Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
10 erthygl ar y dudalen hon
[No title]
h Parch. R. ROBERTS, B.A., Ph.D. tig|-la°s ^a|i ddiweddaf, treuliwyd y seiat yng &'rp Stanley Road, Bootle, i ganu'n iach yuj ?reh- Robert Roberts, B.A., Ph.D.,ar ei DVff wi&d i ofalu am eglwys Trefnant, C1Vy(1' "e bu'r diweddar Barch. Yrr°Se Jones (Emrys ap Iwan) yn bugeilio. 6?W °e^ l)r- Roberts mewn cysylltiad ag eyn Bootle er's deunaw mis bellach, fel a'r °vf ywr Parch. Griffith Ellis, M.A. ?eUd W e' ymroddiad i'w waith fel y Wrn n0('"d yr eglwys ddatgan ei gwerth- i §lad o'i lafur ac o'i serch tuag ato ef f"gwyd a thuag at ei briod, yr hon a rld yn yr Eglwys. JOtteWYdd y cyfarfod ydoedd Mr. Owen arn Merton Road, yr hwn a eglurodd y r&vir}'^ c^arf°d, a'r modd yr aed o gwmpas gaix fyrlac^ ac yna cynhygiwyd penderfyniad e°Hj Philip Jones yn datgan go fid oblegid ei f„ r- Roberts, ac yn dymuno'i lwydd yn Iletta,d newydd, yr hyn a gefnogwyd gan yr J>ag.Ur William Jones. ar v iwyd hynny yn wresog, ac yna galwyd Griffith Ellis, M.A., i gyflwyno tionar' "edair cyfrol hardd o Hastings'1 Dic- Ucl^j K °f the Bible. Talodd warogaeth fo(j 1 waith Dr. Roberts, a sylwodd iddo i'r In olynydd teilwng fel cenhadwr trefol xvear Mr. Edward Lloyd ac ereill— a^ei'ri fel y dywedodd un, ag yr oedd Y <raed yn fiwsig i gleifion. i gyo aeth Miss Ada Roberts (Trinity Road) Vn a yn° pyrsaid o aur i Dr. Roberts, yr hy, ri Wllaoth yn Gymraeg ac mewn modd Wry? Synaeradwy. <ii}0 ri Sydnabod eu caredigrwydd mawr ddw' dywedai Dr. Roberts i Mr. Ellis ym- gy^ ^Uag ato fel tad serchog, a'i fod wedi aUai a'i arwain, a gwneud popeth a °giori r e* les a'i lwyddiant cafodd swydd- 6§lwys yn gyfeillion trwyadl ddi- iddo, a bu'r holl eglwys yn dirion ft' -Diolchai o galon i bawb drosto'i 6wl e' briod—anrlieg arall a gawsai .G^i^y8 Stanley Road. ji. J} ynihellach gan Mri. Jas. Hughes, hob "'rllard Evans, John Williams, a Hugh V' Ro?Taelodau o Stanley Road a chan Nlant Roberts, un o swyddogion eglwys °ber(- a brawd y diweddar Mr. Edward c l8> Trinity Road.
s2*rfod Sefydlu yn Nhrefnant.
