Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

8 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

Family Notices

Advertising

NOD AC ESBONIAD.

Mynegair i Salmau can Edmwnd…

--u----Four Crosses, Pwllheli.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

--u- Four Crosses, Pwllheli. Go FID us gennyf gofnodi marwolaoth Jane, anwyl briod Robert Thomas, Tyddyn Dwn, yr hyn a gvmerodd le Mehefin 4, ac a gladdwyd Mehefin 8 ym mynwent henafol Abererch, yn 79 mlwydd oed. Gadawodd briod oedrannus a chwech o blant i alaru ar ei hoi. Yr oedd yn perthyn i grefydd er's trigain mlynedd, a bu yn aelod dichlynaidd a ffyddlon yng nghapel Ebenezer (M.C.), Fourerosses, am un mlynedd ar bym- theg a deugain. Bu iddi naw o blant, tri o ba rai a'i rhagflaenodd i fyd yr ysbrydoedd, a dygodd hwy oil i fyny yn addysg ae athraw- iaeth yr Arglwydd, yr oil yn proffesu duw- ioldeb ac yn addurn i gymdeithas. Nod- weddid ei bywyd yn wastad gan dawelwch a doethineb. Yr oedd iddi air da gan bawb. Hi a weithiodd yn rymus, a'r hyn a aUodd hon hi a'i gwnaeth." liellach dymunwn heddwch i'w llwch hyd ganiad yr udgorn." Mor ddedwyd yw y rhai trwy ffydd Sy'n mynd c blith y byw Eu henwau'n perarogli sydd, A'u hun mor dawel yw." Cyfaill. --0-- Mr. W. G. C. Gladstone, wyr y gwron o Benarddlag, a J. W. Summers (cadeirydd Cyngor Sir Fflint) a enwir fel ymgeiswyr ynglyn a Bwrdeisdrefi Fflint, yn wyneb ymneilltuad yr aelod presennol, Mr. Howell Idris, oblegid afiechyd. k Yn Llys Methdaliad Aberystwyth, ddydd Gwener, bu raid gohirio achos Reginald Worthington, paentiwr, oherwydd ei fod yn chwil ulw beipen" ac yn methu ateb cwestiynau'r Cofrestrydd

GlannauV Mersey

FFETAN Y GOL.