Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DYDDIADUR.

---Glannau'r Mersey

GIPSY SMITH

BIRKENHEAD.I

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

BIRKENHEAD. Cafodd eglwys Anibynol Clifton Road gryn golliadau yn ddiweddar drwy ymadawiad amryw aelodau ffyddlon i fyw i Gymru a dyma golled arall, sef ymadawiad Mrs. Allt- wen Williams a'r teulu i Ffestiniog, He y mae ei phriod, y trylen fardd Gwilym Alltwen, yn ben a llygad i'r Cyngor Dosbarth or's blynyddau. Nos Fercher, cyflwynwyd i Mrs. Williams oak case cutlery, llwyau, &c., yn gydnabydd- iaeth o'i gwasanaeth gwerthfawr gyda'r achos er's amser hir. Fel y gwyddis, bu hi'n gantores wych yn ei dydd, a mynnych y rhoes hi ei llais at wasanaeth yr achos yn y lie hwn ac ami i le arall. Cyflwynwyd yr anrheg gan Mrs. Wm. Jones (Price Street), am yr hyn y diolchodd Mrs. Williams mewn ychydig eiriau pwrpasol. Caed gair hefyd gan y gweinidog (y Parch. O. Lloyd Owen), a'r Mri. Wm. Jones (Price Street) a William Jones (Holly Bank)—yn gofidio'u colled hwy a'r eglwys, ac yn dymuno yn dda i'r teulu yn eu bro newydd. Deallwn fod Miss Gwladys J ones-chwaer y Parch. R. Ernest Jones, gweinidog eglwys Seisnig Willmer Road—ar hyn o bryd yn Hanover, Germani a phan y dychwel oddiyno ymhen tua thri mis, bydd yn myned i ogleddbartli Galilea—heb fod nepell o Gapernaum-i gymeryd gofal ysgol a gyn- helir yno tan nawdd yr United Free Church of Scotland. Ddydd Sadwrn diweddaf, cydgyfarfu YsgoI; ion Sul M.C. Rock Ferry, New Ferry, ac Ellesmere Port yn Neston i fwynhau eu treat; ac, yn ffodus, cawsant dywydd braf hyd adeg dychweliad. Y rheswm iddynt ddewis Neston fel cyrchfan ydoedd fod yno awelon iach y m6r i'w hanadlu, ac fod Cymru anwyl i'w gweled oddiyno. Cododd crefyddwyr Birkenhead yng nghynt nag arfer y Saboth diweddaf—hynny yw, rai ohonynt. Am 8 o'r gloch y bore, cyn- helid cyfarfod yn neuadd y Y.M.C.A., Grange Road, i wrando anerchiad gan y Parch. S. O. Morgan, gweinidog newydd eglwys M.C. Hoylake, ar sut i ddwyn doafcarth ymlaen yn yr Ysgol Sul, &c. Yr oedd y cyfarfod yn un lliosog iawn, nifer lied dda o Gymry ynddo, a phawb wedi eu boddio'n anarferol yn Mr. Morgan a'i anerchiad. "Deydwch chi fynnoch chwi, y mae rhywbeth mewn B.D. ebe gwr ieuanc wrth fyned allan. Oes," atebai hen wr oedd gydag ef, ond er gwaethaf ei B.D., yr oodd hwn yn dda, nid o'i herwydd." Yng nghapel M.C. y Waon, Rodffari, ddydd lati, priodid Miss E. M. Davies, sef unig ferch y diweddar Mr. Hugh H. Davies, Brorn- borough, ond oedd wedi symud vn ddiweddar gyda'i brawd, Mr. J. N. Davies, i'r Geinas, Rodffari. Yr oedd y teulu hwn yn un o golofnau'r Eglwys Anibynol yn Clifton Road, ar hyd y blynyddau; a dymuna pawb o'i ehydnabod lliosog haul ar ei modrwy. Treul- ia.nt oil mis mol yng Ngvvlad y Llynnau.

Advertising