Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

11 erthygl ar y dudalen hon

__ Breuddwydiwr.

Trigydd.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Trigydd. Trigydd ydoedd dyn o Iwyth neu ardal arall, yr hwn, pan ddeuai i aros mewn lie nad oedd ganddo ainddiffyniad ei geraint, a roddai ei hun o dan nawdd pennaeth neu Iwyth cymdogol. 0 adeg foreuaf bywyd Semitaidd, cymedrolir di-ddeddfwriaeth y diffaethweh gan yr egwyddor fod bywyd ymwelydd yn sanctaidd. Amddiffynir dyn rhag ei elynion y foment y daw i mewn i babell neu hyd yn oed i gyffwrdd aVliinynau, ac nis gellir ei ddrygu ond ar draul gorchfygu yr holl Iwyth. Dyrchafwyd y gair TRIGYDD o fywyd cym- deithasol i fywyd crefyddol, ac yn y wedd hon edrychid arno yn yr adnod hon. Yn adeg foreuaf crefydd Israel, ystyriai'r Iddew fod ganddo hawl naturiol i arnddiffyniad Duw. Gwelir yr un syniad yn hanes Crist- ionogaeth ymysg ein cenedl ni. Syniad Lladinaidd yw fod breintiau crefyddol yn dod i feddiant dyn drwy ras a thrugaredd swyddogion eglwysig. Syniad Cymreig yd- oedd fod gan ddyn hawl gyfreithlon i'r breintiau hyn, oherwydd ei berthynas a llwyth crefyddol. Olion y syniad yma yw'r dybiaeth fod pob dyn, os na chofrestrir ef mewn unrhyw gangen Anghydffurfiol yn ein gwlad, yn aelod o Eglwys Loegr. Er i'r syniad Iddewig am hawlfraint naturiol dyn i fod o dan nawdd Duw ddal gafael yn y genedl hyd at ddyddiau Crist, a lefeinio llawer o'i ddaliadau crefyddol, cawn mewn adeg ddiweddarach y gred fod dyn yn teithio mewn gwlad- estronol ac yn derbyn popeth o ras penarglwyddiaethol Duw. Felly edrychir arno yn y Salm hon estron ydyw wedi cael ei dderbyn i ffafr Duw. Dyn dyeithr ydyw wedi cael ei wneud yn un o deulu Duw, wedi cael llety ym mhabell Duw. Disgwylid i drigydd mewn pabell Semitaidd gydymffurfio i ryw raddau ag arferion y babell fel dyledswydd oddiwrtho yn cyd- fyned a'r breintiau yr oedd efe yn eu mwyn- hau. Yn y Salm hon edrychir ar Dduw fel Noddwr dyn, ac fe ymholir pa ddyledswyddau sy'n rhwymedig ar y dyn a gymer Duw o dan ei aden.

Preswylydd.

Perffeithrwydd.I

Cyfiawnder.

Advertising

Nodion o Fanceinion.

Advertising

Dyn Da.

Gwirionedd,

IPULPUDAU MANCHESTER.