Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
12 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HYSBYSIADAU Cyhoeddir Hysbysiadau yn Ye BRYTHON CYMREIG ar Y TELERAU RHAD CANLYNOL cQyhof,dYs' 16c. y llinell y tro. Cyrreithiol, a Seneddol j J Arwertliiadau 3c. HvsbvsiarKu (Yn ol trefniant, yn ymddibynu M'Sm \ar eu safle> nifer y troion y Masnachol ] cyhoe(idir ilwynt, maintioli, &c. TELERAU NEILLDUOL AM FLAEN-DAL Am Hysbysiadau vn dal\ 20 gair neu lai, cysy'llti' d a Swvddi „ Unwaith, 6c. neu Leoedd, yn Eisiau. Yst-n-feilcedd, Tai, Tir. yn „ Tair gwaith, Is. Oc. Eisiuu, ar Osod, neu ar 1 Wertli. j » Chwecli Is. 6c. Miisiiiich, Stoc, Podrefn, Pe;rianau, neu fan Am bob 10 gair ych- be'Jiau, ar Werth, neu wanegol, lmner y yn eael eu cynyg al* Hury prisoedd uchod. Ki chyhoeddir Hysbysiadau yn dal perthynas a Iihedegfeydd, <iambi o, Hapchwareuon, Cyfferi Crach-fwddygon (eithrir Cyfferi Breintiedig da eu gair), Arian Fenthycwyr, "Proffeswyr y Gelfyddyd Ddu," neu ryw hysbysiad arall o natur wrtbwynebol, ar unrhyw delerau. Cyfleithir Hysbysiadau Saesonaeg, os bydd galwad am hyny, yn rliad. Danfoner pob Gohebiaethau ae Archebion, mor gynar yn yr wythnos ag y byddo modd yn gyfeiriedig Y RHEOLYDD, WELSH PRESS OPFICE, liAMPETEB.
Advertising
ADVERTISEMENTS Advertisements will be inserted in ye BRYTHON CYMREIG at the following CHEAP SCALE OF CHARGES Parliamentary, Law, and) 6d. per line per inser- Public Notices J tion. Sales 3d. do. do. Trade (By arrangement, according to Advertisements P°sition- number of insertions, (space required, &c. SPECIAL PREPAID RATES For Advertisements ie-\ 20 words, [ ferring to Situations, „ One insertion, 6d Wanted, or Vacant Apartments, Houses, or Three, „ lB.Od. Land, Wanted to Let, I for Sale f „ Six Is. 6d. Businesses, Stock Furni- ture, Mahinery, or Mis- Every additional 10 cellaneous Articles for words, half the above Sale or Hire. J prices. No Advertisements relating to Racing, Gam. bling, Lotteries, Quack Medicines (except Patent Medicines of good repute), Money Lenders, Astrologers," Fortune Tellers, or others of an objectionable character will be inserted upon any terms. English Advertisements will be translated, if required, free of charge. All Communications and Orders should be ad- dressed, as early in the week as possible, to THE Manaobb, WBLSH PRESS OFFICB, Lampbteb.
