Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
ADVERTISEMENTS Advertisements will be inserted in ye BBYTHOS CYMBEIG at the following CHEAP SCALE OF CHARGES Parliamentary, Law, and) 6d. per line per inser- Public Notices f tion. Bales 3d. do. do. Trade (By arrangement, according to Advertisements ] Position' of insertions, (. space required, &c. (. space required, &e. HV SPECIAL PREPAID RATES For Advertisements re-\ 20 words, ferring to Situations, „ One insertion, 6d Wanted, or Vacant Apartments, Houses, or |„ Three, „ lB.Od. Land, Wanted to Let, I Hi' for Sale T „ Six Is. 6cL Businesses, Stock Furni- ture, Mahinery, or Mis- Every additional 10 c-ellaneous Articles for words, half the above Sale or Hire. prices. No Advertisements relating to Racing, Gam- bling, Lotteries, Quack Medicines (except Patent Medicines of good repute), Money Lenders, Astrologers," Fortune Tellers, or others of an objectionable character will be inserted upon any terms. English Advertisements will be translated, if required, free of charge. All Communications and Orders should be ad- dressed, as early in the week as possible, to THE MANAGER, WELSH PRESS OFFICE, LAMPETEB.
Yr Etholfraint i Fenywod.
Yr Etholfraint i Fenywod. Dydd Mercher wythnos i'r diweddaf, daeth Syr Albert Rollit a'i Fesur gerbrou Ty y Cy fired in er mwyn rhoddi gallu i fenywod di. briod i bleidleisio dros ymgeisydd Seneddol yr un fath ag ymgeisydd am sedd ar y Byrddau Lleol. Yr oedd y pleidiau gwleidyddol yn rhanedig iawn ar y mater, rliai o bob plaid yn pleidleisio dros y Mesur a rhai o bob plaid yn eu erbyn. Pleidleisiocld drosto 152, yn ei erbyn 175.. 1\1 wyafrif yn ei erbyn 23. Felly taflwyd y Mesur allan. Fel y canlyn y dywed y Goleuad am Ebrill 28ain > r Ystyrid fod tynged y mesur wedi ei bender- fynu ymlaen Haw, ond dysgwylid cryn lawer o groes bleidleisio arno. Gwyddid, er engraifft, fod arweinydd y Ty (Mr Balfour) yn gryf o'i blaid-fel ei ewythr, Arglwydd Salisbury, ac y mae yn hoff bwnc gan amryw o wyr blaenllaw Cyngrair y Briallu, ond y mae plaid gref o'r Tor'iaid mor benderfynol yn ei erbyn ag ydynt yn erbyn Ymreolaeth. Mae y Rhyddfrydwyr yr un mor ranedig. Yr oedd yn hysbys ymlaen Haw y byddai Syr William Harcourt a Mr Mundella yn ei erbyn, a Mr Morley lawn can gryfed o'i blaid. Ond yr oedd peth wedi digwydd vchydig ddyddiau eyn y ddadl sycld yn debyg o beiiderfynu tynged y cynygiad i roi'r etholfraint i ferched am amser inaitli- Yn y ffurf o bamphledyn, cyhoeddodd Mr Murray, ddiwedd yr wythnos, lythyr ar y mater a ysgrifenwyd gan Mr. Gladstone at Mr. Samuel Smith, A.S., aryrlleg o'r mis hwn. Mae y pamphledyn yn darllen fel maniffesto, ac yn adgofio pethau cyffelyb o eiddo J Mr Gladstone ar rai o aehlysuron gwleidyddol pwysicaf ei oes. Gwyddid o'r blaen nad oedd Mr Gladstone yn ffafriol i estyn yr etholfraint seneddol i