Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
9 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
HONOURED BY HIS MAJESTY Atelier, CAD flXTTlT Grand 3 Lord St., OAIWINlIir, Studios: Liverpool. r* x L i. 93 Grange rd POftfOlt Artist. Birkenhead. Tel. 1355 Central. Tel 62 Y BirKenhead. STUDIOS ARE FITTED WITH THE VERY LATEST IMPROVEMENTS IN ELECTRIC LIGHT. WEATHER NO OBJECT. Our Speciality: 3 Cabinets, Platinomatt, 2s. 6d. Business hours 9 a.m. to 6 p.m. Saturday, 9 a.m. to 5 p.m. CYNRIC, Y TEILIWR ø CYMPEIG. ø 14 SMARTNESS WITH ECONOMY RELIABLE TAILORING. NEWEST PRODUCTIONS IN SUITINGS TROUSERINGS AND RAIN-PROOFS AT REASOANBLE PRICES. a E. C. Kenrick., ø62 RENSHAW STREET.^ Crawford'S ■ RGAM mRACKSRS
CYHOEDDIAD EISTEDDFOD FAWR…
CYHOEDDIAD EISTEDDFOD FAWR LLANGOLLEN. [GAN YR HEN FRYTHON]. 1858. Eisteddfod Fawr Llangollen Gyda'm bod yn ysgrifennu'r frawddeg, dyma fy meddwl yn gwibio yn ol am hanner canrif, ac yn llewyrch hanes yn canfod digwyddiadau dyddorol a phwysig Eis- teddfod 1858. Nid oeddwn yn honno fy hun, ond daethum i wybod am dani yn lied fuan wedi iddi fyned heibio, yn ei digrifwch a'i gwerth. Bu yn achlysur llawer iawn o ysmaldod. Yr oedd y Punch Cymraeg yn fywly pryd hynny, ac un o'i ddigrif-bethau ef oedd ei bro- ffwydoliaeth parth yr englynion cystadl- euol i lywyddion yr wyl-Carn Ingli, Whalley, Dr. Games, a Ceiriog. Hysbysai y Punch nifer y cystadleuwyr, a chyhoedd- ai yr englynion buddugol ymlaen Haw, a chellweirus iawn oedd y cyfan. Yr oedd yr englyn i'r naill lywydd yn ei ganmol ef i'r cymylau, ac yn rhedeg y lloill i lawr. Yr un y cenid iddo am y wobr oedd gorfforiad o bob mawredcl. Wedi dod at Ceiriog, y llywydd olaf, dyma fel y safai pethau :— Os ffaelodd Games y ffolog-a Whall- Ac Ingli ddegonglog, [ey Eu curo oil wna Ceiriog, Tra cywion cath, tra can cog." Ychwanegodd Ceiriog ei hun yn fawr at ysmaldod yr Eisteddfod honno efo I- Pastai Fawr Llangollen." Ond, er hynny, Eisteddfod fawr yng ngwir ystyr y gair fu hi, a chyfrannodd Ceiriog at ei gwerth yn ei Riangerdd anfarwol Myf- anwy Fychan." Yr un modd hefyd Eben Fardd, yn ei awdl ardderchog, Brwydr Maes Bosworth;" a Nicander yn ei bryddest glasurol, Cymeriad Rhufain." Pe ceid y tro hwn eto bethau tebyg i'r cyfansoddiadau hyn, diau y cadwai Eisteddfod Llangollen ei hawl i'r ansoddair mawr." 1907; Ond y Cyhoeddiad a gymerodd le ddydd Iau diweddaf oedd yn fy meddwl wrth ddechreu ysgrifennu y waith hon. Wel, mi a aethum yno, ac fel y neshawn i'r gymdogaeth, gwelwn arwyddion fod amryw heblaw fy hunan yn cyrchu i'r un fan, i'r un peth. Lie go dda sydd yng ngorsaf Rhiwabon i ddal y rhai a ddeuant o amryfal bwyntiau i wneud am gyfeiriad y Bala efo'r tren. Wedi disgyn yno, gwelwn nifer o hen Eistedd- fodwyr profiadol a ffyddlon yn cwrdd ar yr orsaf, ac yn siarad Eisteddfod a u gilydd