PYNCIAU'R DYDD: DETHOLION…
PYNCIAU'R DYDD: DETHOLION O'R WASG GYMREIG. Y Gymraeg. Yn y Celt am Ionawr laf, ceir ysgrif ddyddorol gan y Prifathraw M. D. Jones ar Genelaeth Gymreig." Dywed ;— "Mae llawer o Die Shon Dafyddion. oherwydd eu hysbryd gwrth-Gymreig yn Dicsiona llawer y dyddiau hyn drwy barhaus draethu fod y dilyw Seisnig yn dyfod ar draws ein gwlad, ac yn debyg o'i chyfoddi, fel ag y bydd ein cenelaeth yn fuan wedi ei ordoi a difodiant o dan ei donau anwrth- wynebol. Y gwir yw, y mae ein bodolaeth cenelawl yn gwbl yn ein llaw ein hunain, a'r Cymry eu hunain sydd yn troi aberoedd lawer i chwyddo y cenllyf Seisnig, ac yn prysur agor llifddorau i'r rhyferthwy lifo i fewn. Os bydd rhyw groten o Gymraesjunieithog wedi dygwydd myned i wasanaeth am ychydig fisoedd yn Lloegr, a dysgu Saesonaeg, fel pob caethes, bydd yn falch o wisgo cadwyni y gorthrymwr, drwy barhaus siarad iaith y Sais goresgynol, a chyda chyndyn- rwydd y sieryd ei hiaith ei hunan, a gofala na chaiff iaith ei gwlad ddim dyfod ar ei haelwyd, ac yn mawredd ei balchder a'i phenglogrwydd Dic- shonawl diderfyn cyndyn atalia y G-ymraeg i fod yn iaith teulu. Os masnachwr fydd y gwr, gofala yntau am ddwyn ei holl fasnaeh yn nilaen yn Seisonaeg. Mae Cymry unieithog lawer yn Nghymru yn mynu masnachu yn Seisonaeg, a gwnant eu biliau mewn iaith nad ydynt hwy na'u cysmeriaid yn ei deall yn iawn. Mae ymdrech fawr mewn llawer i grefyddoli Die Shon Dafyddiaeth, drwy godi capeli Seison- aeg, ac anfon Cymru a Chymraeg trwstan i godi addoldai i foddhau hoedenod penchwiban a dyb iant mai y ffordd i ragori yw gwneud eu hunain yn fwy anwybodus o G-ymraeg nad ydynt. Gwna'r hoedenod yma bob ymdrech o fewn eu gallu i berffeithio yr ochr Seisonaeg i'w cegau, a gwag- dybiant mai y ffordd mwyaf boneddigaidd yw gadael i'r ochr Gymreig'i'w geneuau mor anorph- enol ag sydd modd. Wedi i nifer o'r rhai hyn godi eu penau mewn tref neu wlad, cesglir arian oddiar Gymry tlodion i' godi temlau pinaclog iddynt gael myned i'r nefoedd yn Seisonaeg, am eu bod yn rhy feilchion i fyned yno yn Gym- raeg, a gelwir hyn oil yn Gristionogaeth Mae mawr ymdrech mewn ysgolion dyddiol i gyflwyno pob addysg yn Seisonaeg, ond y mae y Gymraeg yn dechreu cael yn awr ei gollwng i fewn i'r ysgolion yn ei gwlad ei hun, ond nid yw'r Sais yn caniatau iddi eto ddyfod ond drwy ddrws cefn. Mae Cymry, fodd bynag, yn rhagori mewn canu a chrefydd am fod y wybodaeth yma wedi ei chyf- lwyno iddynt yn iaith yr aelwyd."
Due Devonshire.
Due Devonshire. Y Rhedegydd, papur Gladstonaidd a gy- hoeddir yn Ffestiniog, am Ionawr 2il, a ddywed ;— "Nid yw Ardalydd Hartington, Due Devon- shire yn awr, am roddi ei le i fyiiy fel arweinydd y blaid Undebol, er ei fod drwy farwolaeth ei dad yn cael ei symud i Dy yr Arglwyddi. Yn y ty hwnw nis gall fod gymaint o flaen y wlad ag y bu. Bydd yn llawer mwy tawel a neillduedig, ac ni fydd ganddo hawl i gymeryd rhan mewn ethol- i6dau. Fel y gallesid disgwyl, ei olynydd, fel arweinydd Undebwyr Ty y Cyffredin, fydd Mr. Chamberlain; daw y gwr hwnw drwy hyny i fwy o gyflyrddiad ac o adnabyddiaeth nag erioed a Mr. Balfour ac Ardalydd Salisbury. Rhyfedd fydd ei weled ef yn arwain un blaid a Mr Gladstone yn arwain plaid arall. Mae gan Mr Chamberlain lawer iawn o gymhwysderau arweinydd. Mae yn siaradwr eglur a diamwys, yn gyflym ei feddwl, yn eang ei wybodaeth, ac yn drefnus ei symudiad- au. Heryd, ystyrir ef yn un o ddadleuwyr goreu, os nad y goreu oil, yn Nhy y Cyffredin. Wrth gwrs, ni fydd iddo weithredu ond mewn cyd- ddealldwriaeth a Due Devonshise. Mae yn lied debyg na fydd angen am i'r un o honynt arwain ond am ychydig o amser. Er fod y Due yn cym- eryd dyddordeb annghyffredin yn maes y rhedeg- feydd, ac yn treulio llawer o amser gyda phethau o'r fath, eto, ystyrir ef yn un o wleidyddwyr mwyaf goleuedig y ganrif. Mae Ty yr Arglwyddi yn lie eithaf cydnaws a'i ogwydd diweddar- Ceidwadaeth."