ferched, ond ni ddatganodd erioed ei farn mewn iaith mor gref a ciamwys. Dadleua Mr Gladstone nad yw teimlad y genedl fel cyfan- gorff yn ffafriol iddo; ond yn fwy na hyn, dadleua yn ei erbyn ar dir egwyddor, am ei fodyn gynyg- iad i dynu y fenyw o'rcylch y mae Rhagluniaeth mor amlwg wedi ei bwriadu iddo. Nid mynych y rhoddwyd ergyd drymach i symudiad gwleid- yddol nag a rydd y pamphledyn hwn i etholfraint y merched. Yn y Tyst am Ebrill 99ain, ceir yr erthygl ganlynol ar y mater:- Y Mater hwn sydd yn cael fwyaf o sylw y dyddiau hyn. Y mae yn hen bwnc, ond fel llawer un arall o'i fath, bu am gyfnod maith yn gyfryw ag y gellid ei ddadleu yn ddiofn heb berygl cael deddfwriaeth arno yn fuan. Nid felly teimlir yn awr. Yr hyn a rydd sylw arbenig iddo y dyddiau hyn ydyw traethiad Mi- Gladstone arno, a gellir bod yn dra sicr fod yr achos yn ymwthioi'r golwg cyn y buasai efe yn ei gymeryd i fyny. Yn y ffurf o lythyr at Mr Samuel Smith y mynega Mr Gladstone ei farn, ac er ei fod yn dra gochelgar, eto, h&wdd gweled i ba ochr y gogwydda ar hyn o- bryd. Mesur Syr A. Rollit a roddodd achlysur iddo i ysgrif- enu yn awr; ond gwyr y cyfarwydd mai ach- lysur yn unig yw y mesur hwnw, a bod llygad t) yr hen Arweinydd yn benaf ar y rhwyg sydd yn N ghynghrair Rhyddfrydig y Menywod ar y mater—o leiaf", y perygl o rwyg, os nad yw eisoesyn ffaith, Prif ddarbodaeth y mesur yw caniatau i'r menywod sydd eisoes yn pleidleisio dros aelodau o'r Cynghor Sirol a Threfol, a Byrddau Gwarcheidwaid, i bleidleisio dros i aelodau Seneddol. Mae y mesur hwn yn fwy cyfyng na rhai mesurau ar y pwnc o hawliau nierclied yn gyfTredin. Tori yw awdwr y mesur, a phrin y gellid dyweyd fod y pwnc hyd yma yn fater plaid. 0 bwnc pur fawr, hwvrach mai hwnyw yr unig un sydd heb fod felly. Anhawdd dyweyd pa hyd y pery felly, neu, a ydyw ei fod felly yn fan+eisiol i'w lwyddiant. Bu yr ymdrech i ddeddfu yn erbyt-. y fasnaeh feddwol yn hir tuallan i derfynau plaid. Cefn- ogid y Cynghrair gynt gan bob 11iw gwleid- yddol, ond er's rhai blynydddoedd bellach, Rhyddfrydwyr sydd am gyfngu terfynau y mesur, a Thoriaid am ei chynal a'i gwaddoli. Digon pcsibl mai eyffelyb fydd tynged pleidlais menywod. Yn bresenol nid yw yn adwaen neb yn ol y cnawd—pa un ai yn mhlith ei gefnog- wyr neu ei wrthwynebwyry byddont. Cyn ymddangosiad llythyr Mr Gladstone arno edrychai y sefyllfa dipyn yn fygythiol a phryd- erus. Ofnai ambell un symud y naill ffordd neu y Hall. Eraill heb wneud eu meddyHau i fyny yn derfynol ar y pwnc, ac fel pe yn dysgwyl gweledigaeth ar y mater. Yn amserol iawn wele epistol yr awdurdod uchaf yn y byd gwleidyddol yn ymddangos, a chan nad beth arall yw eu barn am y mynegiad, teimlent ei fod yn rhoddi iddynt amser i anarllu, ac yn eu cario drwy yr argyfwng presenol heb lawer o niwed. Cyhoeddwyd y llytliyr yn bamphledyn, a hwnw yw y safon i lawer ar y