Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cysgodau y Blynyddoedd Gynt. GAN GWYNETH VAUGHAN. PENNOD XIV (I)arltad).DICHELLION. AETH Capten Munro tua'i gartref, nid fel cariadlanc dedwydd, a phob cynllun o'i eiddo yn troi yn foddhaol, teulu y ferch yn foddlon, er eu holl gyfoeth ond yn hytrach teimlai ydyn ieuanc holl ramant bywyd yn cilio ol r,'golwg. Nid yn y dull marsiandfol hwnnw o eiddo'r Sgweiar Gwyn y bu i hynafiaid Charlie Munro briodi eu gwragedd, ac yn ei fyw nis gallai yntau beidio cyfranogi i ryw fesur or hen ddelfrydau sydd mor anwahanol gysylltiedig ag ysbrydoedd preswylwyr yr uchelderau. Nid oedd ganddo ddim yn erbyn Miss Alys Gwyn pe buasai wedi bod yn fwy anodd ei hennill, diau y buasai hefyd yn fwy gwerthfawr yn ei olwg. Pan na fydd angen rhedeg a chwysu, a neidio dros rigolydd a chloddiau ar ol y cadno cyfrwys cyn ei ddal, eyll yr helfa ei holl swyn i'r helwyr. Nid yw ennill gwraig chwaith yn meddu hanner [cymaint o fwynhad i feibion Adda os bydd y ferch yn rhedeg i'w cyfarfod. Diau eu bod yn eu lie—chwareu teg iddynt-ni raid i neb gwerth ei chael fyned i gymell ei hun. Gwyddai Capten Munro nad oedd Alys Gwyn yn gyfrifol am gynhygion ei thad, nid oedd yn gwneud y camgymeriad o feddwl fod Alys yn ceisio ei ddal; ond yr oedd yn hoff o'i hen draddod- iadau, a'r hen ffasiwn, a thybiai ef na ddylasai un ferch ollwng ei chalon o'i gafael ei hun, cyn i rywun ddyfod ati i erfyn am dani, ac hefyd un oedd yn barod i roddi ei galon ei hun yn gyfnewid yn ei lie. Ond ystyriai ef ei fod mewn mewn dyled i'r teulu, iddynt ei ymgeleddu pan mown perygl bywyd, ac nas gallai-heb fod yn euog o sarhau eu llety- garwch a'u caredigrwydd—adael i'w hunig ferch fyned yn aberth i'w serch ato ef. Mewn pob gofid, y cam cyntaf i geisio deall ei ddy- ledswydd i Charlie Munro fyddai myned i ymgynghori a'i fam, a ffordd ardderchog oedd, yn ddios. Felly y tro hwn. Aeth yn syth at Meistres Munro i ddweyd yr holl hanes wrthi yn union fel yr oedd hebo gelu yr un gair ohono. Hen foneddiges hardd oedd Mrs. Munro, ac yn falch iawn o'i gwaed pendefigaidd. Wel, Charlie, fy machgen, mater pur anodd ei benderfynu yw hwn, yn sicr. Ym- ddengys y ferch ieuanc yn wylaidd ddigon, ac wedi ei dwyn i fyny yn dda iawn. Nid oes dim yn ei herbyn, am wn i, ond nad ym- ddengys fod yna serch yn colli dros ymylon yn eich mynwes chwi tuag ati. Yn ddiau, mae ei theulu yr oil allem ddymuno o ran eu llinach, a'u cyfoeth yn llawer mwy nag y gallech chwi, Charlie, heb ddim ond eich tal yn y fyddin, yn rhesymol ei ddisgwyl. Symud eu merched oddiar eich ffordd y byddaf fi yn gweled mamau uehelgeisiol, Charlie. Yr ydych yn dlawd, ac oblegid hynny yn ineligible, fy machgen, er eich bod yn fil amgenach na'r dynion a groesawir er mewn eu heiddo-yn diroedd ac arian. Nid wyf fi yn hoffi Mrs. Gwyn