Mr Chamberlain a Chanlyniadau…
Mr Chamberlain a Chanlyniadau Ymreolaeth. A ganlyn ydyw y Ilythyr ddarllenwyd oddiwrth Mr Chamberlain mewn cyfarfod Undebol yn Rhiwabon, nos Iau wythnos i'r diweddaf. Achosodd gryn gyffro yn y gwersyll Gladstonaidd Cymreig Highbury, Moor-green, Birmingham, Rliag. 26ain. Syr,-Derbyniais gyda phleser gopiau o'r pen- derfyniadau a basiwyd gan y cyfarfod Undebol yn Minera. Y mae yn dda geuyf fod eich organ- isation yn prysur hyrwyddo ymdrafodaeth ar bynciau gwleidyddol, a hyderaf y cewch arddang- osiad llwyddianus ddydd Mawrth, pryd y mae fy nghyfaill, Syr Robert Cunliffe, i'ch anerch. Nis gall yr etholiad cyffredinol fod yn bell iawn, a bydd yn un o'r pwysicaf yn hanes y wlad yma. Os, fel yr wyf yn gobeithio, y gorchfygir pleid- wyr Ymreolaeth, credaf y bydd y symudiad niweidiol hwn erbyn hyny ar ol ei gondemnio yn ddi-os am yr ail waith gan bobl Prydain Fawr, wedi derbyn ei warant farwol, ac felly bydd dwy blaid fawr y Wladwriaeth yn rhydd i ymroddi i ystyried a phenderfynu pynciau gwleidyddol a! chymdeithasol pwysig ag y mae mwyafrif mawr y bobl yn cymeryd y dyddordeb mwyaf ynddynt. Os, ar y Haw arall, y bydd i'r blaid Ymwahanol orchfygu, gwastreffir blynyddoedd lawer yn yr y mgaisofer i dd'od o hyd i gynllun o Ymreolaeth a fydd ar yr un pryd yn foddhaol i'r cynhyrfwyr Gwyddelig ac yn dderbyniol gan bobl Prydain Fawr. Yn ystod yr holl amser yma bydd cynydd pob deddfwriaeth arall yn cael ei atal, a gorfodir Lloegr, Ysgotland, a Chymru i aros y tu allan tra y byddir yn gweini i ofyniadau afresymol y rhan drystiog o'r bobl Wyddelig. Yr wyf yn argy- hoeddedig fod yr unig foddion at fodddloni yn fuan hawliau cyrfeithlon Anghydffurfwyr Cymreig i'w cael yn ngorchfygiad Ymreolaeth. Bydd pob Anghydffurfiwr Cymreig a bleidleisia dros Glad- stoniad yn yr etholiad nesaf yn pleidleisio dros (1) ohiriad anmhenodol Dadgysylltiad Cymreig a gwelliantau tirol, (2) dros greu uwchafiaeth Babaidd yn yr Iwerddon, pa un fydd yn beryglus i ryddid gwladol a chrefyddol y rhan Brotest- anaidd o'r boblogaeth, (3) dros droi cefn ar ei gyd-grefyddwyr yn Ulster, (4) dros ryfel gartrefol a therfysg yn yr Iwerddon, a thros hollol ddi- ffrwytho deddfwriaeth Seisnig ac Ysgotaidd. Fel Radical ac Anghydffurfiwr, yr wyf yn teimlo yn gryf fod y cysylltiad parhaus rhwng y Pabyddion Gwyddelig a'r Ymreolwyr yn angeuol i ffyniant yr holl welliantau yr wyf fi yn cymeryd dyddordeb ynddynt, ac am hyny yr wyf yn taer ddymuno llwyddianc y Blaid Undebol.—Ydwyf, syr, eich ufudd wasanaethwr, J. CHAMBERLAIN. F. Owen Charles, Esq., Brymbo, Gwrecsam. ♦
Rhyfel y Degwm.
