Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

10 erthygl ar y dudalen hon

[No title]

s2*rfod Sefydlu yn Nhrefnant.

--b EBION,

Yn Ynys Mon ac Arfon

Cyhoeddi Eisteddfod Llangollen.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyhoeddi Eisteddfod Llangollen. Tua Llangollen y cyrchai'r miloedd ddydd Iau i seremoni'r Cyhoeddiad. Aethum innau gyda'r dyrfa i syllu ar ddefodaeth Eistedd- fodol yn ei rwysg a'i ogoniant. Tuag un o'r gloch yr oedd y dref yn llawn o ymwelwyr ac asbri Eisteddfodol yn eu meddiannu, a gwres yr hen sefydliad cenedlaethol yn eu calonnau.. Beth bynnag yw diffygion y Cymry, mae'n amlwg fod gan yr Eisteddfod afael gref ar galon y genedl. Cafwyd gor- ymdaith drefnus a mawreddog, gwahanol gymdeithasau a dosbarthiadau a chyng- horau yn cael eu cynrychioli, ac yn eu plith y beirdd yn eu hurdd- wisgoedd,—rhai mewn cerbydau ac ereill ar draed. Teithiwyd y prif heolydd yn swn miwsig y seindorf. Wedi hynny, aed i lawnt brydferth y Plasnewydd, lle'r oedd Cylch Gorsedd y Beirdd wedi ei drefnu. Nid oedd modd cael rhagorach safle i'r Orsedd, a mawr dda i'r boaeddwr haelgalon am ei garedigrwydd i'r sefydliad henafol. Ac nid yn fynnych y gwelwyd cystal meini Gorsedd a'r rhai hynny fel meini allor gynt heb gaboliad cyn na thwlciad morthwyl. Ac am Faen Llog, yr oedd hwn, mi gredaf, wedi ei arfaethu i'r amcan hwn. Dywedid wrthym ei fod yn ymyl pum tunell o bwysau. Pwy bynnag a safo ar y maen hwn, rhaid iddo waeddi englynion. Gwnaeth amryw o'r beirdd darawiadau doniol-rhai at yr hin afrywiog, ond ofnwn hefyd, pe'n meddu tafod, y gallai meini'r orsedd adrodd rhai o'r englynion. Gwnaeth Dyfed ei waith fel Archdderwydd yn hynod ddirodres a deheuig, a gobeithio y caiff oes hir i ddwyn i mewn y gwelliantau angenrheidiol ynglyn a'r sef- ydliad henafol a dyddorol hwn. Gresyn i'r tywydddroiallanmor anffafriol. Ond os ydyw y., cynhulliad a'r brwdfrydedd a'r dyddordeb ddydd Iau yn dweyd rhywbeth, y mae yn argoeli am Eisteddfod lwyddiannus yn Llangollen yn 1908.

Eisteddfod yn nes adre'.

Advertising

Family Notices

Advertising

-0--LLITH OFFA.