s2*rfod Sefydlu yn Nhrefnant. S hwn neithiwr (nos Fawrth) \^yddiaeth Mr. Robt. Roberts, Cyn y cyfarfod rhoddwyd te yn rhad i holl aelodau, gwrandawyr, a phlant yr eglwys, a chymaint ydoedd y dyddordeb a gymerid yn yr am- gylchiad fel ag yr oedd pawb am y cyntaf i ddwyn eu rhoddion. Cynrychiolid Cyfarfod Misol Lerpwl gan y Parch. Griffith Ellis, M.A., Bootle, a Mr. Griffith Davies, eglwys Walton Park. Cyn- rychiolid Cyfarfod Misol Dyffryn Clwyd gan y Parch. J. Roberts, Rhyl, a Mr. Gomer Roberts, Llanelidan, ac yr oedd yn bresennol hefyd Mr. D. S. Davies a'r Parch. Jos. Evans, Dinbych, Mr. P. Ll. Jones, Bootle, Mr. John Jones, Abergele (Bootle gynt), &c. Cafwyd anerchiadau gwir dda gan y brodyr hyn. Rhoddwyd i'r gweinidog newydd a'r eglwys liaws o gynghorion gwerthfawr, a datganwyd hyder y byddai yr uniad yn un hapus i'r naill a'r llall, ac yn fendith i'r cylch. Rhoddwyd i Dr. a Mrs. Roberts dderbyniad hynod o gynnes ar ran y swyddogion gan Mr. J. Morris, ac ar ran yr eglwys a'r ysgol Sul gan yr arolygwr, Mr. Abel Jones. Diolchai Dr. Roberts yn gynnes i'r brodyr dieithr am ddyfod i'w gyfarfod sefydlu. Teimlai gryn lawer o bryder wrth edrych ymlaen at y cyfarfod—y cyntaf yn ei hanes a hyderai, os nad hwn fyddai y diweddaf, y byddent yn ychydig yn ystod ei yrfa fel gweinidog. Ofnai yn fawr wrth feddwl am fawredd a phwysigrwydd gwaith bugail, ond teimlai yn bur galonnog wedi gweled y der- byniad serchog a roddwyd iddo ef a'i briod er eu dyfodiad i Drefnant, ac yn neilltuol yn y cyfarfod heno. Addawodd wneud ei oreu i draethu iddynt holl gyngor Duw," a gallai ddweyd yn onest fod ei ffydd yn nigonolrwydd yr efengyl ynddi ei hun i gyfarfod angen pechadur yn gryfach heddyw nag erioed. Apeliai'n daer am weddiau yr eglwys ar ei ran, ac am iddynt gyd-ddwyn a'i ddiffygion, a'i gefnogi yn galonnog ymhob gwaith da. Mynnai iddynt gofio mai rhan fawr o'i waith ef fyddai eu hennill hwy i weithio. Bu Dr. Roberts yn aelod o eglwys Walton Park am ugain mlynedd, ac yno y codwyd ef i bregethu. Llafuriodd tan anfanteision dirfawr, ond trwy alluoedd cynhenid a.. dy- falwch di-ildio, llwyddodd i esgyn grisiau dysg. Y mae yn B.A. (Cymru), ac yn Ph.D. (Leipzig). Hynododd ei hun yn arbennig yn yr ieithoedd Dwyreiniol, ac y mae ar hyn o bryd yn paratoi cyfrol i'r wasg ar Ysbryd- oliaeth y Beibl.
