Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
8 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
YOUR PRICELESS EYES. ^0ur Eyes deserve the best possible re you can give them, and whenever y°u are conscious they are in any way you should a,t once have them Cammed. Few of those who practice sight testing are able to properly correct the simplest 0f a^one the complicated errors an j y°nderfully complex human eye, ahl acc°unts for much of the incur- headaches, so prevalent. -&re YOU QUITE SURE ? Do you need ty6 ^dvice and service of an expert ? j; d you like to know the exact con- l°n of your eyes ? You can have them examined FREE by l. Moreton Parry, Oph.D., F R M S., Eyesight Specialist, 163 OAKFIELD RD., ANFIELD, LIVERPOOL, ==- SAVE S5 CASH OR HIRE. D. GRIFFITHS & SON, 221 BrecK Road, and h..103 Wavertree^Rd., Liverpool. nANOS AND PAGANS 8s. !|byan°fKth ^e!eph0nes__ Lunt's Boots are VALUE FOP, MONEY TrY a P a i r Ladies' and Gent's in great variety. 11 PARADISE STREET, The only address Telephone—261 Bootle. P. LLOYD JONES, « Funeral Furnisher, a"?ntlon given to removals to and from Wales °R-K BUILDINGS, a6 364 Stonley Rd., L'pool (Near Bankhall). ^WTDDING EQUIPAGES. 'Phone—017 Central. a W. GRIFFITHS 0 Tailor, 0 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOO L ALSO AT 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. 'Phone—27x Bootlo. Humphrey Williams, Jjj Tel. 8158 53 SMITHFIELD STREET, TITHEBARN STREET, LIVERPOOL. Manufacturer of SLATE HEADSTONES, and all other STONE MEMORIALS, aaa Enamelled Slate Chimney Pieces, Bangor Roofing Slates, and every description of Slate Slab Work.
Family Notices
PRIODI WILLIAMS—PUGHE—Mehefin 15, yng nghapel Marsh Lane, gan y Parch. J. Hawen Rees, T. E. Williams, peirianydd, s.s. St. Egbert, unig fab E. a M. A. Williams, Gerlan, Bethesda, a M A. Pughe, merch ieuengaf Edward a Margaret Pughe, 66 Cambridge Road. ROBERTS—RoBERTS—Meh. 13, yng nghapel M.C. Seisnig Oswald Road, Croesoswallt, gan y Parch. Howell Harris Hughes, B.A., William, mab ieuengaf Stephen Roberts, Lerpwl, ac Annie, merch hynaf Allen Roberts, Croesoswallt. MARW. LEWIS-Mehefin 14, yn 7 Sliver dale Terrace, Sefton Park, yn 10 mis oed, Ivor, plentyn iouengaf ac anwyl Bob a Mary Lewis. Claddwyd yn Llanbadrig ddydd Llun diweddaf. HucmEs-Mehefin 12, yn 25 Sykes Street, priod J. C. Hughes, ar ferch. R-OBE.RTS-Mehofin 12, yn 89 Aigburth Road, priod W. T. Roberts, ar fab. THOMAS Mehefin 12, yn ei breswylfod, PlaB Isa, Penmachno, yn 77 oed, Robert Thomas WILLIAMS-Aleheftn 1. John Williams, 3 Ravenscroft Road (gynt q Radnor Place), Birkenhead.