mor ddiwyd a haid o ieir yn pigo yd ar fuarti-i,-Syr Marchant, Gwynfe, Mri. Llew Wynne, Lloyd Carter, Harri Evans, David Jenkins, &c. Yr oeddynt yn ddoniol dros ben, ac ni fuasai neb yn meddwl y gallasai yr un ohonynt ddweyd gair garw am fath yn y byd o bechadur, mewn na llys barn nac Eisteddfod Cyrraedd Llangollen. Erbyn i ni gyrraedd Llangollen, gwelem fod yno eisoes filoedd o bobl yn cerdded yr heolydd, a banerau amryliw yn disgwyl awel i'w chwifio'n groeso i'r ymwelwyr. Nid oedd hi eto ond cynnar ar y dydd, a gwnes fy ffordd tua Pare y Plasnewydd, er gweled faint o wir a ddywedasid am y Maen Llog anferth. Ond cyn i mi gyr- raedd yno, gwelwn Cadfan yn dyfod i'm cyfarfod yn y pellter, a rhywbeth tebyg i'w gysgod wrth ei ochr ond erbyn dyfod atynt, gwelais mai Eifionydd oedd hwnnw. Nid gwir y stori mai yng ngwain Cledda'r Orsedd y cysgasai y Cofiadur y noson gynt, oblegid clywais gan yr Archdderwydd ei hun na fu y cledd o'r wain y noson honno. A chan i'r ddau wyr hyn, ynghyda Gwynedd a'r Archdderwydd, gymeryd dyddordeb ynwyf fel hen weddillyn o'r dyddiau gynt, mi a aethum gyda hwynt, lincyn-loncyn, ac ymhle y cefais fy hun dan eu nawdd ond yn yr Hand Hotel! 'Roeddwn i'n teimlo fy hun yn dipyn o ddyn yn y fath gwmni, ond er hynny yn lied swil hefyd, ar ryw gyfrif. Modd bynnag, mi welais fod popeth yn iawn, oblegid pwy ddaeth i fewn yno ond y dirwestwr dihafal a'r Cymro trwyadl, Mr. W. G. Thomas, Caernarfon ac yn fuan wedyn yr eistedd- fodwr profedig, Mr. M. T. Morris, o'r un dref. Croeso. Cefais fy nghyflwyno yn garedig i sylw Mr. E. Foulkes Jones ac erbyn deall pethau, efe a'i briod hawddgar a drefnasant i ni gael yno wledd ddanteith- iol, a'i gwell ni fu ar fwrdd o ddechreuad ciniawau hyd y dydd hwn. Tybiwn nas gwelswn foneddwr neisiach na Mr. Foulkes Jones-neb mwy llygadlon a dirodres, na mwy awyddus i wneud pawb, yn enwedig hen wr, yn gysurus. Mae ef a Mr. Lloyd Carter wedi gadael argraff anileadwy serchogrwydd wyneb- agored arnaf, yn anad neb dynion ymron. Mae nhw fel dau hogyn difalch, a'u croeso fel bwrlwm ffynnon. Bachgen braf, a Chymro dirodres, yw Mr. L. J. Roberts, ac i'r dim yn ol fy chwaeth i o gwi-nnyaeth. Fy Nyrchafiad. Ond nid dyna'r cwbl. 0 ran direidi diniwed, mae'n debyg, gwnaeth yr Arch- dderwydd mwyn i mi fyned efo nhw i gael gwisg Orseddol, ac nis gallaf adrodd y fath iasau dyeithr a'm cerddodd pan gefais fy hun ynddi Ychwanegwyd yn fawr at fy urddas pan godwyd fi i gerbyd pedair olwyn hardd yn yr orym- daith. Chwarddodd pawb, a minnau yn eu mysg, pan welsom Eifionydd yn hedeg yn glir oddiar lawr i fyny i ochr y gyried- ydd, fel ceiliog i'w glwyd. Prin y gallai y cerbydau gael lie wrth amgylchu y dref, gan nifer y tyrfaoedd ar bob Haw, ymhob man. Gwelais Mr. Evans, y Brython, yn sefyll ar ymyl yr heol, a clxododd ei het i mi yn bethma