Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Lien a Chan.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Lien a Chan. [GAN ALAFON.J A UES i'r lienor heddyw ryw leoedd amgen na'u gilydd i feddwl a llunioV A ydyw'r bardd a'r cerddor o hyd yn hoffi encilfeydd i -an Li ? Neu ynte a ydyw Apollo a'r Awenau wedi mynd i adael a diystyru Parnasws, gan ddewis ymdroi yn nhwrf y byd ? Mae rhai adar yn medru nythu a magu rhai bach" mewn gorsafoedd rheil- Ifyrdd, ac yng nghyrrion cyrchfannau brass bands ac y mae llawer lienor a cherddor yn gorfod gwneud ei fy,voliaetli ef a'i deulu mewn lleoedd mor dyrfus a hynny. Ond hyd y clywais i y mae yr eos yn parhau i hoffi neiiltuaeth a distawrwydd i fynegu peroriaeth ei chalon, ac mi glywais ffrynd o ddinas y BRYTHON yn dweyd na chlywodd y gog er's llawer blwyddyn nes y daeth i'r wlad, na'r bronfraith ond ambell dro yn y parciau. A ydyw'r awenau dynol wedi dyfod i gwbl ddygymod a thwrf a miri ? Fe'm harweiniwyd i synfyfyrio a holi ffordd yna gan erthygl arweiniol ym iitlirif newyddiadur dyddiol Lerpwl, yn yr hon y sonid am beth sydd yn mynd yn fwy a inwy cyff redin,mae'n ymddangos- gwyr llenyddol yn dewis, yn hytraeh nag aros gartret' yn nhawelwch y maesdreti nen gyrrion y wlad, cymeryd ystafelloedd ynghanol y dinasoedd mawr i feddwl ac ysgrifenllu. i chry- bwyllir yn yr erthygl fod bott yn agos j lyfrgell rydd fawr yn un o'r rhesymau am 11.111. Y manteisiou y grybwyllfr yw, yr ymddiddanion bywiog yn y tren, y cyfar- fyddiadau lion yn y lleoedd bwyta ganol dydd, a bod yn agos i'r cyhoeddwy r. Ac y mae swn canmoliaeth i'r arfer yn yr erthygl. Paham swyddfeydd i vveithio ynddynt i gyfreitiiwyr a chyfrifwyr mwy nag i lenyddion ? Gall pobl o ddelfrydau uehel parth yr alwedig- aeth lenyddoJ awgrymu, efallai, fod y dadblygiad hwn yn gosod golygwedd rhy fasaachol o fiaen y cyhoedd. Y maent hwy yn cam nieddwl am weuwr ffansioedd hyfrydol yn byw mown rhyw eneilfa wledig, lie gall gweithrediadau ei feddwl fod yn rhydd oddi- wrth rwystraeth gofalon a brwydrau byd brwnt Beth bynnag am hyn, fe fydd i gyflawniad gwaith llenyddol mewn swyddfeydd roi atalfa ar lawer o'r ynfyd ramant, sydd wedi cael taflu goleugylch o amgylcli bywyd yr awdwr cyffredin-pur gyffredin wei hiau. Efallai hyn oil; ond fe erys cwestiynau felly i'w gofyn eto--Pa fath waith llenyddol sydd i'w ddisgwyl gan bobl yn gweithio ar cldull cyfreithwyr a chyfrifwyr? Pa uu oreu i lenydd fel Ile gweithio, sw.)-ddft ynghanol berw dinas ynte ystafell a rhodfa ynghanol distawrwydd a llonyddwch ? Am ba fatli le i ymollwng i weithrediad y mae greddf ac awen llenydd yn gofyn ? Wrth gwrs, rhaid i lawer lienor a bardd a cherddor foddloni ar y lie a gaiti yn y byd yma, a gwneud fel y gallo yn hwnnw. Ond y mae i lawer iawn eu dewis yn hyn ac nid oes odid neb nad all wneud rhyw shift" yn ol ei duedd. Y mae peth arall hefyd yn dyfod i got wrth feddwl y lfordd yma mae gwahan- jaeth mawr o ran natur rhwng gwahanol t'athau o lenyddiaeth gwauaniaeth yn peri gwahaniaeth yn amodau a moddau y cyn- hyrchu. Nid yw pob llenyddiaeth unrhyw lenyddiaeth ac nis gellir gwneud pob math o lenyddiaeth dan yr un amgylch- iadau ag y gellir gwneud rhai niathau. Gwaith parchns a derbyuiol yw gwaith y journalist (pa enw Cymraeg teilwng a gawn ni arno ?) a rhydd ami i journalist i ni lawer o lenyddiaeth o i-itdd tieliel drwy gyfrwng papurau newyddion a chylch- gronau. Felly am y traethodwyr a'r nofel- wyr sydd yn prysur gynliyrchu ar gyfer y cyfryngau hyn a'r fasnach lyfrau. Y mae y rhan fwyaf o honynt hwy yn dysgu meddwl ac ysgrifennu yn gyflym iawn, heb falio odid ddim pa un ai mewn twrf ai mewn distawrwydd y byddant wrthi. Gwir ydyw liefyd fod llawer o lenyddiaeth oreu fwyaf parhaol y byd wedi ei ddwyn i fod ynghanol twrf a helynt y byd. Ond pa un, ar y cyfan, yw y mwyaf manteisiol i wir lenydda lie iyrflls ai lie tawel ? Fe fu yn rhaid i Syr Walter Scott weithio'n gyl'- lym ryfeddol i