pwnc yn bresenol. Un medrus ywyr Hen Law i ymdrin a materion cynil, a chydna- byddir ei fod yn dra ffodus yn yr achos hwn, a rhydd brawf ychwanegol o loewder eithriadol ei feddwl i un o'i oedran et. Ymgeidw rhag traethu barn ar deilyngdod y mater ynddo ei hun, hyny yw, a ddylai y fenyw gael pleidlais Seneddol o gwbl yn awr neu unrhyw bryd, a. chyfynga ei hun yn benaf i resymau dros wrtihwynebu y mesur presenol. Dadleua na ddylai cyfnewidiad mor fawr gael ei benderfynu heb lais pendant y wlad ar y mater, ac ar y mater yn arbenig, a hyny ar wahan i bob mater arall; a sylwa yn ddigon priodol mai ychydig o sylw a dalwyd iddo gan yr etholwyr yn gyffredin hyd yn hyn. Hyd yma yr ydys wedi arfer edrych arno iel hobby dosbarth o Seneddwyr, a nifer o ferched ffwdanu-s ond o I an liyny, dyiia liaiies dechreuol ami i ddiwygiad mawr. Fodd bynag, nis gall 11) ,all neb ddadleu rod y pwnc wedi cael y sylw difrifol hwnw sydd yn hanfodol cyn deddfu- arno. Ceir gweled a ddaw i'r sefyllfa bono yn ein dyddiau ni. Gofyna Mr Gladstone yn arwyddocaol iawn, A ydyw y bleidlais i gario gyda hi hawliau eraill sydd yn meddiant y dynion, megis sedd yn y Ty a swydd yn y Weinyddiaeth ? Byddai ceg a llygaid ambell un yn llydan-agored pe deallai fod merchtd i fod yn aelodau Seneddol, a rhai o honynt ar y Fainc Daena f, ac o dan arholiad o'r ochr wrthwynebol. Ac eto, os ydynt i gael y bleidlais, anhawdd fyddai eu cau allan o'r Sen- edd a'r swydd. Yr ydym yn mhell o fod yn barod i hyn yn awr, ond dichon y daw i ben yn gynt nag y meddylir. Yr wyf yn methu gweled cysondeb mewn caniatau y bleidlais a gwrthod yr hawl i'r Ty idd- ynt. Dylai y naill gyrnvys y Hall. Ni ddylid ychwaith nacau y bleidlais i fenywod ar y dybiaeth y byddai iddynt fel rheol gefnogi y Toriaid. Yn ol yr arwyddion presenol, ac yn ol arfer nifer mawr o honynt yn yr etholiadau Sirol a Threfol, digon posibl mai Toriaid fyddai mwyafrif y menywod, ond ni ddylid yn herwydd hyny atal y bleidlais oddiwrthynt. Un peth sydd sicr, a hwnw ydyw, nad oes dim addfed- rwydd i ddcddfu ar y mater. Teimla llawer hefyd fod llythyr Mr Gladstone wedi taflu dwfr oer arno mor effeithiol, nes ei atal am flynydd- oedd. Ond gall beri blinder. Yn wir, gwna hyny yn awr. Cyfeiriwyd eisoes at Gynghrair y Menywod. Sefydlwyd hwn i wrthweithio dy- lanwad niweidiol y Primrose League, ac y mae yn allu mawr eisoes mewn etholiadau. Ofnir rhag i'r mater hwn ei rwygo. Sefydlwyd y Cynghrair ar wahan i unrhyyr ystyriaeth o bwnc pleidlais menywod. Y mae yn y Cynghrair nifer sydd yn dra selog drosto, a llawn cymaint, os nad mwy, yn ei erbyn. Diau fod amn i lythyr yr hen Arweinydd yn y cyfeiriad hwn, a bernii- ei fod yn gwneyd ei waith yn weddol effeithiol. Fodd bynagj bu yn foddion i dori tipyn ar un- ffurfiaeth a marweidd-dra y byd gwleidyddol yn ysbaid y gwyliau. n-
------'-FFYENfGION CEREDIGION.