--b EBION,
b EBION, rito ,au diweddaf aeth Teml Ancient >^8°Ua'rl Rhyddion—un o demlau hae] ? rnwyaf dylanwadol y ddinas,— 6(1 hafn °. au> gan mwyaf, yn Gymry—am Rrtl aith flynyddol gyda'r tren i'r Wydd- I] ^isgy11 yrru oddiyno mewn brake i Ruthin, k to 1 S^niawa yng Ngwesty'r Castle, a ]\Tr wywyd iddynt wrth eu bodd gan s- Tegid Owen. v ?hifai, *$2 K v r Parti tua chant, ac ymwelwyd yn Prydnawn a lliaws o fannau dyddorol yr u*w,yd a dedfryd Uawer ydoedd nad ^y&yn yng Nghymru yn deilwng Vrt t>reMWy11 iddo ond Dyffryn Meifod yn I aWwyn. Yr unig resyn a gaed ^lo'r8eir- §wlaw gebyst," fel ei gelwid gan j naenoriaid Methodistiaid ac Ani- V ysi PW1 gadw'r seiat yn amryw o'r f ?lHid0„yr wythnos hon, gan fod rhai o y cyntaf yng Nghymdeithasfa yrnedd, a'r olaf yng nghyrddau'r V yng Nghastellnedd. la6^ lift, y blaenoriaid all gadw seiat ddim yr ddarfodl, er yn llai o nifer Se" y byddent. Y mae cadw cyfrifon Vn f da ac angenrheidiol, ond cadw ^wy anodd. re Og, Pedr Hir, a fu'n cadw cyf- ^odyddwyr Cymreig Birming- w a'r Saboth diweddaf r cynulliadau lliosog ddaeth i'w e^ti»v?er^ynol i bob enwad, fwynhau ^reig 1yn °1 Pedr, gan ei bod hi mor a bias bara cartref mor iach arni. q,. w'andawyr yno ydoedd y Super- T?rSan, un o benaethiaid uchaf y Uovrf y ddinas, a'r gwr a warchododd wi^godrl G,eorge y noson fythgofiadwy K '5 ° r neuadd annerch yn ei siwt CVo?:y ddydd- Y mae Mr. Morgan 51 f ^ynorl1 f carn' yn lienor da, ac yn flaen- y gyda chrefydd a chyda'r Cymry YOV, Y 91,1,r a arbedodd eilun Cymru rhag V Y biriningham ddim ar ol, yn ddiau, 4th. d Mawr, beth bynnag arall na l.\>('\bal1Wn. f y to1 fld eglwys M.C. Seisnig Garston r a= iV v °- .4mold Evans, B.A., Coleg eUljv^ bugeilio, yn olynydd y Parch. B,A" a aeth 1 Gaergybi- n ",i yno f°re a hwyr y Saboth deallwn ei fod wedi derbyn yr | 15b A Sad.naldaon cyfopfa'r Saboth diweddaf, cynhal- ^onalri Pregethtl blynyddol Eglwya Wson Street. Y pregethwyr disgwyliedig ydoedd y Parchn. Morgan Davies (A.), Abergele, a W. O. Jones, B.A. ond yn anffodus lluddiwyd yr olaf gan afiech- yd i lanw ei gyhoeddiad. Pregethodd Mr. Davies ei hun nos Sadwrn, bore, a nos Sul, i gynulliadau lliosog, a mawr fwynhawyd ei bregethau byw a gafaelgar. Yr oedd y capel yn orlawn nos Sul. Prydnawn Sul, pregethwyd gan y Parch. Thomas Jones, Birkenhead. Hefyd yn ystod oedfaon pryd- nawn a nos Sul, cafwyd datganiadau ar- dderchog o ddarnau cysegredig gan barti meibion dan arweiniad Mr. J. 0. Williams (Wyr yr Eos). Gwr medrus gyda'r baton ydyw Mr. Williams, ac y mae wedi llwyddo i gasglu ynghyd nifer o gantorion rhagorol. Yn ystod yr wythnosau diweddaf, y mae'r capel hwn wedi cael ei baentio oddiallan, ac esgynlawr newydd hardd wedi ei godi o amgylch y pulpud,—un o'r rhai mwyaf dymunol ellid meddwl am dano. Gwnaed yr oil gan aelodau o'r eglwys, yn rhad ac am ddim-llafur cariad.-Goheb. (Qwel hefyd tudal: 8).
