Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Llythyr Gwleidyddol.I

CRED A MOES.

Nodiadau Cerdd orol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Nodiadau Cerdd orol. [GAN HU GADARN]. Arddull Eglwysig y Don. PRIN y gellir dweyd fod digon o bwys yn y don gynulleidfaol i roddi ffurf i'r hyn a elwir yn arddull eglwysig o gyfansoddiad. Y mae yn syml o'i [chymhartl A'r" wasanaethaii 9 (services), a'r anthemau a ddefnyddir fel cyfrwng moliant, ac oherwydd hyn yn gyfryw ag y gall cynhulliad lliosog gydganu heb ond ychydig ragbaratoad er yr addefir nad yw mor fynegiadol ag y carem, yn enwedig y tonau sillawg—sill o air i bob nod, tonau ag y rhoddir yr un pwysigrwydd i air bach neu fawr, pwysig neu ddibwys, Oherwydd hyn, nid yw y don agos mor ystwyth a'r salmdon fel cyfrwng mynegiant. Arddull Fydol ein Tonau. Fe sylwir gyda boddhad fod arddull tonau cynulleidfaol ein casgliadau Cymreig yn gyfryw y gellir dweyd eu bod yn bur rydd oddiwrth yr elfen fydol (secular). Er cael dirnadaeth am yr hyn sydd yn gwneud tSn yn fydol, cyfeiriwn ein cerddorion ieuainc at rai nodweddion trwy gyfrwng y rhai yr adnabyddir hwynt. Yn yr alaw, pan fyddo rheolau gwrthbwynt caeth yn cael eu dibrisio, megis os bydd neidiadau (skips) nwyedig, megis f i t,. neu d i fe, &c., yn cael eu defnyddio. Os bydd yr elfen oslefol (chromatic) yn cael lie, megis s fe fa neu s se 1, &c., yna syrth y tonau i'r dosbarth a enwyd. Yn y gynghanedd eto, os bydd cordiau cromataidd yn cael lie amlwg ynddynt, yna rhestrir hwynt yn yr un dosbarth. Un awdwr a ddywed y dylai pob ton gynulleidfaol fod yn llawn o lawenydd, yn llawn o urddas, o dynerwch, o daerineb, o gariad, ac o barchedig ofn, yn ol nodweddion yr emynau o ganlyniad yn rhydd oddiwrth bob ysgafnder a llesgedd ysbryd." Ac ni allesid dweyd ychwaneg. Gellir dwyn i fewn ffurfiau newyddion heb beryglu urddas y cysegr. Rhaid i ni, er hyn, gadw mewn cof fod rhai effeithiau bydol neilltuol ag y gorffwys arnom eu gwrth- sefyll fod rhai nwydau a chynhyrfiadau, ynglyn ag arddull, nad ydynt byth i gael eu deffroi yn yr addoliad. Y mae hefyd rai cysylltiadau pan yn ceisio cyfaddasu cerddoriaeth at ddibenion eglwysig na ddylid ar un cyfrif roddi derbyniad iddynt, megis y ddawnsdon, yr ymdeithdon, &c.,—arddull- iau y dylid bod yn ofalus na fyddo ein cerdd- oriaeth yn sawru gormod o'r elfennau sydd ynddynt, gan gofio nad yw y gynulleidfa yn yr addoliad i fod fel pe dan ddylanwad yr ymarferiad milwrol, nac ychwaith i fod fel pe o dan ddylanwad swyn hudolus y ddawns. leuad Tonau ac Emynau Neilltuol. Y mae cryn lawer i'w ddweyd o blaid arfer emynau neilltuol ar donau neilltuol. Cawn yn ein casgliadau yr emynau mwyaf poblogaidd, y rhai sydd yn cael eu harfer amlaf gennyrn, fol rheol, yn cael eu canu ar donau neilltuol a'r un tonau yn ddi- eithriad. Dengys hyn fod gan ein cynull- eidfaoedd allu i wahaniaethu rhwng tonau sy'n dwyn allan feddwl yr ernynau yn fwyaf naturiol,a'r tonau lie bo'r elfennau hyn yn fyr. Dyweder a fynner, dyma y tonau a'r emynau sy'n dwyn ein eynulleidfaoedd i feddwl. Pwy feddylia am ganu Gwaed y Groes sy'n codi fyny ond ar Bryn Calfaria ? "Bydd Myrdd o Ryfeddodau"ond ar Babel" —tonau y ceir ein eynulleidfaoedd yn ym- ollwng iddynt yn naturiol. Y mae amryw donau ac emynau cyffelyb tonau yr un emyn, ac emyn yr un don. Yr Alaw yn unsain. Nid yw y canu unseiniol hyd yn hyn wedi cael ond ychydig sylw gennym yn ein can- iadaeth gynulleidfaol ond lie byddo offer- ynau da, yn neilltuol organau, y mae ceisio yr amrywiaeth hwn yn sicr o fod yn effeithiol. Cymerer y pennill cyntaf a'r olaf yn unig mewn unseiniau, gan adael y gynghanodd i'r organ ni ellir meddwl am amrywiaeth mwy boddhaus ychwaith Ni ychwanega o gwbl at yr anhawster tybiedig. Byddai canu y tonau yn y modd hwn yn rhwym o greu awydd yn ein cynulleidfaoedd i fab- wysiadu y dull drwy hyn ceir cychwyniad hyf, pan fyddo pawb yn cydganu yr alaw yn unig, a phan y diweddir yr emyn yn yr un modd, cyrhaeddir y climax gydag effeith- iolrwydd. Dylai yr Amen yn unig fod mewn cynghanedd-expcriment hawdd i roddi prawf arno. Gyda phrawf teg, ni fydd dwy farn ar y mater.

Advertising

Advertising