ryfeddol Ond y gwaeth- af fu, dechreuodd wlawio am ein pennau, a gorfu i ni godi'n gwlawlenni—yr hyn, er fy ngofid, a rwystrai y bobl i weled fy nyrchafiad. Yr Orsedd. le, Maen Llog anferth oedd ym Mharc y Plas Newydd Fel yr elem i fewn i'r Cylch Cyfrin, cyffyrddwyd fi i'r byw gan y cor o blant yr ysgolion a ganent Hen Wlad fy Nhadau. "Happy hit!" medd- wn i. Dim Saesneg mewn Gorsedd," ebai un o'r beirdd mewn urddwisg. Wel, mi ddwedaf eto mai un o'r pethau goreu yn y Cyhoeddiad oedd y cor lliosog o blant a'u canu Cymreig. Gwelais y Mri. Pencerdd Williams a Carno Jones gyda hwynt, ac yr oedd hynny yn esbonio llawer i mi. Cafwyd araith Gymreig, ddilediaith, wladgar, a hyawdl, gan Syr Marchant, a da gennyf oedd ei glywed mor gryf dros Orsedd y Beirdd. Cymro o'i ferwig i'w esgidiau yw efe, ac un o golofnau cadarnaf yr Orsedd a'r Eistedd- fod. Mewn ychydig funudau cafwyd gan yr hyawdl Gadfan araith danllyd, a sicrhaodd ni nad oedd ddim ond y ddaear ei hun yn hynach na Gorsedd Beirdd Ynys Brydain. Gwelais well hwyl ar yr anerchiadau barddonol, ac ymddanghosai fel pe buasai y gwlaw, diymbaid erbyn hyn. wedi diffodd fflam yr awen yng nghorynau y brodyr doniol. Gwnai yr Archdderwydd ei waith gyda hunanfeddiant ac urddas, ac od oes arno fai, hynny sydd am ei fod yn rhy fyr ei wallt a rhy hir ei ben. Bu yno urddau afrifed, a gofidiwn weled ambell ben moel, talentog hefyd, a'r gwlaw yn curo arno, yn disgwyl bendith a gradd gan yr Archdderwydd; a gwelais rai hetiau silc newydd danlli wedi eu handwyo yn enbyd. Dipyn yn anrhefnus fu ceid- waid cyleh yr Orsedd, a chyn diwedd y seremoni yr oedd y plant, a'r "bobl gyffredin wedi rhyfygu at y Maen Llog. Cafwyd llu o'r Welsh Fusiliers i ofalu am drefn, ond yr oeddynt mor ddiniwed a'r Bwch Gafr cenedlaethol hwnnw oedd yn yr orymdaitli. Rhaid atal peth fel hyn y tro nesaf. Buaswn yn awgrymu rhoi gwn i'r Cofiadur, fel y gallo saethu ergyd o bryd i bryd-nid i ladd o angen- rheidrwydd, ond i gadw priod ddychryn ar bobl hyfion. Yr oedd safle'r Orsedd yn dra dymunol, ac Arlunydd Penygarn wedi ei threfnu i berffeitlirwydd, yn ol ei arfer. Tybiais fod yr haul yn tywynnu arnom, ond gwelais mai gwen fawr siriol Mr. John Rowlands oedd yn y cylch. Na, parhau i ddisgyn wnaeth y gwlaw, ac yn wlyb y dodwyd y cledd yn y wain. Sylwais wedi hynny fod y Tan Ddiffoddwyr ymysg y cymdeithasau lliosog oedd yn yr orymdaith, a gwyr pawb fod y Gwlaw yn perthyn i'r gymdeithas honno Yfwyr Te. Cefais fy hun yn nesaf gyda Chadfan mewn pafiliwn eang, lie y darparesid te a danteithion amryfath, a gwelwn fod yno dyrfa fawr iawn yn helpu eu hunain. Yr oedd y Cofiadur gerllaw hefyd, ac ofnwn bob munud iddo dagu, achos yr oedd cynghaneddion yn dod allan, a bara brith yn myned i fewn ar unwaith, a thrwy yr un drws! Pan oeddwn i, druan di-ddanedd, ar ganol fy nhasg, gwelwn