Rhyfel y Degwm. Yn y Cambrian News am Ionawr laf, ceiro hanes ymweliad Mr Arthur Hughes, cyfreithiwr, Aberystwyth, a Mr D. Owen a phi wyf Llanarth, er atafaelu am ddegwm. Rhoddir desgrifiad o rai o'r gwrth-ddegym- wyr yn y Faner, a phapurau eraill, fel pobl hynod grefyddol, gydwybodol, a gonest. Mater o gydwybod ydyw gwrthod talu y degwm ganddynt ond yn wir, yn wir, siglwyd ein ffydd i'r sail yn nghydwybodol- rwydd gwrth-ddegymwyr Llanarth wrth ddarllen yr adroddiad hwn yn y Cambrian News. Dywedir i'r oil o honynt dalu blwyddyn a, haner o ddegwm a chael deg punt y cant yn ol o hyny, a receipt llawn am ddwy flynedd; ac iddynt fyned adref wedi eu boddloni yn y fargen gawsant! Ie, yn wir Bargen" oedd y cyfan gan y gwrth-ddegymwyr grymus a'r I- crefydd- wyr cydwybodol hyn o Lanarth Wel Wel Wei Ac eto mae rhyw bobl yn ysu am gael eu rhestru yn mysg 11 ar- dderchog lu y merthyri" drwy chwareu gwrtliod talu degwm
Esgob Llandaf a'r Methodistiaid.
Esgob Llandaf a'r Methodistiaid. Ychydig amser yn ol darfu i amryw-tna deugain o weinidogion a phregethwyr Cyf- arfod Misol y Methodistiaid yn Sir Fynwy, arwyddo na fu i'r un o honynt erioed ofyn i Esgob Llandaf,, yn ol-el" haeriad, am gael myned i'rEglwys;Sefydledig. Arwyddwyd y gwrthdystiad, yn mhlith eraill, gan y Parch Watcyn G. Powell, Maesycymer. Yn y Western Mail mae llythyr, dyddiedig Rhagfyr 1ge9,' oddiwrth y Parch John Griffith, ficer Mynyddislwyn. Dywed ef ei fod wedi synu gweledenw y Parch W. G. Powell yn y rhestr o weinidogion a wrth- dystient yn erbyn gwaith Esgob Llandaf yn datgan fod amryw Fethodistiaid wedi ym- ofyn am le yn Eglwys Loegr. Bu i Mr Powell, medd Mr Griffith, wneyd apel gref ato ef ychydig fisoedd yn ol am fynediad i mewn i'r Eglwys Sefydledig. Yn ei lythyr at y ficer, cwynai y gweinidog mewn geiriau cryfion yn erbyn trafferthion ac anghyfleus- derau y gyfundrefn deithiol ynglyn a'r Corph. Anfonodd y ficer y llythyr i'r Esgob a chydag ef anfollodd air da dm Mr Powell, cyn belledjag yr oedd yn ei adnabod. Datgana y ficer ei obaith fod ei lythyr ef a Mr Powell eto yn meddiant yr Esgob. Fel y gwelir y mae hwn yn gyhuddiad pwysig iawn, ac ar y wyneb, o leiaf, ymddengys yn wirionedd. Os profir ei fod felly, diameu y bydd Cyfarfod Misol Mynwy yn galw ar Mr Powell ar y carped, am arwyddo yr hyn nad oedd wir. Ai tybed fod erailltyn mysg y Methodistiaid wedi gwneud yr un peth ?