FFYENfGION CEREDIGION. At Olygydd ye BRYTHON CYMREIG. Syr,—YmddengyS fod rhai o'r tylwyth hyn yn ddigofus iawn wrth Y" BRYTIIOX am ei fod yn cyhoeddi pa fath greaduriaid ydynt yn mhob man, Mae eich papur wedi gwneuthnr gwasanaeth gwerthfawr eisoes i wir Ryddfrydiaeth yn Sir Aberteifi, pe ond dangos i r werin y pethau ddylent otyn am danynt gan y rhai ydynt yn cymeryd arnynt eu cynrychioli mewn gwahanol Fyrddau, &c. Darfu i atebiad Mr "W. J ones, Birmingham, i'r cais ddanfonwyd ato i ddyfod allan fel Ym- geisydd Seneddol dros y Sir daro rhai o'r ffyrnigion a braw, ac ymddengyc fod y Cambrian Newswedi colli arno ei hun yn hollol. Ni fu genyf fi erioed fawr o olwg ar y papur hwnw, oblegid fel rheol cablu crefydd, arferion, ac iaith Cymru fu ei hoff waith yn y gorphenol. Mae y Faner wedi llarieiddio llawer. Tebyg fod ei Golygydd yn dechreu gweled na wna hi mo'r tro i ganu yr un don yn barhaus. Er fod y mwyafrif yn credu inewn Dadgysyltiad yn Ngheredigion, ac yn benderfynol i wneud eu rhan er dwyn y mater hwnw i derfyniad boddliaol, nid ydynt yn credu mai wrth addoli Mr Gladstone y mae llwyddo. Mae arnom rwymau i ddiolch i'r BRYTIION am ddwyn i'r amlwg y rhan ddarfu Mr Gladstone chwareu mewn cysylltiad a Dadgysylltiad. Cawsom ein camarwain yn llawn digon hir. Bum fy hun, fel llawer eraill o'm cydwladwyr, yn credu yn ddiysgog yn ngonestrwydd Mr Gladstone fel Daagysylltwr, ac yn barod i gymeryd fy llw unrhyw amser ddarfod iddo bleidleisio dros y pwnc ond drwy drugaredd agorwyd fy llygaid gan Yc BRYTHON, a gwela,f yn awr ddigon amlwg mai ffug oedd holl honiadau y ffyrnigion i'r perwyl hyny. A welsoch chwi fel y darfu i'r hen wr droi ar Mr Lloyd George ac eraill pwy noson yn Nhy y Cyffredin, pan oeddynt yn ymdreehu gwrthwynebu Mesur Dysgyblaeth Eglwysig. Amlwg yw y dengys hyn 0 ba radd y bo'i wreiddyn." a gwreiddyn Uchel Eglwyswr sydd i Mr Gladstone. Mae fel y dywed y Wederu Mail a phapurau Tori- aidd eraill, ydynt yn llawenychu wrth edrych arno yn amddiffyn y Sefydliad, yn Eglwyswr egw yddor- ol, ac ofer i Gymru byth ddysgwyl wrtho am unrhyw fesur o Ddadgysylltiad, na.c mewn gwir- ionedd, wrth yr aelodau Cymreig sydd yn ei ganlyn. Mae yn iechyd i ddyn i ddarllen Datganiad Gwleidyddol fel yr eiddo Mr W. Jones, yr Ymgeis- ydd Anghydffurfiol. Mae ganddo ef bethau syl- weddol i'w cynyg i drigolion Ceredigion, ac nid ceisio ein hanog i fyw ar ryw benderfyniadau amwys a gwag. a dychmygion disail a diddim o hyd. Dyna'r fath ddyn sydd arnom ni eisiau, a hwnw wnawn bleidio pan ddaw yr adeg at hyny. Aed y cyfreithwyr i'w llochesi, a phob ffyrnigyn i'w canlyn, a mynwn Gymro iawn yn gynrychiol- ydd yn St. Stephen. Yr eiddoch, GARIBALDI.
LLANDDEWI-BREFI.