Advertising
Telephone 51 Y Anfield. JOHN JONES, 0 FUNERAL FURNISHER, R.chy Lane. 19 Preston Grove, LIVERPOOL. Style, Quality, Economy, Attention. SUPERIOR WEDDING BROUGHAMS. Estimates including all charges on application. NODER-Nad oes unrhyw gysylltiad rhyngof ag arall o'r un enw. General Printing of every kind, Commercial and Artistic, at Evans, Sons, & Foulkes, Brython Office, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street (Telephone 1112 Central), and 356A & 358A Stanley Road, Liverpool (Tele phone 591 Bootle). RICHARD EVANS, ^ERAI HOUSE FURNISHER AND BEDDING .MANUFACTURER 64 Stanley Road, Bootle, 4SpETS. BLINDS CARPETS. LINOLEUMS. CURTAINS LINOLEUMS BEDSTEADS CRETONNES BEDSTEADS BEDDING TAPESTRY BEDDING. Sf) 1'1\ eClal Show of Floor Covering this and following days e largest stock of Carpets Linoleums in Bootie. 64 STANLEY ROAD, BOOTLE. 440CPBootle NOW READY OFFICIAL LIST OF SUBJECTS llQngollen Royal National Eisteddfod, 1908, Price 6d. a Post 1d. 2 EVANS, SONS FOULKES, 1 Don Chambers, 8 Paradise Street, or 356a and 358a Stanley Road, Liverpool.
NOD AC ESBONIAD.
NOD AC ESBONIAD. [Pob gohebiaeth ynglyn a'r golofn hon i'w danfon i'r Parch. O. EILIAN OWEN, 16 Argyle Road, 4 Anfleld Road, Liverpool]. Llyfr Du Caerfyrddin. Mor Truan genhyf, mor truan a deryv am keduyv a chaduan. AM. Before G. Am gadu y traethu traethaud 21blO Permit thou me to indite a composition Ac amgewin ir aeluid bvid balawon 24a9 and about the hearth food for whelps ac am gylch kyminawd kymyn leas eingyl 24bl7 And around Cyminawd, a deadly hewing down. Piev y bet J yramgant 32bl5 Whose is the grave in the circular space Bet beidaucrut yn amgant riv lyvnav 33bl5 The grave of Beidawg the ruddy in the vicinity of Riw Llyvnaw. Dywyccviff wympechaud am gweithred 42bl May I make satisfaction for my sin and actions. druduas nis amgiffredit Drudwas did not perceive the day can-issamgiffredit dy gruidir arwiber Winit. Because I notice Thy wanderings on Gwiber Vynyd Before H. ogyv ven amhad, amhad anav areith awyrllar. 5a7 8a3. The goddess of various seeds, the various seeds of poetic harmony. hep haut y amhev 19all without its being easily doubted in Ilurv llyaus am hir 33all with respect to many long everyway y mae paub ynyamheu 34a5 which everybody doubts Cantreghis wiguisc amhoen 35b2 How gone are my ardour and liveliness yr guneuthur amhuill na thuill 43bll
Mynegair i Salmau can Edmwnd…
Mynegair i Salmau can Edmwnd Prys, 1621. Prys, 1621. AETHANT. hwy dros fy mron a aethant 428 fy nyddiau aethant fel y mwg 1023 Eu gelynion aethant yn ffrom 10642 AETHOM. Aethom drwy ddwfr a than yn gaeth 6612 AETHOST. er nad aethost o flaen ein Uu 6010 Pan aethost (Dduw) o flaen dy lu 687 AETHYM. Aethym i bellach yn wr hen yn fudan gwael yr aethym i 8910 ÅF ao fif gar Haw i orwedd 316 A pha'm yr af mor drwm a hyn 432 Yna yr ftf at allor Duw 484 Ac offrwm poeth i'th dy yr af 6613 Nid At o fewn pabeU fy nhy 1323 I ba le r'ftf fl 1 roi tro 1397 AFAEL. heb afael gyda'i Uywydd 78" rhag cael o'i casddyn afael 7842 AFLAN. ac os gordderchwr brwnt aflan 5018 ni byddaf aflan mwyach 517 AFLAWEN. fel dyma fraint aflawen 792 AFLWYDD. lie daw i'r gelyn aflwydd 3511 sef galar sydd ac aflwydd 386 tywalldwyd aflwydd arno 418 Nes myned heibio'r aflwydd hyn 571 i fwrw eich maglau aflwydd 623 Eu bwrdd boed iddynt fagl aflwydd 6922 ynny ni ddtagyn aflwydd 947 rhocs an-nhyeciannya aftwydd 10615 yn hytrach iluddiodd aflwydd 11818 AUTWTDDIALF JUTS. Trwch, le ac aflwyddiannus iawn 3418 AFON. o flasus afon hyfryd 368 Cyfagos glennydd afon 464 afon Duw llanwyd drosti 659 A thrwy yr afon llawen fu 666 ao:aeth yn afon';ffrwd-chwyrn 7415 Rhocs Duw ffynon 1 bob afon 10410 fe yf o'r afon nesaf 1107 ar Ian prif afon groyw 1371 o ddentu glan yr afon 137 AFONYDD. A llifodd afonydd y fall 184 am yr afonydd dyfroedd 421 afonydd dyfr-gry«h cedyrn 7415 hyd foroedd ac afonydd Boll hyd terfynau'r afonydd 899" fel pe baent brif afonydd 10541 i'r holl afonydd lifo 14718 AFROL. Ond os ei blank (drwy afrol) 8930 AFRWYDD i'w dwyn o ddrygfraint afrwydd • 0710
--u----Four Crosses, Pwllheli.