Mr. Herbert Roberts, A.S., yn sefyll ar ben bwrdd yng nghanol y pafiliwn, a dechreuodd ar araith a dynnodd sylw pawb yn y fan. Ond bum i yn ddigon llwynogaidd i gymeryd yr araith i fewn drwy fy nghlustiau, a'r pethau ereill trwy fy safn, ac felly wneud y gore o'r ddau fyd." Yr wyf fi o'r farn er's talm nad oes gennym A.S. Cymreig yn rhoi mwy o liw y llenor ar ei areithiau nag a wna y boneddwr gwladgar hwn, ac felly y tro yma. Yr oedd meddwl da ymhob brawddeg. Mae'n werth i Eisteddfod Llangollen gael gwr o'i braffter Cymroaidd ef i'w chefnogi. A welsoch chwi y Parch. W. Foulkes ? Gwr byr o gorff, ond difesur ei ddawn. Mae o'n foel iawn o wallt a barf, ond mae cnwd o arabedd yn ei dafod. Manion. Sylwais fod yn Llangollen gynrychiol- wyr o ganolbarthau llengar ereill yng Nghymru a Lerpwl. 0 Fon yr oedd R. Mon a Mr. Lewis Hughes. Rhagorol oedd gweled cefnogwyr Eisteddfod Mon yn talu gwarogaeth i'r Eisteddfod Genedl- aethol, a hardd oedd yr olwg ar Faner Corwen yn yr orymdaith. Arwydda hyn fod y berthynas eisteddfodol deuluaidd yn iach. Ysgrifennydd di-guro yw Mr. E. D. Jones, ac ymddengys i mi fod Pwyllgor Llangollen eisoes wedi deal! sut i ymafaelyd fel un gwr yn y gwaith sydd o'u blaen. Gofod a ballai i ymhelaethu a manylu. Ond, yn enw cenedlaethau o Broclamasiwnau ac Eisteddfodau, ymh'le'r oedd y Finsent ? 'Roedd Syr Marchant hebddo ef fel gefell heb ei gymar. Tro Digrif. Ar y ffordd i'r orsaf, gwelwyd digwydd- iad syml, ond dyddorol ddigon. Yr oedd ar yr heol ddyn yn gwerthu rhaglenni y cyngerdd,ac un arall yn canu am gardod. Cawsai y cyntaf 'paned o de go gryf yn rhywle, a phan welodd ei rival yn sefyll yn ei ymyl, dechreuodd ganu i'w ganlyn, mor debyg iddo mewn ton ac ystum ag y gallai. Wedi hynny aeth o gwmpas efo'i het, ond ni roddwyd dim ynddi. Faint o wahaniaeth oedd iddi felly a phan am ben ei pherchen, wn i ddim. Beth bynnag, pan welodd efe na roddesid dim iddo at y gasgl i'r canwr, chwiliodd ei logell ei hun, a thynnodd allan ddarn chwe' cheiniog. Gan nas gallai fforddio rhoi hwnnw i gyd, aeth i faelfa gerllaw i'w newid, a rhannodd efo'i frawd tlawd Teimlodd pawb, wedi'r cyfan, fod telpyn go rywiog o'r ddynol natur yn y dyn a rannodd ei dda ag arall. Mewn Gwasgfa. Piti garw na fuasai trefniadau y reilffyrdd yn gystal a'r Cyhoeddiad, yn llaw y Pwyllgor. Wn i ddim beth ddaeth- ai o hen greadur musgrell fel y fi yn yr orsaf, onibae i mi gael y Llew o Benbedw i fy helpu Fum i erioed mewn lie tynnach ymysg pobl, a chollodd hyd yn oed y Llew ei ymbrela a'i sigaren yn yr ymwthfa Wel, bydd gennyf atgofion dyddorol am Gyhoeddiad Llangollen, ac am y modd
Advertising
Testynau Eisteddfod Llangollen.- Rhestr gyflawn y testynau yn awr yn barod, ac i'w chael, pris 6ch. drwy'r post 7 c; gan Evans, Sons f4 Fouthes, Swyddfa'r "Brython."
Gorsedd Llangollen, 1907.