Yn Ynys Mon ac Arfon
Yn Ynys Mon ac Arfon [GAN BETHMA]. Nos Sadwrn. Cymanfaoedd. RHAID i ni ddechreu gyda'r un testyn yr wythnos hon a'r wythnos ddiweddaf. Mae'r gan a'r bregeth wedi bod yn amlwg yr wyth- nos hon mewn amryw leoedd. C Ar ddyddiau cyntaf yr ^wythnos yr oedd cymanfa Bedyddwyr Arfon yn y dref. Llywydd y gymanfa eleni oedd Mr. R. E. Jones (Cyngar), Llanberis, a thraddododd anerchiad campus ar Genadwri gymdeith- asol Cristionogaeth." Mae Mr. Jones yn un o wyr cadarn ei enwad, ac yn barod a chymer- adwy ei wasanaeth gyda gwahanol achosion da perthynol i bob enwad. Pregethwyd yn y gymanfa gan y Parchn. Iorwerth Jones, Maesteg, Hugh Jones, Llanelli, E. T. Jones, Llanelli, a Phedr Hir, Lerpwl, yr oil yn dda. Y Gan. Ddydd Iau ymgasglodd miloeddfi'r dref i gymanfa ganu y M.C. i'r Pafiliwn. Yr oedd y tywydd yn anffafriol, ond er mor anodd canu yn y gwlaw, nid wyf yn meddwl i neb gael ei siomi yn y canu oedd yma. Mr. J. T. Rees, Mus.Bac., oedd yr arweinydd, a chan- molir ef yn fawr am ei allu a'i ddoethineb. Mae gormod o duedd mewn rhai arweinyddion i bregethu yn lie arwain, ond cadwodd Mr. Rees rhag hynny. Cynorthwyid y cantorion gan gerddorfa liosog. Llywyddwyd y cyfar- fodydd gan Mr. J. E. Roberts, Y.H., Bangor, a Mr. D. P. Williams, Y.H., Llanberis. Gall y ddau hyn areithio yn dda pan fydd angen, ond gwyddent mai nid areithio oedd i fod yn y gymanfa," am hynny buont yn ddigon doeth i fod yn fyr a buddiol.Ar y llwyfan gwelaisMr. Eleazar Roberts, Hoylake, a phan ofynnwyd iddo ddweyd gair, rhoed cymeradwyaeth galonog iddo. Yr oedd y gymanfa yn llwyddiant mawr, ond tebyg yw y buasai rhagor wedi dod pe cawsid haul i wenu yn y bore. Galar. Cyn gadael y dref, gwell fyddai i mi gyfeirio at farwolaeth dau o wyr adnabyddus —dau oedd yn ddiaconiaid parchus yn Engedi. Nid yn ami y bydd yr un eglwys yn colli dau flaenor mor agos i'w gilydd. Yr oedd Mr. John Jones, fferyllydd, wedi cyrraedd oedran teg. Byddai ei fasnachdy am flynyddoedd yn fan cyfarfod pregethwyr a diaconiaid, a synnwn i ddim na fuasai mwy o lwyddiant wedi bod ar ei fasnach pe buasai llai o hynny wedi cymeryll lie. Hen lane oedd. Bu yn ffyddlon nodedig i ddilyn cyfarfodydd misol a Sasiynau tra y gallodd. Claddwyd ef heddyw,—y Parch. Ellis James Jones, M.A., yn gweinyddu. Y gwr arall ydoedd Mr. D. W. Davies, llyfrwerthydd. Dyn diwyd, gochelgar, a gofalus oedd ef, a bu yn llwyddiannus iawn yn ei fasnach. Yroedd yn garedig a hael- ionus at wahanol achosion yn y dref. Gad- awodd briod a phlant i alaru am dano, a llu o gyfeillion. Claddwyd ef ddoe, ac yr oedd tyrfa liosog iawn yn yr angladd. Yr oedd y Parch. T. Pritchard, ficer y Rhos, a'r Parchn. E. James Jones, M.A., a D. O'Brien Owen, yn gwasanaethu. Amlwch. Nos Fawrth a thrwy ddydd Mercher yr oedd y Bedyddwyr yn cynnal cymanfa y sir yn y lie hwn. Pregethwyd gan y Parchn, Charles Davies, Caerdydd, Iorwerth Jones. Maesteg, E. T. Jones, Llanelli, J. W. Williams, Caergybi, a