fy hun, nis gwn paham pe meiddiwn, am wn i, na ddywedwn nas gallaf weled ei bod yn fon- eddiges. Mae'n bur ddistaw yma bob amser, ac nis gellir dweyd gair am ei ham- gylchiadau. Nis gallaf, am wn i, gyfiawnhau y fath ddywediad. Feallai na chafodd lawer o fanteision yn ei hieuenctyd. Mae digon yn debyg iddi. Mae'n rhaid ei bod yn deilwng, neu ni fuasai yn wraig i Sgweiar o gyfoeth ac anrhydedd, yn farchog y sir, a'r cwbl." Er y dechreu, mam, nid wyf finnan wedi cymeryd at Mrs. Gwyn. Ond dyna, beth yr wyf yn siarad, ni feddyliais i fawr yn eu cylch, ond fel cymwynaswyr caredig. Yr oeddwn dan rwymau iddynt am ymgeledd ragorol mewn awr gyfyng." Daeth Roderic, y mab hynaf a laird Dun Munro i fewn. Dywedodd ei fam natur yr ymdrafodaeth cydrhyngddi hi a Charlie wrtho ef. Ni feddai y laird hanner cymaint o'r rhamantus yn ei enaid ag oedd gan Charlie, ac ebe H Gwell i chwi dderbyn y cynnyg gan Sgweiar Gwyn, Charlie'; ni cliewch un cystal pe byddech fyw i fod yn gant. Mactalla wyt yn byw yn y mynydd, paham na chofi am laird Munro.. Gwyn fyd na chawswn i y siawns, fy mrawd. Yr ydych yn neilltuol o lwcus, dybygwn i. Gymaint allwch wneud i Dun Munro, Charlie,—adgyweirio'r tyrrau gorllewinol yna i ddechreu, a dyna balas i chwi yn yr ucheldiroedd yma." Edrychodd Mrs. Munro ar ei mab leu- engaf, a gofynnodd iddo A yw yr eneth ieuanc yn meddu nodwedd- ion nas gallwch eu hedmygu, Charlie ?" "Nag ydyw, yn sicr, fy mam,—geneth ieuanc ragorol yw, mi gredaf feaUai mai rhy ychydig o drwbl i'w hennill sydd yn unig fai arni." Wel, Charlie, gallwch gael gwaeth bai hwyrach nag yw hwnnw. Mae'r ferch ieuanc yn meddu chwaeth dda, rhaid i mi ddweyd, a gwenodd ei fam arno. Canlyniad ychydig yn rhagor o ymddiddan cydrhwng y tri fu i Capten Munro fyned i'r gwesty yn ol ei addewid, a gofyn am weled Sgweiar Gwyn wedi hynny gwneud cais ffurfiol iddo am ganiatad i gyfarch ei ferch, ac i erfyn am ei Haw. Aeth y dyn ieuanc trwy yr holl seremoni gan anymwybyddu yn hollol y drafodaeth foreuol fu cydrhyngddo a Rhydderch Gwyn, ac er nad oedd y Marchog ystrywgar yn deall yr anrhydedd yng nghym- eriad y milwr barai iddo ymddwyn felly, eto chwarddai yn ei lewys, oblegid fod Capten Munro yn chwareu i'w ddwylaw ef mor ragorol. Ofnai Sgweiar Gwyn i Alys gael allan ei ddichellion, gymaint ag yr ofnai i Capten Munro wybod hanes helynt y Plas- llwyd, cyn iddo briodi yr aeres, Geneth ieuanc rinweddol oedd Alys Gwyn, a phe gwybuasai hi am y triciau, meddai ddigon o anibyniaeth meddwl ac egwyddor i ymwrthod a'r ewbl, ond nid oedd neb mewn mwy o dywyllwch nag Alys. Tybiai hi fod Charlie Munro yn ei charu i waelodion ei galon yr awr honno, ei fod yn ei charu er ei ymweliad a'r Plasllwyd. ond yn ddistaw oherwydd ei diodi. Gwelai yr eneth fod Charlie Munro yn rhywbeth uwchlaw aur ac arian a thiroedd, ac ymfalchiai