Gorsedd Llangollen, 1907. MAEN LLOG i enwog Ganaan-a gludwyd, Disigl ydyw weithian Ac oni lysg awen lan We1 orswynol ras Anian Ymwelwyr, culwyr cwla,—o'r afiacli Drefi ddeuant yma Ac mae rhin digymar ha' Yn Llangollen i'w gwella. Ym mhabell haul mae meib Lien—a Bardd- Heb oerddig na chynnen [as Cawn deulu hoff cenedl hen Oil yn gall yn Llangollen. PEDROG. YN glir cyhoeddir Heddwch—yn hirsain 0 Orsedd gwladgarwch Mewn trefn rhwng ei meini trwch Daw gwerin mewn brawdgarwclx. Ac heddyw y cyhoeddwn—wyl cenedl, Canu wnawn ein byrdwn Castell Bran adseinia swn Miwsig y Proclamasiwn. E ddyry'r Archdderwydd, haerwn,—a'i dda Sail i'r Proclamasiwn I swydd Gyda'i air fe geidw hwn O'n Gorsedd bob hen garsiwn. O'r 'Steddfod hynod ei hwyl—da ernes Fo'r diwrnod a'i orchwyl Awenog Gymry anwyl, Da chwi, wyr hoff, dowch i'r wyl. ABON. GER Dinas Bran Myfanwy,—a'r hudol Gysegredig Ddyfrdwy, Y Cyhoeddiad mad fyn mwy Enynu tyd Nantheudwy. Duw Anian fu'n gwneud hynod—baradwys Briodol i'r 'Steddfod A Dyfed fawr ddywed fod Gwyl ddifyr i glau ddyfod. Addfedu'n Eisteddfodol—y bo'n gwlad Erbyn gwledd ddyfodol Na fydded neb fo haeddol O'n Jiwbili ni yn ol. GWILYM CEIRIOG. WALIA deg Wele y dydd Y Ilona bardd a llenydd Pan ddaw'r awen wen anwyl Gydag aidd i gadw gwyl- Gwyl a'i defion gogoned Mal ffrwd aur o'r oesau red. Bron, er Babel a'i helynt—Ah cyn rhwysg Hyna'r Aifft yr oeddynt Bu'n deddfu i Gymru gynt-Orseddau- Cynadleddau ein cenedl oeddynt. Drwy'u taith, yn eu gwaith i gyd-dilynodd Hud-oleuni hyfryd, Hil Gomer, er bore'r byd, O der wynfa dwyreinfyd. Eu gorsedd wen, o'i henoed, Roes effaith i Raith erioed Cawn ninnau, ac un anadl, Ynddi hi dorri pob dadl. I'w chylch nerth a phrydferthion—ry' mawr hedd, O'r mynyddau llwydion A thry'n wres yn hanes hon Lewyrch haul o'r uchelion. Ond diau, o'n cylchau cain, Hwn yw'r cylch-aurgylch, eurgain Cylch beirddion rhadlon a rhydd, Yn swyn awyr Plas Nowydd. Nid oes well Capel y Coed, A'n glwysgor yn y glasgoed Dan do dail, irddail farddas Heddyw gawn tua'r lawnt las. CADVAN. Hydidecal rawd Ceridwen—daw yr wyl I dre wiw Llangollen A bydd yma wynfa wen Dan lewyrch denol awen. Am ei haf yn Mehefin—hola'r byd Gwelir beirdd mown drycin A thaer yw iaith y werin Am yr hawl i rwymo'r hin. LLIFON. CAER odiaeth meib Ceridwen—ac hefyd Cylch cofeb yr awen Bywha pawb, a thry bob pen Yn gallach o Langollen. EiLiirALED. o
Gorsedd y Beirdd.