D. Lloyd, Caergybi. Trodd yr hin yn anffafriol, a bu raid myned i'r addoldai at yr hwyr nos Fercher. Pregethwyd yn Capel Mawr (M.C.), ac yn Salem. Mae llwydd ar yr achos yma dan weinidogaeth y Parch. J. J. Richards. Mi a wn ei fod wedi derbyn galwad o ddwy eglwys bwysig yn y De, ond nis gwn a wna dderbyn y naill neu'r Hall ohonynt. Hyderaf nas gwna, am y credaf y byddai ei golli o Fon yn golled fawr, nid i'w enwad ei hun yn unig, ond hefyd i'r Gymdeithas Ryddfrydol a Chymdeithas Eisteddfod Mon. Bu Mr. D. Jenkins, Mus. Bac., yma yn arwain cymanfa yr wythnos ddiweddaf. Ac yr oedd Mr. David Evans, Mus. Bac., yn arwain un mewn lie arall ym Mon ddydd Mercher. Dylai canu'r wlad godi i safon uchel pan y mae cynulleidfaoedd yn cael arweinwyr uwchraddol i ddangos sut i ganu. L Dydd Iau, cyfarfu pwyllgor Eisteddfod Mon yma. Nid wyf yn gwybod llawer o'r manylion, ond deallaf y penderfynwyd yno fod y gadair i gael ei rhoddi am awdl a phrydd- est bob yn ail, er mwyn rhoi yr un chwareu teg i feirdd y mesurau rhydd a chaeth. Mae Cymdeithas yr Eisteddfod yn rhoddi y wobr yn y brif gystadleuaeth gorawl ( £ 40). Cyhoeddir cyfansoddiadau buddugol Caergybi dan olygiaeth Mri. S. J. Evans, M.A., Llan- gefni, R. Pugh Jones, M.A., Caergybi, E. O. Jones, R. Mon Williams, H. C. Jenkins, Cadwaladr Davies, a'r ysgrifennydd, Mr..J. T. Williams. Ail etholwyd Mri. Cadwaladr Davies a S. J. Evans, M.A., yn gadeirydd ac is-gad- eirydd am y flwyddyn nesaf. Cadarnhawyd gwaith Pwyllgor Llangefni yn newisiad y testynau, a phasiwyd i roddi ar gofnodion y gymdeithas fynegiad o werth- fawrogiad llwyr o waith ardderchog cyfeillion Caergybi. Trosglwyddodd Mr. Cyril O. Jones, B.A., £ 100 i drysorfa y gymdeithas. Galwodd yr ysgrifennydd sylw at y priod- oldeb o dalu i feirniaid lien yn gystal ag i feirniaid cerddorol, &c. Deallwyd fod hynny wedi cael ei wneud. Llanddaniel. Pentref bychan gerllaw gorsaf y Gaerwen ydyw hwn. Mae yr Anibynwyr wedi bod yn ail adeiladu yr addoldy yma, ac wedi gwario oddeutu EI,200, ond maent wedi llwyddo i gasglu uwchlaw yr hanner at hynny eisoes. Da iawn. Mae y Parch. J. C. Jones yn weinidog ar yr eglwys hon a Berea er's dwy flynedd ar hugain, ac yn weithiwr ffyddlon. Pregethwyd ar yr ail-agoriad gan y Parchn. Dr. Probert,Bangor, D. Rees, Capel Mawr, O. L. Roberts, Lerpwl, R. P, Williams, Caergybi, a Gwylfa Roberts. Llanelli. Mae enwau y gwyr hyn yn sicr- wydd nad oedd yno ddim prinder mewn mater a dawn. Dyfodiad y Brenin. Mae Llew Tegid yn llawen anghyffredin. Daw yr addewidion i fewn yn rhesi y dyddiau hyn at y Coleg. Yr oedd wedi ei ddewis yn un o bedwar i fod yn oruchwyliwr yn Llyfr- fa yr enwad Anibynol, ond mae wedi tynnu ei enw allan, a gadael i'r dewisiad terfynol fod rhwng y tri arall. Nis gall Bangor fforddio colli'r Llew. Os oes arnoch chwi neu rhywun arall yn Nerpwl yna, Mr. Gol., eisieu lie cyfleus i weled y Brenin, anfonwch bum gini i Llew Tegid gyda chwrs cyntaf y llythyrdy.