yn ei ddewisiad ohoni hi fel gwrthddrych ei serch. Nid oedd modd i'r un o'r ddeuddyn ieuanc ddeall eu gilydd yr oeddynt wedi eu dal yn rhy ddiogel yng ngwe ddyryslyd Rhydderch Gwyn, ac nis gallai y naill mwy na'r Hall wybod eu bod yn ysglyfaeth i'w gynllwynion. Wedi'r dyweddiad, daeth mater y briodas dan sylw. Cytunai y teuluoedd o'r naill ochr a'r llall nad oedd angen disgwyl yn hwy nag y byddai y cyfreithwyr wedi gorffen y gweithredoedd, ac ymddanghosai Sgweiar Gwyn mor awyddus am dalu parch i'r Capten a'i deulu, fel y bu iddo ef lwyr ennill ymddiried y laird, a'i gael yn ffafriol i bob cynllun o'r eiddo. A phan ddarfu i Mr. Gwyn ryw ddydd ddweyd ei fod ef yn teimlo mai'r man goreu i'r briodas oedd yr hen kirk y cyrchai y Munros iddi i addoli er's dyddiau eu cyndeidiau, toddodd calon yr hen wraig fonheddig hefyd tuag ato, a theimlai fod ei mab, Charlie, wedi bod yn dra ffortunus, ac fod y llongddryIliad wedi dwyn bendithion lawer iddo. ¡'>¿¡" Ah, Charlie fy mab, mae Mr. Gwyn yn wir garedig. Gallasai fyned a'i ferch mewn rhwysg tua Llunden yna i'w phriodi yn St. George's,Hanover Square, yn ol dull merched ffasiynol, ond dyma ef yn hytrach yn dymuno ei chyfiwyno i chwi o flaen yr un allor ag y tyngais i lw o ffyddlondeb i'ch tad. Mae'm calon yn gynnes o ddiolchgarwch, fy mab. Am Alys, mae'r eneth yn myned yn anwylach i mi bob dydd." Ydyw, y mae Alys yn gwella wrth ei hadnabod, mam. Yr wyf yn gobeithio y gallaf cyn hir ddweyd rhagor. Gallaf ddweyd heddyw ei bod yn llawer mwy anwyl i mi na'r dydd y gofynnais am ei llaw." Gwnaed paratoadau ar gyfer y briodas ar etifeddiaeth Dun Munro. Trefnwyd gwleddoedd ac anrhegion i'r oil o'r clan ddi- bynnent am eu bara beunyddiol ar y laird, ond pwrs Rhydderch Gwyn oedd yn agored led y pen i dalu am yr oil ohonynt, er nad oedd neb yn y gyfrinach ond efe a Roderic Munro. Fy nghyfaill," ebe'r hen walch cyfrwys- gall, onid eiddo Charlie fydd y cyfan sydd yn eiddo i mi ryw ddydd, pa wahaniaeth yw fod hyn oil yn dyfod oddiwrtho ef trwof fi am ychydig amser ?" W, Aetli y cyfan drosodd yn gysurus ryfeddol, a theimlai Sgweiar Gwyn fod baich wedi ei symud oddiar ei ysgwyddau, a Rhagluniaeth yn gwenu ar yr oil gymerai mown llaw. Ond ymhen deuddydd wedi hynny, tra y safai Capten Munro yn edrych ar ryw ddar- luniau o'i hen gartref o flaen ffenestr siop yn y brifddinas, clywai rywrai o'r tu ol iddo yn dweyd Hen le gwych fu Dun Munro hwyrach yr adgyweirir ef cyn hir bellach, wedi i'r Capten briodi cymaint o olud." Golud, yn wir," oedd yr atebiad, faswn i byth yn disgwyl i olud y byd beri i un o'r Munros ffroenfalch briodi merch anghyfreith- Ion yr hen Rhydderch Gwyn." Trodd y Capten ar ei sawdl, ei wyneb yn wyn fel y galchen, a'i lygaid yn debyg i dan yn ei ben. (I barhau).

..---o - Nodion o'r De,

Senedd y Byd.

Advertising