Gorsedd y Beirdd. BRAIDD na theimlasom fraw yn ein cerdded pan dderbyniasom y dydd o'r blaen bam- ffledyn gyda'r penawd "Rheolau a Chyf- ansoddiad yr Orsedd Ond pan welsom mai yn enw Eifionydd yr oedd hyn oll, ymollyng- asom i'n cadair, gan feddwl am y ffordd fwyaf hunan-fwynhaol i dreulio munud difraw, a chlywem rywbeth tebyg i englyn yn ym- wingo o'n mewn, a'r wine yn dod i'n llygaid. Gwelwn fod ym mryd y Beirdd i ddiwygio eu rheolau Gorseddol, a dyma ger ein bron bamfifledyn o wyth tudalen o'r Cyfansoddiad Newydd a gynhygir. Rhaid i ni gael ychwaneg o amser uwchben y cynhygion hyn, a da gennym ddeall y caniateir tair blynedd i ddeiliaid yr Orsedd i bensynnu yn eu cylch. Ar yr olwg gyntaf, ymddanghosant i ni yn fwy dyrus na'r pedwar Mostir ar Hugain ac mor sychlyd ag ami Awdl a ddarllenasom yn y mesurau hynny. Gobeithio, modd bynnag, na fygir yr ysbryd traddodiadol rhydd ac afiaethus fu yn gwneud Gorsedd y Beirdd mor Gymreig a dyddorol i'r lliaws, drwy ei gyfyngu i reolau gorfanwl pwyllgorau cyffredin. Ni fyddai gan Glwydfardd na Hwfa Mon fawr o reolau ond a nyddent allan o'u meddwl a'u teimlad awengar a brawdgar eu hunain, yn ol yr amgylchiadau. Yr oedd y rheolau ynddynt hwy fel y we yn y pryf copyn, ac ni feddylient am eu hargraffu mwy nag y meddyliai tad am ar- graffu rheolau ei aelwyd. Ond mae hon yn oes y pwyllgorau a'r cynadleddau, a rhaid i'r ysfa drefnyddol gael ei lie ymhob man, efo pob peth. Personoliaeth fawr, garedig, ddoeth, yw y nod angen i'r Maen L16g, yr hyn hefyd a geir yn yr Archdderwydd Dyfed. Gresyn os y teimlir fod culni na hunangais o du neb yn peri yr angen am y rhaffau hyn o reolau am sefydliad mor rydd a gwerinol a Gorsedd y Beirdd.
GLANNAU'R GLW)J,
GLANNAU'R GLW)J, Y mae Mr. Goodbody, Rhyl, yn by^i8^ ei enw, oherwydd y mae ar ei oreu yn daioni er pan y mae yn y dref. cyfarfodydd i hyrwyddo dirwest a enre ) ganddo yn y Boys' Brigade Hall a* j flwyddyn, ac yn yr haf y mae yn ar lan y mor. Anfonodd gais ychydig g! iau yn ol am ganiatad i roddi Gospel *a y y traeth. Ond mewn cyfarfod o Gyng j Dref, a alwyd i ystyried y cais, gwrthwy»■ rhai o'r Cynghorwyr mor fiyrnig a phe c gosod Fever Van yno. Y mae yn o sylw mai y gwrthwynebwyr pennaf y cynghorwyr sydd yn y fasnach fed Nid yw yr Efengyl a'u masnach cytuno yn dda. Pan ddaw yn ddydd p gl) etholiad ar y brodyr hyn, ceisiwn gon ,,j gwrthwynebiad ac ymadroddion clasur rhai ohonynt. Y mae y mater i gae drafod eto. oof Dyma y Cyngor a basiodd, ychydig » | yn ol, eu bod i roddi derbyniad swyda i General Booth yr wythnos gyntaf yn y nesaf. Pe gwyddai yr hen batriarch h0,"g0, Cyngor, prin y credwn y derbyniai eu cro Llongyfarchwn yr Heddgeidwad Foulkes, Rhyl, am ei fedr i ddal 1101 Yr oedd heddgeidwaid Dublin er's gweled rhyw frawd llaw flewog a elwir g(ji Weston, &c., &c. Yr oedd Foulkes .j cael disgrifiad amherffaith ohono, ac tw yf, ar lan y mor gwelodd un oedd i f ateb i'r disgrifiad, a thrwy holi yn ,g0n cafodd ddigon o brawfion mai George V* v ydoedd, a chymerodd ofal ohono hyd e] daeth swyddog o Dublin i'w gyrclui i .y! ladrad. Y mae gennym sail i 9 llwyddiant mawr i'r heddwas ieuanc lo Foulkes yn ei alwedigaeth. ta1' Y mae Cyngor Abergele wedi cais a dderbyniodd o Dublin i gynnal anaeth crefyddol i blant ar y traeth. fuasai pobl dda Cyngor y Rhyl yn a chais o'r fath. Preis gwael gafodd gwraig Torn e) West Street, Rhyl, pan briododd ef. Erne; fod yn abl i ennill o 32/- i 35/- yr wy gwell ganddo ofera ei amser, a weithio, gwaria ei enillion am ddio^j meddwol, a buasai ei wraig a'i Want llwgu onibae ei bod hi, druan, yn ■tUiP' yn galed,acyn cael cynhorthwy gan Y ddau hedd-ynad oedd yn trin achos J Price, y meddwyn, am "aberthu ei v^ borthi blys," ddydd Llun diweddaf, p Mr. J. H. Ellis, Wine Merchant, » # Taverner, boneddwr sydd—neu a » fod—yn y fasnach. Rhoddasant gyng" V tadol i'r meddwyn i ymgadw oddxw 0 ddiod, &e. Dirwywyd ef i £1 a il s. gostau. n y Yr oedd motor car, ddydd Gwener" °Lyji diweddaf, ar ei ffordd o Gorwen i Bay, ond pan gerllaw Llanelwy, wrth ymgadw rhag myned i wrthdarawiad a byd arall, aeth i'r gwrych, ac er i'r pereo garai gael eu taflu allan ni anafwy ^y, Ond drylliwyd y motor, tae fater am n|0tof« Ni fyddai waeth gennym pe'r elai holi ,cli y wlad yn gyrbibions tra bo pawb on yn dianc yn ddianaf.