Cyhoeddi Eisteddfod Llangollen.
Cyhoeddi Eisteddfod Llangollen. Tua Llangollen y cyrchai'r miloedd ddydd Iau i seremoni'r Cyhoeddiad. Aethum innau gyda'r dyrfa i syllu ar ddefodaeth Eistedd- fodol yn ei rwysg a'i ogoniant. Tuag un o'r gloch yr oedd y dref yn llawn o ymwelwyr ac asbri Eisteddfodol yn eu meddiannu, a gwres yr hen sefydliad cenedlaethol yn eu calonnau.. Beth bynnag yw diffygion y Cymry, mae'n amlwg fod gan yr Eisteddfod afael gref ar galon y genedl. Cafwyd gor- ymdaith drefnus a mawreddog, gwahanol gymdeithasau a dosbarthiadau a chyng- horau yn cael eu cynrychioli, ac yn eu plith y beirdd yn eu hurdd- wisgoedd,—rhai mewn cerbydau ac ereill ar draed. Teithiwyd y prif heolydd yn swn miwsig y seindorf. Wedi hynny, aed i lawnt brydferth y Plasnewydd, lle'r oedd Cylch Gorsedd y Beirdd wedi ei drefnu. Nid oedd modd cael rhagorach safle i'r Orsedd, a mawr dda i'r boaeddwr haelgalon am ei garedigrwydd i'r sefydliad henafol. Ac nid yn fynnych y gwelwyd cystal meini Gorsedd a'r rhai hynny fel meini allor gynt heb gaboliad cyn na thwlciad morthwyl. Ac am Faen Llog, yr oedd hwn, mi gredaf, wedi ei arfaethu i'r amcan hwn. Dywedid wrthym ei fod yn ymyl pum tunell o bwysau. Pwy bynnag a safo ar y maen hwn, rhaid iddo waeddi englynion. Gwnaeth amryw o'r beirdd darawiadau doniol-rhai at yr hin afrywiog, ond ofnwn hefyd, pe'n meddu tafod, y gallai meini'r orsedd adrodd rhai o'r englynion. Gwnaeth Dyfed ei waith fel Archdderwydd yn hynod ddirodres a deheuig, a gobeithio y caiff oes hir i ddwyn i mewn y gwelliantau angenrheidiol ynglyn a'r sef- ydliad henafol a dyddorol hwn. Gresyn i'r tywydddroiallanmor anffafriol. Ond os ydyw y., cynhulliad a'r brwdfrydedd a'r dyddordeb ddydd Iau yn dweyd rhywbeth, y mae yn argoeli am Eisteddfod lwyddiannus yn Llangollen yn 1908.
Eisteddfod yn nes adre'.
