Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

13 erthygl ar y dudalen hon

" Mewn Gweddiau."

Rhoddi fyny'r Gadair.

Anerchiad y Llywydd.

Cwestiynau Cymdeithasol.

Advertising

Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr…

Advertising

c , Y Seiat Fawr.

Y jj Yr Athrawiaetb."

jY, Gymdeithas,M

j5rT°rri Bara."

" Sancteiddrwydd Ysgrythyrol,"

Cwestiynau Cymdeithasol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

hwn a sylwai ei fod yn falch o'r gwr a'i traddododd, a'i fod yn wr clir ei ben a chynnes ei galon. Yr oedd yn bresennol lu perthynol i enw- adau ereill; ac iddynt hwy, na chaffant ond cyfle eithriadol fel hyn i'w glywed, yr oedd Anerchiad Llywydd Newydd y Gymanfa yn ddatguddiad o feddwl clir, gwybodaetb eang, ac yn arbennig o degwch a chymedr- older, ac o gydnabyddiaeth gwaith pob llwyth Ymneilltuol arall, heb orfawrygu na bychanu'r eiddo'i hun. Teimlid hefyd fod y testyn yn un addas a thra amserol, ac fod y genadwri a dyn- nwyd allan ohono yn un a haedda ac a gaiff sylw bob enwad. Un gweinidog ymadawedig oedd i'w goffa, sef y diweddar Barch. Rohert Roberts, Ystrad, Rhondda a chaed sylwadan nod- weddiadol iawn gan y Parch, Thomas Samuel am ei ddoniau fel pregethwr, am geidwadaetli ei syniadau am ysbrydoliaeth lythyrennol y Beibl, ac am ei gymeriad pur a'i farwolaeth dangnefeddus. Wedi rhai hysbysiadau gan y Parch. J. Felix, dibennwyd trwy weddi gan y Parch. T. J. Humphreys. -0-