Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

r TREM 0 1 J TRWY V DRYCH.…

Yn Ynys Mon ac Arfon

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Yn Ynys Mon ac Arfon [GAN BETHMAJ. Nos Sadwrn. Bygwth. DYNA wnaed gan gyfarfod chvvarterol Ani- bynwyr Arfon dydd Mawrth diweddaf ym Methesda, a chasglu oddiwrth y newyddiad- uron tranoeth. Buasai dyn yn disgwyl ar ol darllen hanes y cyfarfod weled yr aelodau Seneddol bob un yn hel eu pac," ac. yn cychwyn gartref bore dranoeth, ond chlywais i ddim fod yr un ohonynt wedi gwneud hyd yn hyn. Buasai yn ddyddorol cael gwybod beth oedd rhif y gweinidogion a'r diaconiaid oedd yn bresennol. Fel rheol, pan mae Cyfarfod Misol gan y M.C., bydd ynddynt gynrychiolydd o'r rhan liosocaf o'r eglwysi, os nad yr oil ond nid oes cymaint o ffydd- londeb gyda'r Anibynwyr. Darpara y M C. yn helaeth ar gyfer anghenion y cynryoh- iolwyr am y dydd ond niae am. bell un yn llwyddo i wneud darpariaeth ar gyfer angen am ddyddiau wrth fynd i'r cyfarfod chwarter Wedi i ystorm y Gynhadledd fyned heibio, cyhoeddwyd heddwch yr efengyl gan y Parchn. W. E. Jones, Colwyn Edward Owen, B.A., Bontnewydd Bryniog Roberts, Caernarfon. Pregethid yn yr un lie nos Lun gan y Parch. J. M. Davies, M.A., Bangor. Rhoddwyd croeso cynnes i weinidog Bont- newydd, a chymeradwywyd Mr. H. O. Thomas a Mr. Ellis Parry fel yrngeiswyr am y weinidogaeth. Croesaw. Nos lau yr oedd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal yng Nghaersalem i roddi croeso i'r gweinidog newydd. Mae y Parch. W. J. Roberts (Cefnniav/r) wedi dechreu ar ei waith yma fel olynydd i Dr. Owen Davies. Bu ef yn weinidog ar yr eglwys am 30 mlyn- edd, ac efe oedd cadeirydd y cyfarfod croes- awol. 'Yr oedd nifer da o weinidogion y dref ac ereill yn cymeryd rhan yn y cyfarfod, ac yn siarad yn gymeradwy iawn am Mr. Roberts. Os yw cystal dyn ag y dywedid ei fod, bydd yn ychwanegiad pwysig at y cewri sydd eisoes ym mhen tre'r sir. Ymysg ei groesawyr yr oedd un o'r pedwar enwad ag sydd eisoes wedi rhoddi i fyny ofal eglwysi. Y Cadeirydd (B.), Owen Williams (W.), Lewis Williams (A.), Evan Jones (M.C.). Boed hir ddyddian iddynt eto i wneud daioni. Darpar. Dyna wneir y dyddiau hyn ym Mangor, i roddi croeso i Edward VII. a'i briod ac un o'r merched. Ymddengys fod y tri yn dod ar y 9fed o Orffennaf. Byr fydd eu harhosiad yn y ddinas. Deuant yno o Gaergybi gyda'r tren, a bydd Maer y ddinas a'i gynghorwyr yn eu derbyn. Wedi yr elont i lawr i'r man y bwriedir gosod carreg sylfaen y Coleg newydd, hwy a gant glywed sut y gall y myfyrwyr ganu. Tybed nas gellir trefnu iddynt hefyd glywed y cor merched enwog sydd yn y ddinas ? Bydd dydd eu dyfodiad yn ddygwyl yn y ddinas, a diau y bydd po bllawer wedi dod o leoedd ereill. Ychydig o groeso a roddaLlew Tegid y dydd hwnnw i neb os na bydd llogell lawn a chalon barod i gyfrannu. Nos Lun. Twrgwyn, Bangor. Fel nad elo yn rhy hwyr, yr wyf yn prysuro i gofnodi y ffaitli fod yr eglwys yn y 110 hwn wedi cynnal ei chyfarfocl pregethu blynyddol nos Sadwrn a ddoe. Pregethwyd gan y Parch. D. Williams, M.A., Aberystwyth, a'r Parch. Cynddylan Jones, D.D. Mawr gan- molir y gwleddoedd gafwyd yn yr oedfaov. Yma, fel Ileoedd ereill a'r amgylchiadau fel hyn, yr oodd pwys mawr yn cael ei roddi ar y casgliad at y ddyled. Yr oedd y swm a dderbynniwyd yn C88. Y llynedd yr oedd yn fwy o £10na hynny. Ond yna, yr oedd y gweinidog ga.rtref y pryd hynny. -0--

Cymanfa Gyffredinol Llanelli.

--Llythyr Gwleidyddol.

Safle'r Amaethwr Cymreig

Mater Addysg,

Cymanfa'r Wesleaid. -I