Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

14 erthygl ar y dudalen hon

Gwahanol Gyfnodau.

Nodiadau,

210,999.

Cyflogau'r Athrawon.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyflogau'r Athrawon. Gadawer ini yn awr edrych dros y treuliau a gynhygir. Mae gennvch, os dilynnir yr awgrym a roddwyd gennyf, oddeutu E2,167 ynghyda £ 60 oddiwrth y tai i wario ar yr Athrofa. Nid wyf yn dweyd fod hynny yn swiii urddasol o gwbl, ond y mae yn rhaid i ni wneud y goreu o'r hyn a feddwn. Y peth cyntaf a gawn yw cyflogau'r athrawon. G osodir hwynt i lawr fel y maent ac fel y cynhygir iddynt fod :— e r_1 Yn awr. Anicangyxrii. £ £ Prifathro Edwards 250 Prifatliro 280 Proff. H. Williams 240 Proffeswr 270 Proff. Stevenson 200 Proffeswr 250 Pareh. E. O. Davies 140 Proff. Newydd 200 Parch.R,HRichards 140 Proff. Newydd 170 Cofrestrydd 50 Cofrestrydd 70 Ysgrif ennydd 10 Y sgrifennydd 10 Cyfanswn £ 1030 Cyfanswm £1250 Gwelir y cynhygir cynhvddu'r treuliau hyn £220. Dymunaf ddweyd nad ydwyf mewn unrhyw fodd yn credu fod yr ychwan- egiadau a gynhygir yn ormod ar gyfer y gwaith a wneir. Ni cheir athrawon mewn unrhyw goleg yn gwneud eu gwaith yn well, nac yn fwy ymroddgar. Gallwn brofi drwy lythyrau oddiwrth rai o'r arholwyr estronol fod yr athrawon y cwynir mwyaf gan ambell i fath o efrydydd ac a gebiir gancldo yma a thraw ar hyd y wlad yn gwneud eu gwaith llawn cystal os nad gwell na'r athrawon y myn ganu eu clodydd i bob man yr aiff. Nid beth y mae'r athrawon hyn yn ei deilyngu ydyw'r cwestiwn, ond pa beth allwn ni fforddio roi iddynt. Ac y mae eodi £220 yng nghyflogau'r athrawon pan nad yw der- byniadau a thaliadau y coleg wedi cyfarfod er's deuddeng mlynedd, yn fwy tebyg o fod yn brawf o ffolineb nag o gallineb. Sonir fod yna ddau gant o bunnau i'w cael yn rhyw- le tuag at y treuliau ychwanegol ond os oes rhyw frawd neu frodyr ohonoch yn earn'r Athrofa mor fawr, rhodded i chwi sicrwydd y bydd i'r E200 yma barhau yn feddiant arosol i'r Coleg, yn lie ei guddio mewn geiriau amwys. Nid yw'r cyfoethogion yn eich mysg wedi gwneud hanner cymaint ag y dylent tuag at yr Athrofa. Nid cwyn na chyhuddiad newydd yw hwn. Dywedai'r diweddar Barch. R. H. Morgan yng Nghymdeithasfa Pwllheli, Awst, 1897 fod rhai gwyr ariannog yn dra ymarhous, a gofynnai am gyfarwyddyd gyda golwg arnynt, Cynghorwyd ef yn raslon i fod yn amyneddgar a thyner." Te, da iawn yw bod yn amyneddgar a thyner, ond y mae croon ambell i wr cyfoethog mor dew fel y rhaid cael picell feinach nag amynedd a thynerwch. Beth pe byddai i un neu ych- waneg o'r cyfryw gyfrannu £10,000 neu E20,000 at sefydlu cadair yn goffadwriaeth iddynt yn y Bala. Ac eto, y mae rhywbeth i'w ddweyd dros fod "gwy-r ariannog yn dra ymarhous o gyfrannu o'u cyfoeth a enillwyd ganddynt drwy fedr a diwydrwydd a phoen a thrafferth, a hwyrach yn awr ac yn y man ar draul tipyn o bangfeydd cydwybod, a'u rhoddi iofalpwyllgorau sydd wedi gadael i oddeutu £10,000 o gyfalaf yr Athrofa lithro drwy eu dwylaw mewn bron gynifer a hynny o flynyddoedd, a thua £ 4,563 o hyn, ffrwyth chwys gwyneb llafurwyr Cymru, wedi myned ar goll i bob ymddanghosiad am byth, oherwydd rhoddi arian allan mewn Ffyrdd Haearn a ehwmnïan cyffelyb. Gadawer cyflogau'r athrawon fel y maent hyd nes y ceir gweledigaeth eglur o ba le y ceir yr arian. C acYsgrifennydd

ofrestrydd acYsgrifennydd

Manion.-

Auditors ac Estate Agents.

Llyfrgell.

Yr Ysgol Baratoawl.

Anwyl Frodyr a Thadau Oreugwyr…

Plantos yn Bwhwman.

Llogau.

Sugndraeth Arianol.

Djweddglo. dð ft