Eisteddfod yn nes adre'. Waeth i mi orffen Eisteddfoda tra bydd yr hwyl arnaf. Dyma Eisteddfod y Rhos wrth y drws, a'r darpariaethau yn barod. Gobeithio y bydd y pwyllgor ar delerau da gyda swyddfa'r tywydd, ac y mae pob lie i gredu y ceir ysgrifennu am dani Eistedd- fod lwyddiannus." Mae yma weithio dygn wedi bod ar ran y gwahanol bwyllgorau. Mae yma le dymunol i roddi'r babell i lawr, mae yma ragolygon am gystadleuon cerddorol ac y mae yr adran lenyddol yn addaw yn rhagorol. I ychwanegu at ddyddordeb yr Eisteddfod, cynhelir Gorsedd am naw yn y bore, pryd y gweithreda Isfryn fel bardd yr Orsedd. Teimlir cryn ddyddordeb yn yr ardal yn y seremoni henafol hon, a disgwylir iddi roddi cywair Eisteddfodol i ni am y dydd. Mae glowyr llengarol ac Eisteddfodol y Rhos wedi bod yn rym a nerth i holl Eisteddfodau'r cylch drwy'r blynyddau, ond rywfodd heb ddigon o ysbryd anturus i gynnal un eu hun- ain. O'r diwedd, wele hwynt-wedi mentro, yr ydym yn disgwyl y cawn ni gefnogaeth a chynhorthwy i wneud y gyntaf hon yn llwyddiant, yn gymaint felly nes y bydd Eisteddfod y Rhos yn un o*angenrheidiau'r flwyddyn yn hanes beirdd a chantorion a llenorion am flynyddoedd lawer. Ddinas- yddion Lerpwl, yr ydym yn eich gwahodd i Bare y Rhos am dro i gynnal Eisteddfod gyda ni. Mae croeso i chwi o bob cyfeiriad dowch yn y bore hefyd, o bosibl y gallem hebgor tipyn o urddau barddonol, ofyddol a derwyddol, ond i chwi beidio dweyd wrth yr Archdderwydd. Dweyd yn ddistaw bach,— fyddwch chwi ddim yn well beirdd serch i chwi gael mynd i ben Maen Llog Llangollen, oblegid nid y Maen sydd yn gwneud y beirdd. Rhoddi cyfle i ddyn ddangos ei fod yn fardd y mae'r Maen Llog. Os na ddewch i Eistedd- fod gyntaf y Rhos, byddwch yn sicr o edifar- hau ar ol yr Eisteddfod olaf. Yr wyf yn eich gwahodd chwithau, Mr. Gol.,er mwyn gwneud eisteddfodwr ohonoch—nage, nage, er mwyn i chwi roddi trem ar y 'Steddfod yn y BRYTHON. OFFA.
Advertising
YOUR PRICELESS EYES. Youp. Eyes deserve the best possible care you can give them, and whenever you are conscious they are in any way weakened you should at once have them examined. Few of those who practice sight testing are able to properly correct the simplest defect, let alone the complicated errors of the wonderfully complex human eye, and this accounts for much of the incur- able headaches, so prevalent. Are YOU QUITE SURE ? Do you need the advice and service of an expert ? Would you like to know the exact con- dition of your eyes ? You can have them examined FREE by L. Moreton Parry, Oph.D., F.R.M.S., Eyesight Specialist, 163 OAKFIELD RD., ANFIELD, LIVERPOOL, SAVE S5 CASH OR HIRE. D. GRIFFITHS! & SON, 0 9 221 BrecK Road, and 103 Wavertree@Rd., Liverpool. PIANOS AND ORGANS from 8s. per month tby all the leading makers. 6'lx Anfield Breek Rd. 105y Wa vertree. The Well=Known Remedy 41 from Wales for 41 RHEUMATISM, LUMBAGO, SCIATICA BACK-ACHE, WEAK CHEST, SORE THROAT, BURNS, CUTS, BRUISES, &c., is MORRIS tv ANS' HOUSEHOLD OIL. Sold in Bottles, 1/li, & 2/6, by Grocers and Chemists, or from the undermentioned Lancashire Representative- EDWARD R. HUGHES. 13 St. Michael's Road, Liverpool, S. Ageitt- LEWIS JOB LEWIS, 20 Verulam St., Lpool. Book of Testimonials, &c., sent Post Free on Application to the Manufacturers— Morris Evans & Co., FESTINIOG, N. WALES 'Phone—017 Central. jd W. GRIFFITHS Tailor, 29 SOUTH JOHN STREET, LIVERPOOL ALSO ATj 349 STANLEY ROAD, BOOTLE. 'Phone—27x Bootle. Lunt's Boots are ALUE FOR MONEY. Try Pair Ladies' and Gent's in great variety. 11 PARADISE STREET, The only address Humphrey Williams, Tel. 8158 ,_l- 53 SMITHFIELD STREET, TITHEBARN STREET, LIVERPOOL. Manufacturer of SLATE HEADSTONES, an all other STONE MEMORIALS, aaa Enamelled Slate Chimney Pieces, Bangor Rooting Slates, and every description of Slate Slab Work. PRIODI.