--u- Four Crosses, Pwllheli. Go FID us gennyf gofnodi marwolaoth Jane, anwyl briod Robert Thomas, Tyddyn Dwn, yr hyn a gvmerodd le Mehefin 4, ac a gladdwyd Mehefin 8 ym mynwent henafol Abererch, yn 79 mlwydd oed. Gadawodd briod oedrannus a chwech o blant i alaru ar ei hoi. Yr oedd yn perthyn i grefydd er's trigain mlynedd, a bu yn aelod dichlynaidd a ffyddlon yng nghapel Ebenezer (M.C.), Fourerosses, am un mlynedd ar bym- theg a deugain. Bu iddi naw o blant, tri o ba rai a'i rhagflaenodd i fyd yr ysbrydoedd, a dygodd hwy oil i fyny yn addysg ae athraw- iaeth yr Arglwydd, yr oil yn proffesu duw- ioldeb ac yn addurn i gymdeithas. Nod- weddid ei bywyd yn wastad gan dawelwch a doethineb. Yr oedd iddi air da gan bawb. Hi a weithiodd yn rymus, a'r hyn a aUodd hon hi a'i gwnaeth." liellach dymunwn heddwch i'w llwch hyd ganiad yr udgorn." Mor ddedwyd yw y rhai trwy ffydd Sy'n mynd c blith y byw Eu henwau'n perarogli sydd, A'u hun mor dawel yw." Cyfaill. --0-- Mr. W. G. C. Gladstone, wyr y gwron o Benarddlag, a J. W. Summers (cadeirydd Cyngor Sir Fflint) a enwir fel ymgeiswyr ynglyn a Bwrdeisdrefi Fflint, yn wyneb ymneilltuad yr aelod presennol, Mr. Howell Idris, oblegid afiechyd. k Yn Llys Methdaliad Aberystwyth, ddydd Gwener, bu raid gohirio achos Reginald Worthington, paentiwr, oherwydd ei fod yn chwil ulw beipen" ac yn methu ateb cwestiynau'r Cofrestrydd
GlannauV Mersey
GlannauV Mersey Undeb Eglwysi Anibynol Liverpool, Manchester, a'r amgylchoedd. Cynhaliwyd eynhadleddiyngIyn a'r Undeb uchod yng nghapel Clifton Road, Birkenhead, prydnawn ddydd Mercher diweddaf. Cym- erwyd y gadair gan y Parch. J. O. Williams (Pedrog), y cadeirydd am y flwyddyn. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. W. Washington Jones, Salford. Darllennwyd cofnodion y cyfarfod diwedd- af, a phasiwyd eu bod yn cael eu cadarnhau. Rhoddwyd cyfrif o sefyllfa ariannol y Cyf- undeb gan y trysorydd, Mr. John Edwards, Rock Ferry. Cafwyd gan yr ysgrifennydd, Mr. Josiah Thomas, a Mr. W. R. Owen, adroddiad y ddirprwyaeth a benodwyd i ymweled a'r egIwys yn Balmoral Road, Fairfield, yn wyneb eu cais am dderbynniad i'r Undeb, ond er yn awyddus i'w croesawu, nis gallai y ddirprwyaeth wneud hynny ar hyn o bryd, am yr un rheswm a phan dderbynniwyd y ceisiadau blaenorol. Gwnaed yn hysbys fod yr eglwys yn Trinity Road, Bootle, wedi rhoddi galwad unfrydol i'r Parch. W. Roberts, Golborne. Cynhelir cyfarfod i'w groosawu Sadwrn, Mehefin 29ain. Darllennodd y Parch. D. Adams, B.A., adroddiad y pwyllgor oedd wedi ei benodi ynglyn a'r achosion gweiniaid yn y