Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

DATGYSYLLTIAD a THY'R ARGLWYDDI.

DATGYSYLLTIAD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

DATGYSYLLTIAD. Lloyd George yn rhoi ei air. YNG nghyfarfod Undeb Anibynwyr Cymru, yng Nghastellnedd, ddydd Mawrth, dar- llennodd y Parch. Elfed Lewis lythyr a gawsai oddiwrth Mr. Lloyd George, yn ateb dau gwestiwn a ofynasai iddo. Y cwestiwn cyntaf ydoedd Os rhed y Senedd bresennol ei chwrs naturiol i ben, a fwriada'r Llywodraeth wthio Mesur Datgysylltu a Dadwaddoli'r Eglwys yng Nghymru drwy ei holl adrannau yn Nhy'r Cyffredin ? "I hwn," ebe Mr. Lloyd George, gallaf roddi ateb cadarnhaol diamwys y gwneir. Tros ymddygiad teb- ygol yr Arglwyddi-pan elo'r Mesur i fyny (neu lawr, p'run ddwedaf ?) i'r Senedd lionno, does gan y Cabinet, yn anffodus; ddim llywodraeth." Yr ail gwestiwn ydoedd Os bydd raid apelio at y wlad ynglyn a Thy'r Arglwyddi, a fydd i Ddatgysylltiad le blaenllaw ar y rhaglen swyddogol ? A'r ateb ydoedd y byddai pob cwestiwn mewn argyfwng felly yn ddarostyngedig i'r un pwnc mawr p'run ai'r Arglwyddi ai'r Bobl gaffai lywodraethu'r wlad. Sut bynnag, bydd Datgysylltiad i Gymru yn rhwym o feddu lie amlwg ymysg y pynciau y gelwir y Senedd i'w trafod dan yr amodau newydd- ion y gobeithiai weled eu sierhau fel can- lyniad y frwydr a'r Arglwyddi. Dywedai ymhellach ei fod newydd weled y Prifweinidog, a'i fod yn cymeradwyo'r atebion a roisai ef (Mr. Lloyd George) i'r ddau gwestiwn. Ac yn awr," ebe Mr. George, ymun- wch ar fin y frwydr fawr yn erbyn gelyn mawr rhyddid, Ymneilltuaeth, a Chymru-sef Ty'r Arglwyddi."

Advertising

Advertising

Advertising