LLANDDEWI-BREFI. At Olygydd Ye BRYTHON. Syr,—Yn y Faner y dydd o'r blaen gwnaed cyfaddefiad pwysig gan rywun a eilw ei hun yn Rhyddfrydwr" mewn cysylltiad ag etholiad Cynghorwr Sirol yn lie Mr D. W. E. Rowland. Dywed fel hyn Fe ddaeth y sedd yn wag mewn canlyniad i ddyrchafiad Mr D. W. E. Rowland yn henadur yn y Cynghor; ac fe wnaed hyny o bwrpas er mwyn i Mr D. Davies, yr ymgeisydd gorchfygedig yn yr etholiad blaenorol, i gael mynediad i mewn i'r Cynghor. Nid oedd neb o aelodau y Cynghor yn meddwl na chawsai Mr Davies fynediad di-wrth- wynebiad i mewn yr ail waith, gan ei fod wedi ymladd nior rhagorol y tro cyntaf." Dyna gyfaddefiad pwysig, meddaf, cyfaddefiad sydd yn profi yn amlwg fod rhyw glymblaid (clique) yn dyfeisio ac yn cynllunio pwy sydd i gael eu gwrthod a phwy sydd sydd i gael eu dewis yn aelodau o Gynghor Sirol Ceredigion yn lie gadael yr etholwyr i ddewis y sawl a fynont. Ie, Syr, dyrchafwyd Mr D. W. E. Rowland yn henad- ur, o bwrpas er mwyn i Mr D. Davies, yr ym- geisydd gorchfygedig yn yr etholiad blaenorol i gael myned- i mewn i'r Cynghor!" Gwarchod pawb Dyna ei gwneud hi yn iawn, onide ? Yn yr etholiad cyntaf, sef 1888, gweithredodd y Cynghor etholwyd y pryd hwnw dipyn yn fwy plaen a diseremoni, drwy ethol gwrthodedigion y bobl braidd yn mhob man, yn enwedig os byddent yn Rhyddfrydwyr (yr Arglwydd faddeuo iddynt am gamddefnyddio a marchogaeth cymaint ar y gair yna yn y fath ddull camarweiniol). Y pryd hwnw y cloffion a'r clwyfedigion, yr anafus arch- ollwyd gan y Toriaid (dyna air eto gamddefn- yddir yn ami) yn nydd y frwydr ddewiswyd heb ddigter na dadl mewn llawer Llan heblaw Llan- ddewi-brefi yn Ngheredigion. Ymddengys, pa fodd bynag, ddarfod i'r driniaeth dderbyniodd aelodau yr hen Gynghor pan yn myned allan o swyddi oddiar eich llaw chwi ddychrynu rhai o'r aelodau presenol, nes y darfu iddynt arfer ychydig yn rhagor o gyfrwysdra wrth ddyrchafu pobl i'r meinciau henadurol ond wele y Rhyddfrydwr diniwed yma yn y Faner wedi datguddio y cwbl. Yr hyn sydd yn coroni y cwbl yw pregeth geryddol "Rhyddfrydwr" Llanddewi am ddewis Mr Williams, Pencefn, i'w cynrychioli yn y Cyng- hor Sirol, yn lie y gwr y trefnwyd iddo yn ol arfaeth y Glymblaid "i gael mynediad i mewn i'r Cynghor!" Onid yw "Toriaid" Dewibrefi, "a'r rhai hyny sydd wedi arfer proffesu eu hunain yn Rhyddfrydwyr," yn nghyda un neu ddau o flaen- oriaid y Methodistiaid yn y lie, wedi myned yn eithafol o ryfygus fel ag i feiddio dyfod allan a gwrthwynebwr i "Mr David Davies, yr ymgeis- ydd gorchfygedig yn yr etholiad blaenorol," (fel y desgrifia Rhyddfrydwr ef); onid yw yn sobr o beth, meddaf, fod unrhyw greaduriaid fel hyn wedi cyrhaedd y fath eithafion o haerllugrwydd fel ag i wrthwynebu Mr David Davies, y gwr y trefnwyd iddo gael mynediad i mewn i'r Cyng- hor gan y bobl dda sydd yn llywodraethu yno ? Hyderaf y caiff Mr. Williams, blaenoriaid y Methodistiaid yn Llanddewi, y rhai ag sydd wedi arfer proffesu eu hunain yn Rhyddfrydwyr," a'r Toriaid ddigon o nerth i ddal heb sythio i lewyg yn swn ebychiadau aflafar y bodyn hunanol hwn a eilw ei hun yn Rhyddfrydwr." Diolch iddo ar yr un pryd am ei gyfaddefiad. Yr eiddoch, PYSGOTWR.