cylch. Cymeradwywyd fod y Parch. G. J. Williams, Vittoria Street. Birkenhead, i weithredu fel ysgrifennydd trefniadol. Pasiwyd fod cais yn cael ei wneud at yr eglwysi cryfaf i gan- iatau i'r gweinidog fyned yn ddidraul i wasanaethu yr eglwysi bychain o leiaf unwaith yn y flwyddyn. Hefyd fod apel yn cael ei wneud at leygwyr deallus a phrofiadol i fynod yn achlysurol i ymweled a'r lleoedd hyn er eu cynorthwyo a'u calonogi. Hysbyswyd fod tymor y Parch. Griffith Evans, Queen's Road, Manchester, yn ter- fynu ddiwedd y mis presennol. Apwyntiwyd is-bwyllgor i wneud trefniadau er cario yr achos ymlaen. Darllennwyd llythyr oddiwrth Eglwys Undebol Anenwadol Ashton-in-Makerfield. Gohiriwyd hyd y cyfarfod nesaf. Hysbysodd yr eglwys yn Prescot eu bod dan yr angonrheidrwydd o wneud cyfnewid- iadau ynglyu a'r capel yno, ac yn gofyn am gynhorthwy. Penodwyd y Parch. W. Roberts, Golborne, i gynrychioli yr Undeb yng Nghymanfa Ddirwestol Gwynedd a gynhelir yn Liverpool. Galwyd sylw y Gynhadledd at dysteb Dr. Griffith John, gyda dymuniad i'r gwaith gael oi ddwyn i derfyniad mor fuan ag y gellir. Pasiwyd fod y cyfarfod nesaf i'w gynnal yn Southport. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddua o dan lywyddiaeth y Parch. J. O. Williams (Pedrog). Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch. J. Evans, Southport. Cafwyd anerchiad gan y Parch. Morgan Llewelyn, Booth Street, Manchester, ar Yr Eglwys fcl cartref i'n pobl iouainc." Diolchwyd yn gynnes i Mr. Llewelyn am ei anerchiad rhagorol. Wedi canu emyn, aed ymlaen at orchwyl dvmunol iawn, sef cyflwyno illwninciled address i Sir. Josiah Thomas am ei wasanaeth fel ysgrifennydd yr Undeb am 25 mlynedd. Oymerwyd rhan yn y cyflwyniad gan y Parchn J. O. Williams (Pedrog), R Roberts, Manchester (cadeirydd Undeb yr Anibynwyr Cymreig), O. Lloyd Owen, Birkenhead, 6. R. Owen, Park Road, ynghyda Mri. John Edwards, W. R. Owen, a J. Morris. Mal hyn y canodd Fedrog iddo :— Una'i glod enwog lewder --y gwron A brawdgarol fwj nder Llew hyf na. all ofni lifer, — Rhown at hwnnw yr oen tyner." Wedi i'r cadeirydd, ar ran yr Undeb, gyflwyno yr anerchiad, cafwyd ychydig eiriau gan Mr. Thomas yn amlygu ei ddiolch- garwrh i'r frawdoliaeth am yr arwydd hwn o'u teimladau da tuag ate, ynghyda datganiad o'i bendorfyniad i gysegru gweddill ei oes i wasanaothu ei enwad. Terfynwyd trwy weddi gan y cadeirydd. Brownloiv Ilill. J.M. Dosbarth Demi Gymreig Swyddi Lancashire a Chaer. Cynhaliwyd eisteddiad chwarterol yr uchod yn ysgoldv capel Crosshall Street, nos Wener ddiweddaf. Cymerwyd y gadair gan y