NEWYDDION CYFFREDINOL --+<>0-
NEWYDDION CYFFREDINOL --+<>0- Gohebydd o Borthmadog a ysgrifena Boreu Calan daeth y newyddion pruddaidd fod y Catherine Richards," o'r dref hon, wedi-colli gerllaw Limerick, ynghyda'r oil o'r clwylaw oedd ami. Yr oedd dau ohonynt oddi yma, sef y mate, Mr Hugh Hughes (mab Mr Lewis Hughes, teiliwr), a Mr Walter Stewart Jones. Yr oedd y Hong o fewn pum' milldir i ben ei thaith, wedi dyfod o Morocco. Yn chwarel Nantporth, ger Bangor, boreu Mawrth, cyfarfyddodd dyn o'r enw Robert Williams, 44 mlwydd oed, a damwain angeuol. Yr oedd y trancedig yn gweithio gyda crane, pan y Syrthiodd y peiriant arno ac y maluriodd un o'i goesau. Bu y truan farw brydnawn yr un dydd yn yr ysbytty. Ddyddiau Mercher a Iau cynhalioddfMr J H, Roberts, trengholyddf sir Gaernarfon, ymchwiliad i achos ei fawolaeth, pryd y daethpwyd i'r penderfyniad mai damwain ydoedd. Ymddangosai Mr Thornton Jones dros gyfarwyddwyr cwmni y chwarel, y rhai a gyfranasant yn haelionus tuag at gynorth- wyo gwraig a phlant trallodus y tranccdig. Dywedir fod mwy o dros saith can' mil o dunelli o lo a choke wedi ei ddanfon allan o borthladdoedd Caerdydd, Penarth, a Barry yn 1891 nac yn 1890. Yr oedd y cyfanswm yn 1891 yn 12,902,842 o dunelli, yn erbyn 12,08 o dnnelli yn 1890.
Y Barnwr Cymreig Newydd.
Y Barnwr Cymreig Newydd. Cyhoeddid, ar sail rhai o'r papurau Seisnig, fod Mr Lewis, ynad cyflogedig Caerdydd, wedi ei ddyrchafu i lywyddu dros Sirlysoedd Canolbarth Cymru yn lie y Barnwr Beresford, yr hwn oedd wedi newid am gylchdaith arall yn Lloegr mewn canlyniad i'r gwyn oedd yn ei erbyn. Modd bynag, dywed y Post nad oes air o wir yn y chwedl, yr hon a ledaenwyd mor gyffredinol.
Marwoleeth Mr John Evans,…
Marwoleeth Mr John Evans, Alltycadno. Drwg genym gofnodi marwolaeth Mr Evans, Alltycadno, sir Garfyrddin, yr hwn amgylchiad galarus gymerodd Ie ddydd Mawrth, ar ol cystudd byr. Efe oedd yr aelod ar y Cyngor Sirol dros ranbarth Llan- gyndeirne, ac yr oedd hefyd yn gadeirydd Bwrdd y Gwarcheidwaid. Adnabyddid ef drwy y sir fel un a gymerai ddyddordeb mawr mewn amaethyddiaeth, a theimlir colled ddirfawr ar ei ol yn y cylchoedd amaethyddol.
.—■— 3730 o Bersonau yn Meirw…
—■— 3730 o Bersonau yn Meirw bob Awr. Y mae newyddiadur Ffrengig newydd wneud cyfrifiad, yn ol yr hwn y mae yn gwneud allan fod marwolaethau blynyddol yr holl hil ddynol yn cyrhaedd i tua 33,000,000 o bersonau. Golyga hyn, fel y sylwa, fod cyfartaledd dyddio 1 y marwol- aethau dros 91,000, yr hyn sydd yn ol y gradd o 3,730 yr awi. Mae'r syniad fod 42 o bobl yn marw bob munyd o'r dydd a'r nos drwy yr holl flwyddyn yn gosod ystad- egaeth ein marwolaethau allan yn yr agwedd fwyaf pruddaidd posibl. Dywed y papur uchod yn mhellaeh ei fod yn cael fod un rhan o bedair o'r ddynoliaeth yn meirw cyn cyrhaedd wyth mlwydd oed, ac un haner cyn cyrhaedd 17eg mlwydd modd bynag, cyfartaledd hyd yr einioes ydyw oddeutu 38 mlynedd.
[No title]
Tystiolaeth trigolion y Brifddinas yw, nad oes neb yn cofio gwaeth niwl yno na'r tridiau o flaen y Nadolig. Yn y tywyllwch, aeth dros 20 o bersonau i'r dociau yn yr East End, y rhai a foddwyd. Collodd eraill y ffordd a'u bywyd mewn canlyniad ar hyd a lied y wlad.