dawelu ei galoti (Irwy gl i i-io*r ddyled fawr a ddisgynnodd mor greulon i'w ran ac yr oedd ganddo ef y ddawn anir- nadwy lionno sydd yn gallu creti y pethau goreu mewn cyflymder a fuasai etc yn gallu cyflym weithio mor dda ynghanol dinas Caerludd ag yn nhawelwch Abbots- ford ? Ac a gynhyrchir pethau mor dda a pharhaol yn null heddyw, ac at alwadau heddyw, ag a gynhyrchid gynt? Crwydr bach rhydd a di-reol am funud yn awr. Mi a gly ais bregethwr gwych yn dweyd mai y lie goreu i feddwl pi egeth a welodd efe erioed oedd pen 'bus neu dram ynghanol Llundain. Mi a welais un arall, mwy cynelin fig j-sgrifennu na hwnnw, wrthi yn ysgrifennll'n ddygll mewn Hyfr ar ei lin trwy gydol trafodiiethau cylarfod lied dyrfus; a plUtu blygais ar gefn ei set i ofyn beth oedd efe ynei wneud, G wneud pregeth," meddai. Lie da i wneud pre- geth ydi lie fel hyn." Fe ddywedir am brif dduwinydd y Methodistiaid Calfinaidd ar hyn o bryd ei fod yn ysgrifennu rhaunau helaeth o'r Ilyfrau da a dry allan mewn gwahallol dai wrth fyn'd a dod I P\vy'r wlad. Mae gan rai well meistrolaeth ar eu meddwl nag sydd gan eraill. Ac mae'n debyg mai mater o feistrolaeth felly ydyw cael y meddwl i weithio mewn unrhyw le. Ond meddyliwch am yr olwg i'r Philistiaid ar fy hen gyfaill mewn dwfn lyfyrdod ar ben Irani yn Llundain Medd- yliwch, yn fwy enwedig na hynny, am bryd- ydd Cymreig mewn ymdrech gydag englyn lIell doddaid ynghanol pobl! Am ba tin o'r hen lenyddion Seisnig y dywedir mai wrth gerdded ol a blaeii ar hyd Fleet St. y byddai yn cyfansoddi oreu V Nid wyf yn ddigon siwr y uiunud yma i ateb. Ond 'I'wy'n ddigon siwr i allu dweyd fod golwg ryfedd arno lawer pryd. Pwy, mewn gweithred ac mewn gwedd, mor ryfedd ei olwg a bardd mewn awenyddol wewyr ?—yn neilltuol mewn gwedd? Llygad y bardd," medd Shakespeare— Llygad y bardd, yn troi mewn amhwyll gwych, A dremia i fyny rliwng y ddae'r a'r nef." Tybed a welodd efe fardd Oymreig rywdro yn ceisio cynghaneddu, a hitliau yn 'cau dwad ? Yr olwg ddiweddaf a gefais i ar wyneb teg Nicander oedd trwy lfenestr ty yn Llanerchymedd, adeg eisteddfod yno. Yr oedd y bardd wrthi yn ceisio gwneud englyn, a'i wyneb yn ddrych i'w gofioo syn- fyfyrdod ac egni. Wrth gerdded o'r golwg yn y coed y byddai John Jones, Talysarn, yn hoffi meddwL Ac wrth gerdded yn yr unigeddau y mae Iolo Caernarfon wedi cyf- ansoddi mwyaf ar hyd ei oes. Cerdded, yn y cae bach wrth dalcen ei hen gartref, y gwelais i ef gynta' 'rioed. Ac ebai rhyw- beth wrth fy meddwl ieuanc, Dyma fardd, yn siwr." Mi a glywais ddweyd mai hyd ochrau Garn Bentyrch y cyfansoddodd Eben Fardd awdl aufarwol Dinystr Jeru- salem," ac y byddai yn treulio llawer o am- ser yng nghoed Cwm Gwarae ar ol mynd i Glynnog. Llawer gwaith y clywais fy nhad yn dweyd mai yn yr ysgubor y byddai Dewi Wyn yn cyfansoddi amlaf, a'i fod ef i hog- iau ereill wedi bod yn edrych arno lawer tro, trwy y rliigolau, yn troi a throsi yn y gwellt, ac yn codi ar ei eistedd weithiau i ysgrifennu. Ond i b'le yr wyf wedi crwydro ? Mae'n bosibl na waeth i tenor na bardd pa fan i fyned i weithio, os wedi tlwyn ei feddwl dan ddisgyblaeth. Ac y mae'n bosibl fod meistrolaeth yr oes brysur a masnachol lion yn peri i ddywediad Islwyn fynd yn beth liet) ystyr iddo mwyach — Y Dylauwad, pan y myn y daw Kel yr enfys a'r gwlaw, Kel odlau yr eos ger y gwyrddaf lYll draw. Ond braidd yn brudd i un wedi hoffi rhyw syniadau fel yna ydyw darllen peth fel liyn yn un o'i holf bapurau (yr wyf yn rhy sal i geisio'i gyfieithu) The literary man must be as near to his agent as a merchant is to his broker, and bit by bit 1 he merchandise in literary wares is reachiug the level of merchant and broker. The divine afflatus is at the mercy of per cents, of profits and speculations as to the size of editions. Bydded felly yn y byd Seisnig, os rnyn- nant.' Cymru, na ato'r Awenau

,0 Llefrith ac Iechyd.

DYFFRYN CLWYD.

Y CYHOEDDIADAU.

Advertising

Family Notices

Advertising