Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

__ Breuddwydiwr.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Breuddwydiwr. SONIR yn fynnych am gyfrwyster a dichell Iddew. Beir neu edmygir ei fedr yn pentyrru golud. Perchir neu condemnir ei allu di- hafal i ymwthio i bob math o gymdeithas. Rhegir neu bendithir ei wydnrwydd di- gyffelyb i oroesi pob erledigaeth. Canmolir neu gwatwarir ei gariad diderfyn at rodres ae ymddanghosiad mewn aur a deimwnt. Ymddiddenir a phopeth yn ei gylch ond am un, sef mai efe yw BREUDDWYDIWR mwyaf byd. Nid ydym yn un o'rrheini a gred fod perthynas deuluaidd rhwng y Cymro a phob rhyw genedl dan haul. Nid oes dim haws i grach-ysgolhaig nae i ysgolor direidus ddangos fod i eiriau a phriod-ddulliau Cymreig eu cyfystyron yn iaith semi cenhedl- oedd hanner barbaraidd Gogleddbarth India neu ganolbarth yr Affric, neu iaith uchel- war cenhedloedd Mesopotamia. Ac nid ydym yn eicr na cheir ambell i gymrawd o Rydychen yn chwerthin rhyngddo ag ef ei hun ar ambell i fore Saboth gwlyb yn ei fwthyn gwledig wrth feddwl fel y mae wedi cam- arwain pobl ddiniwed Cymru gyda'i dermau dyagedig a'i gymhariaethau mwys. Ond pe byddem mewn vatad meddwl i gredu fod Iddew ac Iberiad yn frodyr agos, fe geir un ffaith yn hanes y ddau sydd ar y wyneb yn arwain i grediniaeth felly, sef fod y naill fel y llall yn Freuddwydiwr dyfal. Ni chred neb heddyw amgen nad disgrifiad barddonol, nid liythreimol, a geir yn Genesis am greadigaeth a chwymp dyn. Ond rhaid wrth ddawn breuddwydiol Cymro i ganfod prydferthwch breuddwyd Iddew yn creu gwraig o asen dyn tra yr oedd efe, greadur, yn cysgu'r cwsg ddygodd fwyaf o boen a helynt iddo o unrhyw gwsg ar wyneb daear, gan fod gwraig fynych- af, os nad yn ddraen yn ochr dyn, yn deyrn gormesol ar ei ben, neu yn ystol droed iddo, y naill a'r llall yn arwain i'w ddirywiad. Breuddwydiwr yn unig allai arwain Sarah Grand i ddweyd fod gwraig eiddil yn rhwydd yn gallu temtio dyn, ond nad allai neb ond yr hen fachgen ei hun demtio gwraig. Car- asem ddangos yr elfen freuddwydiol yma fel hyn drwy holl hanes Iddew hyd at D. C. Davies a Rufus Isaacs, ond ymataliwn rhag rhoddi sail i ddarllennwyr y BRYTHON brofi yr hyn a gredir yn ddiameu ganddynt yn barod, fod eydnawsedd hanfodol rhwng Gwiddon" a phreswylwyr lie na enwir gennym.

Trigydd.

Preswylydd.

Perffeithrwydd.I

Cyfiawnder.

Advertising

Nodion o Fanceinion.

Advertising

Dyn Da.

Gwirionedd,

IPULPUDAU MANCHESTER.