Dosbarth Brif Demlydd (Br. Lewis Roberts), ac wodi myned drwy y gwasanaeth agoriadol, aed ymlaen i orseddu y swyddogion ond cafwyd fod amryw ohonynt yn absennol, felly bu raid gohirio hynny hyd y Ddosbarth Demi nesaf. Cafwyd adroddiad Pwyllgor Eisteddfod 1907. Mae y pwyllgor wedi bod yn Hwyddiannus i sicrhau y Central Hall, Renshaw Street, i gynnal y cyfarfod. Lie manteisiol i glywed, a chanolog i gyrchu ato. Mae y rhagolygon yn addawol am Eisteddfod lwyddiannus. Mae amryw o'r temlau yn frwdfrydig yn cynnyg gwobrau, ac hefyd y mae llawer o bersonau unigol yn rhoddi gwobrau a rhodd- ion anrhvdeddus. Cafwyd adroddiad y Br. T. C. Jones, o weithrediadau yr Uwch Demi, yr hon a gynhaliwyd yn Nhroforris. Cwynai nad oedd pethau yno mor flodeuog ag y gallesid disgwy] iddynt fod ar ol y Diwygiad diweddar. Teimlai fod yr awyrgylch yn oer ac yn ang- hymwys i dyfiant a chynnyrld, a disgwyliai weled yno fwy o waith a brwdfrydedd. Pasiwyd penderfyniad o'r Pwyllgor Gweith iol --cc Eiu bod yn gwahodd Pwyllgor Gweithiol yr Uwch Deml i dalu ymweliad a'r Dosbarth ym mis Medi." Hefyd pasiwyd y penderfyniad canlynol :—" Ein bod fel Dosbarth Demi yn dymuno galw sylw y cyhoedd at yr ymyfed sydd yn cymeryd lie ar y pleserlongau sydd yn rhedeg rhwng y porthladd hwn a Gogledd Cymru a marmau ereill, ac yn erfyn ar y Llywodraeth i osod y rhai hyn o dan reolaeth yr ynadon yn eu Mesur Dirwestol addawedig. Credwn fod niwed dirfawr yn cael ei wneud trwy nad oes arolygiaeth briodol drostynt.T 0 Gloddfa aur W.M.J." Nos Saboth, yng nghapel Stanley Road, wrth bregethu ar y geiriau Gan adael i ni esiampl, fel y canlynech ei 61 Ef," dywedodd y Parch. W. M. Jones, Crosshall Street, lawer o bethau byw, yn eu mysg Gan adael Crist o bawb a adawodd fwyaf ar ei ol i'r byd, er raai'^Efe dderbynniodd leia-f gan y byd. Nis gellir gwadu fod Crist wedi bod yn byw yn y byd. Pam ? Am ei fod wedi gadael ei 61 yma. Mae'n haws credu fod Iesu Grist wedi bod yn byw yn y byd, na fod Gladstone, y Frenhines Victoria, John Calvin, neu Paul wedi bod yma. 'Does neb all wadu ei fod, ac mae anfyddwyr yn hanner ei addoli wrth geisio gwneud hynny. Os ysgrifennant lyfr neu lythyr, maent yn mynd yn ol i Bethlehem am y dyddiad, ac yn dyddio eu correspondence ar gauad cryd y baban Ietsu. Ceisir dweyd mai un fel rhywun arall oedd lesu Grist— rhyw John Smith maent yn ei alw The man in the street." O'r gore ynte, ond o b'le daeth Crist yr efengylau yma ynte ? O cynnyrch athrylith yr ysgrifennwyr yw, mcddai diwinyddiaeth y papurau dimau yma. Y mae yn both newydd iawn i mi fod podwar