Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Look on this picture-and on…

Gwyn fyd y Colier.

Siom.

-------0---0 Gaerdydd. --

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

-0 0 Gaerdydd. [GAN HESGIN.] Y Cymrodorion, BUM yng nghyfarfod blvnyddol gohiriedig y Cymrodorion nos Wener ddiweddaf, Y mae nifer yr aelodau wedi cynhyddu cymaint yn ddiweddar- y maent yn awr yn tynnu at fil--fel y barnwyd yn ddoeth beth amser yn ol newid tipyn ar y rheolau. Ac ar ol rhyw ddwy awr a hanner o drafodaeth, pasiwyd y cyfansoddiad newydd. Fel ymhob cymdeithas arall, y mae dwy blaid ymhlith v Cymrodorion—y moderates a'r democrats. "Arweinydd y moderates y noson hon oedd J. Austin Jenkins, B.A., ac arweinid rebel host y democrats gan Mr. Phillips, un o flaenoriaid eglwys y Parch. Charles Davies (B.). Chafodd yr un o'r ddau eu ffordd eu hunain gymaint ag a ddymunent, ac yr wyf yn credu i ni rhyngom saerniio rheolau eithaf pwrpasol. Mae un o'r rheolau yn darparu y gellir arfer yr iaith Saesneg neu yr iaith Qymraeg yn y cyfarfodydd. Pan oeddem newydd basio y rheol honno, dyma y Cynghorwr J. T. Richards yn codi ac yn dweyd, gyda gwen gollweiras I move that the discussions be restricted to those two languages we have heard four from the platform to-night. It has been suggested that we should do this en bloc, and that we should take that seriatim. Boddwyd y gweddill yn ehwer- thiniad y gynulleidfa. Yr oedd rhai o'r aelodau hefyd yn anfoddlon ar y dull yr etholwyd yr ysgrifennydd newydd gan y Cyngor ond ymddengys fod yr eglurhad roddwyd gan ddau neu dri o'r Cynghorwyr wedi boddloni yr inquisitors. Bachgen ifanc o'r enw Huw J. Huws (dyna fel y silleba ef ei enw) ydyw yr ysgrifennydd—un o'r North hefyd, a barnu wrtb ei acen. Cynddylan. Aethum i gapel Pembroke Terrace nos Sadwrn i feddwl clywed John Williams, "Brynsiencyn, ond yr oedd ei wddf yn dost, a phregethwyd yn ei le gan y Parch. Cyn- ddylan Jones. Nid oeddwn wedi gweled na chlywed Cynddylan er's dros chwe blynedd, ac yr oedd yn ddrwg gennyf we led ei fod yn heneiddio cryn lawer. Atebiad Crist i'r Iddewon ynghylch iachau y dyn claf ar y Saboth (loan v. 17, 18. 19) oedd ei destyn, a chawsom ganddo bregeth Feth- odistaidd hen ffasiwn—un athrawiaethol, wyddoch, gyda sly hit o humour ag y gwyr ef mor dda sut i'w ddefnyddio, yma ac acw. "Pregetb syml, glir, a hawdd ei deall, oedd y Bresreth ar y Mynydd-ond i chwi beidio darllen yr esboniadau arni," meddai. Wrth derfynu, rhoddodd gelpen lawchwith i'r Ddiwinyddiaeth Newydd -E,Iioddweb. eich ymddiriedaeth yn y Llyfr hwn sydd wedi dal beirniadaeth am ddwy fil o flynyddoedd," meddai, gan daro'r Beibl, ac nid yn y llyfr bach a gyhoeddwyd yn ddiweddar na ddeil e' ddim beirniadaeth am ddwyawr."

-------0---GLANNAU'R GLWYD.

Advertising

Etholiad Jarrow