Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Advertising

ARGYFWNG CYMRU.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ARGYFWNG CYMRU. LU'N amlwg fod calon Ymneilltu- aetli Cymru yn brudd y dyddiau hyn oherwydd fod ei disgwyliadau hyder- us wedi cael eu siomi. Y mae Yin- neilltuaeth Lloegr yn cyd-ddioddef a hi oherwydd digalondid neu feth- iant y Llywodraeth i fynd ymlaen gyda Mesur MoKenna i osod traul yr addysg grefyddol enwadol ar y cvfryw enwadau. Ond y mae'r Prif Weinidog wedi rhoddi esmwythadi i'r boen achoswyd gan y siorniant hwn drwy addaw Mesur Addysg Elfennol anrhaethol gyflawnach a rhagorach yn y Senedd-dymor nesaf. Dvlem lawenhau am y cyfnewidiad. Prin vr oedd y Mesur bychan hwn yn deilwng o Weinyddiaeth Rvdd- frydol gref fel yr un bresennol. Telir yn dda i ni am ein hamynedd distaw am flwvddyn arall os cawn Fesur Addysg heb Adran IV. ynddo. yn darbod parhau Ysgolion Enwadol Pabyddol acEglwysig yn ein dinas- oedd poblog. Y mae gwelwrder siom ar wyneb rhais dirwestwyr a Hid dialgar yn- bygith-i meddiannu mynwesau ereill mwy selog, am na ddygwyd Mesur Trwyddedol i fewn i'r Senedd yn viiof a'r addewid yn Araith y Brenin. Ond yma eto rhoddodd y Prif Weinidog eli ar y clwyf. Addewir i ni mai hwn fydd Mesur pennaf y Senedd-dymor nesaf. Os felly, adferir llonder i wyneb a chalon dirwestwyr sydd wedi llafurio am flynyddau ar ran achos ag y mae ei lwyddiant yn amod llwvdd- iant masnaeh addysg a moes yn ein gwlad. Sut bynnag y cyfrifir am dano, erys yn wir fod cwestiwn Datgysylltiad yn apelio yn fwy at galon Cymru Ymneilltuol nag un mater arall. Mae'r dyddordeb a deimla'r holl enwadau Ymneilltuol, heb grybwvll yr Eglwys Sefydledig, yn profi ein gosodiad—hwn yw prif destyn Yln- ddiddan bonedd a gwreng yn ein gwlad. Anfoddlon iawn yw gweith- rediadau y Ddirprwyaeth apwynt- iwyd i wneud ymchwiliad i darddiad a swm gwaddoliadau a meddiannau ereill yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru. Y pechadur mawr yw Cadeirydd y Ddirprwyaeth, y Barn- wr Vaughan Williams. Gweithreda yn y modd mwyaf trahaus a mym- pwyol, er gwaethaf gwrthdystiadau dynion llawn eystal ag ef ei hun. Ni iVr un Czar o Rwsia neu Bab o Rufain yn fwy penarglwyddiaethol. Ac hyd yn liyn y mae wedi llwyddo i gael ei Hordd ei hun i wneud y gwaith a ymddiriedwyd i'r Ddir- prwyaeth. Rhy anhawdd i neb wybod, ond efe ei hun, paham y gelwir cynnifer o Eglwyswyr a chyn lleied o Ymneilltuwyr, i roddi eu tystiolaeth, neu paham y rhoddir rhai gofyniadau i'r tystion ac y gomeddir rhoddi cwestiynau ereill. Dyma wybodaeth rhy ryfedd i neb ond y Barnwr ei hun. Difudd a dibwynt ac amherthynasol iawn yr ymddengys llawer o'r gweithrediad- au. Ac nid rhyfedd fod yn ein mysg anfoddogrwydd sydd yn ymylu ar wrtliryfel. Ond cyn cymeryd y cwrs olaf a enwvd, dylid arm; i ystyried y caiilyniadau. Gresyn fyddai i unrhyw un o'r enwadau crefyddol wneud camgymeriad a thrwy hynny roddi mantais i'r gelyn- ion yn y dyfodol. Mantais fawr- i bleidwyr y Mesur, yn enwedig i'r Aelodau Seisnig, fydd gvvvbod am y ddarpaiiaeth a wneir gan Ymneilltuaetli fel nad oes berygl i foes a chrefydd ddioddef fel canlyniad Datgysylltiad. Hyder- wn yn fawr y bydd i bob enwad barhau i roddi tystiolaeth o flaen y Ddirprwyaeth, ac y deuant i weled mai gwanhau a drTgn yr achos a bleidir gennym gyda'r fath unfryd- edd fyddai ein gwaith yn gwrthod gwneud hyn. Hyn, ni a gredwn, yw dyledswydd Cymru yn yr ar- gyfwng presennol. Yr ydym yn mynd i'r wasg cyn gwybod pa benderfyniad a besir gan yr Aelodau Cymreig yn eu Pwyllgor yr wythnos hon. Pe buas- em gerllaw, b-uasem yn rhoddi iddynt y cynghorion canlynol:— --Nae ymrysonwch ar y ffordd. Meithrinwch y teimladau o hyder teyrngarol yn y naill tuag at y llall. Cofiwch mai oherwydd ciddigedd yn arwain i ymraniadau a phleidiau y collodd y Celt ei frwydrau bob amser. 2.—Hvderwn y bydd i chwi weled elch ffordd i barhau yn deyrngar a ffyddlon i'r Llywodraeth, a hynny heb brofi mewn un modd yn an- ffyddlon i fuddiannau Cymru. Bydd yn anhawdd iawn ein perswadio y gall y Prif Weinidog na'n cydwladwr enwog Lloyd George brofi yn frad- ychwyr. Credwn eu bod ill dau yn wir awyddus am gyfarfod dymun- iadau Cymru, am eu bod yn ar- gyhoeddedig fod yr hyn a ofynnir gennym yn gyfiawn ac yn sicr o brofi yn fendith i foes a chrefydd yn ein gwlad. Dymunem atgofio ein seneddwyr ac arweinwyr ein Cyfundebau cref- yddol mai prif waith y LIywodraeth a'r Blaid Ryddfrydol ar hyn o bryd yw torri ewinedd a chwtogi adenydd yr eryr ysglyfaethus—Ty'r Argl- wyddi. flyd nes y rlnvymir y cadarn yma, ni bydd yr un Mesur Rhvddfrydol yn ddiogel rhag ei raib dinystriol. Ar lawer golwg, gwastrafi ar amser ac adnoddau T)"l' Cyffredin yw pasio Mesurau y rhagwelir gyda sicrwydd y gwrthodir hwy gan Dy'r Arglwyddi fel y mae. Wedi cwtogi ei allu ef i rwystro, yna gwasger ar y Prif Weinidog a'r Cyfrin Gyngor i gyflawni eu haddew idion. Ilyd hynny, byddwn ym arhous ac unol i drefnu ein galluoedd er bod yn gwbl barod i gydvmosod ar ein gelynion. Anwladgar ac an- heyrngar i'w wlad a'i genedl yw y dyn hwnnw a geisia ha-Li hadau eiddigedd rhwng enwad ac enwad ar adeg y mae mor bwysig i ni fod yn gyfeillgar ac unol i gyd-ryfela. Syrthied yshryd barn a chydoddef- garweh a chariad ar arweinwyr pob adran o'r fyddin Ynmeilltuoi, medd calon pob gwir wladgarwr.

Advertising