o wladwyr di-ddysg, di-ddawn, di athrylith, wedi medru portreadu cymeriad perffaith, ag y mae hufen meddyliau yr oesau wodi methu ei wnend. Y mae fod y fath Berson a hwn wedi bod, yn wyrth unol a rheswm ond mae fod y bobl hyn wedi ei bortreadu ac yntau heb fod, yn wyrth groes i reswm. P'run fynnwch ? Waeth i chwi ddweyd wrthyf mai pedwar o anwariaid a ysgrifennodd Gyfatebiaeth Butler," neu mai pedwar o wallgofiaid o Rain hill ysgrifennodd Goll Gwynfa," na dweyd wrthyf mai yr efengylwyr ddyfeisiodd y cymeriad perffaith hwn. Eglwys Anibynol Martin's Lane. Cynhaliodd yr eglwys uchod ei chyfarfod chwarterol ddydd Sul diweddaf. Gwasan- aethwyd gan v Parchn. Owen Evans, D.D., ac O. Lloyd Owen. Ac er mai doniau lleol oedd y cyfryngau, eto ni chaed cyfarfodydd mwy llwyddiannus odid erioed yn banes yr eglwys. Ysgol Sabothol M.C. Anfield Road. Gwnaed pob trefniadau er's tro bellach i fyned a phlant a rhai mown oed yr [ysgol hon ly o am y treat blynyddol i Sefton ddydd Sadwrn diweddaf. Daeth y dydd-a daeth y gwlaw disgynnai dafnau breision o'r cymyl- au du uwchben, felly hefyd, mae lie i ofni, y dagrau o lygaid ami i blentyn siomedig wrth weled cestyll ci chwareuon yn cael eu chwalu. Ond ymhell cyn amser cychwyn, goleuai'r ffurfafen, peidiodd a'r gwlaw, ac ymdrlanghosodd brenin y dydd ae am un o'r gloch gwelwyd tyrfa liosog yng nghapel Anfield. Gosodwyd yr oil yn drefnus mewn deg o gerbvdau, a chaed drive tua 10 milltir trwy rannau prydferth o'r wlad, yr heolydd yn ddi-lwch, y gwrychoedd wedi eu gwisgo a Jblodau amrywiol, y gwair a'r irwollt glas a thoreithiog yn ymdonni tan yr awel esmwyth, nes llonni ami i lygaid nas gwelsai ond bricks a mortar er's tro byd, ac anadlu i'r fynwes nid awyr wedi ei thrwytho a mwg seimlyd y dref, ond ag awvr ffres wedi ei thynheru a gwlith Mehefin, a'i sentio ag arogl hyfryd gwair a blodau meillion a drain. Yn wir, gwych o beth. oedd cael allan o stwr a swn bvddarol y dref a'r German Bands a'r hyrdigyrdi i dawelwch swynol y wlad i wrando mwyn leisiau melusion yr adar bach yn y llwyni a'r perthi gerllaw. Yn ddiogel ac mewn pryd, wele ni yn Sefton, lie y caed popeth yn barod i'n croesawu. Caed ychydig egwyl i ehwareu gyda'r plant, ond drwy ryw gamddealltwriaeth a swyddog swyddfa'r gwlaw, gorfu arnom gilio dan do a gwneud y gore ohoni mewn chwareu a chanu. Pen- derfynwyd tan yr amgylchiadau gychwyn adref awr cyn yr amser penodedig, ac ar ol rhannu aur-afalau i'r plant, ac i ambell hen blentyn go hen ffasiwn yn ein plith, daeth y cerbydau, ac, yn rhyfedd iawn, oiliodd y gwlaw, a chaed noswaith