Family Notices
HUGHES—DAVIES—Mehefin 20, yn Bodffari, gan y Parch. O. Lloyd Owen, Birkenhead, Arthur Hastings Hughes,|Segrwyd, Dinbych ac Elizabeth Mary, unig ferch y diweddar Mr. a Mrs. Hugh W. Davies, Bromborough, sir Gaer. J ONES-J oNEs-Mehefin 19, yn Eglwys St. Dewi, Lerpwl, David Jones, mab ieuengaf y diweddar Edward Jones, Llanrhaiadr, sir Drefaldwyn, a Mary Anne (Polly), merch ieuengaf y diweddar Owen a Marian Jones, Llanrhaiadr. ROBERTs-JONEs-Mehefin 19, yng nghapel Rehoboth, Llandudno, gan y Parch. D. Lewis, Llewelyn Roberts, ail fab R. L. Roberts, Llandudno, ac Elizabeth Margaret, unig ferch Richard Jones, Bootle. MARW, DAVIEs-Mehefui 20, yn 70 Dombey Street, o'r pneumonia, yn 25 oed, George Edward, mab ieuengaf Elias Davies. ER COF. ER serchog got am Teddy, anwyl fab H. a M. Evans, 55 Milroy Street, Edge Hill, yr hwn a hunodd Mehefin 27, 1906. Hefyd, Willie, yr hwn a hunodd Gorffennaf 13, 1902. Henffych i'r dydd cawn eto gwrdd Yn Salem lan oddeutu'r bwrdd." Telephone 51 Y Anfield.
Advertising
JOHN JONES, ø FUNERAL FURNISHER, Rocky Lane. 19 Preston Grove, LIVERPOOL. Style, Quality, Economy, Attention. SUPERIOR WEDDING BROUGHAMS. Estimates including all charges on application. NODER—Nad oes unrhyw gysylltiad rhyngof ag arall o'r un enw. Telephone-261 Bootle. P. LLOYD JONES, Funeral Furnisher, Special attention given to removals to and from Wales YORK BUILDINGS, 362 & 364 Stanley Rd., L'poo. (Near Bankhall). WEDDING EQUIPAGES. L.i\/E: R P 0 0 L. E., 37 Park Rd., | • g 668 OvertonSt.l |V0f*0OOl 49651 Edgelane pWI 4*0 REMOVAL CONTRACTORS To or from any distance bd ROAD, RAIL, OR SEA. ø Telephones-535 6 536 Royal. Telegrams-" Readiness, Liverpool." ø FIREPROOF Warehouses For Storage of Furniture and Valuables. Telephone-157Y Birkenhead. Er amlder ei gwsmeriaid,—yn siop HUGHES, .Pawb gant eu hangenraid Am siwt newydd bydd, heb baid, Frethynwr i Frythoniaid. JOHN HtUGHES, Tailor 6 Draper, 24 OXTON ROAD, BIRKENHEAD
-0--LLITH OFFA.
-0-- LLITH OFFA. Cwrdd Pregethu. DYDD Llun wythnos i heddyw, ynghyda'r Saboth o'i flaen, cynhelid cwrdd pregethu Sion (B.), Ponciau. Y cenhadon oedd y Parchn. D. Hughes o'ch dinas chwi, a Bowen o'r De. Da gennyf ddweyd fod yno hyawdl- edd a nerth yn cydgyfarfod yn y weinidog- aeth.