Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

BRYNAMAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BRYNAMAN. Ysgoloriaethau Eleazar Roberts. PRYDNAWN Saboth, y 9fed o Mehefin, cyfarfu corau Anibynwyr a Methodistiaid Brynaman yn Gibea-capel eang yr Anibynwyr—i gynnal Cymanfa Undebol, o dan arweiniad Mr. D. W. Lewis, F.T.S.C. ac nid gormod dweyd mai dyma un o'r cymanfaoedd goreu gafwyd erioed yn yr ardal gerddorol hon. Rhifai y cor tua 700, ac yn eu mysg yr oedd lleisiau Cor Brynaman—y cor enwog gip- iodd y wobr flaenaf yn y brif gystadleuaeth gorawl yn yr Eisteddfod Genedlaethol. I gynorthwyo y gwaith am y prydnawn yr oedd yn bresennol gerddorfa lawn o dan arweiniad Mr. W. R. Williams, tra yr oedd Mr. Daniel Williams yn gweinyddu wrth yr organ. Canwyd tonau y rhaglen gyda hwyl anarferol, ac hefyd yr Hallelujah Chorus. Datganwyd hefyd yr unawdau canlynol Every valley shall be exalted," gan Mr. David James Holy City," Miss Cordelia Roberts "I know that my Redeemer liveth," Miss Rachel Thomas a Consume them all (St. Paul), gan Griffith Jones. Yr oedd yr addoldy mawr yn llawn, a chafwyd gwledd gerddorol a chasgliad da at y mudiad. Llywyddwyd gan Mr. Wni. Llewelyn- solffawr hynaf yr ardal. Cafwyd anerchiad byr gan y llywydd, arweinydd, y Parch. Rhystyd Davies, C.M. (cadeirydd y Pwyllgor I.leol), Parch. Hywel Jones a Mr. Jenkin Jones, Council Schools (ysgrifennydd lleol). Rhyfeddod mawr oedd clywed t6n fechan a gyfansoddwyd gan Mr. Eleazar Roberts at wasanaeth plant yr Ysgol Sul pan nad oedd llyfrau solffa yng Nghymrn—yn cael ei chanu gyda bias gan gor o 700 a cherddorfa lawn. Onid yw y wlad yn datblygu ? Diolch am Eleazar Roberts, a'r dyrfa liosog sydd yn ei ganlyn, ac yn eu mysg ein trefwr enwog, D. W. Lewis. -0-- Un o wyr mwyaf blaonllaw Penmachno ydoedd Mr. Robt. Thomas, Tlasisa, a fu farw'r wythoos ddiweddaf.. Bu'n ysgrif- ennydd eglwys M.C. y lie am GO mlynedd, ac yn flaenor am dymor maith. Yr oedd yn aelod o'r Cyngor Sir cyntaf, ac yn Rhyddfryd wr i'r gwraidd.

Advertising

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

Nodiadau Cerddorol.

Yng Nghwmni Natur. --