o'r fath fwyaf dymunol i ddyehwelyd- -pawb mewn hwyl yn canu yr hen emyiiau anwyl sydd bob amser mor gydnaws ag anianawd y Cymro. Cyrhaeddwyd Anfield yn gynnar, heb hap na damwain, a thystiolaeth pernhennog y cerbydau ydoedd nas gwelodd erioed ysgol wedi ei thrcfnu mor fedrus er diogelwch y plant a rhwyddinob gwaith a'r ysgol hon. Dian fod y clod am hyn 011 yn ddyledus i'r swyddogion gofalus a gweithgar, sef yr arolygwyr, yr ysgrifenyddion, a r c.yfeilliKn caredig a roddasant eu gwasanaeth at hyn o orchwyl. Prydiiawn Saboth drachefn, cyflwynwyd y gwobrwyon roddwyd gan yr Undeb Ysgol- ion i'r plant a'r rhai mewn oed fu'n llwydd- iannus yn yr arholiad hefyd rhoddwyd, fel arfer, y gwobrwyon lleol. Daeth yr holl ddosbarthiadau i'r capel, ac nid rhyfedd i Mr. Jones. Cefn y Waen (oedd yn gwaaanaeth* yma y Saboth) dystiolaethu ar goedd fod yr olygfa yn werth myned ymhell i'w gweled— y bobl ieuainc a'r plant wedi eu gosod ar ganol y llawr, a'r olwg arnynt fel gardd o rosynau. Diau fod rhagolygon yr Ysgol yn hynod 9 11 ddisglaer, a chyfrifoldeb y rhieni a'r athrawon yn fawr ie, yn fawr iawn. Cofiwch gadwr yn fyw yr hen iaith anwyl Dyma un o'ch jpervglon cliwi yn yr ysgol ardderchog hon da chwi, cymerwch gyngor Mynyddog;- Gwnewch bopeth yn Gymraeg," a llawer llai o'r Saesneg yrna. Creulondeb o'r mwyaf yw esgeuluso dysgu ein plant i siarad a deall yr iaith a brogcthir iddynt. Hyn o gyngor yn garedig gan un sy'n hoffi Cymro, Cymry, a Chymraeg. (Rhagor o tudal. 8). --0-
FFETAN Y GOL.
FFETAN Y GOL. Ymneilltuwyr a'r Rhyfel Addysg. SYR,—Mae'r gobeithion ag oeddym wedi eu hongian ar nerth a gonestrwydd y Weinyddiaethjbresennol yn prysur ddifiannu. Hyd yn hyn gwadwyr fu pob gweinyddiaeth i Yi-nneilltiiaeth. Arglwyddi siolwag sydd wedi mathru ar ryddidjybobl. Polisi yr arglwyddi ydyw ymgrymu gerbron pob cais o eiddo" r Eg- lwys, a mathru pob cais o eiddo'r bobl. Ond weithian mae rhoch taran yn yr wybren wleidyddol na fu ei bath er's llawer amser. Yr oedd araith odidog y Prifweinidog y dydd o'r blaen yn amserol iawn. Rhaid i Ymneill tuwyr geisio bod yn amyneddgar dyma fydd ein nerth. Y mae costrelaid o hon yn nerth i ail osod ein hwynebau fel callestr, oherwydd nid ydyw y frwydr drosodd. Fe fydd yna apel at y wlad ymhen dv. y flynedd ac y mae mor bwysig i bob Ymnein- tuwr gael ei enw ar restr yr etholwyr ag yd3 iddo fod ar lyfr yr Eglwys. Dyma wait]; i Gyngor yr Eglwysi Rhyddion. SILYN RHYS. Dirwywyd Joseph Mansfield, tafarn y Railway, Cefn, i £10 a'r costau gan ynadon Rhiwabon, ddydd Gwener diweddaf, am ganiatau meddwdod yn ei dy.