—♦—; Marw ar Foreu'r Briodas.
—♦—; Marw ar Foreu'r Briodas. Ddydd Sadwrn bu farw un Charles Smith dan amgylchiadau pur gyffroiis. Guard ydoedd oy yn ngwasanaeth rlieilffordd Llundain. Chatham, a Dover, ac yn preswylio yn y Milkwood-road, Loughborough Junction. Yr oedd wedi bod yn weddw am un mis ar ddeg, ac i ail-briodi ddydd Sadwrn. Ar ei gais, yr oedd y cwmni wedi can- iatau iddo ddydd o wyl at y pwrpas. Guard arall o Lethbridge oedd i fod yn was priod is ac yn ol trefniant blaenorol, efe a aeth i orsaf Brix- ton i gyfarfod Smith, a chan nad oedd yno efe a gerddodd drosodd i Milkwood-road. Wedi cyr- haedd yno, hysbyswyd ef fod Smith vedi syrth- io i lawr yn farw rhwng wyth a naw o'r gloch y boreu hwnw. Dyn o oddeutu 36 mlwydd oed ydoedd, a gedy bedwar o blant bychain ar ei ol. Credir iddo farw o glefyd y galon, wedi ei gyn- yrchu gan gynhwrf ei yspryd yn nglyn a'i briodas.
Advertising
HYSBYSIADAU Cyhoeddir Hysbysiadau yn Ye BRYTHON CYMBEIG ar Y TELERAU RHAD CANLYNOL Rhvbuddion Cyhoeddus, ) Cyfreithiol, a Seneddol Pc" ? Ulne11 V tro. Arwertliiadau 3c. „ HvibvRinflnii fYn ol trefniallt- yn ymddibynu Masnachol 1ar eu safle' nifer ? troion y Masnacnol | cyhoeddir hwynt, maintioli, &c. TELERAU NEILLDUOL AM FLAEN-DAL ,1-* Am Hysbysiadau yn dais 20 gair lieu lai, cysylltiad a Swyddi „ Unwaith, 6c. neu Leoedd, yn Eisiau. Ystafolloedd, Tai, Tir. yn „ Tair gwaith, Is. 0c. Eisiau, ar Osod, neu ar I Werth. f „ Chwech „ Is. 6c. Masnach, Stoc, Dodrefn, 1 Peirianau, neu fan I Am bob 10 gair ych- betliau, ar Werth, neu I wanegol, haner y yn cael eu cynyg ar Hury prisoedd uchod. Ni chyhoeddir Hysbysiadau yn dal perthynas a Rhedegfeydd, Gamblo, Hapchwareuon, Cyfferi Crach-feddygon (eithrir Cyfferi Breintiedig da eu gair), Arian Fenthycwyr, Proffeswyr y Gelfyddyd Ddu," neu ryw hysbysiad arall o natur wrthwynebol, ar unrhyw delerau. r. Cyfieithir Hysbysiadau Saesonaeg, os bydd gal wad am hyny, yn rhad. Danfoner pob Gohebiaethau ac Archebion, mor 4 gynar yn yr wythnos ag y byddo modd yn gyfeiriedig Y RHEOLYDD, WELSH PBESS OFFICE, LAMPETEB.
» Y Llofrudd Deeming
» Y Llofrudd Deeming Dydd Llun diweddaf, yn Melbourne, Australia, terfynodd parwf Deeming am lofruddiolei wraig yn Windsor, Australia, drwy i'r rheithwyr ei gael yn Euog." [Gwnaeth Deeming araeth o'r doc, yn mha un y tystiai ei fod yn ddieuog, ac na chafodd brawf teg oherwydd fod y Wasg a'r Cyhoedd eisoes wedi ei euogfarnu. Pasiodd y Barnwr Hodges ddedfryd marwolaeth arno, a bernir y crogir ef ar yr 16eg o'r mis hwn.
[No title]
Dydd Gwener diweddaf, rhyddhawyd Cadben Yerney o garchar, yn yr hwn le yr oedd er's deu- ddeg mis, o herwydd iddo geisio merched ieuanic i ddibenion anghyfreithlon.