Advertising
Testynau Eisteddfod Llangollen'^ Rhestr gyflawn y testynau y*1 *cifl yn barod, ac iw chael, drwy'r post 7\c, gan Evans ,» & FoulRes, Swyddfa'r Brytho^,
BWLCHGWYN A'R CYLCH- od
BWLCHGWYN A'R CYLCH- od DDYDD Iau diweddaf, cynhaliwyd cy gwyl flynyddol Gobeithlu Capel Penjol, Yr ydym ninnau, bobl y wlad yma, y" am fara brith rhagor ein hynafiaxd, » toraeth ohono gyda'r te heddyw. fei f a'r hyfryd fyn yr oes hon yn ex bwyd, ei phopeth, ac nid yr iach a'r «ia c, Ond 'does mo'r gofod i fynd ar ol y V er ei fod yn eitha testyn, serch hynnY' # Yn y cyfarfod a ddilynodd y wled lywyddiaeth y Parch. J. LI. caed amryw anerchiadau dirwestol- adwyd am ddirwest o'r safbwynt wiei^ gan Mr. W. Roberts, Gwynfryn; 0t bwynt crefydd gan Mr. J. LI. Evans- bert6- safbwynt llenyddol gan Mr. D. Abergroes. Yna caed gair yn gyffredinol gan Kendrick, yr hwn hefyd a roes ghpe i'r vsmygwyr, nes oedd amryw yn 11 yn ed8rych tan eu cuweh. Ac gnoi gwinedd bysedd, na son am y rhaid i ni ddirwestwyr gyfaddef mai g ydyw alcohol a nicotine, a'r blys mewn egwyddor yr un, ond fod un yl1 dinystriol na'r llall. Llawer gwaith y gwelwyd rt)r poeth yn cyndyn ddadleu tros hvy'-V nf odiad, tra'i getyn yn mygu yn ei ynte ddwy ffos o sug baco yn in ° y cnowr A Caed hefyd ganeuon dirwestol yn y cyfarfod gan Mr. J. W. ^?be^ia< Williams, Gwynfryn (sydd yma n 0 Wallasey), Naomi a R. Jones, Wm- j0t)« (Hen Giat), dadl ddirwestol gan i<- a'i gyfaill, ac adroddiad gan R. J* ° do,etV; Caed noson ddifyr a llawn o ade^dfJor<|h ac amhosibl fuasai cael cymhwysa gtffi 1 argraffu ar feddyliau'r ieuenctyd y a'r diogelwch sydd mewn llwyrym fe 'Rhoswch i'r rhod droi, ac yn** dywydd braf, ebe pawb hyd y sycbfu ddiweddaf ond dyma hi, fyi»ry „ 0 d er y cwbl. Ond diolch, y -'r hyd y topia yma, gan ei fod yn Hi ^yd00 tadedd ys gwn i sut y mae hi a y Rhos, bellach ? ° clttoø Enillwyd y wobr—tri goreu i Raglen Eisteddfod Ab Miss L. C. Hackney, Aberystwyth.
CYHOEDDIAD EISTEDDFOD FAWR…
caredig yr ymddygodd y Gorseddogion a'r Pwyllgor at hen wr o'r oes o'r blaen, ac os byw fyddaf hyd hynny, ni fydd gennyf wrthwynehiad i'r un peth eto, fel tae. Lwc dda i Eisteddfod Fawr Llangollen, 1908