y mae'n ofid inni na allwn gy- hoeddi hanner yr hyn a anfonir i'f swyddfa—yn unig oherwydd diffyg gofódJ Buasai cyfeirio at bob ysgrif a ddaw i law yn Ilenwi colofn—ac ni allwn ei hepgor. Eglur yw y bydd yn rhaid gwneuthur rheolau caeth, a chadw atynt. Hyderwn y gwel ein gohebwyr caredig yl anhawstra'r -ydym ynddo, aic y,eymerant, oil yr awgrym, mor angeurheididl. yik bod yn fyr. Anfoner Erthyglau, etc., i'r Parch. Box Jones, 17 to 21 Tavistock St., LondoD; W.C.2. Anfoner y Farddoniaeth i'r Parch. D. Lewis (Ap Ceredigion), Llansadwrn Rectory* Menai Bridge. Anfoner pob archebion, etc., i Manager, C.F.N: a'r Llan, 17 to 21, Tavitook St.4 London, W.C.2.
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
THOUGHTS for the Let uour A Autumn and for Every i I c Washday.. DC™" |S\ You always reap a full harvest of clean- O LI 1111Q liness with Sunlight Soap. Memory, like L • a granaryr, should be stored full of golden grain. Every day in the week should '] provide a rich harvest of happy moments, 7 i! v the outcome of time and knowledge turned to advantage. There is no reason why washday should not be as bright and as cheerful as other days. It can I be-it should be-it will be if you use the purest L/i it and best of soaps—Sunlight Soap. fj Mi/j Thoughtful housewives use Sunlight Soap, knowing Qciapanfee i that it is made for the housewife's profit, for only of 'PariJy H rl !i 11 thereby can the makers hope to profit by Sunlight on eVery jSai9 j j •f if Soap. Gather in a full harvest of cleanliness jim Jrwlii liMisil fa 9 with Sunlight Soap next washday—no rubbing, j wmMm f no scrubbing. The name LEV.ER,on Soap is a -fm.i'ff/Ivi/ Guarantee of Purity and, Excellence. j/ Arl t t H -i t 's r—a' S B J, SUNLIGHT ShAptei^P 0 LEVER BROTHERS LIMITED, PORT SUNLIGHT. ? < j S Published by the HOME PUBLISHIHG CO., LTD., 17. Taviatook-street. Co vent-gar den, London. W.C. 2. and printed by W. SPEAIGHT mm SONS. LTJ^ Fetter-lane, London. E.C. 4.-November 21. im.