Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Eisteddfod Bwlchgwyn.

T Y Cyfarfod Cyntaf.

Tl Cyfarfod yr Hwyr.

Y Nodiadau.

ft • . h^RVi) eirn'adaeth…

Nodiadau Cerddorol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Cerddorol. [GAN HU GADARN]. DOH G. Fwy sy'n gyfrifol. BYDDAF yn synnu yn ami at yr hyawdledd a geir o'r pulpud, pan fyddis yn galw sylw y gynulleidfa at rhyw amgylchiad neilltuol i gymeryd lie, ac yn neilltuol ar y ddawn a arddanghosir i dynnu arian o'r llogellau at wahanol achosion; ond pur anfynnych y clywir y ddawn hon yn cael ei harfer er ceisio creu mwy o ddyddordeb yn ein caniadaeth grefyddol. Goddefir i'r rhan hon o'r gwas- anaeth gymeryd gofal ohoni ei hun, heb gyfrifoldeb arbennig ar neb ond ar arweinydd y gan, ac nis gall yntau wneud nemawr, er yr holl allu a'r brwdfrydedd a arddanghosir ganddo, oni chaiff gydweithrediad calonnog pawb, yn weinidog, swyddogion, a'r gynull- eidfa. I gadw yr eglwys rhag y diofalwch a'r difrawder, heb son ddiystyrwch, dylai anog- aethau mynnych gael eu rhoddi ynglyn a'r mater—anogaethau a bar i chwi gredu eu bod yn rhai o ddifrif.

Dewis Emynau.

Advertising