Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

----------------- I DYDDIADUR.I

GlannauV Mersey

EBION.

Y Parch. S. O. Morgan, B.A.,…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y Parch. S. O. Morgan, B.A., B.D. Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, croes- awid y gweinidog ieuanc uehod yn fugail ar eglwys M.C. Seisnig Hoylake, sir Gaer, yn olynydd y Parch. J. Calvin Thomas. Mab ydyw i'r diweddar Barch. Morris Morgan, o'r Deheudir, ac y mae ei yrfa addysg wedi bod yn hynod o ddisglaer. Cadeirydd y cyfarfod ydoedd Mr. Eleazar Roberts, Y.H. (Meddyliwr) ac mewn anerchiad cynnes a chroesawgar, erfynniai ar aelodau yr eglwys i ryddhau y gweinidog oddiwrth bob gofalon ariannol tra y byddai yn en mysg. Ac na foed iddynt ddisgwyl pregeth dda bob Sul, oblegid ni wnai ac ni allai eu gweinidog draddodi pregetli dda bob Saboth. Yr oedd yn syndod iddo ef sut y gallai'r un gweinidog baratoi dwy bregeth dda mewn wythnos. 'Doedd ganddo ddim amheuaeth na, fyddai Mr. Morgan yn fugail ffyddlon ond peidied y praidd a. disgwyl iddo fynd i glepian o dy i dy ar bob achlysur dibwys, oblegid nis gailai wneud hynny heb beri i'r pulpud ddioddef. Na foed iddynt gymeryd gormod o'i amser gyda siaradach a gwag-glebran, ond rhoddi iddo ddigon o amser i baratoi ei bregethau yn ofalus. Caod hanes yr alwad gan Mr. Apsimon, un o ddiaconiaid yr eglwys; a dilynwyd gan Mri. John Evans a Joseph Roberts,, cynrych iolwvr Henaduriaeth Mynwy. Yna caed anerchiad gan y Parch. R. R- Roberts, B.A., Caerdydd, yn dvvyn tystiol. aeth uchel i alluoedd ac ymroddiad y gweini dog newydd. Crybwyllodd ymysg pethau ereill fod Mr. Morgan yn nofiwr da, ac iddo un tro nofio i'r mor ac achub bywyd truan oedd ar foddi, am yr hyn y cafodd dlws y Royal Humane Society. Gobeithiai y byddai iddo nofio hefyd i gefnfor bywyd, a dwyn i'r lan ami i enaicl o grafanc y tonnau. Croesawid Mr.Morgan ar ran Henadur- iaeth Lancashire a Sir Gaer gan y Parch. J. D. Evans, B.A. ar ran eglwys West Kirby gan y Parch. G. Hughes, 13.A. a chaed anerchiadau gan amryw. o gynrych- iolwyr yr enwadau Seisnig ac yna cydna- byddodd y gweinidog newydd yr holl sylw- adau caredig a wnaethid am dano ac mewn anerchiad diymhongar, erfynniodd "in weddiau tt cliymorth yr holl eglwys ar ei ran ef ei hun a'i briod. *b

CVIAIOOI) MISOL LERPWL.

Family Notices

[No title]

-Y Methodistiaid CaHinaidd.

Advertising